Rheoliad Iechyd a Diogelwch

Cadw Ffrwydron - Trwyddesau Ffrwydron

Daw cadw ffrwydron dan Reoliadau Ffrwydron 2014 (ER2014). Cyn cadw ffrwydron, yn gyffredinol, bydd arnoch angen trwydded gan yr Awdurdod Trwyddedu priodol.

Mae gan yr awdurdod trwyddedu’r pŵer i wahardd cadw ffrwydron ar y safle os yw’n credu nad yw’r safle’n addas mwyach. Gall hefyd gymryd camau gorfodi os nad ydych yn eu cadw’n ddiogel.

Yr Awdurdod Trwyddedu

Fe all yr Heddlu, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu Awdurdodau Lleol roi trwyddedau.

Yr Heddlu

Bydd yr Heddlu’n rhoi trwydded i gadw hyd at 2000kg (2 dunnell) o ffrwydron os yw rhai o’r ffrwydron yn un o’r canlynol:

  • ffrwydryn perthnasol sy’n gofyn tystysgrif ffrwydron* (e.e. ffrwydron tanio neu bowdr du);
  • bwledi a ffrwydron y mae Deddfau Drylliau Tanio 1968-97 yn rheoleiddio neu’n gwahardd eu caffael;
  • powdwr di-fwg neu gaps taro;
  • ffrwydron ar gadw gan rywun sy’n werthwr gynnau cofrestredig dan adran 33 o Ddeddf Drylliau Tanio 1968.

Dylid gwneud y cais i Swyddog Cyswllt Ffrwydron yr Heddlu ar ffurflen ER2. Mae rhagor o fanylion i’w cael ar wefan Heddlu Dyfed Powys (yn agor mewn tab newydd).

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)

Yr HSE sy’n rhoi’r trwyddedau canlynol:

  • Cadw unrhyw ffrwydron dros 2000kg (2 dunnell).
  • Gweithgynhyrchu ffrwydron
  • Gweithgynhyrchu neu gadw rhyngolyn tanio amoniwm nitrad (ANBI)
  • Cadw unrhyw faint o ffrwydron mewn mwynglawdd neu mewn harbwr
  • Cadw hyd at 2000kg o ffrwydron lle nad oes modd cyflawni’r pellterau gwahaniad yn Rheoliad 27 ac atodlen 5

Mae manylion sut i wneud cais am drwydded yr HSE (yn agor mewn tab newydd) 

Yr Awdurdod Lleol (ALl)

Bydd yr ALl lle mae’r ffrwydron i’w cadw’n rhoi’r drwydded ar gyfer cadw hyd at 2000kg (2 dunnell) o ffrwydron eraill (yn nodweddiadol tân gwyllt, ffaglau a bwledi mân arfau) pan fo modd cyflawni pellterau gwahaniad, a dim ohonynt yn gofyn tystysgrif ffrwydron* yr Heddlu. Gwelwch drwyddedau cadw isod i gael rhagor o fanylion.

Trwyddedau cadw

Mae gofynion trwyddedu’n dibynnu ar y swm mwyaf a’r math o ffrwydron ar gadw ar unrhyw adeg arbennig ar sail pwysau clir, heb gynnwys unrhyw ddeunydd pacio a chasinau.

Caiff y math o ffrwydryn ei fynegi yn ôl math o berygl, yn rhedeg o Berygl Math 1 (HT1) i Berygl Math 4 (HT4) - HT1 yw’r mwyaf grymus. Tân gwyllt HT4 yw’r math sy’n cael eu gwerthu fel arfer gan fanwerthwyr.

Ychydig o ffrwydron

Nid oes angen trwydded i gadw ychydig o ffrwydron – llai na 5kg o ffrwydron (HT3 neu HT4) neu lai na 15kg o fwledi mân arfau neu ffrwydron penodol sydd ar gadw am gyfnod byr. Caiff manylion yr eithriadau hyn eu cyflwyno yn Rheoliad 7(2) o ER2014 ac maent i’w gweld ar ffurf tabl ar wefan yr HSE (yn agor mewn tab newydd).

Cadw rhwng 5kg a 250kg o ffrwydron

Os ydych eisiau cadw rhwng 5kg a 250kg (mas clir) bydd arnoch angen trwydded ffrwydron. Nid oes angen i’r parth cadw fod ar wahân i adeiladau eraill; ni fydd unrhyw bellterau gwahaniad yn berthnasol.

