Hunanasesiad Blynyddol 2023-24

Hunanasesiad Blynyddol 2023-24

Dyma drydydd hunanasesiad blynyddol Cyngor Sir Penfro fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).  Cyflwynodd y Ddeddf ofynion perfformiad newydd ar gyfer awdurdodau lleol ac yn ganolog i hyn mae dyletswydd i adrodd yn flynyddol ar berfformiad drwy broses hunanasesu.  Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor yng Nghymru barhau i adolygu, drwy hunanasesu, i ba raddau y mae’n bodloni’r ‘gofynion perfformiad’, sef i ba raddau:

  • Mae'n arfer ei swyddogaethau'n effeithiol
  • Mae'n defnyddio ei adnoddau yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol
  • Mae ei lywodraethu yn effeithiol ar gyfer sicrhau'r uchod

 

Rhaid llunio adroddiad hunanasesu ar gyfer pob blwyddyn ariannol a’i gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’n adrodd arni.  Fel y cyfryw, dyma adroddiad hunanasesu’r cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24.

 

Mae’r adroddiad yn nodi casgliadau’r cyngor ar y graddau y mae wedi bodloni’r gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn ariannol honno, ac unrhyw gamau y mae’n bwriadu eu cymryd, neu eisoes wedi’u cymryd, i gynyddu’r graddau y mae’n bodloni’r gofynion perfformiad.

 

Mae nifer o egwyddorion cyffredinol eang sydd wedi llywio dull y cyngor o gynnal yr hunanasesiad hwn:

  • Mae arweinyddiaeth a pherchnogaeth gorfforaethol yn allweddol i ddatblygu diwylliant o wella.
  • Mae angen gwreiddio’r broses hunanasesu ym mhrosesau cynllunio, perfformiad a llywodraethu corfforaethol y cyngor – nid yw’n ddigwyddiad untro nac yn broses annibynnol. 
  • Derbynnir y bydd y broses hunanasesu yn esblygu ac yn cael ei mireinio'n barhaus.  Rydym wedi gwneud rhai diwygiadau i’n fframwaith hunanasesu eleni ar ôl i’r cyngor  fabwysiadu strategaeth gorfforaethol newydd ym mis Mai 2022.
  • Nid yw hyn o reidrwydd yn ymwneud â chyflwyno systemau a phrosesau newydd – yn hytrach, mae hyn yn ymwneud â defnyddio'r hyn sydd eisoes ar waith mewn ffordd fwy cydlynol, integredig ac effeithiol.
  • Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi mai hunanasesiad corfforaethol yw hwn, nid asesiad o berfformiad gwasanaethau unigol. 

 

Mae adroddiad hunanasesu blynyddol Cyngor Sir Penfro hefyd yn gweithredu fel yr adroddiad sy’n bodloni dyletswyddau o dan baragraff 1, Atodlen 1 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n ymwneud â’r cynnydd y mae’r cyngor wedi’i wneud o ran cyflawni ei amcanion llesiant.

ID: 12315, adolygwyd 14/01/2025