Hunanasesiad Blynyddol 2023-24

SA1 - Amcanion Llesiant

SA1.1 - Byddwn yn gwella’r ddarpariaeth addysg a dysgu, gan arfogi ein dysgwyr â’r sgiliau a’r wybodaeth gydol oes y bydd eu hangen arnynt yn y dyfodol

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Drwy gydol 2023-24, gostyngodd nifer yr ysgolion a oedd wedi bod yng nghategorïau monitro Estyn, ac ym mis Gorffennaf 2024 nid oedd yr un o ysgolion Sir Benfro mewn categori statudol.  Mae tystiolaeth yn dangos bod ysgolion sydd wedi dod allan o gategorïau monitro yn ddiweddar wedi gwneud gwelliannau cynaliadwy (ee arolygiad craidd cadarnhaol ar gyfer ysgol ym mis Ionawr 2024 a oedd, cyn y dyddiad hwnnw, wedi bod mewn categorïau monitro ers wyth mlynedd).
  • Mae prosesau da wedi'u sefydlu i ddarparu cymorth ysgol-i-ysgol i ysgolion sy'n peri pryder.  Mae’r tîm o gynghorwyr gwella yn defnyddio eu gwybodaeth am y system leol ac ehangach yn dda i ddod o hyd i ysgol addas sydd â’r set sgiliau a gallu priodol i gefnogi ysgolion.  Mae cyfran y disgyblion mewn ysgolion sy'n peri pryder wedi gostwng o 15.1% i 7.6% dros y flwyddyn ddiwethaf.
  • Nid yw’n hawdd cymharu ffigurau cyrhaeddiad Blwyddyn 11 ar gyfer 2023 (nid yw ffigurau 2024 ar gael eto) â blynyddoedd blaenorol am i ffiniau graddau newid yn dilyn y pandemig.  Mae’r bwlch mewn deilliannau rhwng disgyblion ar incwm isel a disgyblion eraill wedi ehangu, ac mae’r bwlch yn Sir Benfro yn ehangach na’r hyn a welir yn genedlaethol, yn enwedig mewn mathemateg a gwyddoniaeth.  Mae deilliannau wedi'u modelu yn dangos bod safonau'n is na'r hyn y gallech ei ddisgwyl o ystyried lefel yr amddifadedd.  Mae’n ymddangos bod deilliannau wedi gwanhau ers y pandemig, gan fod y bwlch rhwng disgwyliadau a deilliannau wedi’u modelu wedi ehangu yn sgiliau craidd llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth.  Bydd dadansoddiad manwl o ganlyniadau 2024 yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dysgu ym mis Tachwedd 2024.
  • Gwnaethom gefnogi ysgolion gyda dulliau cryf ar gyfer datblygu iaith a mathemateg a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth.  Bellach mae gan ysgolion fynediad at ganllawiau iaith newydd gan yr awdurdod lleol, ochr yn ochr â chyfres lawn o adnoddau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.  Ar gyfer Cymraeg llafar, ar y cyd â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, rydym wedi datblygu platfform ymarfer adalw Meistroli, a fydd yn barod i ysgolion ei ddefnyddio o fis Medi 2024. Bydd cymorth cyfatebol ar gyfer sgiliau darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn cael ei ddarparu trwy blatfform adalw Carousel Learning.  Mae canllawiau ac adnoddau newydd ar gyfer mathemateg wedi'u cynhyrchu gan yr awdurdod lleol ac mae’r rhain yn ategu hyfedreddau Llywodraeth Cymru, gan adeiladu ar yr hyfforddiant a gynhaliwyd yn 2022-23, gyda'r canfyddiadau'n cael eu rhannu â phenaethiaid ac arweinwyr cwricwlwm. 
  • Mae effaith gyfunol y tarfu ar addysg plant a’r argyfwng costau byw yn ehangu’r bwlch cyrhaeddiad.  Mae cynlluniau yn eu lle i gefnogi rhaglen dal i fyny meistrolaeth – Success@Arithmetic – sydd ar gyfer disgyblion yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 sy'n cael anawsterau gyda hyfedredd rhifyddeg ac sydd angen cymorth i wella eu dealltwriaeth.
  • Fe wnaethom gyflwyno Carousel Learning, y platfform ymarfer adalw dwyieithog, trwy gydol blwyddyn academaidd 2023-24.  Mae pob ysgol uwchradd (a thua thraean o ysgolion) yn defnyddio'r platfform ac yn gosod cwisiau adalw i ddisgyblion.  Hyd yn hyn, mae dros 300 o gwisiau wedi’u gosod ar gyfer disgyblion o ddosbarthiadau iau uwch hyd at Safon Uwch a, hyd at fis Ebrill 2024, mae 150 o gwestiynau wedi’u creu yn cwmpasu rhannau helaeth o’r cwricwlwm ar draws y camau cynnydd. Mae ysgolion wedi cael eu cefnogi gan raglen ddysgu broffesiynol gref gydag athrawon profiadol yn darparu sesiynau mewn meysydd fel gwyddoniaeth, daearyddiaeth a Saesneg.  Bydd angen rhagor o waith yn 2024-25 i gefnogi datblygu adnoddau ar draws clystyrau i gynorthwyo cynnydd.
  • Cafodd Partneriaeth, ein partneriaeth gwella addysg, ei hailstrwythuro yn 2023-24 a bydd gan y bartneriaeth gyllideb lai yn y blynyddoedd i ddod.  Gan mai Sir Benfro yw’r awdurdod cyflogi, mae’r goblygiadau adnoddau dynol ffurfiol ar gyfer y gostyngiad hwn wedi’u hystyried gan y pwyllgor staff uwch a chan y cyngor yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2024.
  • Mae gan lawer o ysgolion broblemau recriwtio a chadw o hyd, yn enwedig ar gyfer arweinwyr ysgol, ac rydym wedi datblygu dull cryf o gefnogi ysgolion lle ceir heriau o ran recriwtio penaethiaid.  Dros y ddwy flynedd academaidd ddiwethaf, rydym wedi trefnu saith cynllun cydweithio â therfyn amser rhwng penaethiaid, yn ogystal â phedwar ffederasiwn ffurfiol.  Fodd bynnag, mae’r farchnad swyddi yn newid ac mae ein hymgyrch recriwtio Teach Pembs wedi’i gohirio oherwydd y sefyllfa o ran diswyddo mewn rhai ysgolion.
  • Drwy fabwysiadu dull arfarnu athrawon newydd, mae ysgolion eisoes ddwy flynedd ar y blaen i’r dull gweithredu cenedlaethol newydd, ac rydym yn gwbl falch o fod wedi dylanwadu ar yr hyn sy’n digwydd ledled Cymru.   2023-24 oedd blwyddyn lawn gyntaf y dull arfarnu newydd.  Mae adborth gan ysgolion wedi bod yn gadarnhaol, gyda sylwadau am yr hyblygrwydd y mae'n ei ganiatáu a chynnwys staff cymorth yn themâu allweddol.
  • Roedd swyddi gwag yn ein Gwasanaeth Cefnogi Llywodraethwyr ac roedd hyn yn achosi oedi gyda rhai meysydd gwaith cynlluniedig megis sefydlu cymdeithas llywodraethwyr. Fodd bynnag, gwnaethom ddatblygu hyfforddiant ar-lein o hyd a datblygu cyfres o bolisïau a dogfennau allweddol y gall ysgolion eu defnyddio fel sail i'w polisïau eu hunain.
  • Er bod llawer o leoliadau gofal plant a phlentyndod cynnar yn cael eu darparu gan y sector annibynnol, mae llawer yn cael rhywfaint o arian (trwy grantiau) gan y cyngor.  Yn 2023-24, archwiliwyd y mwyafrif o'r rhain gennym ni ein hunain gan ddefnyddio un o ddau fframwaith ansawdd.  Mae'r data a gasglwyd yn dangos bod yr holl leoliadau a ariennir yn gweithio ar neu uwchlaw deilliant da.  Mae cymhariaeth â blynyddoedd blaenorol hefyd yn dangos gwelliant cyson.
  • Rydym yn hyrwyddo’r lleoedd gofal plant a ariennir yn yr ardal Dechrau’n Deg, ac mae 58% o deuluoedd cymwys wedi manteisio ar ofal plant a ariennir gan Dechrau’n Deg.  Lle mae ymyrraeth gynnar yn digwydd (ee asesiad WellComm), mae’r canlyniadau’n dangos bod angen therapi lleferydd ac iaith ar bron i draean o blant. Mae’r canfyddiad hwn yn gyson â’r cynnydd yn y galw am wasanaethau plant eraill.
  • Fe wnaethom barhau i weithredu’r Strategaeth Dull Ysgol Gyfan at Iechyd Meddwl a Lles, gyda’r dull Ysgolion sy’n Ystyriol o Drawma yn ganolbwynt iddi.  Mae gwaith ar wella presenoldeb mewn ysgolion wedi canolbwyntio ar adolygu rolau’r Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd mewn ysgolion, adolygiadau presenoldeb mewn ysgolion sy’n perfformio’n isel, a datblygu gwaith ar fynd i’r afael ag Osgoi Ysgol ar Sail Emosiynol. Mae nifer y gwaharddiadau o'r ysgol yn cynyddu, ond maent yn is nag mewn ardaloedd tebyg eraill yng Nghymru.
  • Mae absenoldeb o ysgolion wedi lleihau, ond mae’n parhau i fod yn llawer uwch na chyn pandemig COVID-19.  Mae presenoldeb plant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ychydig yn well nag yn genedlaethol, ac mae’r bwlch rhwng presenoldeb plant sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim a’u cyfoedion ychydig yn llai yn lleol nag yn genedlaethol, er ei fod yn dal yn amlwg iawn.   Mae dadansoddiad o’r data yn awgrymu nad yw'r wythnos anghymesur yn gyffredinol o gymorth i sicrhau lefelau uchel o bresenoldeb.
  • Mae'r Gwasanaeth Cerdd a'r Gwasanaeth Datblygu Chwaraeon yn chwarae rhan bwysig wrth ehangu cyfleoedd dysgu i bobl ifanc, ac fel rhan o raglenni i helpu i fynd i'r afael â'r bwlch anfantais a magu hyder ar ôl y pandemig.  Fel rhan o’r Cynllun Cerddoriaeth Cenedlaethol, mae Profiadau Cyntaf wedi’u cyflwyno i holl ddisgyblion Blwyddyn 4 (2,055 o ddisgyblion).  Er bod nifer y disgyblion sy’n ymuno ag Ensemble y Sir yn cynyddu, mae’n dal yn is na’r lefelau cyn-bandemig.  Gwelodd gynnydd sylweddol yn y galw am y sesiynau gwyliau Fit and Fed a’r disgwyliad am y cynnig gwyliau hwn. Roedd y data meintiol a gasglwyd yn dangos cynnydd o 38% mewn presenoldeb.  Nododd y cabinet y gwaith sy'n cael ei wneud i greu partneriaeth chwaraeon a gweithgarwch corfforol ranbarthol yng ngorllewin Cymru yn ei gyfarfod ym mis Medi 2023.
  • Mae ein Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac yn annog llais y disgybl.  Yn ei gyfarfod ar 17 Ebrill 2023, clywodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dysgu sylwadau gan uwch-swyddogion Ysgol Bro Preseli ynghylch eu pryderon ynglŷn â chyflwr adeiladwaith adeilad eu hysgol.  Mae Ysgol Bro Preseli bellach wedi'i chynnwys yn ein rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn y dyfodol.
  • Mae datblygiad y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn gysylltiedig â'r achos dros ad-drefnu ysgolion (gweler ‘Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?’).  Yn 2023-24, fe wnaethom barhau i symud ymlaen (a chwblhau) prosiectau a ariannwyd yn y blynyddoedd blaenorol.  Yn ystod 2023-24, aethpwyd ar drywydd materion cyfreithiol ac yswiriant ar gyfer Ysgol Wirfoddol a Reolir Maenorbŷr, a ddifrodwyd gan dân.  Cliriwyd malurion o’r adeilad ym mis Ionawr 2024, ac ers y dyddiad hwn rydym wedi bod yn canfod faint o waith adfer sydd ei angen a’r costau.  Dechreuodd y gwaith o adeiladu Ysgol Bro Penfro, sef ysgol cyfrwng Cymraeg, ym mis Mai 2023, a chwblhawyd yr ysgol ar amser ac o fewn y gyllideb ym mis Gorffennaf 2024.  Bydd yn agor i fyfyrwyr ym mis Medi 2024.  Cymeradwywyd yr achos busnes amlinellol ar gyfer ailddatblygu Ysgol Portfield, cynllun gwerth £30 miliwn, gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2023, ac mae’r cynllun ar gyfer yr ysgol wedi datblygu i’r pwynt lle’r oedd yn ddigon manwl i gyflwyno’r achos busnes llawn ym mis Mai 2024 ac ym mis Mehefin 2024 rhoddwyd caniatâd cynllunio. 
  • Gan edrych ymlaen, cytunodd y cyngor ar y rhaglen amlinellol strategol ar gyfer rhaglen dreigl naw mlynedd ym mis Rhagfyr 2023 (mae'r adroddiad hwn yn cynnwys crynodeb o'r rhaglen hyd yma).  Mae hon wedi’i chyflwyno i Lywodraeth Cymru ac rydym yn aros am gymeradwyaeth. 
  • Y Cyfarwyddwr Addysg yw arweinydd y cyngor ar gyfer diogelu ar draws y sefydliad, gyda chefnogaeth Hyrwyddwr Aelodau.  Mae bwrdd diogelu corfforaethol wedi cael ei sefydlu ac yn cyfarfod yn rheolaidd.  Mae'r grŵp yn parhau i gynnal cylch rheolaidd o archwiliadau diogelu adrannol ac olrhain cydymffurfedd â hyfforddiant gorfodol, yn ogystal ag edrych ar faterion mwy uniongyrchol, megis capasiti o fewn gofal cymdeithasol oedolion.  Bydd y bwrdd yn cytuno ar ei adroddiad blynyddol drwy'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol.  Cafodd yr adroddiad adran 175, sy’n mynd i’r afael â diogelu a hyrwyddo lles plant, ei ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dysgu ym mis Gorffennaf 2024 a daeth i’r casgliad bod y cynllun gweithredu yn mynd rhagddo’n dda.

 

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

 

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Y mater mwyaf cymhleth a dadleuol o bosibl y mae'r cyngor wedi ymrwymo i'w adolygu yn y dyfodol yw ad-drefnu ysgolion.  Ar ei symlaf, mae gan Sir Benfro ormod o leoedd ysgol ar gyfer nifer y plant sydd ganddi ar hyn o bryd ac mae’n debygol o’u cael yn y dyfodol.  Mae hyn yn ymestyn gallu arweinyddiaeth yn ogystal â chynyddu costau.  Gall fynd i'r afael â'r diffyg cyfatebiaeth hwn alluogi'r cyngor i gyflawni pedwar amcan, megis: gwella safonau; ymestyn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg; creu cymunedau addysg cynaliadwy; a sicrhau bod ysgolion yn cael eu cartrefu mewn adeiladau o ansawdd gwell.  Ystyriodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dysgu ddogfen ar yr achos dros ad-drefnu ysgolion yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd 2023, a chafodd papur manylach ei ystyried gan y cyngor yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2024.  Cytunodd hwn y dylid sefydlu gweithgor traws-siambr, gwleidyddol gytbwys, i archwilio'r dystiolaeth yn fanwl ac i ddod â chynigion gerbron y cyngor.
  • Gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd yn sgil ailstrwythuro Partneriaeth.
  • Parhau i greu disgwyliadau uchel wrth wella safonau ar gyfer pob disgybl, gan gynnwys ffocws cryf ar y rhai mwyaf difreintiedig.  Er gwaethaf tystiolaeth o lwyddiant ym mhob ysgol wrth gyflwyno’r rhaglen i godi cyrhaeddiad pobl ifanc dan anfantais, mae'r bylchau cyrhaeddiad rhwng disgyblion breintiedig a difreintiedig yn fwy na'r cyfartaledd cenedlaethol.
  • Cwblhau’r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy y cytunwyd arni gennym.  Cwblhau Ysgol Portfield (cymeradwyo achos busnes fis Gorffennaf 2024).  Parhau â'r gwaith o adfer Ysgol Maenorbŷr. Datblygu’r rhaglen amlinellol strategol naw mlynedd a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2023.  Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad o tua £115 miliwn mewn ysgolion yn Aberdaugleddau, prosiect Canolfan Ddysgu Sir Benfro / Uned Cyfeirio Disgyblion gwerth tua £34 miliwn (Neyland, Penalun a Doc Penfro), a thua £11 miliwn ar gyfer dau gam cyntaf prosiect tri cham Ysgol Bro Preseli.
  • Parhau â’n strategaethau llwyddiannus i wella arweinyddiaeth mewn ysgolion.
  • Anghenion dysgu ychwanegol.  Gwella amserlenni ar gyfer cyhoeddi Cynlluniau Datblygu Unigol (ac eithrio eithriadau) a sicrhau bod lleoedd ychwanegol mewn Canolfannau Adnoddau Dysgu ar gael yn Neyland a Phenrhyn Dewi.
  • Addysg ddewisol yn y cartref.  Bu cynnydd cyson yn nifer y plant sy’n derbyn addysg ddewisol yn y cartref ers 2020.  Rydym am wella ymatebolrwydd ac amseroldeb cyfathrebu â rhieni addysg ddewisol yn y cartref, ac rydym wedi dyrannu adnoddau ychwanegol i'r tîm addysg ddewisol yn y cartref er mwyn cynyddu canran y teuluoedd yr ymwelir â hwy a'r adroddiadau a dderbynnir bob blwyddyn.

