Rheoli Plâu

Plâu Rydym yn Trin

Mae pob un o'r swyddogion Difa Pla wedi cael hyfforddiant cydnabyddedig ac mae pob un ohonynt yn meddu ar brofiad sylweddol. Dim ond crynodeb o'r arfer da yw'r nodiadau canlynol.

Llygod Mawr
Llygod
Pryfed a Mân Bryfetach sy'n Bla
Cocrotsis
Morgrug yr Ardd
Picwns
Gwenyn
Pỳcs

Cael Gwared â Llygod Mawr

Y math o lygoden fawr sydd i'w chael yn ddieithriad yn lleol yw'r llygod fawr frown (Rattus norvegicus). Mae'r llygoden fawr ddu neu lygod llong (Rattus rattus) yn llawer prinnach; gan amlaf nid yw'r llygoden hon i'w chael yn bell iawn o borthladdoedd y sianel. Yn wahanol i lygod bach mae ar lygod mawr ofn pethau sy'n newydd iddynt. Felly wrth geisio cael gwared â phla llygod mawr yn y lle cyntaf, fe allai'r ffaith eu bod yn gyndyn o fynd at abwyd fod yn broblem.

Y Drefn

Bydd y swyddog difa pla yn mynd ati i:

  • Archwilio'r safle, gweld yn union ble mae'r llochesau ac yna penderfynu beth yw'r peth gorau i'w wneud.
  • Cadarnhau a oes gan y cwsmer blant ifanc ac/neu anifeiliaid anwes.
  • Cadarnhau a oes i'r teulu hanes o ddioddef alergeddau/sensitifrwydd.
Llygod Mawr y Tu Mewn i Annedd

Yn y sefyllfa hon y peth gorau i'w wneud byddai defnyddio gwenwynau gwrthgeulol, sy'n gweithredu'n araf - fel Difenacoum neu Brodifacoum. Byddai'n rhaid sicrhau'r canlynol:-

  1. Bod yr abwydau'n cael eu dodi yn y man gorau i beidio ag achosi dim perygl, neu'r peryglu lleiaf posibl, i greaduriaid nad ydynt am gael eu difa h.y. dylid dodi'r abwydau mewn cypyrddau caeedig, ystafelloedd cloëdig neu os yw'r abwyd mewn ystafelloedd agored dylid ei ddodi mewn blychau metel cloëdig ar gyfer abwyd.
  2. Dylai'r cwsmer wybod ble mae'r abwydau er mwyn iddo/iddi gadw anifeiliaid a phlant bant o'r fan honno.
  3. Dylai'r driniaeth ddilynol gael ei rhoi o fewn 10-14 diwrnod neu'n gynt os yw'r cwsmer yn gofyn am hynny.
  4. Wedyn dylid cael gwared â'r abwydau a'r llygod mawr sydd wedi marw.
  5. O ran cael gwared â'r llygod mawr sydd wedi marw, dylid dweud wrth y cwsmeriaid y gallent eu dodi yn eu bagiau sbwriel.
Llygod Mawr mewn Gardd

Mae ystyriaethau tebyg yn berthnasol i'r uchod er y byddai'n well defnyddio blychau metel a blychau lladd llygod yn hytrach na grawn rhydd.

Selio a Gofal Tŷ

Ym mhob achos os gwelir diffygion mewn perthynas â'r naill neu'r llall o'r uchod, dylid sôn amdanynt wrth ddeiliad y tŷ.

Dal mewn Trapiau

Nid ydym yn argymell defnyddio trapiau llygod mawr am fod mwy a mwy o berygl i greaduriaid nad ydym am eu dal, gael eu trapio ynddynt. Nid yw'r dull hwn yn effeithiol iawn chwaith.

Llygod

Bydd deiliaid tai'n cael eu poenydio'n aml gan bla o lygod cyffredin (Mus musculus). Er nad oes fawr o groeso i lygod, nid ydynt mor atgas â llygod mawr. Fodd bynnag o ran eu harwyddocâd i iechyd y cyhoedd nid oes fawr ddim gwahaniaeth rhyngddynt. Creaduriaid carcus yw llygod mawr ond mae llygod yn chwilfrydig wrth natur. Byddant yn hynod fodlon archwilio pethau sy'n newydd iddynt - pethau fel trapiau llygod er enghraifft. Y pethau a ddefnyddir fel rheol yw gwenwynau gwrthgeulol er y gall trapiau llygod confensiynol, ag abwyd o siocled yn aml, fod yn hynod effeithiol ar gyfer cael gwared â llygod.

