Rheoliad Iechyd a Diogelwch

Mangreoedd Di-fwg

Mangreoedd Di-fwg - y gyfraith

Y 2 Ebrill 2007 daeth y ddeddf sy'n gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus a gweithleoedd amgaeedig i rym. Nod y ddeddfwriaeth hon yw diogelu gweithwyr a'r cyhoedd rhag effeithiau niweidiol mwg ail-law. 

Amcangyfrifir y bydd cyflwyno'r ddeddf newydd hon yn atal 400 o farwolaethau'r flwyddyn yng Nghymru ymysg pobl nad ydynt yn ysmygu.   

Pa fodd y gorfodir y ddeddfwriaeth ddi-fwg?

Mae'r ddeddf yn creu tri throsedd penodol:  

  • Methu ag arddangos arwyddion dim ysmygu ym mangreoedd y mae'r ddeddf yn berthnasol iddynt   
  • Ysmygu mewn lle di-fwg 
  • Methu ag atal ysmygu mewn lle di-fwg.

Mae'r cyfrifoldeb dros orfodi'r ddeddfwriaeth ynglŷn â mangreoedd di-fwg yn Sir Benfro gyda'r Tîm Iechyd a Diogelwch ar gyfer gweithleoedd a mannau cyhoeddus a gyda'r Tîm Trwyddedu ar gyfer tacsis.  Nod y timau yw cyflawni cydymffurfiaeth trwy hybu ymwybyddiaeth o ofynion y gyfraith a thrwy gynnig cyngor a chymorth, gan ystyried gweithredu i orfodi pan fo difrifoldeb y sefyllfa yn cyfiawnhau hynny yn unig.  Mae ymweliadau gorfodi yn seiliedig ar risg a lle bynnag y bo modd fe'u cyfunir hwy ag ymweliadau rheoleiddio eraill er mwyn lleihau'r baich ar fusnesau. Fodd bynnag, trefnir ymweliadau trwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys gyda'r hwyr a'r penwythnos, er mwyn ymateb i unrhyw gwynion.  

Arwyddion

Mae angen arddangos arwyddion “Dim Ysmygu” sy'n cyflawni gofynion y ddeddf ym mangreoedd di-fwg er mwyn cydymffurfio â'r ddeddf.
Mae angen arwyddion hefyd ar gyfer cerbydau di-fwg.    

Llochesi Ysmygu

Mae'n rhaid i chi sicrhau fod yr hyn yr ydych yn ei gynnig yn cydymffurfio â'r gyfraith, sef nad yw wedi ei amgáu'n gyfan gwbl nac i raddau helaeth.  Mae'r diffiniad wedi ei egluro yn y rheoliadau.  Y cyngor i chi fyddai ceisio cyngor cyfreithiol a chyngor cynllunio lleol ynglŷn â'r mater, rhag ofn y bydd angen caniatâd cynllunio neu adeiladau ar yr hyn yr ydych yn ei ystyried.   

Sut fedraf i gwyno ynglŷn ag achosion o dorri'r gyfraith?   

Os bydd rhywun yn ysmygu ym mangre di-fwg neu mewn cerbyd di-fwg, dylech gwyno'n gyntaf gyda'r rheolwr neu bwy bynnag sy'n gyfrifol am y mangre neu'r cerbyd.  

Os nad ydych yn fodlon ar y canlyniad, gallwch hysbysu'r Tîm Iechyd a Diogelwch gyda'r manylion cysylltu isod neu gyda'r ffurflen gwyno ar-lein.  Archwilir y cwynion yn unol â'r polisi gorfodi.   

Sut gaf i ragor o wybodaeth am y gwaharddiad?  

Os ydych yn dymuno gwybod rhagor am egwyddorion y ddeddf a'r trefniadau cyffredinol ar gyfer gweithredu'r gwaharddiad yna mae croeso i chi gysylltu â ni.  Gallwn gynnig cyngor ynghylch:  

  • Yr hyn yw man amgaeedig
  • Yr hyn y mae angen i chi ei wneud er mwyn cydymffurfio â'r ddeddf   

Cyngor ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu

Os ydych chi am gael cyngor a chymorth am ddim a chyfeillgar a fydd yn gymorth i chi roi'r gorau iddi, cysylltwch â Gwasanaeth Rhoi'r Gorau i Ysmygu Cymru Gyfan ar 0800 085 2219

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r:

Tîm Iechyd a Diogelwch, 
Adran Diogelwch y Cyhoedd, 
Cyngor Sir Penfro, 
Neuadd y Sir, 
Hwlffordd, 
Sir Benfro, 
SA61 1TP.
 
Ffôn:  01437 775179  
E-bost: health&safety@pembrokeshire.gov.uk  

ID: 1509, adolygwyd 17/03/2023