 

SA1.2 - Byddwn yn sicrhau darpariaeth briodol o ofal a chymorth, gan ganolbwyntio ar atal a sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn ddiogel

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Cynhyrchir adroddiad manwl gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn flynyddol a bydd yr adroddiad ar gyfer 2023-24 yn mynd drwy ei broses gymeradwyo derfynol ar yr un pryd neu tua'r un adeg â'r hunanasesiad hwn. 
  • Y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gofal cymdeithasol yw’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.  Mae hyn yn pwysleisio llais y defnyddiwr a rheolaeth defnyddwyr ac mae’n parhau i fod yn weledigaeth hirdymor ar gyfer y gwasanaeth ac rydym wedi ymgorffori hyn drwy’r dull Arwyddion Diogelwch o fewn Gwasanaethau Plant.  Er bod arolygiad diweddar Arolygiaeth Gofal Cymru wedi canfod nifer o ddiffygion mewn gofal cymdeithasol i oedolion, nododd hefyd: “Mae arfer yn cael ei ategu gan ddull sy’n seiliedig ar gryfderau, gyda safbwyntiau pobl yn cael eu cynrychioli’n glir.”
  • Ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion yn 2023-24, er bod y pwysau acíwt a ysgogodd Ymgyrch Nightingale wedi lleihau ychydig (ee roedd nifer y bobl a oedd yn aros mewn gwely acíwt mewn ysbyty i gael eu rhyddhau bob mis yn 2022 yn 11, ond erbyn diwedd y llynedd roedd hyn wedi lleihau i bedwar), roedd y galw yn parhau i fod yn uchel a chynyddodd cymhlethdod y galw hwn.  Ffactor a oedd yn cymhlethu’r sefyllfa yn 2023-24 oedd darganfod problemau adeileddol yn Ysbyty Llwynhelyg, a leihaodd ei gapasiti ac a roddodd bwysau ychwanegol ar y system gofal cymdeithasol oedolion gyfan, yn enwedig wrth gefnogi rhyddhau o’r ysbyty.
  • Yn ystod y flwyddyn, buom yn mireinio sut rydym yn adrodd ar berfformiad o fewn gofal cymdeithasol gan ddefnyddio Power BI i gynhyrchu cyfres o gardiau sgorio. O fewn hyn, mae’r gostyngiad yn nifer y bobl sy’n aros am ofal cartref drwy gydol 2023-24 yn nodedig.   Un o'r rhesymau dros y gostyngiad calonogol yw ein bod, ym mis Ionawr 2024, wedi ailgomisiynu ein fframwaith gofal cartref ac wedi dyfarnu contractau ers hynny.  Dylid nodi hefyd y cynnydd yn nifer yr oriau o ofal a ddarperir gan daliadau uniongyrchol, sydd bellach yn cyfrif am dros hanner yr oriau gofal a ddarperir.
  • Rydym wedi parhau i dyfu ac amrywio’r farchnad gofal a chymorth gyda 79 o fentrau micro bellach wedi’u sefydlu ledled Sir Benfro. Mae PLANED yn cynnal y catalydd cymunedol lleol, sy'n gweithio'n agos gyda Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, sy'n cynnal y swyddog arweiniol ar gyfer mentrau cymdeithasol.  Rydym wedi bod yn llwyddiannus gyda chais Rhaglen Newid Carlam i gefnogi datblygiad gofalwyr Cysylltu Bywydau ac, er bod gan fodel Cysylltu Bywydau botensial enfawr, mae’r niferoedd sy’n manteisio arno’n gyfyngedig o hyd.
  • Mae'r ganolfan gymunedol a'r cysylltwyr bellach wedi'u hen sefydlu. Gyda chefnogaeth pecyn cymorth Social Value Engine, rydym bellach yn gallu dangos adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiad.
  • Yn 2023-24, fe wnaethom barhau i gefnogi gofalwyr o fewn fframwaith y strategaeth gofal ranbarthol y cytunwyd arni a’i phedair blaenoriaeth.  Mae hyn yn cwmpasu ystod eang o fentrau: er enghraifft, cynnig tocyn gofalwr am ddim ym Maenordy Scolton ac aelodaeth hamdden am ddim neu am bris gostyngol, a chefnogi microfentrau trwy gynnal digwyddiadau rheolaidd (ee gwobrau Buddsoddwyr mewn Gofalwyr neu sioeau teithiol cadw’n iach).  Fodd bynnag, bu oedi wrth asesu anghenion gofalwyr ac, yn 2023-24, dim ond 238 a gynhaliwyd o gymharu â 484 y flwyddyn flaenorol.  Gwnaeth Arolygiaeth Gofal Cymru sylwadau ar yr effaith y mae oedi i asesiadau gofalwyr yn ei chael ar ein cymuned.
  • Gwnaethom barhau i foderneiddio gwasanaethau dydd ar draws Sir Benfro.  Nod hyn yw gwneud mwy o ddefnydd o fodelau mentrau cymdeithasol ac, fel rhan o'r arbedion cyllidebol y cytunwyd arnynt yn 2023-24, rydym yn cynnig ad-drefnu canolfannau dydd.  Bu'r cyngor yn ystyried deisebau yn erbyn cau'r Anchorage, a thynnu cytundebau lefel gwasanaeth yn ôl oddi wrth ganolfannau gofal dydd Lee Davies a Bro Preseli, yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2024.
  • Roedd 2023-24 yn flwyddyn bontio ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion a chyflawnwyd cynllunio ar gyfer gweithredu model gofal cymdeithasol newydd, wedi’i ategu gan fethodoleg Vanguard.  Mae hyn wedi'i lunio gan lefelau uchel o alw a'i gymhlethdod cynyddol.  Fel rhan o’r cyfnod pontio hwn, bydd ‘drws ffrynt’ newydd i ofal cymdeithasol oedolion yn cael ei greu gyda thîm ehangach (gan gynnwys ailalluogi a chyfleoedd dydd yn ogystal â gweithwyr cymdeithasol ychwanegol a therapyddion galwedigaethol).  Bydd y tîm craidd yn gallu darparu asesiad a chynllunio gofal wrth y drws ffrynt. Bydd y tîm yn gallu darparu asesiad ailalluogi ac asesiad therapi galwedigaethol, sef y ddwy ddisgyblaeth a fydd yn hollbwysig o ran lleihau rhestrau aros.
  • Er i Arolygiaeth Gofal Cymru gynnal arolygiad o ofal cymdeithasol i oedolion ym mis Ebrill 2024, ychydig y tu allan i’r cyfnod amser ar gyfer yr adroddiad hwn, a’i gyhoeddi ym mis Mehefin 2024, mae casgliadau Arolygiaeth Gofal Cymru a’r brys y mae’n disgwyl gweithredu yn eu cylch yn golygu ei bod yn briodol gwneud sylwadau ar yr arolygiad hwn yn adroddiad 2023-24.  Er bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn cydnabod bod lefel sylweddol o newid trawsnewidiol eisoes yn digwydd, daeth ei hadroddiad i’r casgliad hwn: Mae gennym bryderon difrifol am yr effaith ar ddiogelwch a llesiant pobl ag anghenion gofal cymdeithasol sy’n byw yn Sir Benfro. Mae ein pryderon yn ddifrifol o ystyried bod difrifoldeb, amlder a pharhad problemau yn fwy na'r rhai y gellir ymdrin â hwy gan yr arfer arferol. Mae bwrdd gwella ar gyfer gofal cymdeithasol, wedi’i gadeirio gan y prif weithredwr, wedi’i sefydlu a chyflwynwyd manylion ei gylch gorchwyl a’r gwaith sydd eisoes ar y gweill i fodloni pryderon Arolygiaeth Gofal Cymru i’r cabinet yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2024.
  • Yn ystod 2023-24, cynyddodd y galw am bob math o ofal plant.  Er enghraifft, dyblodd nifer y lleoliadau gofal preswyl, y math mwyaf dwys a drud, ac erbyn hyn mae gennym y lefelau uchaf erioed o bobl ifanc sy'n derbyn gofal. Nid yw adnoddau staff wedi cynyddu i fodloni'r galw cynyddol hwn.  Ym mis Chwefror 2024, ystyriodd y cabinet adroddiad ar Ymgyrch Salus, sef adroddiad ar y materion a’r camau lliniaru sy’n cael eu cymryd neu eu hystyried, yn ogystal â strwythurau arfaethedig ar gyfer y drws ffrynt at ofal cymdeithasol plant, y Tîm Asesu Gofal Plant.  Rhoddir sylwadau ar oblygiadau ariannol y cynnydd mewn staffio gofal cymdeithasol yn yr adran adnoddau
  • Mae’r awdurdod lleol yn bartner yn y prosiect ‘Llety Mwy Diogel’ rhanbarthol i ddatblygu ystod o gartrefi preswyl ‘sy’n ystyriol o drawma’ yng ngorllewin Cymru, yn seiliedig ar fodel darparu ‘prif ganolfan a lloerennau’. Mae canolbwynt y cynllun yn ganolfan yng Nghaerfyrddin, gyda West Lodge yn ‘lloeren’ i Sir Benfro sy’n cynnig hyd at bedwar gwely i blant y mae arnynt angen gofal preswyl. Unwaith y bydd ar agor, y nod cychwynnol fydd adleoli plant yn ôl i'r sir sy'n cael eu lleoli y tu allan i'r sir ar hyn o bryd mewn lleoliadau preswyl preifat.
  • Ers mis Chwefror 2022, mae’r Swyddfa Gartref wedi rhoi mandad i bob awdurdod lleol yn y DU dderbyn cwota dynodedig o Blant ar eu Pennau eu Hunain sy’n Ceisio Lloches gan awdurdodau lleol yn Ne-ddwyrain Lloegr.  Y nifer dynodedig ar ein cyfer ar hyn o bryd yw 23, y mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi'u lleoli y tu allan i Sir Benfro. Mae hyn yn gosod baich ychwanegol sylweddol ar y gweithwyr cymdeithasol sy'n gorfod ymweld â hwy yn unol â'n cyfrifoldebau statudol.
  • Ym mis Gorffennaf 2023, fe wnaethom gyflwyno dull ‘dim anfantais’ newydd o ymdrin â lwfansau ariannol a delir i warcheidwaid arbennig, gan roi mwy o sicrwydd ariannol i ofalwyr maeth os oeddent yn gofalu am bobl ifanc a oedd ar fin troi’n 18 oed.

 

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

 

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Ailgynllunio'r broses blaen tŷ ar gyfer cael mynediad i ofal cymdeithasol i oedolion drwy ad-drefnu gwasanaethau.
  • Parhau i foderneiddio cyfleoedd dydd ar draws Sir Benfro – bydd mwy o opsiynau i ddarparu dull gweithredu seiliedig ar fentrau cymdeithasol ar gyfer gwasanaethau dydd yn cael eu harchwilio.
  • Gweithredu methodoleg Vanguard i wella prosesau gwasanaeth a nodi cyfleoedd ar gyfer arbedion effeithlonrwydd ar draws y gyfarwyddiaeth.
  • Ad-drefnu’r Tîm Gwaith Cymdeithasol Cymunedol.
  • Sicrhau gweithlu ar gyfer y dyfodol o fewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion.
  • Gwella recriwtio gofalwyr maeth i sicrhau bod plant yn cael eu lleoli yn agosach at eu cartrefi, gyda gofalwyr lleol a lleihau'r defnydd o leoliadau allanol drutach a phellach.
  • Datblygu Cynllun Grant Adeiladau Gofalwyr Maeth (cynllun peilot ar hyn o bryd) i alluogi gofalwyr maeth i gynyddu'r lleoedd i blant sydd ar gael iddynt.
  • Datblygu datrysiadau llety ar gyfer Plant ar eu Pennau eu Hun sy’n Ceisio Lloches i’w galluogi i fyw yn agosach at Sir Benfro ac mewn llety sy’n gynaliadwy ac yn fforddiadwy iddynt yn y tymor hir.
  • Datblygu prosiect ymyrraeth gynnar ac asesu rhieni a babanod er mwyn lleihau nifer y babanod sy’n cael eu derbyn i ofal ar enedigaeth, a lleihau nifer y babanod sy’n cael eu rhoi ar y gofrestr amddiffyn plant adeg eu geni.
  • Ailgynllunio'r broses blaen tŷ yn y Tîm Asesu Gofal Plant i ganiatáu ar gyfer brysbennu atgyfeiriadau’n well a gwella amseroedd ymateb ac ansawdd asesiadau.
  • Adolygu a diweddaru'r Polisi Taliadau Uniongyrchol, gan gynnwys adolygiad o'r model ariannu i sicrhau mai dim ond yr arian sydd ei angen i dalu am eu gofal y mae pobl yn ei gael. Yr holl gyllid arall i aros yn ganolog a'i ddarparu fesul achos.
  • Gweithredu system rheoli achosion ECLIPSE yn llawn.
  • Adeiladu marchnad amrywiol a bywiog i fodloni gofynion y dyfodol, megis drwy ailgomisiynu gwasanaethau byw â chymorth.
  • Datblygu’r rhaglen waith ar gyfer cyflogaeth â chymorth, megis drwy ehangu’r prosiect Gallwn (cyflogaeth leol â chymorth / cynnig addysgol), yn dilyn y cynllun peilot llwyddiannus yn 2023/24.

 

SA1.3 - Byddwn yn galluogi darparu cartrefi sy’n fforddiadwy, sydd ar gael, y gellir eu haddasu, ac sy'n defnyddio ynni'n effeithlon

