Rhyddid Gwybodaeth a Gwybodaeth Amgylcheddol
Ystadegau perfformiad rheoliadau rhyddid gwybodaeth/gwybodaeth amgylcheddol
- Ymatebwyd i 95% neu fwy o geisiadau a dderbyniwyd o fewn 20 diwrnod gwaith - Da
- Ymatebwyd i 90-94% o geisiadau a dderbyniwyd o fewn 20 diwrnod gwaith – Digonol
- Ymatebwyd i lai na 90% o geisiadau o fewn 20 diwrnod gwaith – Anfoddhaol
Blwyddyn galendr(yn unol â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth)
|
Nifer y ceisiadau a gwblhawyd |
Nifer y ceisiadau a gwblhawyd o fewn 20 diwrnod gwaith |
% a gwblhawyd o fewn 20 diwrnod gwaith |
2024 (ar ddiwedd chwarter 3) | 881 | 828 | 94% |
2023 | 1027 | 969 | 94% |
2022 | 858 | 817 | 95% |
2021 | 807 | 774 | 96% |
2020 | 814 | 675 | 83% |
2019 | 1159 | 1026 | 89% |
Sut i Wneud Cais
Mae dwy ffordd o ofyn am wybodaeth.
- I gael gwybodaeth am y Cyngor neu'r Amgylchedd gwnewch gais Rhyddid Gwybodaeth neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.
- I gael gwybodaeth y gall y Cyngor ei dal amdanoch chi gwnewch Gais Gwrthrych am Wybodaeth dan Adran 7 o'r Ddeddf Gwarchod Data.
Sut i Apelio yn Erbyn Ymateb
Os ydych eisiau apelio yn erbyn ymateb yr Awdurdod i'ch cais am wybodaeth, gallwch ofyn am gael cynnal Adolygiad Mewnol. Gwnewch gais ysgrifenedig o fewn deufis i ddyddiad yr ymateb i’ch cais gwreiddiol, os gwelwch yn dda.
Uwch Swyddog Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1PT
neu e-bost - FOI@pembrokeshire.gov.uk
Bydd Swyddog Adolygu annibynnol yn adolygu eich cais, ac yn ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Serch hynny, mae amgylchiadau lle caiff ceisiadau eu cwblhau o fewn 40 diwrnod gwaith.
Os nad ydych chi’n fodlon â chanlyniad yr Adolygiad Mewnol, mae gennych yr hawl i gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, corff rheoleiddio’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
Ail Lawr,
Tŷ Churchill,
Ffordd Churchill,
Caerdydd.
CF10 2HH
Ffôn: 0330 414 6421
Ebost: wales@ico.org.uk
Ffioedd a Thaliadau ynghylch Rhyddid Gwybodaeth
Rydym yn ceisio cynnig gwybodaeth am ddim lle bynnag y gallwn. Pan fydd rhaid i ni godi tâl arnoch am wybodaeth, bydd cyfiawnhad dros y taliadau, fe fyddant yn dryloyw ac yn cael eu cadw at isafswm.
Efallai y bydd taliadau'n cael eu gwneud am dreuliau gwirioneddol megis:
- Llungopïo/argraffu
- Postio a phecynnu
- Y gost a godir yn uniongyrchol o ganlyniad i weld y wybodaeth
Efallai y bydd taliadau'n cael eu gwneud hefyd am wybodaeth lle maent yn cael eu hawdurdodi'n gyfreithlon. Bydd rhestr o ffioedd yn cael ei chyhoeddi ar gyfer gwybodaeth o'r fath.
Mae'n bosibl y caiff taliadau eu gwneud am setiau data hawlfraint (neu rannau o setiau data) sydd ar gael i'w hailddefnyddio.
Ail-ddefnyddio Gwybodaeth a Gyhoeddwyd
Rhaid cael caniatâd clir y cyngor cyn ail-ddefnyddio gwybodaeth a ddisgrifir ar y dudalen hon oni bai fod hyn yn dod o fewn amodau trwydded benodol. Defnyddiwch y manylion cyswllt ar y dudalen Ymateb Defnyddwyr i ofyn am ganiatâd.
Adborth gan Ddefnyddwyr
Gall adborth gan ddefnyddwyr ar y Cofnod Datgeliadau a Chynlluniau Cyhoeddi yn cael ei gyflwyno gyda'r ffurflen Adborth Cwsmeriaid - Canmoliaeth / Sylwadau neu'n uniongyrchol i:
Rhyddid Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1PT
neu e-bost - foi@pembrokeshire.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol a Chynlluniau Cyhoeddi, ymwelwch â gwefan y Comisiynydd Gwybodaeth.
Rhyddid Gwybodaeth a Gwybodaeth Amgylcheddol
Cyn i chi wneud cais Rhyddid Gwybodaeth neu Gwybodaeth Amgylcheddol byddai'n werth i chi edrych ar ein Coflyfr Datgeliadau i benderfynu a gafodd y cwestiwn ei ofyn a'i ateb o'r blaen. Mae'r Coflyfr Datgeliadau'n rhestru ein holl ymatebion i geisiadau a wnaed dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Efallai y byddwch hefyd yn dod o hyd i'r wybodaeth rydych yn chwilio amdano yn y Cynllyn Cyhoeddi.
Os na chewch hyd i'r wybodaeth sydd arnoch ei hangen, mae gennych hawl i ofyn i ni am wybodaeth dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Deddf Gwarchod Data 2018. Os hoffech wneud cwyn, ewch i Cwynion syn ymwneud a Rhyddid Gwybodaeth.
Ar gyfer ymholiadau cysylltwch â:
E-bost: FOI@pembrokeshire.gov.uk
Tîm Rhyddid Gwybodaeth (01437) 77 6684
Chwilio'r Cofnod Datgeliadau
Oherwydd gofynion hygyrchedd gwefannol, nid yw Cyngor Sir Penfro wedi bod mewn sefyllfa i allu cyhoeddi ymatebion Rhyddid Gwybodaeth / Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol ers mis Ionawr 2022. Fodd bynnag, rydym yn rhagweld y byddwn mewn sefyllfa i allu dechrau cyhoeddi’r rhain eto yn ystod y misoedd sydd i ddod.
Dyma restr o'n hymatebion i geisiadau a wnaed o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
Gallwch chwilio'r rhestr yn ôl dyddiad yr ymateb neu'n ôl y gyfarwyddiaeth.
Mae'n arfer gennym hefyd cyhoeddi gwybodaeth drwy'r Cynllun Cyhoeddi.
Mae'r Awdurdod hefyd yn cynnig setiau data i fod ar gael i'w hailddefnyddio. Bydd rhai o'r setiau data yn cael eu diweddaru pryd bynnag y bydd gwybodaeth newydd ar gael.
Os ydych yn dymuno gwneud cais am wybodaeth nad yw wedi ei chynnwys yn ein Cynllun Cyhoeddi nac yn y Cofnod Datgeliadau, mae cyngor ynghylch gwneud hynny i'w gael: Rhyddid Gwybodaeth.
Dyddiad | Disgrifiad y Ddogfen | Type |
---|