Os defnyddir trapiau llygod, dylid sicrhau'r canlynol::

  • Nid oes unrhyw blantos yn y tŷ a allai fynd at y trapiau.
  • Dylid dodi'r trapiau mewn mannau addas.
  • Dylid trefnu ymweliadau dilynol yn ddyddiol.

Mantais defnyddio trapiau yw:-

  • Maent yn cael gwared â llygod yn glou iawn.
  • Maent yn ddi-boen - byddant yn lladd ar unwaith fel arfer.
  • Does dim gwenwyn eilradd i achosi perygl.
  • Nid yw'r llygod yn marw mewn mannau sy'n anodd mynd iddynt.

Cyngor yn lle Cael Gwared

Pan mae'r llwyth gwaith yn hynod o drwm efallai taw'r peth priodol i'w wneud yw cynghori'r cwsmeriaid i gael gwared â'r llygod eu hunain. Os, fodd bynnag, yw'r cwsmer yn anfodlon gwneud hyn yna byddwn ni'n cynnig cael gwared â'r llygod. Ym mhob achos byddwn yn rhoi cyngor yn rhad ac am ddim, ynghylch difa pla..


Pryfed a Mân Bryfetach sy'n Bla

Isod mae cyngor ynghylch cael gwared â gwahanol blâu.

Pryfed

Clêr a Chlêr Chwythu 

Mae'n anodd iawn cael gwared â'r ddau fath yma am eu bod yn mynd i mewn i adeilad yn rhwydd iawn trwy'r ffenestri a'r drysau. Mae gofal tŷ yn hollbwysig er mwyn lleihau nifer y pryfed y gallech eu cael yn eich cartref. Yr hyn sy'n hanfodol yw cadw arwynebau gwaith ac offer y gegin ag ati yn lân yn ogystal â sicrhau bod bwyd heb gaead arno yn cael ei gadw'n ddiogel - neu fe fydd yn denu pryfed. 

Mae erosolau priodol ar gyfer lladd pryfed yn ddefnyddiol i wneud y gwaith hwn ond rydym yn eich cynghori i beidio â defnyddio pryfleiddiaid, yn gyffredinol, i drin waliau ac arwynebau nenfwd. Mae problem pryfed yn amrywio, o ran pa mor ddifrifol ydyw, o flwyddyn i flwyddyn. I raddau helaeth mae'n broblem yr ydym yn gorfod dygymod â hi gwaetha'r modd.

 

Clêr H 

Dim ond hyn a hyn o glêr a chlêr chwythu sydd i'w cael ar unrhyw adeg; fodd bynnag, fe allai niferoedd aruthrol o glêr heidiog ddod i mewn i'ch cartref - a hynny'n glou iawn. Bydd clêr heidiog yn symud i mewn o'r caeau a'r gerddi wrth i'r tywydd oeri yn yr hydref ac maent i'w cael mewn atigau hefyd yn ogystal â mewn mannau eraill yn eich tŷ. 
Os yw'ch cartref yn cael ei effeithio gan glêr heidiog yna mae'n bur debyg taw problem sy'n ailddigwydd ydyw - problem y gallech ei hwynebu bob hydref. Os dewch chi o hyd i'r pryfed mewn cuddfannau fel atig yna fe allai defnyddio mwg lladd pryfed fod yn briodol.  Gallwch brynu bomiau mwg mewn canolfannau gerddi a siopau nwyddau metel. Byddem yn eich cynghori i ddefnyddio cynhyrchion sy'n cynnwys permethrin. 
Os ydych chi'n defnyddio cynhyrchion o'r fath mae'n hollbwysig ichi ddarllen argymhellion y gwneuthurwr a chadw atynt i'r llythyren. Os yw clêr heidiog yn effeithio ar ystafelloedd byw eich cartref, rhaid gwneud popeth gan bwyll mawr. Mewn achosion o'r fath y peth doethaf i'w wneud fyddai cyflogi cwmni proffesiynol difa pla i wneud y gwaith ar eich rhan.

Pryfed Arian 

Pryfed bach sy'n symud yn glou yw pryfed arian ac rydym yn eu cysylltu â mannau tamp Yn aml maent i'w cael lle mae waliau/lloriau yn cwrdd ac o dan oelcloth a gorchuddion llawr eraill. Fe allai chwistrellu'r mannau hyn â phryfleiddiad ôl-effaith eu difa i ryw raddau. Fodd bynnag hyd nes bydd y tamprwydd yn cael ei drin fe ddaw'r pryfed hyn yn ôl dro ar ôl tro. Rhaid cofio nad yw'r pryfed arian yn cael nemor ddim effaith ar iechyd y cyhoedd. Llai llyfrau (Psocids) a phryfed mewn Cynhyrchion Wedi'u Storio. Pryfed llwydaidd bychan iawn yw llai llyfrau a phrin y gallwch eu gweld â'r llygad noeth. Fodd bynnag mae niferoedd mawr ohonynt i'w cael ambell waith mewn bagiau o flawd, pasta a bwydydd eraill sy'n cynnwys llawer o startsh.Yn yr un modd â'r holl blâu sydd i'w cael mewn cynhyrchion wedi'u storio fel chwilod bisgedi a gwiddon ŷd y peth hanfodol bwysig i'w wneud yw hyn - dod o hyd i'r bwydydd â phla ynddynt a chael gwared â hwy. 