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Cymeradwywyd ffurf ddrafft y strategaeth dai ar gyfer 2024-2029 gan y cyngor ar 14 Rhagfyr 2023. Mae'n rhoi arweiniad o ran yr heriau tai sy'n cael eu hwynebu yn Sir Benfro, y blaenoriaethau y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw, a'r camau y mae angen eu cymryd i roi newid ar waith.
  • Mae'r strategaeth dai yn nodi pum maes blaenoriaeth a fydd yn helpu i fynd i'r afael ag anghenion tai'r sir dros y pum mlynedd nesaf: cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol; gwaith i sicrhau bod digartrefedd yn cael ei atal a’i fod am gyfnod byr, yn anaml a heb ei ailadrodd; gwella ansawdd cyffredinol tai yn Sir Benfro; cefnogi pobl i fyw'n annibynnol yn hirach yn eu cartrefi eu hunain; a lleihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â thlodi tanwydd.
  • Mae’r gwaith o weithredu Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym 2022-2027 wedi parhau yn 2023/24 ac wedi cyfrannu at ddatblygu Strategaeth Dai 2024-2029. Mae’n arbennig o berthnasol ar gyfer ail flaenoriaeth y strategaeth dai, sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod pobl sy’n ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd yn gallu cael mynediad i’r cartref iawn ar yr amser iawn fel rhan o’r dull ailgartrefu cyflym.
  • Cynhaliwyd adolygiad cynhwysfawr o bolisi dyrannu Cartrefi Dewisedig yn 2023/24. Cytunwyd ar y gwaith hwn a’r polisi diwygiedig gan y cabinet ar 22 Ebrill 2024, a byddant yn cefnogi’r gwaith o gyflawni Strategaeth Dai 2024-2029 a Chynllun Busnes 2024-2054 y Cyfrif Refeniw Tai.
  • Mae newidiadau nodedig i bolisi dyrannu Cartrefi Dewisedig yn cynnwys: creu cofrestr tai fforddiadwy ar gyfer y rhai nad oes arnynt angen o reidrwydd tai cymdeithasol ond na allant fforddio rhenti preifat uchel neu bryniadau ar y farchnad agored; cyflwyno elfen ‘un i fyny’ i helpu i leihau’r galw ar stoc un gwely; hysbysebu Cofrestr Tai Hygyrch Sir Benfro; a chael gwared ar y cerdyn blaenoriaeth er mwyn caniatáu ar gyfer lledaeniad mwy cyfartal o ddyraniadau ar draws y band uchaf.  Mae'n werth nodi bod y niferoedd yn y categori aur sy'n aros am dai cyngor yn parhau i gynyddu.  Mae hwn yn un o'r mesurau sy'n cael ei fonitro'n rheolaidd gan uwch-arweinwyr a'r cabinet yn ein Cerdyn Sgorio Corfforaethol.
  • Cyhoeddwyd Safon Ansawdd Tai Cymru 2 gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2023, a dechreuodd y gwasanaeth tai ar ei raglen datgarboneiddio stoc wrth baratoi ar ei chyfer, gan ddefnyddio cyllidebau’r Cyfrif Refeniw Tai a oedd yn cyfateb i’r grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio. Ar 4 Medi 2023, cymeradwyodd y cabinet y broses o wahodd, gwerthuso a dirprwyo dyfarnu tendr i gontractwyr gosod i osod datrysiadau ôl-osod datgarboneiddio i stoc dai’r cyngor.
  • Cymeradwywyd cynllun busnes newydd y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024-2054 gan y cabinet ar 11 Mawrth 2024.  
  • Mae'r Cyfrif Refeniw Tai yn adlewyrchu bod proffilio nifer y cartrefi newydd a adeiladwyd wedi'i leihau o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol (2023-2053). Mae hyn o ganlyniad i ofynion newydd Safon Ansawdd Tai Cymru 2, a gyflwynodd safonau diwygiedig yn ymwneud â datgarboneiddio cartrefi a mwy o fesurau yn ymwneud â gorchuddion llawr, casgenni dŵr a mannau storio diogel. Mae’r rhain gyda’i gilydd wedi cyfrannu at ofynion ariannol ychwanegol, gan effeithio o ganlyniad ar y cyllid sydd ar gael i barhau i adeiladu tai newydd ychwanegol i ychwanegu at stoc dai’r cyngor.
  • Er gwaethaf oedi cychwynnol i ddau o’r prif gynlluniau datblygu, gwnaed dyraniadau ar gyfer tenantiaid newydd yn Old School Lane, Johnston, a Tudor Place, Tiers Cross, gyda thenantiaid yn symud i Johnston yn 2023/24 a’r tenantiaid eraill yn symud i mewn erbyn mis Mai 2024. Mae digwyddiadau cymunedol ar y safleoedd hyn hefyd wedi'u cynllunio a gwnaed y dyraniadau yn dilyn cynlluniau gosod lleol a ddatblygwyd mewn partneriaeth â'r cyngor cymuned lleol, ymgysylltu â chwsmeriaid a chyfranogiad aelodau lleol. Gyda mwy o gynlluniau yn y rhaglen ddatblygu, rydym am groesawu mwy o denantiaid newydd, cefnogi cydlyniant cymunedol, a lleddfu rhai o'r pwysau digartrefedd.
  • Yn ogystal ag adeiladau newydd, rydym yn parhau i gynyddu ein stoc dai trwy nifer o fentrau, megis caffael tua 50 eiddo ar gyfer stoc y Cyfrif Refeniw Tai, ac mae arian adran 106 hefyd wedi'i ddefnyddio i brynu eiddo.
  • Aethom ymlaen â’n cynlluniau ar gyfer datblygiadau tai yn y dyfodol yn 2023-24.  Er enghraifft, fe wnaethom ddiweddaru ein cynlluniau ar gyfer safle Brynhir yn Ninbych-y-pysgod a chynnal digwyddiad ymgysylltu cymunedol ar y rhain ym mis Medi 2023.
  • Cymeradwywyd adolygiad pellach i'r cytundeb cyflawni ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol newydd gan y cyngor ar 11 Mai 2023. Fodd bynnag, mae oedi gyda chynnydd wedi arwain at gytundeb cyflawni pellach (pedwaredd fersiwn) yn nodi amserlen ddiwygiedig, a fydd yn mynd gerbron y cyngor yn haf 2024. Mae Sipsiwn, Teithwyr a siewmyn teithiol wedi cael eu hannog i gymryd rhan yn y broses o baratoi’r ail Gynllun Datblygu Lleol, gan iddynt gael eu nodi fel grŵp anodd ei gyrraedd nad ydynt yn aml wedi cymryd rhan mewn gwaith paratoi yn y gorffennol.
  • Bu cais am arian grant gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo gyda chymorth ynni ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn llwyddiannus, gyda chwsmeriaid yn gallu cael mynediad i duniau nwy i helpu i liniaru rhywfaint o’r tlodi tanwydd a brofir yn y gymuned. Mae Grŵp Cyfathrebu Cymunedol y Sipsiwn-Teithwyr wedi parhau i gyfarfod, gyda chanlyniadau cadarnhaol yn cael eu cyflawni trwy ymgysylltu gwell a mwy o gynrychiolaeth cwsmeriaid yn y grŵp. Mae'r grŵp hefyd wedi bod yn allweddol wrth lunio swydd-ddisgrifiad diwygiedig ar gyfer swydd Swyddog Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.
  • Parhawyd i gyflawni’r Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid yn 2023/24. Mae cyflawniadau cyfranogiad ac ymgysylltu tenantiaid allweddol fel a ganlyn: bod canlyniadau’r Arolwg Boddhad Cwsmeriaid yn gadarnhaol, gyda 70.1% o denantiaid yn fodlon ar y gwasanaeth a ddarperir gan wasanaethau tai’r cyngor; mwy o gyfathrebu â rhanddeiliaid ar gyfer y rhaglen datblygu tai, gan gynnwys aelodau, cynghorau tref a chymuned, cymunedau a thenantiaid; a swyddogion penodedig yn eu lle i weithio gydag amrywiaeth o ffrydiau gwaith o fewn yr is-adran, sef Rheoli Tai a Chwynion, Datgarboneiddio a Chynnal a Chadw Adeiladau, Cartrefi a Chaffaeliadau Newydd y Rhaglen Datblygu Tai, a Phrosiectau Un Contractwr.
  • Nid yw pwysau digartrefedd ers pandemig COVID-19 wedi lleihau.  Mae ein defnydd o lety dros dro yn parhau i fod yn uchel, gyda 490 o bobl mewn llety dros dro ar ddiwedd mis Mawrth 2024.
  • Un o’r rhesymau am y cynnydd mewn digartrefedd yw’r crebachiad yn y sector rhentu preifat (mae nifer o resymau am hyn).  Rydym wedi sefydlu fforwm landlordiaid i helpu i gefnogi'r sector.  Mae ein Tîm Tai Sector Preifat wedi gweld cynnydd sylweddol mewn ceisiadau (tua 50% yn uwch nag yn 2019-2021) ac yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y cyngor ar eiddo gwag.
  • Yn weithredol, mae cadw staff yn broblem yn y Tîm Cyngor Tai. Nid yw lles staff wedi bod yn hawdd ei reoli ers 2020, gyda llwythi achosion swyddogion tai ar gyfartaledd tua 50-60 fesul swyddog, sy’n fwy na dwywaith y llwythi achosion cyn COVID-19.  Bu ymarfer recriwtio ar gyfer staff ychwanegol i gefnogi llety dros dro yn rhannol lwyddiannus a bydd yn galluogi negodi archebion bloc ar gyfer llety gwely a brecwast, a fydd yn lleihau costau.

 

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

 

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Gweithredu’r adolygiad o bolisi dyrannu Cartrefi Dewisedig yn Sir Benfro, y cytunwyd arno gan y cabinet ym mis Ebrill 2024. 
  • Datblygu cynllun cynhesrwydd fforddiadwy ar gyfer stoc tai cyngor, er mwyn gweithio tuag at dargedau Tystysgrif Perfformiad Ynni A Llywodraeth Cymru, yn unol â thargedau Safon Ansawdd Tai Cymru 2023.
  • Adolygu a monitro'r Cynllun Ailgartrefu Cyflym gyda'r nod o fynd i'r afael â'r pwysau cynyddol ar lety dros dro yn y sir.
  • Sicrhau bod rhaglen waith gadarn yn ei lle ar gyfer gwaith cynnal a chadw a gynlluniwyd a gwaith atgyweirio ymatebol er mwyn cydymffurfio â gofynion newydd Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023.
  • Codi ymwybyddiaeth o oblygiadau'r newidiadau mewn deddfwriaeth digartrefedd.

 

SA1.4 - Byddwn yn cyflawni ein huchelgais economaidd drwy gefnogi twf, swyddi a ffyniant ac yn galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Ffocws strategol: Mae gwaith y cyngor ar wella canlyniadau economaidd yn parhau i gael ei arwain gan Strategaeth Adfer ac Adfywio Sir Benfro 2020-2030, y cytunwyd arni ym mis Medi 2020.  Mae’r strategaeth hon wedi’i strwythuro o amgylch tri chanlyniad allweddol: cysylltiedig, cynnig, ac wedi’i ddarganfod.  Mae Rhaglen Weinyddu 2022-27 yn seiliedig ar y strategaeth hon ac mae'n pwysleisio'r cyfleoedd economaidd a sgiliau sy'n gysylltiedig ag ynni gwyrdd yng nghyd-destun Sir Benfro yn parhau i fod yn ardal wych i fyw a gweithio ynddi. 
  • Ni newidiodd y gyfradd hawlwyr ar gyfer Sir Benfro fawr ddim dros 2023-24; ffigur hawlwyr Mawrth 2024 oedd 2,370, sef pump yn llai nag ym mis Ebrill 2023.Dros y flwyddyn, gostyngodd cyfran y bobl iau (o dan 35) a oedd yn hawlio budd-daliadau diweithdra ychydig, tra cynyddodd y gyfran a oedd yn bobl hŷn o oedran gweithio.
  • Sefydlwyd y Bwrdd Uchelgais Economaidd a’r Bwrdd Corfforaethol (eu cylch gorchwyl yw goruchwylio a rheoli prosiectau cyfalaf y tu allan i Ysgolion yr 21ain ganrif a thai) ar ddiwedd 2022-23 ac maent yn darparu ffocws ar y meysydd hyn yn y dyfodol.
  • Mae gwaith ar y canlyniad cysylltiedig yn cynnwys: band eang, cynllunio trafnidiaeth ranbarthol, a sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau trafnidiaeth. 
  • Rydym wedi gweithio gyda darparwyr diwydiant ac, ym mis Ionawr 2024, mae gan 58.28% o adeiladau yn Sir Benfro y gallu i gysylltu â band eang ffeibr llawn. Er bod hyn yn uwch na chyfartaledd y DU ar gyfer awdurdodau gwledig, sef 46%, rydym o’r farn bod hwn yn gyflawniad sylweddol o ystyried natur wledig y sir ac anfanteision megis darparwr yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr ym mis Mehefin 2023. Mae Ofcom yn darparu diweddariadau rheolaidd ar gyflymder band eang drwy ei ddiweddariadau Cysylltu’r Gwledydd (yn agor mewn tab newydd).
  • Cafodd gwaith ar gynllun trafnidiaeth ranbarthol ei ddatblygu drwy Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.  Dim ond ym mis Ionawr 2023 y cyhoeddwyd canllawiau.   Mae rheolwr prosiect wedi'i benodi.  Mae’r cynllun gweithredu a’r achos dros newid wedi’u cwblhau a’u cymeradwyo gan y cyd-bwyllgor corfforedig ym mis Hydref 2023, a chymeradwywyd yr achos dros newid gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn ei gyfarfod ar 21 Chwefror 2024. 
  • Yn ystod 2023-24, cwblhawyd tendrau bws lleol, a dechreuodd contractau newydd ar 1 Ebrill 2024. O ganlyniad, mae dau lwybr bysiau arfordirol wedi'u hadfer.  Ehangwyd y gwasanaeth Fflecsi drwy gyflwyno thri pharth ychwanegol, sy'n cynnig mwy o opsiynau teithio i nifer ehangach o bobl.  Yn 2023-24, cynyddodd nifer y bobl oedd yn defnyddio bysiau 12%, i 687,000 o deithiau'r flwyddyn.
  • Drwy gydol 2023-24, mae gwaith wedi’i wneud ar Gyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Hwlffordd, cynllun gwerth £18 miliwn ar safle’r hen faes parcio aml-lawr.  Gosodwyd contract yn ystod y flwyddyn, ac yn dilyn trafodaethau manwl ar gost, a galwad i mewn, dyfarnwyd y contract terfynol ym mis Mai 2023 ar gyfer adeiladu’r cynllun.  Mae'r cynllun yn cysylltu â chynllun Calon Sir Benfro, a gefnogir gan y Gronfa Ffyniant Bro.
  • Ym mis Mawrth 2023, cafodd y cais a gyflwynwyd gennym, ochr yn ochr â Chyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau ac Associated British Ports, ar gyfer y Porthladd Rhydd Celtaidd ei roi ar y rhestr fer.  Mae gan hyn y potensial i gataleiddio twf ynni gwyrdd, a thrwy ardrethi annomestig a gedwir yn darparu ffrwd refeniw sylweddol ar gyfer yr ardal leol.  Drwy gydol 2023-24, ymgymerwyd â’r gwaith cefndir a pharatoi hanfodol. Penodwyd prif weithredwr parhaol i’r Porthladd Rhydd Celtaidd ym mis Mawrth 2024 ac ym mis Mai 2023 penderfynodd y cabinet ddyrannu £200,000 i ddatblygu’r cais ymhellach a chyfrannu £50,000 y flwyddyn am hyd at bum mlynedd. 
  • Rydym yn parhau i weithio gyda chyrff sy'n darparu ynni gwyrdd.  Ar 28 Chwefror 2024, ac yn dilyn diwrnod cynigwyr y mis blaenorol, lansiodd Ystad y Goron Rownd Lesio 5 Ffermydd Gwynt Arnofiol ar y Môr y Môr Celtaidd, a fydd yn dyrannu’r drwydded ar gyfer cynlluniau ffermydd gwynt arnofiol ar y môr yn y Môr Celtaidd.  Rydym hefyd wedi gweithio gyda datblygwyr rhyng-gysylltydd Greenlink, sy’n cysylltu grid ynni’r DU â’i gymar yn Iwerddon.  Disgwylir i hyn gael ei gwblhau yn ddiweddarach yn 2024 a bydd yn cryfhau gwytnwch a chapasiti’r grid.
  • Rydym wedi gweithio gydag RWE a'i gynlluniau ar gyfer Canolfan Sero Net Penfro wedi'i lleoli o amgylch Gorsaf Bŵer Penfro.  Bydd y ganolfan yn defnyddio nifer o dechnolegau newydd megis hydrogen gwyrdd (gan ddefnyddio ynni a gafwyd o ffynonellau adnewyddadwy) a storio mewn batris.  Mae cyfnodau'r dyfodol yn cynnwys technoleg dal a storio carbon, ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, buddsoddiad i gysylltu'r safle â chyfleusterau ynni eraill sy’n gyfagos, a dyfais i alluogi prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr i gysylltu â'r grid. Mae Hyb Ynni Gwyrdd Trecŵn Statkraft, sef safle electroleiddio hydrogen gwyrdd arfaethedig wedi’i gyfuno â fferm solar 28 hectar, wedi’i ohirio.
  • Drwy gydol 2023-24, mae gwaith wedi’i wneud ar ddatblygu gweledigaeth integredig ar gyfer Hwlffordd.  Mae allbwn y gwaith hwn yn ganolbwynt i ymgynghoriad â thrigolion ar ddyfodol Hwlffordd ym mis Gorffennaf 2024.
  • Mae adeilad Glan Cei’r Gorllewin bron â chael ei gwblhau, a bydd y gadwyn bwytai Loungers yn agor erbyn Rhagfyr 2024 ar y llawr gwaelod. Mae hyn yn dod â phrosiect technegol heriol i ben sydd wedi datgelu hanes canoloesol Hwlffordd yn llythrennol.
  • Aeth prosiect adfywio Ffyniant Bro Calon Sir Benfro i gadw ac i ailddatblygu Castell Hwlffordd, gwella’r cysylltiadau rhwng y castell a chanol y dref, ac adeiladu pont newydd ar draws afon Cleddau drwy’r camau dylunio yn 2023/24, gyda gwaith adeiladu i fod i ddechrau yn 2024/25. Yn ogystal, ym mis Chwefror 2024, cyflwynwyd cais Cam I Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am gyllid i ddarparu darnau gosod a gosodiadau ar gyfer carchar Castell Hwlffordd.
  • Mae gwaith wedi dechrau ar bont droed nodedig newydd (fel rhan o gynllun Calon Sir Benfro y sonnir amdano uchod) yn lle’r hen bont, sydd wedi cyrraedd diwedd ei hoes.   Yn ystod 2023-24, cwblhawyd gwaith dylunio a chontractiol ac, fel ar gyfer Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Hwlffordd, craffwyd ar benderfyniadau a chawsant eu galw i mewn. Bydd y bont newydd, a fydd wedi’i chwblhau erbyn gwanwyn 2025, yn arwain trigolion ac ymwelwyr o’r Gyfnewidfa Drafnidiaeth ar draws i fan cyhoeddus newydd rhwng y llyfrgell a Glan Cei'r Gorllewin, lle bydd arwyddion clir yn arwain pobl i Stryd y Bont a Sgwâr y Castell ac yna ymlaen hyd at Gastell Hwlffordd.
  • Aeth cynllun Penfro – Cei’r De yn ei flaen yn 2023-24, er bod y prosiect cymhleth hwn wedi gorfod rheoli nifer sylweddol o risgiau, gan gynnwys: cyflwr adeiladau gwael, materion yn ymwneud â waliau cydrannol, asbestos, a’r angen i ddiogelu treftadaeth ac ecoleg.  Yn ei gyfarfod ym mis Mai 2024, ystyriodd y cabinet y cynnydd ar y cynllun a’r risgiau prosiect sy’n weddill, gan gynnwys y potensial i wneud cais am gyllid pellach i alluogi Cam 2 y prosiect i fynd yn ei flaen. Ym mis Gorffennaf 2024, cytunodd y cabinet ar weithredwr ar gyfer Cam 1 y cynllun, sef Ymddiriedolaeth Harri Tudur, gyda chynnig grant amodol a chyfyngedig o hyd at £225,000.
  • Fe wnaethom barhau i gefnogi ein diwydiant presennol.  Mae sesiynau galw heibio misol i fusnesau wedi’u cynnal yng Nghanolfan Arloesedd y Bont, sy’n cynnig siop un stop ar gyfer cymorth busnes. Mae'r digwyddiadau wedi'u cefnogi'n dda, gyda hyd at 100 yn bresennol yn y sesiynau.  Trwy arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin, rydym wedi cymeradwyo tua 100 o grantiau, gwerth cyfanswm o £1 miliwn.
  • Mae Parc Bwyd Llwynhelyg yn parhau i ddatblygu, gyda safle potelu newydd a fydd yn casglu llaeth o ffermydd teuluol lleol a bod â chapasiti prosesu blynyddol o 70 miliwn litr. Mae’r prosiect hwn yn amlygu pa mor bwysig ydyw i’r sector cyhoeddus gydweithio i baratoi safleoedd sy’n barod ar gyfer buddsoddi ledled Cymru er mwyn eu datblygu.
  • Adroddodd Croeso Sir Benfro, ein sefydliad rheoli cyrchfan sy’n gweithio mewn partneriaeth, i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau ar 14 Tachwedd 2023 ar ei waith dros y tair blynedd diwethaf. 
  • Buom yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynllun rheoli cyrchfan diwygiedig ar gyfer 2024 i 2028.  Gweledigaeth y cynllun yw i Sir Benfro ddod yn arweinydd byd-eang ym maes twristiaeth adfywiol.  Mae hyn i'w gyflawni trwy dair blaenoriaeth strategol: adfywiol, digwyddiadau a natur dymhorol, a lles a gweithredol.

