Rheoliad Iechyd a Diogelwch
Yr Awdurdod Lleol a'r HSE
Awdurdodau Gorfodi
Yn y DU caiff gorfodi rheoliadau iechyd a diogelwch yn y gweithle ei rannu i raddau helaeth rhwng awdurdodau lleol a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).
Y Rheoliadau Awdurdodau Gorfodi sy’n penderfynu’r awdurdod gorfodi perthnasol ar gyfer gwahanol gategorïau o weithle. Mae’r Rheoliadau hyn yn neilltuo cyfrifoldeb yn ôl natur y prif weithgaredd gwaith, fel a ganlyn:
Awdurdod Lleol (heblaw gwaith y Cyngor)
- Siopau
- Swyddfeydd
- Eiddo Arlwyo
- Llety
- Gweithgareddau hamdden a chwaraeon
- Warysau
- Cartrefi gofal preswyl
- Trinwyr gwallt / Parlyrau harddu
- Sinemâu
- Canolfannau teiars a phibelli gwacáu
- Eglwysi
- Golchfeydd
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)
- Dociau
- Ffermydd
- Caeau ffair
- Gweithgareddau adeiladu
- Eiddo ym meddiant y Cyngor
- Deintyddion
- Meddygon
- Prifysgolion
- Ysgolion
- Ffatrïoedd
- Ysbytai
- Cartrefi nyrsio
Mae gwefan yr HSE yn cynnwys dewis cynhwysfawr o hysbysrwydd a chanllawiau iechyd a diogelwch sy’n rhoi ffeithiau ar ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a’r hyn sydd raid i fusnesau ei wneud. Dechreuwch trwy edrych dan adran y pwnc neu ddiwydiant perthnasol.
Os bydd arnoch angen cyngor iechyd a diogelwch neu gyngor technegol mewn cysylltiad â gweithgaredd sydd â Chyngor Sir Penfro fel yr awdurdod gorfodi, cysylltwch â ni.
I gael cyngor technegol mewn cysylltiad â gweithgaredd sydd â’r HSE fel yr awdurdod gorfodi, cysylltwch â’r HSE gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein ar wefan HSE.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tîm Iechyd a Diogelwch,
Isadran Diogelu’r Cyhoedd,
Cyngor Sir Penfro,
Neuadd y Sir,
Hwlffordd,
Sir Benfro,
SA61 1TP.
Ffôn: 01437 775179
E-bost: health&safety@pembrokeshire.gov.uk