Dylid archwilio'n fanwl iawn yr holl nwyddau sydd wedi'u cadw ar silffoedd a chypyrddau; felly hefyd unrhyw bethau sydd wedi'u cadw mewn cynwysyddion seliedig. Yna byddem yn cynghori'r cwsmer i lanhau pob cwpwrdd a defnyddio cynwysyddion seliedig addas i gadw stoc newydd. Ni fyddem yn ei gynghori i ddefnyddio pryfleiddiaid i gael gwared â'r plâu hyn mewn adeiladau teuluol.

Cocrotsis

Yn ffodus nid yw cocrotsis i'w cael yn aml yn Sir Benfro. Fodd bynnag os yw hynny'n digwydd fe allai nifer fawr ohonynt gynyddu mewn cyfnod byr iawn.

Y ddau brif fath o gocrotsis i'w cael ym Mhrydain yw:-

Y Gocrotsien Ddwyreiniol (Blatta orientalis) 

Pryfetyn hir, lliw tywyll yw'r oedolyn a gall fod cymaint â 35mm o hyd. Bydd y fenyw'n dodwy chwilerod sy'n cynnwys hyd at un ar bymtheg o nymffau neu gocrotsis bychan. Pan mae'r cocrotsis yn tyfu yn eu chwilerod (oothecae) nid yw pryfleiddiaid yn cael unrhyw effaith arnynt i bob pwrpas. 

Cael Gwared â Hwy 

Mae cael gwared â hwy'n llwyddiannus yn golygu archwilio'n drylwyr er mwyn cadarnhau pa mor ddifrifol yw'r broblem. Yna rhaid defnyddio trefn systematig, a defnyddio pryfleiddiaid ôl-effaith, er mwyn cael gwared â hwy. Ni ellir disgwyl i un driniaeth gael gwared â nifer fawr o gocrotsis am fod y nymffau'n cael eu rhyddhau o'r chwilerod ar ôl y driniaeth/chwistrellu. Yn y bôn mae cael gwared â hwy'n golygu trin y lloriau (yn enwedig felly'r mannau lle mae waliau/lloriau'n cwrdd), gan ddefnyddio pryfleiddiad ôl-effaith fel Ficam W neu Crackdown Rapide. Gellir rhoi powdwr talc mewn llochesau a thyllau sych.

Y Gocrotsien Almaenig (Blatella germanica)

O gymharu â'r gocrotsien ddwyreiniol mae'r pryfyn hwn yn llai ac yn fwy chwim. Mewn rhai mannau yn y Sir mae niferoedd aruthrol ohono i'w cael mewn sefydliadau arlwyo. Mae'r Gocrotsien Almaenig yn chwim dros ben ac felly fe all ddefnyddio llochesau sy'n uchel o'r llawr, fel canopïau ffyrnau a mannau tebyg. Yn wahanol i'r gocrotsien ddwyreiniol bydd y gocrotsien Almaenig fenyw yn cario, yn hytrach na gollwng, y chwiler sy'n gallu cynnwys hyd at 40 nymffau. 

Cael Gwared â Hwy 

Unwaith eto, un o'r pethau pwysicaf er mwyn llwyddo yw cadarnhau o'r cychwyn cyntaf pa mor ddifrifol yw'r broblem. 

Bydd defnyddio pryfleiddiad hylifol fel Insectrol yn arbennig o fuddiol wrth gadarnhau ble mae cocrotsis Almaenig yn cwato. 

Mae'r driniaeth yn debyg iawn i'r honno a ddefnyddir mewn perthynas â chocrotsis dwyreiniol. Serch hynny rhaid rhoi triniaeth drylwyr i graciau ac agennau lle mae cocrotsis yn llechu - mewn mannau uchel o'r llawr ambell waith. Gall fod yn dasg fawlyd a dylid dweud hyn wrth ddeiliaid y tŷ cyn rhoi cychwyn ar y driniaeth. Mae mwy o ddefnydd ar hyn o bryd o gel pryfleiddiad a gellir ei osod o ddryll calcio.