 

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

 

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Mae prosiectau cyfalaf adfywio i gyd wedi mynd i drafferthion yn ystod 2023-24 o ganlyniad i gostau cynyddol ac oedi.  Gan fod gan bob un o'r prosiectau hyn ganran uchel o gyllid allanol, gall oedi beryglu argaeledd y cyllid hwn, ac oni bai y gellir dod o hyd i arian allanol ychwanegol, y cyngor fydd yn gyfrifol am orwario.  Bwriedir canolbwyntio cyllid Rownd 3 y Gronfa Ffyniant Bro ar Benfro, gan gynnwys ei ardal Eastgate, ond yn dilyn y newid yn Llywodraeth y DU, rydym ar ddeall na fydd y brand Ffyniant Bro ar gyfer y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio mwyach.
  • Daw’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i ben ym mis Mawrth 2025.  Mae hyn wedi cefnogi nifer o brosiectau gwerthfawr, yn enwedig yn ymwneud â sgiliau (mae diweddariadau rheolaidd wedi'u rhoi i'r cabinet).  Cafodd llawer o brosiectau a ariannwyd gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin anhawster wrth recriwtio i rolau o fewn yr amserlenni byr y mae cyllid ar gael ar eu cyfer.  Er ein bod yn rhagweld y bydd cynllun allanol tebyg yn cael ei roi ar waith i ddisodli’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, gallai ansicrwydd ynghylch cyllid yn y dyfodol darfu ar wasanaethau a ddefnyddir gan gwsmeriaid ac mae’n dargyfeirio adnoddau oddi wrth gyflenwi.
  • Yr economi werdd a’r newid i ynni sero net yw’r cyfle hirdymor mwyaf arwyddocaol i Sir Benfro o hyd, a thrwy’r Porthladd Rhydd Celtaidd rydym mewn sefyllfa dda i wneud y gorau o’r cyfleoedd hyn.  Fodd bynnag, mae ardaloedd eraill yn y DU hefyd yn datblygu fel canolfannau ar gyfer ynni gwyrdd, fel y dengys cynlluniau buddsoddi diweddar gan y Grid Cenedlaethol. Ni allwn fod yn hunanfodlon ac nid oes gennym unrhyw hawl naturiol i fod yn brifddinas ynni gwyrdd y DU; bydd hyn yn gofyn am waith caled ac ymrwymiad.
  • Mae gweithio mewn partneriaeth ar gyfer datblygu economaidd yn gymhleth.  Ailadroddodd adroddiad Archwilio Cymru ar y cyd-bwyllgor corfforedig ym mis Tachwedd 2023 ei bryder bod y dirwedd bartneriaeth yn rhy gymhleth.  Roedd yr adroddiad hwn yn gadarnhaol ynghylch y cynnydd a wnaed gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ar weithio mewn partneriaeth. Fodd bynnag, mae angen inni gofio pa mor orlawn yw’r dirwedd partneriaeth ranbarthol ar gyfer de-orllewin Cymru. 

 

SA1.5 - Byddwn yn hybu ac yn cefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli’r broses o ymaddasu i newid hinsawdd, a mynd i’r afael â’r argyfwng natur

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Mae'r cyngor wedi ymrwymo i wneud ei ran i gwrdd â'r heriau a gyflwynir gan yr argyfyngau newid hinsawdd a natur a dod yn gyngor sero net.  Yn y cyswllt hwn, yn 2019 pleidleisiodd y cyngor i ddatgan argyfwng hinsawdd ac i gynhyrchu cynllun gweithredu a allai lywio’r cyngor tuag at ddod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030.  Mae’r agenda hon yn berthnasol i amrywiaeth o wasanaethau’r cyngor ac mae angen mynd i’r afael â hi drwy ddull integredig a chyfannol ac mae cynllun gweithredu sero net y cyngor wedi’i ddatblygu i fynd i’r afael â hyn.  Yn ogystal, mae gweithgarwch y cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol megis Deddf yr Amgylchedd a Deddf Diogelu’r Amgylchedd, a chyfarwyddebau polisi fel y nodir yn strategaethau Llywodraeth Cymru “Tuag at Ddyfodol Diwastraff” a “Tu Hwnt i Ailgylchu”.
  • Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth fanwl am ein hallyriadau carbon bob blwyddyn ar ein gwefan. Mae’r data mwyaf diweddar yn dod o 2022-23 (bydd data 2023-24 yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn galendr).Cyfrifir ffigurau gan ddefnyddio methodoleg gyson gan Lywodraeth Cymru.  Mae canlyniadau 2022-23 yn dangos gostyngiad mewn allyriadau CO2 o 30%, yn bennaf oherwydd bod allyriadau’r gadwyn gyflenwi yn gostwng (ee allyriadau o brynu gofal gan y sector gofal annibynnol), er bod allyriadau’r gadwyn gyflenwi yn 43% o’r cyfanswm ac yn parhau i fod y ffynhonnell unigol fwyaf o allyriadau.  
  • Ar 11 Mai 2023, ystyriodd y cyngor hysbysiad o gynnig yn gofyn am ddadansoddiad o gostau’r argyfwng hinsawdd, gan adlewyrchu pryderon eang ynghylch fforddiadwyedd a’r gallu i gyflawni ymrwymiadau sero net y cyngor.  Yn dilyn ystyriaeth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar 8 Mehefin 2023, pan gytunodd y pwyllgor y dylid mabwysiadu’r hysbysiad o gynnig, cyfeiriwyd y mater yn ôl i’r cyngor i’w ystyried yn ei gyfarfod ar 13 Gorffennaf 2023.  Penderfynodd y cyngor dderbyn yr hysbysiad o gynnig a phenderfynwyd bod y cyngor yn cynnal asesiad wedi’i ddiweddaru ddwywaith y flwyddyn o’r gost a ragwelir sy’n gysylltiedig â chyflawni gweithrediadau sero net y cyngor erbyn 2030 a darparu stoc tai cyngor sero net, yn ychwanegol at weithgarwch busnes fel arfer.
  • Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro, drwy ei gynllun llesiant, wedi sefydlu amcan llesiant sy’n adlewyrchu amcan llesiant y cyngor o amgylch y thema hon.  Fel partner statudol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, mae’r ymrwymiad hwn yn golygu, yn ogystal â’i weithgarwch ei hun fel sefydliad, y bydd y cyngor yn cydweithio â’i bartneriaid i fynd i’r afael â heriau a rennir.
  • Disgwyliwn y bydd ein cyfradd ailgylchu ar gyfer 2023-24 yn uwch na 70%, ymhell uwchlaw’r targed ailgylchu statudol o 64% (mae’r ffigurau heb eu dilysu hyd at Ch3 ar tua 72%) ac ymhlith yr awdurdodau lleol sy’n perfformio orau yng Nghymru.  Mae’r cyfraddau ailgylchu uchel hyn yn parhau i gael yr effaith ddymunol o leihau’r swm mewn tunelli o wastraff gweddilliol a gesglir, tuedd sydd wedi parhau ers sawl blwyddyn.
  • Mae gwasanaeth gwastraff masnach newydd wedi’i ddatblygu a’i gyflwyno’n raddol yn unol â Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle Llywodraeth Cymru, gan alluogi busnesau ledled Sir Benfro i wahanu deunyddiau ailgylchu. Mae hyn yn ychwanegol at gychwyn prosiect cronfa fenter yn ymwneud â chydymffurfio â dyletswydd gofal busnesau, gan gynnwys cartrefi gwyliau ar draws Sir Benfro.
  • Mae'r prosiect Parc Eco yn mynd rhagddo'n dda gyda'r gwaith adeiladu yn ei gamau olaf.  Bydd y prosiect yn disodli cyfleuster gwastraff ac ailgylchu interim ym Mhorthladd Penfro gyda chyfleuster addas i’r diben sy’n addas i’r dyfodol ar hen dir diwydiannol ger Aberdaugleddau. Ceir rhagor o fanylion ar ein gwefan.
  • Mae’r cyngor yn gwario tua £3 miliwn ar drydan, nwy, nwy petrolewm hylifedig (LPG), olew a thanwydd biomas bob blwyddyn yn ei adeiladau annomestig – ffigur sydd wedi aros yn gyson.
  • Ers 2003, mae'r cyngor wedi gweithredu dros 400 o gynlluniau effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni mewn eiddo cyngor annomestig ar draws y sir. Gyda'i gilydd, amcangyfrifir bod y rhain yn arbed dros £2,000,000 a 4,000 tunnell o CO2 (tCO2) bob blwyddyn.
  • Mae'r cyngor yn cymryd rhan yn rhaglen effeithlonrwydd ynni Re:fit Cymru a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Mae camau 1 a 2 wedi'u cwblhau ac yn cael eu monitro'n weithredol ar gyfer arbedion ynni cysylltiedig.
  • Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi cwblhau gwaith cychwynnol ar safleoedd ar gyfer nifer o brosiectau adnewyddadwy mawr.
  • Mae paneli solar ffotofoltaig wedi’u gosod ar nifer o adeiladau, gyda gwaith dichonoldeb a chynllunio wedi'i gwblhau er mwyn gosod o leiaf pump arall yn 2024/25.
  • Mae'r holl osodiadau golau stryd pŵer uchel sy'n weddill wedi'u disodli gan ddeuodau allyrru golau: bydd hyn yn lleihau allyriadau carbon 322 tunnell bob blwyddyn, ac yn arbed £205,000 y flwyddyn mewn costau trydan.
  • Un o'r pethau sy’n hanfodol i ddatgarboneiddio'r system drafnidiaeth yw i'r cyngor ddatgarboneiddio ei fflyd ei hun. Mae nifer o gamau gweithredu ar y gweill, gan gynnwys y canlynol: mae 31 o gerbydau Euro 6d yn rhan o’r fflyd ar hyn o bryd, sy’n golygu mai’r cerbydau hyn yw’r cerbydau diesel mwyaf effeithiol o ran allyriadau sydd gan y cyngor; mae 80% o gerbydau fflyd y cyngor wedi’u gosod â thelemateg (systemau olrhain) i wneud y defnydd gorau ohonynt; mae offer llaw sy'n cael eu pweru gan betrol bellach yn cael eu disodli gan rai sy'n cael eu pweru gan fatri; cyflwyno faniau trydan batri i'r fflyd, gyda 42 ychwanegol wedi'u prynu yn ystod y flwyddyn galendr hon; mae'r rhain bellach yn cael eu gweithredu gan nifer eang o feysydd gwasanaeth, gyda faniau bach a rhai mwy o faint ar gael.
  • O ran datgarboneiddio’r system drafnidiaeth yn ehangach, mae'r cyngor yn parhau i ymgysylltu â chwmnïau i gefnogi datblygiad hydrogen yn y sir; wedi datblygu’r achos busnes ar gyfer Cam 6 y prosiect gwefru cerbydau trydan, sy’n cynnwys ailfodelu’r rhwydwaith i gynyddu ei effeithiolrwydd; wedi treialu bws hydrogen i ymchwilio i ymarferoldeb defnyddio hydrogen i ddatgarboneiddio cerbydau fflyd mwy; ac wedi gosod seilwaith gwefru chwim 125kW mewn pedwar depo fel rhan o waith cyflwyno Cam 5.
  • Mewn perthynas â lliniaru effeithiau arfordirol a llifogydd a chynlluniau addasu i’r hinsawdd, mae achos busnes llawn cynllun lliniaru llifogydd Havens Head a Lower Priory wedi’i gwblhau, ac mae cyllid ar gyfer adeiladu Cam 1, cwlfert Havens Head, wedi’i ganiatáu.  Mae asesiad o effaith amgylcheddol Cynllun Addasu Arfordirol Niwgwl bellach yn cael ei baratoi’n derfynol cyn cwblhau adroddiad yr ymgynghoriad cyn ymgeisio, a fydd yn cael ei gyflwyno i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro erbyn diwedd 2024.  Mae ymgysylltu parhaus â thirfeddianwyr, perchnogion busnes a’r cyhoedd yn parhau, gan gynnwys camau olaf yr astudiaethau ecoleg ar y safle.  Mae gwaith strategaeth addasu, gan gynnwys ymgysylltu â chymunedau yn Amroth a Saundersfoot, bellach wedi'i wneud ac rydym yn ymgymryd â gwaith dilynol a datblygu gwybodaeth.
  • Ymatebwyd i stormydd y gaeaf yn ôl yr angen, caiff asedau eu monitro a'u cynnal, ac mae'r tîm yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd cynllunio at argyfwng yn ôl yr angen.
  • Mae datgarboneiddio a’r rhaglen ôl-osod wedi dechrau ar eiddo yn Jason’s Corner, Ystagbwll ac Angle, gyda’r rhaglen yn parhau’n gyflym yn 2024/25.
  • Mae’r cyngor yn arwain ac yn cydlynu gwaith Partneriaeth Natur Sir Benfro, sy’n bodoli i gydlynu, hyrwyddo a chofnodi gweithredoedd presennol a newydd i warchod, hyrwyddo a gwella natur yn Sir Benfro, gan gynnwys y Parc Cenedlaethol, dyfroedd y glannau, a gwely’r môr o amgylch arfordir Sir Benfro hyd at 12 milltir oddi ar y lan.  Mae'r bartneriaeth yn cyflogi Swyddog Gweithredu Bioamrywiaeth (0.8FTE) i redeg swyddogaethau craidd y bartneriaeth, rhoi mewnbwn i grwpiau polisi a datblygu cydweithrediadau prosiect, a dau Swyddog Gweithredu'r Bartneriaeth (amser llawn) i gyflawni prosiectau cyfalaf mawr. Mae cynorthwyydd bioamrywiaeth amser llawn yn sicrhau gweinyddiad effeithiol o gyllid y prosiect a materion arferol. Mae'r bartneriaeth wedi cyhoeddi cynllun gweithredu adfer natur ar gyfer Sir Benfro i arwain gweithredu ar lawr gwlad yn unol â blaenoriaethau strategol.
  • Mae polisïau perthnasol i sicrhau bod y cyngor yn rheoli ei dir i wella seilwaith gwyrdd a bioamrywiaeth wedi’u drafftio a’u cynnwys yn y cynllun adneuo a byddant yn cael eu mabwysiadu yn yr ail Gynllun Datblygu Lleol (CDLl2).  Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, creu coridorau bywyd gwyllt, gan ei gwneud yn haws i rywogaethau symud o un ardal i’r llall a helpu poblogaethau presennol o rywogaethau allweddol i fod yn fwy gwydn.  
  • Mae'r cyngor wedi bod yn gweithio gyda chynghorau tref a chymuned, cymunedau a'r trydydd sector i ddarparu atebion cynaliadwy a chosteffeithiol ar gyfer cynnal a gwella ansawdd yr amgylchedd lleol a gwella bioamrywiaeth yn y parth cyhoeddus.  Mae hyn wedi gweld deg prosiect gyda ffocws penodol ar fioamrywiaeth yn 2023-24, gan gynnwys plannu coed, dolydd blodau gwyllt, clirio tir prysgwydd ac ailgyflwyno ardaloedd plannu, a chyflwyno mannau clwydo i ystlumod.

