Rheoliad Iechyd a Diogelwch
Cryptosporidiwm a Phyllau Nofio
Mae Cyngor Sir Penfro ar y cyd â phob awdurdod lleol arall yng Nghymru, yn cymryd rhan mewn prosiect er mwyn adolygu'r darpariaethau a sefydlwyd i reoli Cryptosporidiwm mewn Pyllau Nofio.
Germ sy'n achosi dolur rhydd yw Cryptosporidiwm. Mae Cryptosporidiwm, neu Crypto ar fyr, i'w gael yng ngharthion pobl heintiedig ac ni ellir ei weld â'r llygad noeth. Mae'r germ yn cael ei warchod gan ‘fasgl' allanol sy'n caniatáu iddo bara'n fyw am gyfnodau hir ac mae hynny'n golygu y gall e wrthsefyll y clorin a ddefnyddir i ddiheintio'r pyllau nofio.
Yn y blynyddoedd diweddar fe gydnabuwyd bod Crypto ymhlith y germau hynny sydd, gan amlaf, yn achosi tostrwydd a gludir gan ddŵr. Fe roddwyd gwybod i'r awdurdodau am nifer o achosion o Crypto yng Nghymru. Cafodd pwll nofio ym Merthyr Tudful ei gau am 6 mis oherwydd brigiad yr haint, ac roedd y dioddefwyr wedi dod o ddalgylch eithaf eang.
Mae nofio yn ffordd wych o ymarfer ond cyfrifoldeb yr ymdrochwyr a gweithredwyr y pyllau, ar y cyd, yw sicrhau ei fod yn dal i fod yn iach.
Bydd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd hefyd yn mynd i weld pob pwll yn y Sir. Bydd yr ymweliadau yn canolbwyntio ar feithrin dealltwriaeth o'r materion iechyd cyhoeddus sy'n gysylltiedig â Chryptosporidiwm ac fe roddir camau ymarferol ar waith er mwyn lleihau hyd yr eithaf ar y modd y mae Cryptosporidiwm yn cychwyn ac yn cael ei drosglwyddo, yn benodol:
- Cofnodi a rhoi gwybod am y camau gweithredu a gymerwyd o ganlyniad i halogiad ysgarthol; mewn dŵr pyllau, ystafelloedd newid a chyfleusterau toiled
- Rhoi hyfforddiant i'r staff a chadw cofnodion o'r hyfforddiant ynghylch rheoli'r halogiad ysgarthol
- Rhoi cyngor i gwsmeriaid ynghylch defnyddio'r pwll pan maent yn dioddef gan y dolur rhydd a/neu gyfogi
- Rhoi cyngor i gwsmeriaid ynghylch plant nad ydynt eto wedi dysgu sut i fynd i'r toiled
- Cadw cofnodion o drin dŵr y pwll - os methir cydymffurfio â hynny, beth yw'r camau gweithredu a gymerwyd, yn enwedig felly mewn perthynas â hidliad a'r adlif.
Ar gyfer defnyddwyr y pwll, dyma ichi chwe "P-I-G" - peth i'w gofio - er mwyn hybu nofio iach:
- Peidiwch â nofio pan ydych chi'n dioddef 'da dolur rhydd neu os ydych chi wedi cael dolur rhydd o fewn y 48 awr ddiwethaf.
- Os yw'r meddyg/ysbyty wedi dweud eich bod yn dioddef gan Cryptosporidiosis ni ddylech nofio am o leiaf 14 diwrnod wedi hynny.
- Cofiwch fynd am gawod cyn ichi fynd i nofio a golchi'ch dwylo ar ôl ichi fynd i'r toiled neu ar ôl newid cewynnau.
- Cofiwch sicrhau bod babanod a phlant yn gwisgo cewynnau a wnaed yn bwrpasol i blantos nofio ynddynt. Cofiwch fynd â'ch plentyn i'r toiled o dro i dro hefyd.
- Peidiwch byth â llyncu dŵr y pwll.
Fel rhan o'r prosiect cafodd fideo ei lunio i roi rhagor o gyfarwyddyd i weithredwyr y pwll a'r defnyddwyr hefyd. Mae e'n sôn am Gryptosporidiwm a phyllau nofio, a gallwch ei weld e ar YouTube:
Mae rhagor o gyfarwyddyd hefyd i'w gael yng Nghod Ymarfer PWTAG: Rheoli a thrin dŵr pyllau nofio (Ionawr 2013). Mae'r COP ar gael i'w lawrlwytho oddi ar The Pool Water Treatment Advisory Group
Manylion cysylltu:
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Gryptosporidiwm neu'r prosiect sy'n cael ei gynnal, mae croeso ichi gysylltu â'r swyddog ar ddyletswydd - iechyd a diogelwch - ar:
Ffôn: 01437 775631
E-bost: health&safety@pembrokeshire.gov.uk.