Cadw dros 250kg o ffrwydron

Os ydych eisiau cadw rhwng 250kg a 2000kg (mas clir) bydd arnoch angen trwydded cadw ffrwydron. Bydd angen gwahanu’r storfa o adeiladau eraill a mannau lle mae mynediad i’r cyhoedd a bydd pellterau gwahaniad yn berthnasol.

Mae canllawiau ar gadw a phellterau gwahaniad i’w cael ar wefan yr HSE (yn agor mewn tab newydd).

Gwneud cais

Rhaid gwneud ceisiadau am drwyddedau a fyddai’n cael eu rhoi gan yr Awdurdod Lleol (tân gwyllt defnyddwyr a ffaglau’n nodweddiadol) ar ffurflen ER1 – gwelwch Taflenni Canllawiau a Ffurflenni Cais

 Rhaid llenwi a dychwelyd hon gyda’r ffi gwneud cais berthnasol (gwelwch isod) a’r cynlluniau priodol.

Dylid cyflwyno’r cynlluniau canlynol gyda’r ffurflen gais:

1. Cynllun ar raddfa ddigonol i ddangos lleoliad y safle mewn perthynas â’i amgylchoedd (h.y. ffyrdd a enwyd neu a rifwyd, pentrefannau, pentrefi neu nodweddion daearyddol). Os nad oes gan y safle gyfeiriad post, dylai hyn fel arfer fod ar raddfa 1:25000 o leiaf.

2. Os yw’r storfa’n amodol ar bellterau gwahaniad, bydd angen i chi hefyd ddarparu Cynllun Safle ar fap yr Arolwg Ordnans (neu debyg) yn dangos lleoliad y storfa a phellterau i unrhyw adeiladau cyfagos. Dylai’r cynllun hefyd ddangos unrhyw fannau lle’r ydych yn bwriadu prosesu neu weithgynhyrchu ffrwydron pan nad oes gofyn trwydded ar gyfer y gweithgareddau hynny dan reoliad 6 o ER2014. Bydd y raddfa’n dibynnu ar y pellter gwahanu. O ran pellter hyd at 200 metr, byddai 1:1250 yn ofynnol fel arfer tra byddai 1:2500 neu hyd yn oed SuperPlan yn addas os yw’r pellterau’n fwy. Pan fo’r cynllun hwn yn dangos lleoliad y safle’n eglur mewn perthynas â’i amgylchoedd fe wnaiff y tro yn lle’r cynllun y cyfeiriwyd ato yn 1 uchod.

3. Os ydych yn bwriadu cadw neu arddangos mwy na 12.5kg o dân gwyllt ar lawr siop, rhaid i chi gyflwyno cynllun llawr yr ardal werthu.

4. Os ydych yn bwriadu cadw, prosesu neu weithgynhyrchu ffrwydron mewn adeilad sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion eraill hefyd, dylech gynnwys cynllun llawr yn dangos y lleoedd o fewn yr adeilad lle’r ydych yn bwriadu cadw, prosesu neu weithgynhyrchu’r ffrwydron.

Adnewyddu trwydded

5. Os na fu unrhyw newidiadau perthnasol i ddefnydd neu drefn y safle, neu fannau lle caiff ffrwydron eu cadw, nac i agosrwydd mannau gwarchodedig at y storfeydd ers rhoi’r drwydded yn wreiddiol neu ei hadnewyddu ddiwethaf, ni fydd angen cyflwyno cynllun newydd i’ch awdurdod trwyddedu, yn gyffredinol.

Ffïoedd Gwneud Cais

Mae rhestr o’r ffïoedd presennol yn y tabl isod. Sylwch fod ffïoedd ar wahân ar gyfer trwyddedau ffrwydron newydd ac am adnewyddu’r drwydded. Mae’r ffïoedd yn wahanol hefyd yn dibynnu ar faint o ffrwydron sydd i’w cadw, a oes gofyn pellter gwahanu a chyfnod y drwydded.

Math o gais

Trwydded i gadw ffrwydron (cadw rhwng 250kg a 2000kg). Pennir pellter gwahanu lleiaf o fwy na 0 metr.

  • 1 flwyddyn: £202
  • 2 flynedd: £266
  • 3 blynedd: £333
  • 4 blynedd: £409
  • 5 mlynedd: £463

Adnewyddu trwydded i gadw ffrwydron (cadw rhwng 250kg a 2000kg). Pennir pellter gwahanu lleiaf o fwy na 0 metr.

  • 1 flwyddyn: £94
  • 2 flynedd: £161
  • 3 blynedd: £226
  • 4 blynedd: £291
  • 5 mlynedd: £357

Trwydded i gadw ffrwydron (cadw rhwng 5kg a 250kg). Pennir dim pellter gwahanu lleiaf neu bellter gwahanu lleiaf o 0 metr.

  • 1 flwyddyn: £119
  • 2 flynedd: £154
  • 3 blynedd: £190
  • 4 blynedd: £226
  • 5 mlynedd: £260

Adnewyddu trwydded i gadw ffrwydron (cadw rhwng 5kg a 250kg). Pennir dim pellter gwahanu lleiaf neu bellter gwahanu lleiaf o 0 metr.

  • 1 flwyddyn: £59
  • 2 flynedd: £94
  • 3 blynedd: £132
  • 4 blynedd: £166
  • 5 mlynedd: £202

Mae modd talu’r ffi:

Trwy gerdyn: Ffôn 01437 775631

Trwy BACS: 

Banc: Barclays

Cod Didoli:  20 37 90

Rhif y Cyfrif:  53671917

Cyf:  ffrwydron [enw]

Gyda siec yn daladwy i Gyngor Sir Penfro

Sut mae cadw a gwerthu tân gwyllt yn ddiogel?

Rhaid i bawb sy’n cadw ffrwydron gymryd camau priodol i atal tân neu ffrwydriad; i gyfyngu maint unrhyw dân neu ffrwydriad os digwydd un; a diogelu pobl os digwydd tân neu ffrwydriad. Mae’r dyletswyddau diogelwch hyn yn berthnasol hyd yn oed pan nad oes gofynion trwyddedu ar y storfa.

Bydd cais am drwydded yn cael ei ganiatáu oni bai fod unrhyw sail a bennir yn Rheoliad 20 o ER2014 yn berthnasol. Y rhain yw:

  • bod y safle (neu unrhyw fan ynddo) yn anaddas ar gyfer gweithgynhyrchu neu gadw ffrwydron
  • nad yw’r ceisydd yn rhywun cymwys i weithgynhyrchu neu gadw ffrwydron.

Wrth benderfynu a yw’r safle’n addas, bydd angen trefnu archwiliad o’r eiddo a chadarnhau’r cyfleusterau cadw a threfniadau diogelu ar gyfer atal mynediad i’r safle yn y rhan fwyaf o achosion, os nad pob un.

Mae canllawiau is-sector ar gadw tân gwyllt ac ar gyfer gweithredwyr arddangosfeydd proffesiynol (yn agor mewn tab newydd)  

Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys rhestr adolygu asesiad peryglon gwerthwyr tân gwyllt (yn agor mewn tab newydd).

 

Cyflenwi tân gwyllt drwy gydol y flwyddyn

Dan Reoliadau Tân Gwyllt 2004, bydd angen trwydded ar bawb sydd eisiau cyflenwi tân gwyllt oddi allan i gyfnodau eithriedig penodedig (gwelwch isod). Mae hyn yn ychwanegol at, ac ar wahân i, unrhyw drwydded sydd ei hangen i gadw’r tân gwyllt, ac, felly, rhaid i gyflenwyr tân gwyllt ddal i gydymffurfio â’r gofynion cadw.

Ni fydd trwydded i gyflenwi’n ofynnol os yw’r cyflenwi ond yn digwydd yn ystod y cyfnodau eithriedig canlynol:

  • diwrnod cyntaf Blwyddyn Newydd y Chineaid a’r tri diwrnod cynt
  • y cyfnod yn dechrau ar 15 Hydref ac yn dod i ben ar 10 Tachwedd
  • diwrnod Diwali a’r tri diwrnod cynt
  • y cyfnod yn dechrau ar 26 Rhagfyr ac yn dod i ben ar 31 Rhagfyr

Ar ben hynny, ni fydd ar gyflenwyr sy’n cyflenwi masnachwyr neu fusnesau eraill (fel manwerthwyr, cyfanwerthu neu drefnyddion arddangosfeydd proffesiynol) yn unig angen trwydded i gyflenwi oddi allan i’r cyfnodau uchod. Caiff pobl sy’n cludo tân gwyllt h.y. cludwyr eu heithrio hefyd rhag y gofynion trwyddedu.

Mae ffi statudol o £500 y flwyddyn am roi trwydded.

Cysylltu â ni

Crynodeb yw’r wybodaeth hon o’r gyfraith berthnasol i gadw ffrwydron. Nid yw’n ddogfen awdurdodol ar y gyfraith ac fe’i bwriadwyd fel canllaw yn unig.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni yn health&safety@pembrokeshire.gov.uk

 

ID: 5536, adolygwyd 21/06/2024