 

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

 

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Adolygu’r Cynllun Gweithredu Sero Net a chryfhau trefniadau llywodraethu o ran ei gyflawni.
  • Cyflawniad terfynol y prosiect Parc Eco.
  • Gwelliannau parhaus i gyfleusterau gwastraff ac ailgylchu.
  • Cynyddu perfformiad ailgylchu, gan gynnwys ehangu ffrydiau ailgylchu, hy ffilm blastig, erbyn 2027, yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, a gwasanaethau ymyl y ffordd ychwanegol, gan gynnwys cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach.
  • Adolygu opsiynau sero net a datgarboneiddio ar gyfer gwasanaethau, gan gynnwys opsiynau amnewid cerbydau.
  • Gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus – mae newid dulliau teithio yn bwysig o ran lleihau teithio i leihau allyriadau carbon.
  • Datgarboneiddio'r system drafnidiaeth.
  • Effeithiau arfordirol a llifogydd: datblygu blaengynlluniau yn Niwgwl, Amroth, Saundersfoot, a Lower Priory a Havens Head.
  • Datblygu cynllun cynhesrwydd fforddiadwy ar gyfer ein stoc tai cyngor, er mwyn gweithio tuag at dargedau Tystysgrif Perfformiad Ynni A Llywodraeth Cymru yn unol â thargedau Safon Ansawdd Tai Cymru 2023.
  • Gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer atebion cynhesrwydd fforddiadwy mewn tai sector preifat i gefnogi targed Llywodraeth Cymru i gyflawni Tystysgrif Perfformiad Ynni A ar gyfer y rhai mewn tlodi tanwydd erbyn 2030 a phob deiliadaeth tai erbyn 2050.

 

SA1.6 - Byddwn yn cefnogi ein cymunedau, gan gynnal perthnasoedd cadarnhaol â hwy er mwyn helpu i greu cymunedau gweithredol, dyfeisgar, cysylltiedig, cynaliadwy a chreadigol

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Mae gwaith Grŵp Cryfhau Cymunedau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cefnogi’r gwaith o gyflawni ein blaenoriaeth gorfforaethol i wneud cymunedau’n fwy dyfeisgar a chynaliadwy ac yn adeiladu ar y rôl ganolog y gall ein cymunedau ei chwarae o amgylch ffyrdd newydd o weithio a chreu perthnasoedd trawsnewidiol gyda darparwyr gwasanaethau traddodiadol. 
  • Mae aelodaeth y grŵp hwn – iechyd, gofal cymdeithasol, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, PLANED a Llywodraeth Cymru – yn adlewyrchu ei ffocws ar gryfhau a grymuso ein cymunedau i gwrdd â her llai o wasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol ochr yn ochr â hyrwyddo gweithio gyda phobl leol ar y pethau sydd bwysicaf i’w cymunedau.  Mae gwaith y grŵp yn canolbwyntio ar yr amcanion a ganlyn, sef cymunedau gweithgar, cysylltiedig, dyfeisgar a chynaliadwy.
  • Ym mis Hydref 2023, cynhaliwyd cynhadledd cymunedau i ‘gysylltu’r dotiau er mwyn i bawb fyw’n dda yn Sir Benfro’, gyda nifer o bartneriaid amlasiantaeth yn bresennol yn ogystal ag aelodau o dîm datblygu polisi cymunedol Llywodraeth Cymru.  Nod y gynhadledd oedd archwilio sut y gall sefydliadau ac unigolion gydweithio i gryfhau cymunedau.
  • Mae cyfres o sioeau teithiol 'Cadw'n Iach' ar y gweill trwy gydol 2024 a fydd yn gweld cynrychiolwyr o amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys gwasanaethau iechyd, tîm gofal cymdeithasol y cyngor a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, yn teithio o amgylch lleoliadau cymunedol ledled y sir i ddarparu gwybodaeth a chyngor am yr ystod o atebion cymunedol, cymorth a gwasanaethau sydd ar gael yn Sir Benfro.
  • Mae Grant Gwella Sir Benfro yn galluogi Cyngor Sir Penfro i weithio mewn partneriaeth â chymunedau a sefydliadau lleol a’u cefnogi i liniaru effaith leol ail gartrefi. Mae wedi cefnogi llawer o brosiectau, gan helpu i adfer hyfywedd cymunedau a llesiant trigolion lleol, ac mae wedi denu arian oddi wrth ffynonellau grant eraill i Sir Benfro.
  • Cefnogwyd ystod eang o brosiectau yn 2023-24, gan dargedu natur wledig ac ynysigrwydd, mynediad at gymorth iechyd meddwl cymunedol, hyfforddiant atal hunanladdiad, ymwybyddiaeth o ddementia, unigrwydd, chwarae ac ymgysylltu, a gwaith gyda phobl ifanc o fosg lleol a grŵp ieuenctid i chwalu rhwystrau, gwella hyder a chyfranogiad, a lleihau ynysigrwydd cymdeithasol.
  • Roedd y gronfa hefyd yn cefnogi holl blant Sir Benfro i gael mynediad i ysgolion awyr agored Sir Benfro, a ddarparwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac yn sicrhau bod cynaliadwyedd hirdymor ac effeithlonrwydd ynni yn baramedrau allweddol yn ei chefnogaeth i Neuadd Goffa Trefdraeth a Chlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Llanisan-yn-Rhos.
  • Mae'r cyngor wedi adnewyddu ei ddull o weithio gyda chynghorau tref a chymuned.  Mae rhwydwaith Gweithio'n Well Gyda'n Gilydd newydd wedi'i sefydlu fel ffordd o symud ymlaen â rhannu gwybodaeth, meithrin perthnasoedd, a thrafod meysydd o bryder i'r ddwy ochr.  Dros y deuddeg mis diwethaf, mae’r cyfarfodydd deufisol hyn wedi trafod yr adolygiad o ffiniau cymunedol, wedi datblygu ffordd gost niwtral o gefnogi cynghorau tref a chymuned i gyflawni eu dyletswydd i gael gwefan, ac yn archwilio sut y gallai rhwydwaith clercod hwyluso rhannu gwybodaeth a helpu clercod i roi cymorth i’w gilydd.
  • Mae'r cyngor yn parhau i weithio gyda chynghorau tref a chymuned (yn ogystal â chyrff cyhoeddus eraill, megis Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro) ar fodelau ariannu ar y cyd ar gyfer gwasanaethau yn y gymuned.  Er enghraifft, ym mis Tachwedd 2023 rhoddodd Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod gyllid i gynnal oriau agor llyfrgelloedd 2023-24 hyd at 2024-25.
  • Mae’r cyngor wedi gwneud amrywiaeth o waith yn ystod y flwyddyn i gryfhau ei ddull o hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli yn allanol ac yn fewnol, er enghraifft diwrnodau gwirfoddoli tîm wedi’u cynllunio o amgylch gweithgareddau cymunedol megis codi sbwriel, adolygu ein polisi gwirfoddoli, a chefnogi mentrau yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr.
  • Mae hyfforddiant wedi'i roi i uwch-arweinwyr ac uwch-reolwyr, ac aelodau etholedig, ynghylch arfer orau wrth gydweithio â chymunedau.  Mae adolygiad manwl o sut mae'r cyngor yn gweithio gyda chymunedau ym mhob maes gwasanaeth yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.  Mae’r gwaith hwn yn rhan o ddatblygiad strategaeth gymunedol newydd a fydd yn nodi dull strategol y cyngor o weithio gyda chymunedau wrth symud ymlaen.

 

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

 

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Mae’r grŵp cyflawni ar gyfer elfennau gweithredol cynllun prosiect Cryfhau Cymunedau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi nodi meysydd blaenoriaeth i’w datblygu dros y 12 mis nesaf.  Mae’r blaenoriaethau hyn yn canolbwyntio ar y canlynol:
    • Gwirfoddoli
    • Proffiliau cymunedol a chynlluniau llesiant
    • Mentrau cymdeithasol
    • Trosglwyddo asedau cymunedol
    • Hyb cymunedol / cysylltwyr
  • Bydd ymgysylltu amlasiantaeth a meithrin perthynas yn parhau drwy gydol y 12 mis nesaf er mwyn nodi cyfleoedd pellach i gefnogi gwaith Grŵp Cryfhau Cymunedau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Bydd Grant Gwella Sir Benfro 2024-25 yn cynnig cymorth wedi’i dargedu’n fwy i grwpiau cymunedol, gan ganolbwyntio ar feysydd presennol o ymateb isel.  Ochr yn ochr â hyn, gallai ehangu syniadau cymunedol gynyddu cwmpas a photensial prosiectau, gan wneud defnydd mwy effeithiol o’r cyllid.  Bydd angen i'r tîm gynyddu ei allu i ganiatáu cynnig rôl ehangach, fwy ymgynghorol a chefnogol i gymunedau. Byddai hyn yn galluogi mwy o gyfleoedd i ddatblygu syniadau a gweithgareddau cymunedol, a allai arwain at brosiectau mwy cysylltiedig a chydweithredol o fudd strategol i Sir Benfro. Yn bwysicaf oll, byddai’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywiogrwydd cymunedau.
  • Ailfrandio ac adnewyddu tudalen gwirfoddoli'r fewnrwyd a'r cylchlythyr gwirfoddoli.
  • Parhau i ddatblygu strategaeth gymunedol newydd.

 

SA1.7 - Byddwn yn cefnogi’r Gymraeg o fewn cymunedau a thrwy ysgolion

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Daw llawer o’r wybodaeth yn yr adran hon o fersiwn ddrafft o Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2023-24.Bydd hyn yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yn ei gyfarfod ym mis Medi 2024, ac yn cael ei fabwysiadu ar ôl hynny.Byddai'r adroddiad hwn yn cael ei gytuno fel arfer yn gynharach yn y flwyddyn ond mae wedi cael ei ohirio oherwydd protocolau etholiad lle cafodd cyfarfodydd safonol eu canslo neu eu gohirio tan ar ôl yr etholiad cyffredinol.  Mae Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi ymestyn ein dyddiad cau ar gyfer cyhoeddi. 
  • Mae nifer y galwadau i ganolfan gyswllt y cyngor wedi gostwng o gymharu â 2022-23, ond mae nifer y galwadau Cymraeg wedi gostwng ychydig yn fwy sydyn (i lawr 12%) na nifer y galwadau Saesneg (i lawr 9%).
  • Mae’r amser y mae’n rhaid i gwsmeriaid aros am ymateb wrth ffonio canolfan gyswllt y cyngor wedi cynyddu ar gyfer y Gymraeg a’r Saesneg ers 2022-23, gyda’r rhai sy’n ffonio’r llinell Gymraeg bellach yn aros am 31 eiliad ar gyfartaledd (5 eiliad ychwanegol) a galwyr i'r llinell Saesneg yn aros 45 eiliad ar gyfartaledd (4 eiliad ychwanegol). Mae amser ymateb y llinell Gymraeg yn well na'r llinell Saesneg.  Mae'r amseroedd aros hyn o fewn y targed gwasanaeth ar gyfer 2023-24, sef i alwadau gael eu hateb o fewn dwy funud ar gyfartaledd. Roedd y targed cyffredinol yn berthnasol i giwiau Cymraeg a Saesneg. 
  • Mae nifer defnyddwyr y wefan Saesneg yn parhau i dyfu (cynnydd o 4%), tra bod niferoedd defnyddwyr y wefan Gymraeg wedi gostwng ychydig (gostyngiad o 1%).
  • Mae’r defnydd o wasanaeth Fy Nghyfrif y cyngor yn parhau i dyfu ar gyfer y cyfrifon Cymraeg a Saesneg. Mae nifer y cwsmeriaid sy’n cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif ac i dderbyn cyfathrebiadau Fy Nghyfrif trwy gyfrwng y Gymraeg yn tyfu’n gyflymach na’r Saesneg (cynnydd o 62% yn y Gymraeg o’i gymharu â 41% yn Saesneg).
  • Mae diddordeb yn nhudalen Facebook Gymraeg y cyngor yn parhau i dyfu, gyda nifer y dilynwyr yn cynyddu 29% o 309 yn 2022/23 i 400 yn 2023/24. Mae diddordeb wedi parhau i gael ei hybu trwy roi sylw i orymdaith Dydd Gŵyl Dewi, hyrwyddiadau Dydd Shwmae a straeon newyddion addysg Gymraeg.
  • O gymharu â 2022-23, mae cyfieithiadau ysgrifenedig o bob hyd yn 2023-24 wedi aros ar lefel debyg. 
  • Mae rhai methiannau yn parhau yn y broses o gynnal Asesiadau Effaith Integredig (dyma ddogfen sy’n cefnogi gwneud penderfyniadau), sydd â goblygiadau i’r Gymraeg ac yn ehangach. Yn ystod 2024/25, byddwn yn adolygu’r broses o gynnal Asesiadau Effaith Integredig i’w gwneud yn fwy effeithiol a symlach.  Mae’r adolygiad hwn mewn ymateb i nifer o ffactorau, gan gynnwys canllawiau a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â chanfyddiadau tribiwnlys diweddar yn ymwneud â safonau llunio polisi.
  • Mae lefelau sgiliau Cymraeg ar draws y sefydliad (ac ysgolion) yn aros yr un fath i raddau helaeth (868 ar Lefel 1 neu’n uwch yn 2023-24 o gymharu ag 899 ar Lefel 1 neu uwch yn 2022-23, a 170 ar Lefel 3/4 yn 2023-24 o gymharu â 179 ar Lefel 3/4 yn 2022-23).
  • Er bod nifer y gweithwyr a gwblhaodd hyfforddiant iechyd a diogelwch trwy gyfrwng y Gymraeg wedi mwy na dyblu, o 66 yn 2021-22 i 152 yn 2022-23, bu gostyngiad (38%) yn nifer y gweithwyr a gwblhaodd hyfforddiant iechyd a diogelwch drwy gyfrwng y Gymraeg yn 2023-24 o gymharu â 2022-23.  Gall y gostyngiad hwn fod oherwydd llawer o ffactorau, gan gynnwys amseriad adnewyddu cyrsiau gorfodol, ee bob tair blynedd.
  • Mae ailddarparu'r rhaglen ddysgu Cymraeg Gwaith, mewn partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, wedi ysgogi cynnydd yn nifer y gweithwyr sy’n manteisio ar gyfleoedd dysgu Cymraeg, o 118 yn 2022-23 i 203 yn 2023-24. 
  • Mae dynodiadau gofynion Cymraeg ar gyfer swyddi a hysbysebwyd wedi aros yn ddigyfnewid i raddau helaeth ers 2021-22, ac ar hyn o bryd mae 8% o swyddi yn nodi bod y Gymraeg yn hanfodol, 75% fod y Gymraeg yn ddymunol, 1% fod y Gymraeg i’w dysgu adeg penodi, ac 17% nad oes angen y Gymraeg.
 
Addysg
  • Yn dilyn ymgynghoriad ar Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2023, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Bil y Gymraeg ac Addysg newydd yn ddiweddar, gyda’r nod o roi cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru siarad Cymraeg yn annibynnol ac yn hyderus, beth bynnag fo’i gefndir neu ei gefndir addysg.  Bydd Aelodau’r Senedd bellach yn craffu ar fanylion y Bil. Bydd cymorth i ysgolion yn cynnwys gweithio gyda’r sector i gynyddu nifer y staff sy’n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, datblygu sgiliau iaith y gweithlu presennol, a darparu deunyddiau dysgu Cymraeg.
  • Mewn perthynas â’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, mae’r targed trosfwaol o gynyddu nifer y plant ym Mlwyddyn 1 sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi parhau i gael ei gyrraedd.  Fel ym mlwyddyn sylfaen 2020, roedd 292 (22.8%) o blant yn bodloni’r maen prawf hwn.  Yn 2023/24, roedd hyn wedi cynyddu i 333 (28.2%).  Gosodir hyn yng nghyd-destun y gostyngiad yn y boblogaeth disgyblion, hy gostyngiad o 100 o ddisgyblion rhwng 2020 a 2024. Gweler Tystiolaeth – Disgyblion Blwyddyn 1 Cyfrwng Cymraeg (Ffynhonnell: CYBLD).
  • Mae’r gwaith i adeiladu ein hysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd ym Mhenfro bellach wedi’i gwblhau, gyda’r ysgol yn dod yn weithredol ym mis Medi 2024.  Mae Ysgol Gymraeg Bro Penfro wedi’i darparu o fewn y gyllideb ac o fewn y rhaglen a dyma ysgol carbon sero net gyntaf Sir Benfro.  Rhagwelir y bydd yr ysgol yn derbyn dros 140 o blant yn ei blwyddyn gyntaf o weithredu, a bydd hyn yn darparu dull sylweddol o gyfrannu at dargedau’r cyngor yn ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.
  • Mae sicrhau bod darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn hygyrch i holl blant Sir Benfro yn un o amcanion allweddol y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.  I'r perwyl hwn, mae'r cabinet wedi penderfynu ymestyn dalgylchoedd Ysgol Croes-goch, Ysgol Brynconin ac Ysgol Maenclochog.  Yn ogystal, mae’r cabinet wedi cymeradwyo ehangu dalgylch Ysgol Bro Penfro, hy i gyd-fynd ag agor yr ysgol newydd, a bydd hyn yn sicrhau bod holl blant de-orllewin y sir yn gallu cael addysg cyfrwng Cymraeg.
  • O ran y Gymraeg yn benodol, bydd llwyfan ymarfer adalw Meistroli, sydd wedi’i ddatblygu ar y cyd â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn barod erbyn mis Medi 2024.  Bydd hyn yn darparu cymorth cryf ar gyfer sgiliau gwrando a llafaredd Cymraeg disgyblion.  Bydd cymorth cyfatebol ar gyfer sgiliau darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn cael ei ddarparu trwy lwyfan adalw Carousel Learning.
 
