Rheoliad Iechyd a Diogelwch
Diogelu pobl yn eu gwaith ac aelodau'r cyhoedd
Nod deddfwriaeth a gorfodaeth iechyd a diogelwch yw diogelu iechyd, diogelwch a lles pobl yn eu gwaith, a diogelu eraill, aelodau'r cyhoedd yn bennaf, a allai fod yn agored i beryglon sy'n deillio o'r modd y gwneir y gwaith.
Mae'r prif gyfrifoldeb am iechyd a diogelwch yn y gweithle gyda'r cyflogwyr, y gweithwyr cyflogedig a'r hunangyflogedig, sy'n gyfrifol am gadw trefn a rheolaeth ar beryglon. Cyfeirir at y rhain yn ‘ddalwyr dyletswydd' fel arfer.
ID: 1409, adolygwyd 09/11/2022