Rheoli Llygredd

Rheoli Llygredd a Monitro'r Amgylchedd

Mae Tîm Rheoli Llygredd y Cyngor yn gyfrifol am ystod eang o wasanaethau mewn perthynas ag iechyd cyhoeddus a'r amgylchedd adeiledig fel y mae a wnelont ag adeiladau masnachol, busnes neu ddiwydiannol yn Sir Benfro.       

Mae hyn yn cynnwys:

  1. Ymchwilio i ystod eang o gwynion am niwsansau statudol a deddfwriaeth awyr lân fel y mae a wnelont â gweithgaredd masnachol.   
  2. Samplu a gorfodi mewn perthynas â chyflenwadau dwr preifat yn y Sir, o lygaid ffynnon, dyfrdyllau neu ffynhonnau, at ddefnydd masnachol neu i'r rhai sy'n gwasanaethu tai neu osodiadau domestig.               
  3. Samplu o leoliadau traethau ymdrochi a dwr hamdden "Annynodedig" i asesu ansawdd dwr ac addasrwydd i ymdrochi.             
  4. Cynnal adolygiadau ac asesiadau ansawdd awyr i bennu'r ansawdd awyr cyffredinol yn y Sir.     
  5. Gweinyddu a gorfodi prosesau a ganiateir o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a Rheolidau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloger) 2016. 
  6. Gorfodi deddfwriaeth mewn perthynas â thir wedi'i halogi o dan Ran 2A o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
 

Oriau Gwasanaeth:

  • Dydd Llun: 9am-4pm
  • Dydd Mawrth: 9am-4pm
  • Dydd Mercher: 9am-4pm
  • Dydd Iau: 9am-4pm
  • Dydd Gwener: 9am-4pm

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rhagorol ar bob adeg ac er ein bod yn anelu at ymdrin â'r swyddfa rhwng 9am a 4pm efallai na fyddwn bob amser yn cysylltu â dros y ffôn. I roi gwybod am ddigwyddiad argyfwng ffoniwch 01437 764551.   

Ty Rheoli Difwyniad

Ffôn: 01437 764551
E-bost: ContactCentre@pembrokeshire.gov.uk

 

Hysbysiad Preifatrwydd 

Mae'r hysbysiad hwn yn egluro pam ein bod yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a beth y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn

ID: 2415, adolygwyd 06/01/2025