 
Addysg ieuenctid a chymunedol
  • Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud i ddatblygu darpariaeth Cymraeg Gwaith gynaliadwy, gyda chytundeb adran dysgu a datblygu’r Adnoddau Dynol i gynnwys rhagflas ar y Gymraeg / Cymraeg ragarweiniol yn y broses sefydlu corfforaethol. Mae angen gwreiddio hyn wrth symud ymlaen.
  • Mae dosbarthiadau Cymraeg Gwaith wedi parhau a dosbarthiadau blasu wedi'u cyflwyno i staff derbynfa.
  • Rydym wedi datblygu partneriaethau cynaliadwy gyda'r trydydd sector i ehangu a gwella'r ystod o ddarpariaeth gwasanaethau ieuenctid cymunedol, gan hyrwyddo amrywiaeth a'r Gymraeg. Mae nifer o weithdai a gweithgareddau ar y cyd wedi eu cyflwyno trwy ein partneriaeth gyda Menter Sir Benfro. Mae angen gwreiddio hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn wrth symud ymlaen.

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod? 

 
Addysg

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut? 

  • Nid yw’r Gymraeg yn Sir Benfro eto mewn sefyllfa i chwarae ei rhan i gyfrannu at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Er mwyn gwella defnydd o’r Gymraeg yn Sir Benfro, byddwn yn parhau i gyflwyno Safonau’r Gymraeg ac yn cyflawni ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, ac rydym wedi bod yn llwyddiannus yn ein cais i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2026, a fydd yn hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru.
  • Defnyddio’r cymorth a’r arweiniad a ddarperir drwy Raglen Hybu Cydymffurfiaeth (yn agor mewn tab newydd) Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, sy’n rhedeg yn ystod 2024/25, i gefnogi a chynnal lefelau cydymffurfio a gwelliannau.
  • Addysg: Ystyried newidiadau pellach i ddalgylchoedd lle bo'n berthnasol.
  • Ymateb i ofynion sy’n deillio o Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) newydd.
  • Adleoli Cylch Meithrin Arberth i safle'r ysgol wrth aros am grant cyfalaf.
  • Sefydlu ysgol gynradd Gymraeg newydd ar gyfer ardal Aberdaugleddau.
  • Archwilio ymhellach newid categorïau iaith ysgolion dwy ffrwd presennol, ac ysgolion cyfrwng Saesneg lle bo'n briodol.

 

SA1.8 - Byddwn yn canolbwyntio adnoddau ar ddarparu gwasanaethau craidd megis priffyrdd, gwastraff ac ailgylchu, diogelu’r cyhoedd, a hamdden a diwylliant sy’n cyfrannu at ansawdd bywyd cymunedau, gan sicrhau bod preswylwyr yn byw mewn cymdogaethau sy’n lân, yn wyrdd, yn ddiogel ac yn llawn bywyd

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

Mae nifer o'r diweddariadau hyn yn croesgyfeirio ag SA1.5

Yr amgylchedd
  • Mae prosiect Parc Eco Sir Benfro wedi symud ymlaen yn dda yn 2023/24, gyda’r gwaith adeiladu yn ei gamau olaf ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mae'r Parc Eco yn disodli'r cyfleuster gwastraff ac ailgylchu interim ym Mhorthladd Penfro. Mae'r symud i'r Parc Eco i fod i ddigwydd yn 2024/25.
  • Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, bydd y cyngor yn rhagori ar darged ailgylchu Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru o 64%. Ar gyfer tri chwarter cyntaf 2023/24, roedd perfformiad ailgylchu cyfartalog Sir Benfro tua 72%.
  • Bu cynnydd mewn achosion o dipio anghyfreithlon yn 2023-24 o’i gymharu â 2022-23, yn bennaf oherwydd cynnydd mewn gwastraff wedi’i dipio’n anghyfreithlon mewn bagiau. Yn ystod y cyfnod hwn, bu symudiad sylweddol i gasglu deunyddiau ailgylchadwy sydd wedi’u gwahanu yn y tarddle a symud i gasgliadau gweddilliol bob tair wythnos i’r 4% o aelwydydd sy’n cael gwasanaeth casglu cymysg o hyd, hy fflatiau a stadau tai. Mae gwaith wedi'i wneud gyda'r contractwr troseddau amgylcheddol i ddechrau gwaith amgylchedd tipio anghyfreithlon, ar y cyd â gwaith addysg a chydymffurfio a wnaed gan y cynghorwyr amgylchedd lleol, i wella hyn.
  • Mae gwasanaeth gwastraff masnach newydd wedi’i ddatblygu a’i gyflwyno’n raddol yn unol â Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle Llywodraeth Cymru, gan alluogi busnesau ledled Sir Benfro i wahanu deunyddiau ailgylchu. Mae hyn yn ychwanegol at gychwyn prosiect cronfa fenter yn ymwneud â chydymffurfio â dyletswydd gofal busnesau, gan gynnwys cartrefi gwyliau ar draws Sir Benfro.
  • Mae ein harolwg glanhau strydoedd 2023-24 wedi canfod bod 98% o strydoedd wedi cael gradd B neu uwch, a ystyrir yn gyffredinol yn lefel dderbyniol o lanweithdra gan aelodau’r cyhoedd.  Canran Cymru gyfan o strydoedd gradd B ac uwch oedd 95.68%, felly mae perfformiad y cyngor yn uwch na chyfartaledd Cymru.  Y graddau a ddyfarnwyd ar gyfer sbwriel i gyfrifo sgôr glendid cyffredinol ar gyfer y sir oedd 70.6, gan ragori ar y Dangosydd Glendid Cymru Gyfan o 69.41.
 
Seilwaith
  • Mae’r cyngor wedi cynnal terfyn cyflymder rhagosodedig Llywodraeth Cymru o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig, a ddaeth i rym ar 17 Medi 2023. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 17 Mai a 7 Mehefin 2023, yn gofyn am adborth ar 27 o ‘eithriadau’ arfaethedig i’r terfyn cyflymder 20mya. Ar 3 Gorffennaf 2023, cytunodd y cabinet y dylid gwneud eithriadau ond gyda mân newidiadau i adlewyrchu adborth y cyhoedd.  Bu cryn wthio’n ôl yn genedlaethol yn erbyn y fenter hon a bydd Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau newydd i awdurdodau lleol i fynd i’r afael â rhai o’r pryderon hyn.
  • Mae Sir Benfro yn arwain ym maes addasu arfordirol, ac mae gwaith sylweddol wedi’i wneud yn 2023/24 ar gyfer cynlluniau addasu arfordirol. Ar gyfer Cynllun Addasu Arfordirol Niwgwl, roedd Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol yn cael ei baratoi’n derfynol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, cyn yr ymgynghoriad cyn ymgeisio, a bydd yn cael ei gyflwyno i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro erbyn diwedd 2024. Roedd ymgysylltu â thirfeddianwyr, perchnogion busnes a’r cyhoedd yn parhau ar ddiwedd 2023/24, gan gynnwys camau olaf yr astudiaethau ecoleg. Her sylweddol i gynlluniau addasu arfordirol parhaus yw’r angen i ddarbwyllo pobl o’r rheidrwydd i fynd i’r afael â’r mater, fel y gwelir gan y pryderon a’r gwthio’n ôl yr ydym wedi’u profi mewn ardaloedd fel Niwgwl ac Amroth.
  • Cymeradwywyd y Strategaeth Toiledau Lleol gan y cabinet ar 24 Ebrill 2023, gyda’r nod o gefnogi’r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus yn Sir Benfro wrth adlewyrchu’r sefyllfa ariannol anodd y mae’r sir yn ei hwynebu. Yn dilyn pryderon a godwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi a Cyn-benderfyniadau, ailgymeradwywyd y Strategaeth Toiledau Lleol gan y cabinet ym mis Mai 2023, gan roi disgresiwn i swyddogion barhau i ariannu cyfleusterau lle'r oedd trafodaethau gyda sefydliadau partner yn parhau. Mae’r Strategaeth Toiledau Lleol yn nodi cynllun y cyngor i ddiwallu anghenion presennol ac yn y dyfodol am doiledau cyhoeddus, gan flaenoriaethu pwysigrwydd: argaeledd cyllid; lefelau defnydd; yr effaith ar dwristiaeth; agosrwydd at opsiynau eraill; darpariaeth i'r anabl; yr effaith ar yr economi; amlder camddefnydd; a chyflwr yr eiddo.
  • Ym mis Rhagfyr 2023, gofynnwyd i'r cabinet ystyried chwe chais eithrio a dderbyniwyd gan gynghorau tref a chymuned, a nododd eu bod yn cael eu heffeithio’n anghymesur yn ariannol yn sgil cau toiledau. Cytunwyd y byddai rhai cyfleusterau yn cael eu cau oni fai bod cyllid arall yn cael ei ganfod erbyn 8 Ebrill 2024, er y bu cynnydd mwy cadarnhaol mewn rhai o’r rhain, megis Caeriw (yn cael ei ariannu am flwyddyn gan y cyngor cymuned, yn aros am wybodaeth os bydd cyllid yn parhau wrth fynd ymlaen), Trewyddel (yn destun proses o drosglwyddo ased cymunedol (prydles o 125 mlynedd) gydag ychydig o oedi oherwydd gofynion y gofrestrfa tir), De Niwgwl (cytunwyd ar brydles tymor byr ar gyfer yr haf hwn a bydd yn brydles dreigl flynyddol wrth fynd ymlaen), a Nolton Haven (cytunwyd ar brydles tymor byr ar gyfer yr haf hwn, mae proses o drosglwyddo ased cymunedol (prydles o 125 mlynedd) yn cael ei rhoi ar waith).
  • Yn 2023/24, roedd gan y cyngor restr o tua 2489.2 km o ffyrdd, 609.5 km o lwybrau troed, 810 o bontydd, 235 o adeileddau cynnal, a 15,756 o oleuadau stryd.
Diwylliant, hamdden a chofrestru
  • Mae atebion yn ymwneud â phyllau sy’n heneiddio yng nghanolfannau hamdden Dinbych-y-pysgod a Phenfro wedi'u datblygu yn 2023/24. Ar 11 Mawrth 2024, cymeradwyodd y cabinet gynnal astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer pwll Dinbych-y-pysgod, yn dilyn adroddiad adeileddol a oedd yn nodi y gellir ymestyn oes y pwll am ddeng mlynedd arall neu fwy. Ym Mhenfro, cwblhawyd archwiliad o gyflwr y cyfleuster, a derbyniwyd adroddiad terfynol gydag argymhellion ym mis Ebrill 2024. Mae gwaith dichonoldeb pellach yn mynd rhagddo ar y ddau safle ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn.
  • Craffwyd ar berfformiad y gwasanaethau hamdden a llyfrgell gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau ym mis Ionawr 2024, a thrwy’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol a adolygwyd gan y cabinet ym mis Mawrth 2024. Roedd y defnydd o ganolfannau hamdden yn uwch na’r defnydd yn 2019/20 (cyn COVID-19) yn y flwyddyn 2023/24, ac roedd yr aelodaeth hefyd yn uwch na’r lefelau cyn COVID-19, gyda dros 10,000 o aelodau. Cyfanswm yr ymweliadau misol â llyfrgelloedd yn 2023/24 oedd 348,471, gan ragori’n sylweddol ar y targed o 289,779.
  • Er mwyn cyrraedd targedau effeithlonrwydd ar gyfer gwasanaethau hamdden, mae’r cyngor yn canolbwyntio ar gynyddu defnydd ac incwm yn hytrach na lleihau argaeledd hamdden, ee cwtogi oriau agor.  Mae'r arwyddion cynnar yn dangos bod y dull hwn wedi bod yn gadarnhaol ac rydym yn bwriadu parhau i ehangu aelodaeth ac incwm fel ffordd o gyrraedd targedau arbedion yn y dyfodol.
  • Roedd gwaith ar y gweill i gyflwyno llyfrgell newydd Arberth ar safle’r hen ysgol yn 2023/24. Cymeradwywyd caniatâd cynllunio ar gyfer y safle hwn ym mis Rhagfyr 2020. Ar ddiwedd 2023/24, roedd y llyfrgell newydd wedi'i chwblhau ac ond yn aros am osod gwresogi nwy. Caeodd y llyfrgell yn ei lleoliad blaenorol ym mis Mai 2024, i baratoi ar gyfer agor ar y safle newydd, a drefnwyd ar gyfer Medi 2024.
Diogelu'r cyhoedd
  • Crëwyd cyfres newydd o fesurau perfformiad ar gyfer diogelu’r cyhoedd yn 2023/24, gan gynnwys dangosyddion generig lefel uchel sy’n cofnodi holl elfennau’r gwasanaeth, a chyfres gymaradwy o ddangosyddion tîm. Llwyddwyd i gasglu, dilysu ac adrodd ar ddata ar gyfer chwarter 1 a chwarter 2, ond bu oedi yn ail hanner y flwyddyn oherwydd colli cymorth yr uned fusnes a phroblemau technegol.
  • Dechreuodd gwaith yn 2023/24 i adolygu'r dull brysbennu ac ymateb i geisiadau gwasanaeth ar draws is-adran diogelu’r cyhoedd. Bydd hyn yn sicrhau bod: yr adnoddau sydd ar gael ar draws y gwasanaethau yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau; bod tasgau'n cael eu dirprwyo gymaint ag sy'n rhesymol ymarferol; y cytunir ar egwyddorion a meini prawf cyffredin y gellir eu cymhwyso mewn ffordd gyson ar draws y gwasanaeth; bod gan swyddogion fframwaith clir a chyson ar gyfer asesu cwynion a digwyddiadau; a bod penderfyniadau'n cael eu cofnodi'n briodol. Mae gwaith pellach ar hyn wedi'i ohirio hyd nes y bydd strwythurau unedau cymorth busnes newydd yn cael eu sefydlu, ac am eglurhad neu ddatrysiad o faterion capasiti.
  • Yn ystod haf 2023, bu swyddogion iechyd a lles anifeiliaid yn rhan o gyfarfodydd amlasiantaeth amrywiol yn ymwneud â marwolaethau sylweddol mewn adar môr, oherwydd ffliw adar pathogenig iawn. Roedd yn rhaid i swyddogion ystyried y goblygiadau posibl i geidwaid dofednod, ceidwaid heidiau iard gefn a'r rhai sy'n magu adar hela, yn ogystal â chynnal sesiynau briffio a thrafodaethau gyda milfeddygon y llywodraeth ac eraill ar risg y clefyd a'r canllawiau i'w cynnig. Gofynnwyd hefyd i swyddogion diogelu’r cyhoedd ddarparu gwybodaeth am y risg i iechyd dynol ac am gyngor cymesur i'r cyhoedd dros gyfnod y risg uwch hon.

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

Amgylcheddol
Seilwaith
Diwylliant, hamdden a chofrestru
Diogelu'r cyhoedd
  • Cynllun Gwasanaeth Tai, Cynnal a Chadw Adeiladau a Diogelu’r Cyhoedd 2024/25
  • Cerdyn Sgorio Corfforaethol

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

Yr amgylchedd
  • Cynnal adolygiad o’r opsiynau sero net a datgarboneiddio, ar y cyd â rheolwyr y fflyd.
  • Parhau i weithio gyda'r contractwr troseddau amgylcheddol i geisio lleihau tipio anghyfreithlon yn 2024/25. 
Seilwaith
  • Parhau i arwain ym maes addasu arfordirol ym mlwyddyn ariannol 2024/25.
  • Parhau i ddatblygu a chynhyrchu’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, wrth baratoi i’w gymeradwyo ym mis Mehefin 2025. 
Diwylliant, hamdden a chofrestru
  • Dechrau cyflawni gwaith i wella hyd oes pyllau yn Ninbych-y-pysgod a Phenfro.
  • Cynhyrchu asesiad newydd o anghenion llyfrgell a'i ddefnyddio i ddatblygu cynigion cadarn ar gyfer newid tymor byr, canolig a hir.
Diogelu'r cyhoedd
  • Ailddechrau casglu, dilysu ac adrodd ar fesurau perfformiad diogelu’r cyhoedd.
  • Goruchwylio’r gwaith o gyflawni cynllun gweithredu ar gyfer eiddo gwag, a pharhau i ddychwelyd eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.

