Rheoli Plâu
Safonau'r Gwasanaeth
Bydd rhywun yn cysylltu â chi cyn pen un diwrnod gwaith ar ôl eich cais am wasanaeth, naill ai i drefnu dyddiad / amser trefniant sy'n gyfleus i bawb neu ar gyfer gwneud y driniaeth ei hun. Yn gyffredinol, bydd cwsmeriaid yn cael triniaeth, yn enwedig ar gyfer ceisiadau brys, ar yr un diwrnod neu'r diwrnod gwaith nesaf, ond nid oes modd gwarantu hyn.
Cnofilod
Bydd y prisiau ar gyfer llygod a llygod mawr yn cynnwys dwy driniaeth. Mae cwmnïau rheoli plâu'n cynnig gwahanol atebion a niferoedd o ymweliadau am wahanol ffïoedd. Felly, os ydych eisiau cymharu prisiau Gwasanaeth y Cyngor Sir, gwelwch y ffïoedd a fanylwyd uchod a sicrhau eich bod yn cymharu prisiau am yr un gwasanaeth. Felly, cofiwch sicrhau bod y prisiau a gewch gan gwmnïau'n cyfeirio at nifer y triniaethau a gewch am y pris a roddwyd. Sylwch hefyd y bydd Gwasanaeth Rheoli Plâu'r Cyngor Sir yn codi £30.42 +TAW ychwanegol + TAW am unrhyw ymweliadau ychwanegol y tu hwnt i'r ddwy driniaeth safonol ac y bydd gennych 8 wythnos i wneud cais ychwanegol a chael y gwasanaeth am £30.42 +TAW. Bydd £85 + TAW yn gorfod cael ei godi am unrhyw beth sy'n ddiweddarach nag 8 wythnos ar ôl dyddiad y driniaeth olaf. Bydd y Swyddog Rheoli Plâu'n gallu'ch cynghori ar ddiwedd y driniaeth
Chwain
Bydd y tâl a godir mewn perthynas â chwain yn cynnwys un driniaeth ddilynol os bydd ei hangen, a bwrw bod yr holl argymhellion a roddwyd gan y swyddog difa pla mewn perthynas â chadw tŷ a thrin anifeiliaid anwes, wedi cael eu dilyn. Yn y cartrefi hynny sydd ag anifeiliaid anwes dof, yna ni ellir disgwyl o fewn rheswm, y gellir cael gwared yn llwyr â chwain, dros gyfnod estynedig o amser.