Rhyddid Gwybodaeth a Gwybodaeth Amgylcheddol

Sut i Apelio yn Erbyn Ymateb

Os ydych eisiau apelio yn erbyn ymateb yr Awdurdod i'ch cais am wybodaeth, gallwch ofyn am gael cynnal Adolygiad Mewnol. Gwnewch gais ysgrifenedig o fewn deufis i ddyddiad yr ymateb i’ch cais gwreiddiol, os gwelwch yn dda.

Uwch Swyddog Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1PT
neu e-bost - FOI@pembrokeshire.gov.uk

Bydd Swyddog Adolygu annibynnol yn adolygu eich cais, ac yn ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Serch hynny, mae amgylchiadau lle caiff ceisiadau eu cwblhau o fewn 40 diwrnod gwaith.

Os nad ydych chi’n fodlon â chanlyniad yr Adolygiad Mewnol, mae gennych yr hawl i gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, corff rheoleiddio’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru

Ail Lawr,
Tŷ Churchill,
Ffordd Churchill,
Caerdydd.
CF10 2HH
Ffôn: 0330 414 6421

Ebost: wales@ico.org.uk

ID: 505, adolygwyd 18/07/2024