Rheoli Llygredd
Dwr Ymdrochi yn Sir Benfro
Mae gan Sir Benfro rai o'r traethau gorau ym Mhrydain gyda'r nifer o wobrau Baner Las, Arfordir Glas a Glan y môr.
Mae'r dyfroedd ymdrochi yn cael eu monitro a'u hasesu am gydymffurfiaeth dan y Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi (2006/EEC). Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r pwnc i'w chael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru: Dŵr Ymdrochi (yn agor mewn tab newydd)
Dynodir y traethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru yn dibynnu ar eu poblogrwydd a'u defnydd. Mae traethau sydd wedi'u dynodi fel dyfroedd ymdrochi yn cael eu samplu a'u monitro gan Adnoddau Cenedlaethol Cymru. I weld y graddfeydd Dŵr Ymdrochi diweddaraf, gwelwch Archwiliwr Data Dŵr Ymdrochi (yn agor mewn tab newydd)
Mae gan draethau Sir Benfro ansawdd dŵr arbennig o dda, fel sy'n amlwg yn nifer y gwobrau a ddyfarnwyd i draethau'r sir. I gynnal a gwella safonau lle mae'n berthnasol, mae wedi mabwysiadu dull cydweithio gyda'r holl asiantaethau sydd ynghlwm ag ansawdd dŵr.
Mae Prosiect Dŵr Ymdrochi Cymunedol Sir Benfro yn rhedeg rhwng mis Gorffennaf a mis Awst yn casglu samplau o ddŵr ymdrochi yn wythnosol ar y cyd â chymunedau lleol. Rydym wedi samplu'r dyfroedd ymdrochi canlynol sydd heb eu dynodi. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei diweddaru drwy gydol y Prosiect Dŵr Ymdrochi ac mae'r canlyniadau ond yn cynrychioli ansawdd y dŵr ar yr adeg y cafodd ei samplu.
03.09.2024
Cwm Yr Eglwys
- E.coli – 40 cfu/100ml
- Enterococci - 25 cfu/100ml
- Rhagorol
Wdig
- E.coli – 68 cfu/100ml
- Enterococci - 20 cfu/100ml
- Rhagorol
Abergwaun
- E.coli – 130 cfu/100ml
- Enterococci - 73 cfu/100ml
- Rhagorol
Solfach
- E.coli – 30 cfu/100ml
- Enterococci - 15 cfu/100ml