Rheoliad Iechyd a Diogelwch
Swyddogaeth a gwaith y Tîm Iechyd a Diogelwch
Gorfodir deddfwriaeth iechyd a diogelwch gan arolygwyr o'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch Genedlaethol (HSE) a gan arolygwyr o'r Awdurdod Lleol.
Mae gan Gyngor Sir Penfro gyfrifoldebau o ran gorfodi iechyd a diogelwch ar gyfer rhai safleoedd/adeiladau a gweithgareddau gwaith arbennig, sy'n deillio o brif weithgarwch y gweithle. Gweler Yr Awdurdod Lleol a'r HSE
Swyddogaeth Cyngor Sir Penfro, yn awdurdod gorfodi iechyd a diogelwch, yw sicrhau bod dalwyr dyletswydd yn cadw trefn a rheolaeth ar beryglon yn effeithiol, ac felly yn atal niwed. Mae gwaith y gwasanaeth wedi ei egluro mewn Cynllun Gwasanaeth Iechyd a Dioglewch Atodiad 1 Atodiad 2 lleol.
Os bydd rhaid i ni weithredu er mwyn gorfodi byddwn yn dilyn ein Polisi Gorfodi Iechyd a Diogelwch .
Y prif swyddogaethau mae'r tîm yn eu cyflawni yw:
- Arolygu gweithleoedd risg uchel y mae'r awdurdod lleol yn eu gorfodi ledled y sir.
- Ymchwilio i ddamweiniau hysbysadwy, clefydau a digwyddiadau peryglus
- Ymateb i ymholiadau a cheisiadau am gyngor.
- 'Ymateb i gwynion gan y cyhoedd a gweithwyr ynghylch safonau iechyd a diogelwch mewn gweithleoedd y mae'r awdurdod lleol yn eu gorfodi
- Darparu cyngor a hyfforddiant i'r cyhoedd a chyflogwyr mewn perthynas â materion iechyd a diogelwch a thrwyddedu.
- Ymyriadau arbennig wedi'u cynllunio, arolygon a mentrau gorfodi.
Yn ogystal â rheoleiddio iechyd a diogelwch, mae'r Tîm yn gyfrifol am ystod o swyddogaethau diogelwch cyhoeddus cysylltiedig. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Gorfodi'r gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeedig/sylweddol gaeedig, cerbydau a gweithleoedd.
- Trwyddedu ac arolygu safleoedd carafanio a gwersylla.
- Trwyddedu ac arolygu safleoedd petroliwm.
- Trwyddedu a chofrestru storfeydd ffrwydron.
- Cofrestru storfeydd gwenwyn.
- Gorfodi Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 a Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) - Rheoliadau 2011, sy'n gwahardd defnyddio gwelyau haul ar safleoedd masnachol gan bobl o dan 18 oed, ac yn mynnu y darperir rhybuddion iechyd, cyngor a rhai mesurau diogelu iechyd.
- Cyflawni swyddogaeth o fod yn ymgynghorai statudol, gyda golwg ar faterion ‘diogelwch cyhoeddus' arbennig, o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r:
Tîm Iechyd a Diogelwch,
Adran Diogelwch y Cyhoedd,
Cyngor Sir Penfro,
Neuadd y Sir,
Hwlffordd,
Sir Benfro,
SA61 1TP
Ffôn: 01437 775179