Rheoliad Iechyd a Diogelwch

Angen rhywfaint o gyngor iechyd a diogelwch?

Os ydych yn dechrau busnes, yn anghyfarwydd â maes iechyd a diogelwch neu eisoes wedi sefydlu ac am fesur a gwella eich perfformiad ym maes iechyd a diogelwch, yna dylech gysylltu â'r sefydliadau canlynol sy'n gallu:

  • Eich cynorthwyo i ddeall eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch
  • Eich cynorthwyo i sicrhau bod eich busnes yn lle diogel i weithio
  • Eich cynorthwyo i gywiro pethau 
  • Darparu mynediad i gyngor iechyd a diogelwch o ansawdd yn gyflym 
  • Darparu cyngor i weithwyr a phobl eraill ar faterion a all fod yn peri pryder.

Am gyngor penodol ar weithredu'r ddeddfwriaeth yn eich busnes gallwch gysylltu â ni gyda'r e-bost neu'r ffôn.  Rydym hefyd wedi sefydlu tudalennau cyngor busnes sy'n rhoi sylw i amrywiaeth o destunau hanfodol.     

Bydd y tîm yn ymateb i bob cais rhesymol am gyngor neu gymorth gan fusnesau. Dyma'r mathau o geisiadau y mae'r tîm iechyd a diogelwch yn eu derbyn:

  • ymweliadau cynghorol
  • ymholiadau ynghylch deddfwriaeth ar gyfer Safleoedd Carafanau, Safleoedd Petroliwm, Gwaharddiad ar Ysmygu, Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
  • ceisiadau am daflenni gwybodaeth
  • cyngor ar hyfforddiant
  • cyngor ar Ddiogelwch Digwyddiadau
  • gwybodaeth ar gyfer busnesau newydd a chyngor cynllunio

Mae'r gwefannau canlynol hefyd yn cynnig cymorth busnes i bobl sy'n dechrau, rheoli a thyfu busnes:

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r:

Tîm Iechyd a Diogelwch, 
Adran Diogelwch y Cyhoedd, 
Cyngor Sir Penfro, 
Neuadd y Sir, 
Hwlffordd, 
Sir Benfro, 
SA61 1TP.

Ffôn:  01437 775179  
E-bost: health&safety@pembrokeshire.gov.uk  

ID: 1534, adolygwyd 17/03/2023