SA1.9 - Byddwn yn datblygu strategaeth i leihau tlodi ac anghydraddoldeb

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Mae lleihau tlodi ac anghydraddoldeb yn flaenoriaeth allweddol i'r cyngor a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.  Yn gynnar yn 2022, sefydlodd y cyngor weithgor, dan arweiniad Pennaeth y Gwasanaethau Plant, i ddechrau’r broses o ddatblygu strategaeth tlodi ar gyfer Sir Benfro.  Yn gynnar yn 2023, ehangwyd aelodaeth y grŵp hwn i gynnwys partneriaid amlasiantaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Ffocws y grŵp hwn oedd cynhyrchu strategaeth a chynllun gweithredu a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth a chanlyniadau, wedi'u halinio'n briodol â'r rhaglen weinyddu ac a oedd yn ystyried rhwymedigaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
  • Ar ôl cyhoeddi Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro ym mis Mai 2023, daeth y grŵp hwn yn brif grŵp cyflawni ar gyfer y flaenoriaeth lleihau tlodi ac anghydraddoldebau yn y cynllun.  Dros y 12 mis diwethaf, mae’r grŵp wedi cefnogi ystod eang o waith sy’n canolbwyntio ar yr agenda tlodi.
  • O aeaf 2022-23 ymlaen, mae’r grŵp wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael o nifer o ffynonellau i gefnogi mentrau sy’n canolbwyntio ar dlodi yn Sir Benfro, gan gynnwys darparu cymorth i fanciau bwyd ac i gefnogi’r ymgyrch mannau clyd lleol, sy’n rhan o fenter Cadw’n Gynnes, Cadw’n Iach Sir Benfro.
  • Sefydlwyd menter Cadw’n Gynnes, Cadw’n Iach Sir Benfro ym mis Hydref 2022 ar gyfer trigolion Sir Benfro, i helpu pobl i gysylltu â gwybodaeth, cymorth a gwasanaethau lleol drwy gydol misoedd oeraf y flwyddyn.  Mae’r gwaith hwn wedi’i arwain gan y cyngor a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro gyda chymorth gan sefydliadau fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a hefyd grwpiau gwirfoddol lleol.  
  • Ar ôl cwblhau strategaeth ddrafft ym mis Gorffennaf 2023, cyhoeddwyd Strategaeth Trechu Tlodi Sir Benfro yn gynnar yn 2024.
  • Mae'r strategaeth yn ystyried y materion â blaenoriaeth y mae pobl y sir yn eu hwynebu wrth brofi caledi, ac yn nodi ffyrdd y gall unigolion helpu i lywio eu hunain tuag at amgylchiadau gwell.
  • Cyhoeddwyd y strategaeth cyn uwchgynhadledd tlodi agoriadol, a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2024 yng Ngholeg Sir Benfro ac a oedd yn cynnwys cyfraniadau gan Sefydliad Bevan, National Energy Action, a phrosiect ymchwil lleol yn edrych ar y profiad bywyd o dlodi yn Sir Benfro (dan arweiniad Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro).Roedd yr ymchwil mynd i’r afael â thlodi hon yn rhan annatod o ddatblygiad y Strategaeth Trechu Tlodi.
  • Daeth yr uwchgynhadledd tlodi â thrawstoriad o weithwyr proffesiynol ac arweinwyr lleol o amrywiaeth o sefydliadau ynghyd, ochr yn ochr ag aelodau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, i archwilio atebion i liniaru tlodi yn yr ardal leol.  Amlygodd y digwyddiad yr angen i bawb gydweithio, ar draws y sectorau statudol, gwirfoddol a chymunedol, er mwyn lleddfu effeithiau tlodi.  Gofynnwyd i fynychwyr y digwyddiad ddatblygu eu haddewidion tlodi unigol eu hunain, i ddangos ymdeimlad o gyfrifoldeb a rennir ac i ddangos eu hymrwymiad i wneud gwahaniaeth yn Sir Benfro.
  • Ffilmiwyd fideo hefyd yn y digwyddiad lle mae aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn rhoi cyflwyniad i waith y bwrdd ac yn esbonio sut, trwy gydweithio â chymunedau, mae’r bwrdd yn gobeithio gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl sy’n byw yn Sir Benfro.
  • Y bwriad yw cynnal uwchgynhadledd tlodi yn flynyddol, i rannu gwersi a phrofiadau, gyda’r nod o ddangos sut y gall gweithredu ar y cyd achosi newid a lleddfu caledi yn Sir Benfro.

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Adolygu’r Strategaeth Trechu Tlodi yn flynyddol i sicrhau bod y cynnwys yn berthnasol ac yn gyfredol a bod profiadau bywyd pobl yn cael eu hadlewyrchu’n briodol.
  • Ehangu aelodaeth y Grŵp Tlodi, neu sefydlu grŵp ar wahân, fel bod y rhai sydd â phrofiad bywyd o dlodi sy’n hapus i gymryd rhan a darparu eu dirnadaeth yn gallu herio arweinwyr i adolygu a myfyrio ar eu gwaith.
  • Cryfhau aelodaeth y Grŵp Tlodi ymhellach drwy wahodd cynrychiolaeth o ysgolion i’r grŵp – yn aml, staff ysgolion yw’r cyntaf i weld sut mae tlodi’n effeithio ar blant a phobl ifanc yn ein cymunedau.

SA1.10 Byddwn yn adeiladu diwylliant o lywodraethu da yn y cyngor er mwyn gwella ymddiriedaeth a hyder yn ein prosesau penderfynu

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Cyd-destun ein hamcan llesiant ar gyfer llywodraethu da yw adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru er budd y cyhoedd yn 2022.  Roedd ein hymateb i hyn hefyd yn cynnwys camau gweithredu i fynd i’r afael ag argymhellion a wnaed mewn nifer o adroddiadau allanol a gomisiynwyd tua’r adeg y cyhoeddwyd adroddiad Archwilio Cymru yn 2021-22.
  • Mae cynnydd ar y Cynllun Gwella Llywodraethu Corfforaethol yn cael ei fonitro gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (Ebrill 2023, Gorffennaf 2023, Medi 2023 ac Ionawr 2024) yn ogystal â'r cyngor.  Cwblhaodd Archwilio Cymru gam cyntaf ei adroddiad adolygiad dilynol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2023, gydag argymhelliad ychwanegol i’r wyth gwreiddiol, sef y dylai ein camau gweithredu fod yn gynaliadwy, a dylem sicrhau y byddant yn cyflawni’r effeithiau a fwriadwyd.  O ganlyniad, diwygiwyd y Cynllun Gwella Llywodraethu Corfforaethol i ddisgrifio sut yr oeddem yn bwriadu asesu effaith ein camau gweithredu a sicrhau ein hunain ein bod yn cyflawni newid cynaliadwy. Cafodd yr adroddiad hwn, a ystyriwyd yn wreiddiol gan y cyngor yn ei gyfarfod ym mis Hydref 2023, ei ddiweddaru a’i gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod ym mis Ionawr 2024.  Ystyriwyd y fersiwn ddiweddaraf gan y cyngor yn ei gyfarfod ym mis Mai 2024.
  • Y ffordd orau o fynd i’r afael â llawer o argymhellion Archwilio Cymru oedd drwy ddiwygio ac egluro ein cyfansoddiad. Mabwysiadodd y cyngor gyfansoddiad newydd (ein ‘llyfr rheolau’) yn ei gyfarfod ym mis Hydref 2023.  Mae’r cyfansoddiad newydd yn seiliedig ar y cyfansoddiad enghreifftiol cenedlaethol arfer gorau ac mae wedi’i ddiwygio i adlewyrchu trefniadau penodol Sir Benfro lle bo’n briodol.  Ymgymerwyd â'r gwaith manwl o ddatblygu a diwygio’r cyfansoddiad fesul llinell gan weithgor, a bu'n rhaid cynnal cyfarfodydd hir a gofyn am ymrwymiad enfawr gan swyddogion ac aelodau.  Er nad yw mabwysiadu cyfansoddiad newydd o reidrwydd o ddiddordeb uniongyrchol i'n trigolion, mae'n sail i'r modd y bydd y cyngor yn cynrychioli buddiannau Sir Benfro ac yn gwneud penderfyniadau mewn ffordd agored, dryloyw ac effeithiol.  Mae hefyd yn ymateb uniongyrchol i un o argymhellion Archwilio Cymru.  Mae'r cyfansoddiad yn parhau i esblygu ac mae'r adran ar adnoddau yn cyfeirio at weithgor sydd wedi'i gynnull i edrych ar fireinio pellach.
  • Cafodd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2022-23 ei ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Gorffennaf 2023 a’i fabwysiadu gan y cyngor yn ei gyfarfod ar 12 Hydref 2023.  Mae'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn ategu'r hunanasesiad, ac mae ei gasgliadau yn rhan o'r dystiolaeth ar gyfer yr asesiad hwn.  Mae Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023-24 i’w ystyried ochr yn ochr â’r ddogfen hon yng nghyfarfod y cyngor ym mis Hydref 2024.
  • Ar 9 Ionawr 2023, cymeradwyodd y cabinet y strategaeth cyfranogiad a'r cynllun gweithredu ar gyfer 2022-2027.  Sefydlwyd gweithgor sydd â'r dasg o ddatblygu a monitro'r cynllun gweithredu, a thrwy gydol 2023-24 mae hwn wedi adrodd i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi a Chyn-benderfyniadau a'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.  Mae’r gweithgor hwn wedi cynhyrchu cynllun gweithredu â mwy o ffocws iddo, a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 20 Chwefror 2024.
  • Cafodd Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2022-23 ei ystyried gan bob un o’n pum pwyllgor trosolwg a chraffu yn ystod cylch Mehefin 2023, a bydd adroddiad 2023-24 yn cael ei ystyried yng nghylch mis Medi 2024.Mae’r adroddiad blynyddol drafft yn dangos sut mae ein pum pwyllgor trosolwg a chraffu wedi ychwanegu mewnwelediad i sut mae ein hamcanion llesiant yn cael eu cyflawni.  Mae enghreifftiau'n cynnwys: datblygu a chadw staff, dadansoddi costau'r argyfwng hinsawdd, darparu cyfeiriad ar yr heriau sy'n wynebu'r cyngor yn y dyfodol, adolygu a chraffu'n rheolaidd ar y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, a datblygu polisïau tai strategol. 
  • Mae'r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu drafft yn manylu ar sut mae'r cyngor wedi datblygu a gwella effeithiolrwydd y swyddogaeth graffu trwy fynd i'r afael ag argymhellion yr Adolygiad Cymheiriaid Corfforaethol, ymarferion hunanwerthuso ac annog ymgysylltu â'r cyhoedd.  Cynhaliodd tîm y Gwasanaethau Democrataidd gyfathrebiadau wedi'u targedu a oedd yn hysbysu'r cyhoedd am bynciau craffu i wella ymgysylltiad. Bu cynnydd mewn gohebiaeth gyhoeddus a chyflwyniadau, yn enwedig ar gyfer materion dadleuol megis yr ymgyrch ansawdd aer “Stop the Stink” yn ymwneud â safle tirlenwi Withyhedge, lle trafodwyd deiseb a dderbyniwyd gan drigolion, a’r canlyniad oedd gwneud nifer o argymhellion i'r cyngor.  Roedd hon yn un o ddeg deiseb a broseswyd yn 2023-24, gyda chwech o’r rhain naill ai’n cael eu trafod neu’n cael sylw gan uwch-swyddog.
  • Dangosodd dadansoddiad o weithgarwch ar dudalennau gwe democratiaeth ar gyfer cyfnod yr adroddiad y bu 119 o dagiau (crybwyll rhywun mewn postiad), sef cynnydd o 422% dros y 12 mis blaenorol, gyda 119 o bobl yn derbyn y tagiau hyn; 129,195 o argraffiadau (rhywun yn edrych ar y postiad ar eu sgrin), sef cynnydd o 456% dros y 12 mis blaenorol; a 5,091 o ymgysylltiadau â'r postiad, sef cynnydd o 356%. 
  • Galwodd pwyllgorau trosolwg a chraffu bedwar penderfyniad gan y cabinet / aelodau unigol y cabinet i mewn yn ystod 2023-24, y nifer uchaf mewn unrhyw flwyddyn ers creu’r system gabinet yn 2002.  Yr eitemau a alwyd i mewn oedd caffael system hybrid ar gyfer post, strategaeth toiledau lleol, Cyfnewidfa Drafnidiaeth Hwlffordd (cost gynyddol), a dyfarnu tendr Cam 2 Pont Droed Hwlffordd a Chei’r Gorllewin.
  • Mae rhaglen o hyfforddiant a chymorth i aelodau ar waith. Mae’r adroddiad blynyddol drafft (cylch Medi 2024) yn cynnwys adran ar hyfforddiant aelodau a gyflawnwyd yn 2023-24, yn ogystal ag ar y gweithdai a gynhaliwyd i archwilio materion yn fanylach.  O bwys oedd cyfres o weithdai ym mis Medi 2023, a hwyluswyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a swyddogion y Gwasanaethau Democrataidd, i asesu a dangos pa mor effeithiol oedd ein trefniadau craffu a beth y gellir ei wneud i’w gwella.
  • Mae’r Pwyllgor Safonau yn parhau i fonitro cwynion am aelodau (gan gynnwys cwynion am ymddygiad cynghorwyr cymuned) yr ymdrinnir â hwy gan swyddog monitro’r cyngor a/neu’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.  O’r 65 o gwynion a dderbyniwyd rhwng Ebrill 2023 a Mai 2024, nid oedd angen gweithredu nac ymchwiliad ffurfiol ar gyfer 35 ohonynt.  O'r ymyriadau, mae'r mwyafrif wedi cael eu trin trwy'r swyddog monitro yn siarad â'r aelod. Fodd bynnag, arweiniodd dau at atgyfeiriadau i'r Pwyllgor Safonau.  Mae ychydig dros hanner cyfanswm y cwynion a wneir bob blwyddyn yn ymwneud â chynghorwyr cymuned.
  • Yn 2023-24, comisiynwyd y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol gennym i gynnal adolygiad o ffiniau cymunedol; mae gan y cyngor ddyletswydd i wneud hyn bob deng mlynedd.  Rhan allweddol o gylch gorchwyl yr adolygiad hwn yw’r polisi maint cynghorau.  Yn ei gyfarfod ym mis Hydref 2023, cytunodd y cyngor ar bolisi maint cynghorau, a'i oblygiad ymarferol yw y bydd unrhyw gynnig i uno cynghorau llai yn cael ei gynnal ar sail wirfoddol.  Ymgynghorodd y comisiwn â rhanddeiliaid, gan gynnwys cynghorau tref a chymuned, ond nid yw’n rhwym i’n polisi maint cynghorau.  Cynigion drafft y comisiwn (a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2024) yw lleihau nifer y cymunedau yn Sir Benfro o 77 i 63 a lleihau nifer y cynghorwyr cymuned a thref o 689 i 597.

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Cynhelir Cam 2 o adolygiad Archwilio Cymru o’n cynnydd yn erbyn eu hadroddiad er budd y cyhoedd yn 2024-25.  Bydd unrhyw argymhellion o’i adroddiad yn cael eu hymgorffori yn rhaglen waith eleni.
  • Drwy gydol 2024-25, bydd y Pwyllgor Adolygu’r Cyfansoddiad yn mireinio elfennau o'r cyfansoddiad sy'n ymwneud â'r canlynol: y broses o bennu'r gyllideb; Protocol y Rhestr Wrth Gefn; cymeradwyo'r Datganiad Cyfrifon; mynediad i gyfarfodydd a siarad ynddynt.
  • Mae ein strategaeth cyfranogiad yn cynnwys camau gweithredu sy’n ymwneud ag annog cyfranogiad yn yr etholiadau llywodraeth leol arfaethedig yn 2027, a dyddiad dechrau llawer o’r rhain yw 2025.  Bydd gwaith ar gyfathrebu yn cael ei gynnwys a bydd hwn yn cael ei arwain gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
  • Er bod cyfranogiad y cyhoedd wedi cynyddu mewn pwyllgorau trosolwg a chraffu, byddwn yn ystyried a fyddai ailwampio'r strwythur presennol yn cynyddu ymgysylltiad.
  • Parhau i hyfforddi aelodau ac annog aelodau i gwblhau asesiadau o anghenion dysgu.
  • Cwblhau'r adolygiad o ffiniau cymunedol a gynhaliwyd ar ein rhan gan y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol.  Er na fyddai unrhyw newid yn dod i rym tan fis Mai 2027, bydd angen cryn dipyn o waith er mwyn cyflwyno newid yn effeithiol.