Morgrug yr Ardd

Y math o forgrug y bydd pobl yn cwyno amdanynt amlaf yw'r morgrugyn du cyffredin (Lasius niger). Nid yw'r morgrug du yn cael fawr ddim effaith ar iechyd y cyhoedd. Fodd bynnag mae morgrug hedegog sy'n heidio yn ystod y tymor bridio yn yr haf, yn gallu peri gofid i rai pobl. Gall pobl eu hunain drin yn effeithiol â morgrug yr ardd.

Picwns (Vespula vulgaris)

Yn yr un modd â morgrug mae picwns yn perthyn i'r pryfetach cymdeithasol o'r enw ‘Hymenoptera'. Yn gyffredinol nid ydym yn ystyried bod picwns yn achosi perygl i iechyd y cyhoedd er bod pigiadau picwns yn boenus a gall picwns beri gofid difrifol i lawer o bobl. Ar ben hynny fe all pigiadau picwns gael effaith ddifrifol ar rai pobl; yn gymaint felly fel y gallent gael sioc oradweithiol am fod picwnen wedi eu pigo.

Mesurau Difa

Y ffordd fwyaf effeithiol o'u difa yw dod o hyd i'r nyth a'i chwalu'n gyfan gwbl. Y dull arferol fyddai roi haen drwchus o bowdr lladd pryfed ar ben y nyth; permethrin a ddefnyddir fel arfer. Cyn pwmpio llwch lladd pryfed i unrhyw dwll neu loches wag, dylid gwneud pob ymdrech i weld yn union a fydd y cynnyrch sy'n cael ei bwmpio yn debygol o ollwng mas ar raddfa fawr, o'r fan sydd wedi'i thrin..

Gwenyn

Yn wahanol i bicwns credir bod gwenyn yn bryfetach buddiol ac felly mae pobl yn llai parod i gael gwared â hwy. Os yw gwenyn yn heidio mewn anedd/simnai fe allai hynny beri gofid i ddeiliaid y tŷ; os felly gellir cyfiawnhau defnyddio mesurau difa. Fe ellir defnyddio offer creu mwg/bomiau mwg i gael gwared â gwenyn.

Gall ceisio cyrraedd gwenyn er mwyn cael gwared arnynt fod yn broblem gan y bydd angen defnyddio sgaffaldiau neu declyn codi ar adegau er mwyn mynd at simnai neu rannau eraill o strwythur to'r tŷ yn ddiogel. Yn anffodus, yn yr achosion hyn, ni all y Cyngor dalu'r costau ychwanegol o ddarparu mynediad diogel ac felly perchennog yr eiddo fydd yn gyfrifol am y costau hyn. Er mawr ryddhad, mae camau tebyg ond yn angenrheidiol mewn achosion prin iawn.

Yn ogystal â hyn, mewn achos llys yn ddiweddar, rhoddwyd cyfyngiadau pellach ar allu'r Cyngor i drin gwenyn gan fod gofyn rhwystro mynediad gan wenyn eraill sy'n porthi o bosibl o gychod lleol eraill at strwythur sydd wedi ei drin â phryfleiddiad. Gall hyn fod yn hynod anodd pan fydd haid o wenyn mewn simnai y mae'n amhosibl cael ati a lle mae teulu'n dymuno defnyddio'r simnai.

Bydd y Swyddog Rheoli Pla yn trafod yr holl faterion hyn gyda chi ar y safle cyn cynnal unrhyw driniaeth ar gyfer gwenyn.

Pỳcs (Cimex Lectularis)

Diolch i'r drefn mae pỳcs yn brin iawn yn Sir Benfro, ac maent yn atgas gan lawer o bobl.

Pryfetach parasitig sy'n bwydo ar waed yw pỳcs, a byddant yn dod mas gyda'r nos i fwydo ar eu dioddefwyr truan.

Byddem yn cynghori pobl i drin semau, botymau a thwffiau matresi gyda phryfleiddiad ôl-effaith. Dylid trin hefyd yr holl graciau, agennau, toriadau sydd yn y plastr ac ati, ar bwys y gwely.

Ym mhob achos dylid ystyried cael gwared, o bosibl, â'r dillad gwely/matresi â phla ynddo/ynddi. Mewn sawl achos pan fydd cwsmeriaid yn cael gwybod pa fath o blâu sydd yn eu cartref, yna fe allent fynnu taw hynny sy'n digwydd - a dim byd llai na hynny.

Fodd bynnag byddem yn eu cynghori'n bendant i chwistrellu'r man oddi amgylch ar ôl symud a chael gwared â'r fatres.

ID: 2304, adolygwyd 12/09/2023