Rheoli Plâu
Difa Pla
Darparu Ateb Cyflawn i Blâu
Mae'r Gwasanaeth Rheoli Plâu sy'n darparu triniaethau rheoli plâu i eiddo cartref a masnachol yn Sir Benfro.
Rhaid talu am y triniaethau ac, ar gyfer trin cartrefi, mae'r taliadau'n cael eu manylu isod:
- Rhywogaeth
- Llygod Mawr
- Llygod
- Cocrotsis
- Chwain
- Picwns/Gwenyn
- Pỳcs
- Plâu trychfilod eraill os oes modd dweud beth ydynt
Y ffi am drin llygod mawr/llygod yw £85 + TAW. Bydd hyn yn talu am ddau ymweliad, gyda thrydydd ymweliad, a mwy os bydd angen, ar gael ar gyfradd o £30.42 + TAW fesul ymweliad dilynol. Y ffi am drin unrhyw blâu eraill a restrir o ran eiddo domestig yw £78.50 + TAW.
Gall cwsmeriaid ddisgwyl derbyn cyswllt gan swyddog o fewn 24 o oriau gwaith ar ôl gwneud y cais am wasanaeth. Pan nad yw hyn yn bosibl, bydd swyddog yn ymdrechu i gysylltu â chi dim hwyrach na 48 awr ar ôl gwneud y cais am wasanaeth. Yn gyffredinol, bydd cwsmeriaid yn cael triniaeth, yn enwedig ar gyfer ceisiadau brys, ar yr un diwrnod neu'r diwrnod gwaith nesaf, ond nid oes modd gwarantu hyn.
Bydd unrhyw gyngor dros y ffôn ar unrhyw rai o'r uchod yn rhad ac am ddim, ond rhaid talu £30.42 +TAW am ymweliad â'r safle i roi cyngor yn unig. Os yw'r cwsmer neu'r Swyddog Rheoli Plâu'n ansicr a oes angen trydydd ymweliad, mae gan y cwsmer gyfnod o 8 wythnos ar ôl dyddiad yr ymweliad diwethaf i ofyn am y driniaeth ychwanegol am £30.42 +TAW. Os caiff y cais ychwanegol hwn ei wneud yn ddiweddarach nag 8 wythnos ar ôl dyddiad yr ymweliad diwethaf, bydd raid gwneud cais newydd am wasanaeth a rhaid talu'r gyfradd safonol a fanylwyd uchod am gais arall am wasanaeth trin.
Sylwch fod pob taliad i gael ei wneud ar adeg gwneud y cais am y gwasanaeth. Fe all hyn fod drwy daliad cerdyn, neu mae modd cymryd taliad arian parod wrth unrhyw un o ddesgiau gwasanaeth Cyngor Sir Penfro.
Bydd y Gwasanaeth Rheoli Plâu hefyd yn trin ac yn darparu contractau Rheoli Plâu arbenigol parhaol ar gyfer adeiladau masnachol / busnesau. Gall hyn gynnwys eiddo bwyd. Fe all y triniaethau neu gontractau hyn fod ar gyfer rheoli unrhyw un o'r rhywogaethau plâu a fanylwyd uchod ond byddent yn gorfod cael eu prisio yn ôl faint o waith ataliol sydd ei angen.
Mae'r Gwasanaeth Rheoli Plâu'n darparu Archwiliad Iechyd AM DDIM i eiddo masnachol / busnesau. Bydd hyn yn golygu arolwg o'r safle, gan gynnwys gwneud argymhellion ar gyfer rheoli plâu a bydd dyfynbris am y gwaith y gofynnwyd amdano'n cael ei ddarparu ar ôl yr Archwiliad Iechyd.
Mae'r hysbysiad hwn yn egluro pam ein bod yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a beth y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn