Rheoliad Iechyd a Diogelwch

Trwyddedu Safleoedd Petrolewm

Petrolewm

Mae petrol yn fflamadwy, ffrwydrol a gwenwynig iawn ac mae'n rhaid i chi ddilyn cyfreithiau os ydych yn ei storio.

Mae petrolewm yn golygu unrhyw gynnyrch o betrolewm crai sydd â fflachbwynt islaw 21°C. Mae hyn yn cynnwys petrol, bensen, pentân ac unrhyw gymysgedd sy'n cynnwys y cynhyrchion hyn ac sydd â fflachbwynt islaw 21°C. Nid yw hyn yn cynnwys gwirod gwyn, paraffîn, olew diesel nac olewau tanwydd.

Awdurdod Gorfodi Petrolewm (AGP)

Y cyngor yw'r Awdurdod Gorfodi Petrolewm (AGP) ar gyfer storio gwirod petrolewm yn Sir Benfro. Mae angen inni sicrhau bod y rheini sy'n cadw ac yn dosbarthu petrol yn gwneud hynny mewn modd diogel sy'n annhebygol o achosi risg i'r cyhoedd neu'r amgylchedd.

Mae'r AGP yn gyfrifol am:

  • Gyhoeddi Tystysgrif Storio Petrolewm i weithleoedd sy'n storio ac yn dosbarthu petrol (gorsafoedd petrol). Mae hyn yn berthnasol i safleoedd newydd a phresennol.
  • Prosesu hysbysiadau o ran newidiadau sylweddol a ragnodir a chyhoeddi tystysgrifau storio wedi'u diweddaru sy'n disgrifio'r trefniadau newydd.
  • Prosesu hysbysiadau ynghylch newid ceidwad.
  • Prosesu hysbysiadau a chyhoeddi trwyddedau i safleoedd heblaw gweithleoedd sy'n storio petrol h.y. safleoedd domestig a chlybiau

Tystysgrif Storio Petrolewm ar gyfer Safleoedd Dosbarthu

Bydd angen arnoch dystysgrif storio petrolewm i'ch gweithle os oes gennych gyfarpar dosbarthu petrol yn debyg i orsaf betrol adwerthu. Mae hyn yn golygu y bydd angen tystysgrif storio arnoch os oes gennych:

  • danc statig (naill ai tanc storio petrol tanddaearol neu wedi'i osod uwchlaw'r ddaear);
  • system gynnwys yn rhan o'ch cyfarpar dosbarthu petrol; a
  • phwmp lle'r ydych yn dosbarthu petrol yn syth i danc cerbyd â pheiriant tanio mewnol.

Pan fydd y dystysgrif wedi'i chyhoeddi, bydd yn weithredol nes bod y safle'n peidio â dosbarthu gwirod petrolewm am gyfnod o fwy na 12 mis, neu os bydd y safle'n cael newid sylweddol.

 Nid oes angen ichi ymgeisio am dystysgrif storio heblaw y byddwch yn dod yn berchennog ar safle newydd neu safle a fu'n anweithredol ers mwy na deuddeg mis. Yn yr amgylchiadau hyn, dylech gysylltu â ni o leiaf 28 diwrnod cyn bod y dystysgrif yn ofynnol a gallwch wneud hyn hyd at chwe mis ymlaen llaw. Fe'ch cynghorir i gysylltu â'r Swyddog Petrolewm (yn agor mewn tab newydd) a siarad â ni cyn gynted â phosibl am ganllawiau pellach.

Ar gyfer ceisiadau newydd, bydd angen ichi ddarparu'r canlynol:

  • lluniad (graddfa 1:100) o gynllun y safle;
  • lluniad (graddfa 1:100) o'r system gynnwys ar gyfer petrol yn y safle dosbarthu gan gynnwys tanciau storio a phibwaith;
  • lluniad (graddfa 1:100) o'r system ddraenio ar gyfer petrol yn y safle dosbarthu;

Ffioedd blynyddol presennol ar gyfer tystysgrif storio petrolewm

Penderfynir ar y band ffioedd yn ôl cynhwysedd gweithio mwyaf y tanciau sy'n cynnwys petrol ar yr adeg y mae'r ffi'n ddyledus.Caiff y ffioedd hyn eu pennu gan Reoliadau (Ffioedd) Iechyd a Diogelwch 2012. Caiff y rheoliadau hyn eu hadolygu. Dylai gweithredwyr safle fod yn ymwybodol y gall ffioedd newid.

Ceir talu'r ffi am unrhyw gyfnod (mewn blynyddoedd cyfan) hyd at 10 mlynedd.  

  • Band A - Heb fod yn fwy na 2,500 litr - £48 am bob blwyddyn o dystysgrif
  • Band B - Mwy na 2,500 litr, ond heb fod yn fwy na 50,000 litr - £65 am bob blwyddyn o dystysgrif
  • Band C - Mwy na 50,000 litr - £137 am bob blwyddyn o dystysgrif

Gellir gwneud y taliad drwy siec i Gyngor Sir Penfro, dros y ffôn â cherdyn (gweler y manylion cyswllt isod) neu bydd anfoneb yn cael ei hanfon am nifer y blynyddoedd y gofynnwyd amdanynt o ddyddiad cyhoeddi'r dystysgrif wreiddiol.

Pan fydd y ffi gychwynnol wedi dod i ben, bydd y PEA yn cysylltu â chi i drefnu taliadau pellach.

Newidiadau Sylweddol a Ragnodir

Os bwriadwch wneud unrhyw newidiadau sylweddol a ragnodir i'r trefniadau storio yn eich safle, rhaid ichi roi gwybod i'r swyddfa hon yn ysgrifenedig o leiaf 28 diwrnod cyn i unrhyw waith ddechrau.

Pan wneir newidiadau sylweddol a ragnodir i'r safle, byddai'r dystysgrif bresennol yn cael ei disodli gan dystysgrif storio wedi'i diweddaru yn disgrifio'r trefniadau newydd, felly rhaid darparu gyda'r hysbysiad y lluniadau diweddaraf o gynllun y safle, y system gynnwys a'r system ddraenio.

Rhestrir y rhestri o newidiadau sylweddol a ragnodir yn Atodlen 1 o Reoliadau Petrolewm (Cyfuno) 2014 fel a ganlyn:

  • Rhoi'r gorau i ddefnyddio un neu ragor o'r tanciau storio petrol.
  • Gwaredu neu ddatgomisiynu'n barhaol un neu ragor o'r tanciau storio petrol.
  • Gosod unrhyw danc, lein beipiau neu lein beipiau anwedd sy'n gysylltiedig â storio a dosbarthu petrol.
  • Gosod unrhyw bwmp petrol, unrhyw bwmp modurol arall, neu ddosbarthwr mewn lleoliad newydd.

Newid ceidwad Petrolewm

Os bydd safle'n newid dwylo neu os yw dan berchenogaeth newydd, nid oes gofyn trosglwyddo'r dystysgrif am fod y dystysgrif yn berthnasol i'r trefniadau storio yn y safle yn unig.

Rhaid i'r gweithredwr sy'n gadael a'r gweithredwr sy'n dod i mewn roi gwybod i'r Awdurdod Gorfodi Petrolewm pan fydd gweithredwr yn newid. Rhaid gwneud yr hysbysiadau'n ysgrifenedig o leiaf 28 diwrnod cyn i'r newidiadau ddigwydd.

Dylai'r hysbysiad gynnwys:

  • Enw a chyfeiriad y person
  • Cyfeiriad y safle dosbarthu
  • Y dyddiad y bydd y newid perthnasol yn digwydd

Ni chodir ffi ychwanegol am newid ceidwad.

Storio domestig a storio heb fod mewn gweithle storio hyd at 30 litr o betrol

 Gellir storio 30 litr o betrol yn y cartref neu mewn safle nad yw'n weithle (gan gynnwys cerbydau modur, cychod ac awyrennau) heb roi gwybod i'r Awdurdod Gorfodi Petrolewm ar yr amod bod gofynion storio cyffredin yn cael eu bodloni (gweler isod), a bod y lle storio'n cael ei wahanu rhag tân oddi wrth weddill yr adeilad ac unrhyw allanfeydd.

Gellir storio'r petrol mewn:

  • cynwysyddion metel (20 litr) neu blastig (10 litr) cludadwy addas
  • un tanc tanwydd dros dro (30 litr)
  • Cyfuniad o'r uchod ar yr amod nad oes mwy na 30 litr yn cael ei gadw.

Storio domestig a storio heb fod mewn gweithle storio dros 30 litr ond llai na 275 litr

Rhaid i berson sy'n cadw dros 30 litr a llai na 275 litr roi gwybod i'r awdurdod yn ysgrifenedig gydag enw'r deiliad, cyfeiriad y safle a chadarnhad bod y petrol yn cael ei storio yn unol â rheoliadau.

Rhaid gwneud yr hysbysiad hwn yn flynyddol ym mis Ionawr.

Rhaid bodloni'r gofynion storio cyffredin:

  • Cynwysyddion cludadwy/tanciau tanwydd dros dro addas
  • Ni ddylid storio petrol mewn llety byw;
  • Ni cheir dosbarthu petrol (h.y. nid ei bwmpio â llaw nac yn drydanol o danc storio) yn y lle storio;
  • Os nad yw'r lle storio yn yr awyr agored, mae allanfa uniongyrchol i'r awyr agored a system awyru i'r allanfa hon yn ofynnol;
  • Rhaid cymryd pob rhagofal rhesymol yn y lle storio i atal unrhyw ffynonellau tanio neu wres a fyddai'n gallu tanio'r petrol neu ei anwedd;
  • Ni ddefnyddir petrol yn y lle storio heblaw: yn nhanc tanwydd unrhyw beiriant tanio mewnol neu mewn meintiau (heb fod yn fwy na 150 mililitr), ar gyfer glanhau neu fel toddydd at ddibenion trwsio

Storio mwy na 275 litr o betrol    

Lle mae mwy na 275 litr o betrol yn cael eu storio mewn safle nad yw'n weithle, mae trwydded yn ofynnol. Mae trwydded yn gallu awdurdodi cadw'r petrol at ddefnydd preifat yn unig, heb gynnwys gwerthu.  Ni chaniateir y drwydded heblaw bod yr Awdurdod Gorfodi Petrolewm yn fodlon na fyddai cadw petrol yn unol â'r drwydded nac unrhyw amodau arfaethedig yn creu risg annerbyniol i iechyd neu ddiogelwch unrhyw un.                                     

Gwybodaeth bellach

Cyfeirir y Canllaw Coch at y rheini sydd â chyfrifoldeb am weithredu diogel cyfleusterau lle mae petrol yn cael ei storio a'i ddosbarthu i danciau tanwydd cerbydau, er mwyn iddynt gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol; yn enwedig eu dyletswyddau statudol dan Reoliadau Sylweddau Peryglus ac Atmosfferau Ffrwydrol 2002 (DSEAR) - Guidance on the risk of managing fire & explosion - The Red Guide (yn agor mewn tab newydd)

Gwefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Reoliadau Petrolewm (Cyfuno) 2014 (yn agor mewn tab newydd)

Gwefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (yn agor mewn tab newydd) sy'n rhoi'r cyngor diweddaraf am gymhwyso DSEAR, atmosfferau ffrwydrol, y gofyniad am gynlluniau parth peryglus a'r rhagofalon y dylech eu cymryd wrth weithio yn y parthau hyn.

Mae gwybodaeth fanylach ar gael yn y llyfr Code of practice for the design, construction and operation of petrol filling stations gan APEA/IP (yn agor mewn tab newydd).

Manylion Cyswllt

I gael gwybod rhagor, cysylltwch â'r:

Tîm Iechyd a Diogelwch, 
Isadran Diogelu'r Cyhoedd, 
Cyngor Sir Penfro, 
Neuadd y Sir, 
Hwlffordd, 
Sir Benfro, 
SA61 1TP

Ffôn: 01437 775179 /5631
E-bost: health&safety@pembrokeshire.gov.uk  

ID: 2622, adolygwyd 20/06/2024