Rheoli Llygredd
Cyflenwadau dwr Preifat
Cyflenwadau dŵr preifat yw unrhyw gyflenwadau nad ydynt yn cael eu darparu gan gwmni dŵr statudol neu gyflenwr dŵr trwyddedig, fel Dŵr Cymru. Mae cyflenwadau dŵr preifat i'w cael o nifer o ffynonellau, gan gynnwys:
- ffynhonnau
- tyllau turio
- tarddelli
- afonydd a nentydd; a
- llynnoedd neu byllau.
Gall pob un o'r cyflenwadau dŵr preifat fod yn fygythiad i iechyd oni bai eu bod yn cael eu diogelu a'u trin yn briodol. Efallai na fydd modd ichi ddweud a yw eich dŵr yn ddiogel gan na all arogl, blas na lliw'r dŵr ddangos a yw ef wedi'i halogi ai peidio.
Dylech gael cymaint o wybodaeth ag y gallwch am eich cyflenwad dŵr preifat gan gynnwys:
- Ble mae'r ffynhonnell
- Pwy sy'n gyfrifol am ofalu amdano a'i gynnal a'i gadw
- Sut mae'r cyflenwad yn mynd i mewn i'ch eiddo
- A yw'r dŵr yn cael ei drin
- A yw'r system trin dŵr mewn cyflwr da ac yn cael ei chynnal a'i chadw'n rheolaidd.
Daeth Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010 i rym ar Chwefror 4ydd 2010 (y Rheoliadau). Mae yna dri math o gyflenwadau – mawr, bach a ddosbarthu breifat.
Cflenwadau mawr
Mae'r Rheoliadau'n ymwneud â'r holl gyflenwadau dŵr preifat sy'n darparu 10m3/y dydd neu ragor, neu sy'n gwasanaethu 50 unigolyn neu ragor; maent hefyd yn ymwneud â'r holl gyflenwadau dŵr preifat, ni waeth beth yw eu maint, sy'n rhan o weithgaredd masnachol neu gyhoeddus, fel sefydliadau gwely a brecwast. Yr enw ar y rhain yw ‘cyflenwadau mawr' (cyflenwad Reg 10 o dan y Rheoliadau) ac mae oddeutu 170 ohonynt yn Sir Benfro. Mae yna ddau fath o fonitro ar gyfer cyflenwadau mawr - ‘monitro gwirio' a wneir yn weddol aml ar gyfer ychydig o baramedrau pwysig iawn a ‘monitro archwilio' sy'n digwydd yn llai aml ar gyfer gweddill y paramedrau. Mae'r Rheoliadau yn rhoi cyfrifoldeb ar yr awdurdodau lleol i ymgymryd ag asesiad risg bob pum mlynedd ac i fonitro'n rheoliadd yr holl gyflenwadau mawr yn unol â'r amlderau a nodwyd i bennu cydymffurfiaeth â'r safonau.
Cyflenwadau Bach
Mae cyflenwadau dŵr preifat sy'n darparu llai na 10m3/y dydd, neu sy'n gwasanaethu llai na 50 o bobl, cyhyd â nad ydynt yn rhan o weithgaredd masnachol neu gyhoeddus, yn cael eu galw yn ‘gyflenwadau bach’, mae dros 800 ohonynt yn Sir Benfro. Mae defnyddwyr cyflenwad i un annedd wedi'u heithrio o'r Rheoliadau newydd hyn ond gallant ofyn i'r Awdurdod Lleol gynnal asesiad risg a / neu fonitro ac, os gwnânt hynny, rhaid i'r Awdurdod Lleol gydymffurfio â'r cais.
System Ddosbarthu Breifat
Fel arfer bydd system ddosbarthu breifat, y cyfeirir atynt hefyd fel cyflenwad Reg 8 o dan y Rheoliadau (system ddosbarthu prif gyflenwad dŵr ymlaen), yn cario dŵr i adeiladau unigol o fewn safle, er enghraifft safleoedd gwersylla gwyliau, ystadau preifat ac ati. Mewn achosion o'r fath perchennog y safle neu'r rheolwr, ac nid y cwmni dŵr, sy'n gyfrifol am y cyflenwad sy'n cael ei ddarparu i'r adeilad(au) trwy gyfrwng system ddosbarthu breifat ac am safon y cyflenwad dŵr wrth iddo lifo allan o dapiau'r defnyddiwr.
Mae'n rhaid i'r holl gyflenwadau dŵr preifat, boed fach neu fawr, fodloni'r safonau sydd yn y Rheoliadau. Pan fydd y monitro'n cael ei wneud gan awdurdod lleol a bod hwnnw'n dod i'r casgliad nad yw safon yn cael ei bodloni, yna mae'r awdurdod lleol yn gorfod cynnal ymchwiliad er mwyn penderfynu beth sydd wedi achosi'r diffyg. Oni bai taw mater dibwys ydyw, nad yw'n debygol o ddigwydd eto, yna rhaid i'r awdurdod sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd i gywiro'r hyn a achosodd y diffyg, er mwyn i'r safon gael ei bodloni. Gellir dod o hyd i gyngor ar ansawdd dŵr ar wefan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed (yn agor mewn tab newydd)
Ymdpoi heb gyflenwad dwr preifat
Cyhoeddwyd canllawiau ar tywydd poeth (yn agor mewn tab newydd) gan y Arolygiaeth Dŵr Yfed.
Canllawiau ar ddigonolrwydd eich cyflenwad dwr preifat
Taliadau Cyflenwad Dŵr Preifat cyfredol:
-
- Visit: £100
- Group A sample (Pembs CapChem): £88.75 plus £11.00 postage costs
- Group A+B sample (Risk Assessment): £169.35 plus £11.00 postage costs
- Reg 10 (Shared Supplies): £25.00 plus £11.00 postage costs
- Reg 10 (Shared Supplies including visit & bacteriological): £125.00 plus £11.00 postage costs
- Bacteriological (Non Regs): £17.00
Swimming Pools/Spas:
- Visit £69.50
- Bacteriological analysis £24.50
Os bydd gyda chi unrhyw ymholiadau am Gyflenwadau Dŵr Preifat cofiwch gysylltu â'r Tîm Rheoli Llygredd:
ffôn: 01437764551