Rheoli Llygredd

Delwyr Metel Sgrap

Deddf Masnachwyr Metelau Sgrap

Derbyniwyd Deddf Masnachwyr Metelau Sgrap 2013 (y Ddeddf) (yn agor mewn tab newydd) ar 28ain Chwefror 2013 a daeth i rym ar 1af Hydref 2013.

Mae’r Ddeddf yn diddymu Deddf Masnachwyr Metelau Sgrap 1964 ac yn cyfuno masnachwyr metel sgrap a gweithredwyr adfer moduron dan un gyfundrefn drwyddedu. Bydd Awdurdodau Lleol yn dal i weithredu fel y prif reolydd ond mae’r Ddeddf newydd yn rhoi mwy o bwerau i Awdurdodau Trwyddedu, gan gynnwys y pŵer i wrthod trwyddedu a phwerau i ddiddymu trwyddedau os yw masnachwyr yn cael eu hystyried yn anaddas. Cafodd yr Awdurdod Lleol a’r Heddlu bwerau i fynd i mewn i eiddo a’i archwilio.

Mae’r Ddeddf yn diffinio “masnachwr metel sgrap” fel rhywun sydd am y tro’n cynnal busnes fel masnachwr metel sgrap, boed hynny wedi’i awdurdodi trwy drwydded neu beidio.

Mae’n datgan ymhellach bod “metel sgrap” yn cynnwys y canlynol:

(a) unrhyw fetel neu ddeunydd metelaidd hen, gwastraff neu hepgor, a
(b) unrhyw gynnyrch, nwydd neu gydosodiad a wnaed o neu sy’n cynnwys metel ac sydd wedi torri, wedi treulio neu wedi cyrraedd diwedd ei fywyd defnyddiol ym marn ei ddeiliad diwethaf.

Nid yw’r canlynol yn cael ei ystyried yn “fetel sgrap”:

(a) aur,
(b) arian, ac
(c) unrhyw aloi y mae 2 y cant neu fwy ohono yn ôl pwysau i’w briodoli i aur neu arian.

Cofnodion y mae’n Ofynnol eu Cadw

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, rhaid i chi gadw’r cofnodion canlynol:

  • Manylion holl fetel sgrap sy’n cael ei dderbyn yn yr eiddo.
  • Manylion holl fetel sgrap sy’n cael ei brosesu yn yr eiddo neu’n cael ei anfon ohono.

Y manylion i’w cadwo am fetel sgrap a dderbyniwch yw:

  • Disgrifiad a phwysau’r metel;
  • Dyddiad ac amser derbyn y metel;
  • Os daw’r metel oddi wrth rywun arall, enw a chyfeiriad yr unigolyn;
  • Pris y metel os yw’n hysbys ar adeg gwneud y cofnod yn y llyfr;
  • Os na phenderfynwyd ar bris, amcangyfrif o werth y metel sgrap;
  • Nod cofrestru unrhyw gerbyd mecanyddol sy’n dod â’r metel sgrap.

Y manylion i’w cadw ar gyfer metel sgrap a brosesir neu a anfonir yw:

  • Disgrifiad a phwysau’r metel;
  • Dyddiad prosesu neu anfon ac, yn achos prosesu, y broses a ddefnyddiwyd;
  • Pan fo metel sgrap yn cael ei anfon i’w werthu neu gyfnewid, enw a chyfeiriad y prynwr neu gyfnewidiwr a’r gydnabyddiaeth am ei werthu neu gyfnewid;
  • Pan fo metel sgrap yn cael ei anfon neu brosesu heblaw i’w werthu neu gyfnewid, amcangyfrif o’i werth cyn ei anfon neu gyfnewid.

Rhaid gwneud cofnodion ar unwaith wrth dderbyn, prosesu neu anfon a rhaid cadw llyfrau sy’n cynnwys cofnodion am ddwy flynedd yn dilyn y cofnod olaf.

Canllawiau Cymdeithas Llywodraeth Leol

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol wedi darparu rhai canllawiau (yn agor mewn tab newydd) defnyddiol i gynorthwyo ceiswyr ac Awdurdodau Lleol gyda gweithredu’r Ddeddf newydd.

 

Sut i Wneud Cais

Cyn i chi wneud cais, mae angen i chi a phawb a restrir ar y ffurflen gais gyflwyno Tystysgrif Ddatgelu Sylfaenol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Cymru a Lloegr) (yn agor mewn tab newydd).

Rhaid i’r ffi berthnasol, ffurflen wedi’i llenwi’n llawn a Thystysgrif Ddatgelu Sylfaenol ddod gyda phob cais.

 

Ffïoedd Cyfredol

Trwydded safle (3 blynedd):

  • Newydd £545
  • Adnewyddu £486

Trwydded Casglwr (3 blynedd):

  • Newydd £354
  • Adnewyddu £354

I gael rhagor o wybodaeth am Fasnachwyr Metel Sgrap, cysylltwch â’r Tîm Rheoli Llygredd:

Ffôn: 01437 764551
E-bost: ContactCentre@pembrokeshire.gov.uk

ID: 2417, adolygwyd 01/10/2024