SA1.11 - Byddwn yn gyngor sy'n gynaliadwy ac yn gydnerth yn ariannol sy'n rheoli ein hadnoddau a'n hasedau’n effeithiol ac yn effeithlon – er enghraifft, drwy adolygu a gwneud y gorau o’n hystad gorfforaethol

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Mae'r adran hon yn ymdrin ag adnoddau ariannol yn ogystal â rhoi sylwadau ar sut rydym wedi rheoli tir ac adeiladau, sef ein hadnoddau eiddo.
  • Y cyd-destun ar gyfer adnoddau yn y flwyddyn 2023-24 oedd cynnydd parhaus mewn costau byw.  Roedd chwyddiant ym mis Ebrill 2023 yn 7.8% a pharhaodd i ostwng drwy gydol y flwyddyn i 3.8% ym mis Mawrth 2024. Er i Lywodraeth Cymru gynyddu ein cyllid ar gyfer 2023-24 7.9% (mae hyn yn talu am 74% o’n gwariant net), mae effaith gyfunol chwyddiant parhaus a thwf sylweddol mewn galw a chostau ar gyfer gofal cymdeithasol, addysg a digartrefedd wedi lleihau adnoddau mewn termau real.
  • Roedd 2023-24 yn un o’r blynyddoedd anoddaf i sefyllfa ariannol y cyngor ers ei greu, ac roedd yr adroddiadau monitro ariannol chwarterol a ystyriwyd gan y cabinet yn olrhain y gorwariant cynyddol yn ystod y flwyddyn a’r mesurau a gymerwyd i liniaru hyn.  Yn 2023-24 (unwaith yr ystyriwyd dyraniadau i’r cronfeydd wrth gefn ac ohonynt), roedd gan wasanaethau orwariant o £9 miliwn. 
  • Cyfanswm y diffyg alldro gwariant net ar gyfer 2023-24 (sy’n ystyried symudiadau mewn cyllidebau nad ydynt yn ymwneud â gwasanaethau) oedd £3 miliwn, sefyllfa well o gymharu â’r gorwariant rhagamcanol o £6.6 miliwn a adroddwyd yn Chwarter 3.  Mae'r rhesymau am y gostyngiad yn y gorwariant yn cynnwys arbedion swyddi gwag parhaus, y moratoriwm ar wariant nad yw'n hanfodol, ac incwm ychwanegol (gan gynnwys grantiau) a dderbyniwyd yn ystod chwarter olaf y flwyddyn.  Gwnaeth addasiad isafswm darpariaeth refeniw untro yn mynd yn ôl i 2020-21, pan dynnwyd tollau o Bont Cleddau, a chasglu ôl-ddyledion y dreth gyngor o flynyddoedd blaenorol leihau’r diffyg hwn i £253,000, a ariannwyd o’r gronfa fenter.
  • Y gwasanaethau a orwariodd y swm canrannol mwyaf hefyd yw'r rhai sydd â rhai o'r cyllidebau mwyaf, gan ymhelaethu ar yr effaith.  Ceir manylion yn adroddiad alldro Gorffennaf 2024 i’r cabinet, a’r gorwariant canrannol mwyaf o £4.238 miliwn (21.3%) yw ar gyfer Gwasanaethau Plant, gyda £3.634 miliwn pellach yn ymwneud â lleoliadau preswyl plant yn cael ei ddangos o fewn cyllideb y Gwasanaethau Addysg.  Er bod canran y gorwariant ar ofal cymdeithasol i oedolion yn llai, ar 6.3%, mae hyn yn cynrychioli gorwariant o £4.536 miliwn. Mae gofal cymdeithasol i oedolion wedi gweld cynnydd yn niferoedd cleientiaid a chymhlethdod anghenion ar draws y prif fathau o ofal a ddarparwn, a bu cynnydd sylweddol mewn cleientiaid / pecynnau gofal iechyd meddwl ac anableddau dysgu.  Er bod addysg wedi gorwario ar ei chyllideb, mae’r rhan fwyaf o hyn yn ymwneud â lleoliadau preswyl i blant.  Mae’r sefyllfa gyffredinol ar gyfer balansau ysgolion yn fwy cadarnhaol nag a ragwelwyd yn Ch3 ac mae gan 49 o’n 60 o ysgolion falansau dros ben.  Roedd cronfa gyffredinol y Gwasanaethau Tai wedi gorwario £0.664 miliwn (29.1%) ar ei chyllideb dreigl o £2.284 miliwn, sy'n is na'r hyn a ragwelwyd yn Ch3 oherwydd bod hyblygrwydd wrth ddefnyddio grantiau wedi gwrthbwyso'r galw cynyddol am lety gwely a brecwast.
  • Gan edrych i'r dyfodol, mae'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar hyn o bryd yn rhagweld bwlch ariannu o £78.2 miliwn (y senario fwyaf tebygol) rhwng 2024-25 a 2028-29.  Mae hyn o ganlyniad i'r gwahaniaeth rhwng y cyllid y mae'r cyngor yn disgwyl ei dderbyn, a'r costau uwch o barhau i ddarparu gwasanaethau ar y lefel bresennol.  Bydd y ffigur hwn yn cael ei adolygu yng ngoleuni'r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael ac mae'n debygol o newid.
  • Dechreuodd proses y gyllideb ar gyfer 2024-25 ym mis Mehefin 2023, tua wyth mis cyn y cytunwyd arni yng nghyfarfod mis Mawrth 2024 y cyngor.  Mae’r amserlen a chamau gweithredu allweddol wedi eu nodi mewn adroddiad i’r cabinet ym mis Hydref 2023.  Roedd proses y gyllideb yn cynnwys staff (ar bob haen wahanol yn y sefydliad), aelodau (fel unigolion mewn seminarau, drwy bwyllgorau, y cabinet, ac arweinwyr grwpiau gwleidyddol), undebau llafur a rhanddeiliaid ehangach drwy ymgynghoriad cyhoeddus.  Cafodd y bwlch ariannu tebygol ar gyfer 2024-25 ei gyfrifo a chafodd cynigion arbedion eu nodi a’u gosod yn nhrefn eu gallu i’w cyflawni / eu heffaith negyddol debygol ar drigolion. Er mwyn hysbysu rhanddeiliaid yn well, rydym wedi datblygu offeryn modelu cyllideb ar y we i helpu i ddangos yr effaith y byddai lefelau gwahanol o dreth gyngor a phremiymau’r dreth gyngor yn ei chael ar y math o gynigion arbedion sydd eu hangen i gau’r bwlch ariannu.  Argymhellodd y cabinet ym mis Chwefror 2024 gynnydd o 16.31% yn y dreth gyngor ar eiddo Band D at ddibenion y cyngor sir, ond, yng nghyfarfod y cyngor, gostyngwyd y cynnydd hwn i 12.5% gyda diwygiadau canlyniadol i’r gyllideb i wneud iawn am y diffyg cyllid a chynnydd a argymhellir yn y dreth gyngor mewn blwyddyn i ddod.
  • Y cynnydd o 12.5% yn y dreth gyngor oedd y cynnydd uchaf yng Nghymru, ond roedd yn unol â’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, sy’n ceisio symud y dreth gyngor ar gyfer eiddo Band D i ffigur tua chyfartaledd Cymru.  O ganlyniad i'r cynnydd hwn, mae gan Sir Benfro bellach y bedwaredd dreth gyngor isaf ar gyfer eiddo Band D at ddibenion y cyngor sir.  Bydd y broses yn y cyfansoddiad sy'n disgrifio sut y gosodir cyllidebau yn cael ei hadolygu – gweler yr adran am lywodraethu.
  • Ochr yn ochr â’r broses o bennu’r gyllideb, yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2023, penderfynodd y cyngor gynyddu premiymau’r dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag i 200% ar gyfer ail gartrefi.  Mae premiymau ar gyfer cartrefi gwag yn lleihau'n raddol ac mae ystod o bremiymau'n gymwys o ddwy flynedd, gan godi i 300% ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag ers pum mlynedd neu fwy.  Wrth osod y premiwm hwn, ystyriodd y cyngor ystod eang o dystiolaeth ar effaith ail gartrefi, cartrefi gwag a chartrefi gwyliau ar fforddiadwyedd tai yn ogystal â barn pobl yr effeithir arnynt yn uniongyrchol.
  • Mae ffocws proses y gyllideb yn tueddu i fod ar wariant refeniw; fodd bynnag, mae gan y cyngor raglen gyfalaf uchelgeisiolac ac mae'n hollbwysig bod ei reolaeth ariannol yn effeithiol.  Yn ei gyfarfod ar 6 Tachwedd 2023, cytunodd y cabinet ar fethodoleg newydd ar gyfer trefniadau llywodraethu ar gyfer y rhaglen gyfalaf ac edrych ar fforddiadwyedd dros gyfnod o 15 mlynedd. Penderfynodd y cabinet hefyd beidio â bwrw ymlaen â Model Buddsoddi Cydfuddiannol fel dull o ariannu buddsoddiadau cyfalaf mewn ysgolion newydd.
  • Mae’r datganiad o gyfrifon, sydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am asedau’r cyngor, yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan.  Cafodd cyfrifon 2022-23 eu hystyried gan y cyngor yn ei gyfarfod ar 9 Mai 2024, yn ddiweddarach na’r terfyn amser cyhoeddi, sef 31 Rhagfyr 2023.  Rhoddodd Archwilio Cymru farn ddiamod ar yr datganiad o gyfrifon, ond gwnaeth nifer o argymhellion yn ymwneud â'r oedi cyn cyhoeddi (a'r rheswm sylfaenol yw swyddi gwag).  Nododd Archwilio Cymru fod oedi cyn cyhoeddi cyfrifon 2021-22 am resymau tebyg.  Mae cyhoeddi datganiad cyfrifon drafft 2023-24 wedi’i ohirio y tu hwnt i’r terfyn amser statudol, sef 30 Mehefin 2024, oherwydd oedi wrth dderbyn prisiadau asedau eiddo o ganlyniad i’r nifer sylweddol o leoedd gwag ym maes eiddo yn ystod 2023-24.
  • Roedd hunanasesiad 2022-23 yn cydnabod bod materion capasiti yn broblem i’r gwasanaeth eiddo a gallu’r cyngor i fwrw ymlaen â’i Gynllun Rheoli Asedau Strategol. Gadawodd nifer sylweddol o bobl y tîm eiddo dros yr ychydig flynyddoedd blaenorol, gan gynyddu nifer y swyddi gwag presennol.  Ers hynny, mae Prif Swyddog Eiddo newydd wedi'i benodi ac mae swyddi gwag bellach yn cael eu llenwi.
  • Mae'r gwasanaeth eiddo yn chwarae rhan allweddol wrth gaffael tai fforddiadwy i ychwanegu at ein stoc y telir amdani gan y Cyfrif Refeniw Tai.  Er gwaethaf diffyg capasiti difrifol, yn ystod 2023-24, bu’r gwasanaeth yn gweithio ar gaffael tua 50 o eiddo i’r stoc Cyfrif Refeniw Tai, cymysgedd yn bennaf o stoc a oedd yn dai cyngor yn flaenorol a chaffaeliadau addas eraill.
  • Drwy gydol 2023-24, yn dilyn ystyriaeth gan y cabinet ym mis Gorffennaf 2023, buom yn gweithio i ddatblygu opsiynau a fydd yn caniatáu i Faes Awyr Hwlffordd barhau i weithredu, ond heb unrhyw gost i’r cyngor (costiodd y maes awyr £119,000 yn 2023-24, tua hanner y ffigur 2022-23 o £238,000, ond ni ellir cyfiawnhau’r lefel hon o wariant yn yr hinsawdd ariannol bresennol).  Craffwyd ar ddatblygu opsiynau gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau, a gynhaliodd ymweliad safle yn ogystal ag ystyried adroddiadau opsiynau.  Ym mis Mai 2024, yn dilyn cyfarfod â rhanddeiliaid yn y maes awyr y mis blaenorol, cytunodd y cabinet y dylid negodi a chwblhau les ar gyfer Maes Awyr Hwlffordd a fydd yn caniatáu i’r maes awyr barhau i weithredu heb unrhyw gost i’r cyngor.
  • Derbyniodd y Ddeddf Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus Gydsyniad Brenhinol ym mis Mai 2023 ac, ynghyd â Ddeddf Chaffael, mae hyn yn gofyn am newid i’n Rheolau Gweithdrefn Contractau.  Gohiriwyd yr adolygiad oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi gohirio rheoliadau caffael newydd.  Cyhoeddwyd y rhain ym mis Mehefin 2024 ac rydym bellach yn gweithio i roi’r gofynion newydd ar waith erbyn y dyddiad cau, sef Hydref 2024.
  • Mae ein gwasanaeth refeniw a budd-daliadau yn un o'r meysydd lle gall buddsoddi mewn TG arbed costau a chaniatáu i gwsmeriaid gael mynediad at wasanaethau ar-lein.  Yn ystod 2023-24, fe wnaethom ailstrwythuro’r gwasanaeth refeniw a budd-daliadau a pharhau i weithredu Citizens Access, modiwl o fewn ein meddalwedd refeniw a budd-daliadau.  Mae hyn ar hyn o bryd yn y cyfnod profi a chyfieithu ac yn parhau.  Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi cwsmeriaid i wneud cais am Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, neu wneud newidiadau i amgylchiadau ar-lein.
  • Gostyngodd ein cyfraddau casglu’r dreth gyngor yn 2023-24 yn rhannol oherwydd y cynnydd yn y cyllid a oedd yn ddyledus o ganlyniad i bremiymau’r dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag.
 

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Mae tangyllido systemig o wasanaethau cynghorau yn broblem i bob un o lywodraethau lleol y DU ac ar ei fwyaf eithafol. Ers 2020, mae nifer cynyddol o gynghorau yn Lloegr wedi cyhoeddi hysbysiadau Adran 114 (yn debyg i fethdaliad).  Mae cost uchel darparu gwasanaethau addysg, gofal cymdeithasol a thai yn aml yn gyrru'r anawsterau ariannol hyn.  Er bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y broblem hon, nid oes unrhyw gynigion cadarn i fynd i’r afael â hi yn y tymor byr.  Er enghraifft, er y bydd Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), os caiff ei ddeddfu, yn arwain at rywfaint o ddiwygio’r dreth gyngor, mae agweddau allweddol cynharaf y Bil (fel cylch rheolaidd ar gyfer ailbrisio) wedi’u gohirio tan 2028.
  • Er y disgwylir i chwyddiant ostwng ymhellach yn ystod 2024-25 tuag at ei darged Banc Lloegr o 2%, rydym yn disgwyl i gynnydd mewn cyllid yn y dyfodol fod yn agos at sero, a fydd yn cynnal gwasgfa ar adnoddau mewn termau real.  Mae'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn ddogfen fyw a byddwn yn parhau i asesu maint bylchau gwariant yn y dyfodol.
  • Er bod proses gosod cyllideb 2023-24 yn fwy strwythuredig a thryloyw nag yn y blynyddoedd blaenorol oherwydd y bwlch cyllido mawr a’r angen am gonsensws ar draws y siambr, newidiwyd y cynnydd a argymhellir yn y dreth gyngor ar gyfer 2024-25 ar fyr rybudd.  Gweler yr adran ar lywodraethu a gweithdrefnau gosod cyllideb.
  • Egluro rolau a chyfrifoldebau adrannau cyllid a gwasanaeth trwy weithredu Partneru Busnes Cyllid.   Bydd hyn yn gofyn am gefnogaeth ar draws y cyngor.
  • Mae recriwtio a chadw staff yn parhau i fod yn heriol.  Mae trosiant staff uchel dros y tair blynedd a hanner diwethaf wedi arwain at golli gwybodaeth ac arbenigedd o fewn y gwasanaeth, a fydd yn cymryd amser i wella.  Mae marchnad recriwtio hynod gystadleuol hefyd yn golygu y gall swyddi gwag gymryd misoedd i'w llenwi, gyda diffyg cyfrifwyr cymwys yn y farchnad ynghyd â chynnig cyflog cymharol isel gan Gyngor Sir Penfro. Mae hyn yn arafu ein cynnydd ac yn llesteirio ein hymdrechion i gyflawni ein hamcanion gwasanaeth mor gyflym ag y dymunwn. 
  • Mae'n hanfodol bod gan y Gwasanaethau Ariannol y capasiti a'r gallu angenrheidiol i gefnogi'r cyngor i gynllunio a rheoli ei gyllidebau'n effeithiol. Mae'r System Gwybodaeth Rheoli Ariannol newydd wedi bod ar waith ers dros ddwy flynedd bellach ac mae'n cael ei gwreiddio'n llawn gyda chyfrifwyr a gwasanaethau. Bydd hon yn arf allweddol i symleiddio prosesau, cynnal gwaith dadansoddi a chefnogi newid.
  • Mae’r camau gwella a nodwyd ar gyfer eiddo yn ein hunanasesiad diwethaf yn dal yn berthnasol, er bod cynnydd wedi’i wneud ar rai camau gweithredu, megis adolygu a diweddaru Polisi Asedau Cymunedol y cyngor, strategaeth newydd ar gyfer rhandiroedd, a gweithredu argymhelliad ar gyfer Maes Awyr Hwlffordd.  Er y cytunwyd arno ym mis Chwefror 2023, mae angen mwy o waith o hyd ar ein Cynllun Rheoli Asedau Strategol.

SA1.12 - Byddwn yn gwella datblygiad ein gweithlu, gan wella sgiliau a chyfleoedd yn ogystal â mynd i'r afael â materion recriwtio a chadw

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Datblygwyd Cynllun Gweithlu'r Dyfodol yn 2023/24. Fe’i hystyriwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi a Chyn-benderfyniadau ym mis Ionawr 2024 cyn i’r cabinet gytuno arno’n derfynol ar 12 Chwefror 2024. Nod Cynllun Gweithlu'r Dyfodol yw sicrhau bod dull cynllunio gweithlu strategol wedi'i dargedu ar waith, drwy nodi heriau hysbys i'r gweithlu a allai godi dros y pum mlynedd nesaf. Bydd yn galluogi'r cyngor i ragweld a chynllunio ar gyfer heriau posibl mewn ffordd lai adweithiol a mwy rhagweithiol.
  • Mae’r tîm Adnoddau Dynol wedi cynnal archwiliad o ddull recriwtio’r cyngor ac yn gweithio drwy gyfres o gamau allweddol. Mae'r ffocws wedi bod ar wella sut mae'r cyngor yn denu pobl i’w rolau, creu pecyn gwobrwyo cyflawn, gweithio ar apêl rolau, y defnydd o gyfryngau cymdeithasol, a sut mae'r cyngor yn hyrwyddo ei hun fel cyflogwr o ddewis.

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

ID: 12317, adolygwyd 09/01/2025