Hunanasesiad Blynyddol 2023-24

Methodoleg - Ymagwedd Thematig

Er mwyn darparu strwythur a ffocws clir, mae ein hunanasesiad wedi'i gynllunio o amgylch fframwaith thematig sy'n seiliedig ar themâu corfforaethol a sefydliadol allweddol, gyda pherfformiad o dan bob un o'r themâu hyn yn cael ei asesu.

 

Mae ein fframwaith hunanasesu yn edrych yn wahanol i'r un a ddefnyddiwyd gennym yn y ddwy fersiwn flaenorol o'n hadroddiad.  Mae hyn oherwydd bod y cyngor wedi cymeradwyo strategaeth gorfforaethol newydd ym mis Mai 2022 a oedd yn cynnwys mabwysiadu deuddeg amcan llesiant newydd.  Mae’r amcanion llesiant newydd hyn yn darparu cwmpas ehangach ar draws blaenoriaethau sefydliadol y cyngor na’r rhai blaenorol. 

 

Y themâu trosfwaol yw:

  1. Amcanion llesiant
  2. Cynllunio corfforaethol, perfformiad, a gweithio gydag eraill

 

Cefnogir pob thema gan set o is-themâu i ategu ein dealltwriaeth o sut rydym yn perfformio ym mhob maes.

 

Thema: SA1- Amcanion llesiant

  • SA1.1 - Byddwn yn gwella’r ddarpariaeth addysg a dysgu, gan arfogi ein dysgwyr â’r sgiliau a’r wybodaeth gydol oes y bydd eu hangen arnynt yn y dyfodol.
  • SA1.2 - Byddwn yn sicrhau darpariaeth briodol o ofal a chymorth, gan ganolbwyntio ar atal a sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn ddiogel.
  • SA1.3 - Byddwn yn galluogi darparu cartrefi sy’n fforddiadwy, sydd ar gael, y gellir eu haddasu, ac sy'n defnyddio ynni'n effeithlon.
  • SA1.4 - Byddwn yn cyflawni ein huchelgais economaidd drwy gefnogi twf, swyddi a ffyniant ac yn galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach.
  • SA1.5 - Byddwn yn hybu ac yn cefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli’r broses o ymaddasu i newid hinsawdd, a mynd i’r afael â’r argyfwng natur.
  • SA1.6 - Byddwn yn cefnogi ein cymunedau, gan gynnal perthnasoedd cadarnhaol â hwy er mwyn helpu i greu cymunedau gweithredol, dyfeisgar, cysylltiedig, cynaliadwy a chreadigol.
  • SA1.7 - Byddwn yn cefnogi’r Gymraeg o fewn cymunedau a thrwy ysgolion.
  • SA1.8 - Byddwn yn canolbwyntio adnoddau ar ddarparu gwasanaethau craidd megis priffyrdd, gwastraff ac ailgylchu, diogelu’r cyhoedd, a hamdden a diwylliant sy’n cyfrannu at ansawdd bywyd cymunedau, gan sicrhau bod preswylwyr yn byw mewn cymdogaethau sy’n lân, yn wyrdd, yn ddiogel ac yn llawn bywyd.
  • SA1.9 - Byddwn yn datblygu strategaeth i leihau tlodi ac anghydraddoldeb.
  • SA1.10 - Byddwn yn adeiladu diwylliant o lywodraethu da yn y cyngor er mwyn gwella ymddiriedaeth a hyder yn ein prosesau penderfynu.
  • SA1.11 - Byddwn yn gyngor sy'n gynaliadwy ac yn gydnerth yn ariannol sy'n rheoli ein hadnoddau a'n hasedau’n effeithiol ac yn effeithlon – er enghraifft, drwy adolygu a gwneud y gorau o’n hystad gorfforaethol.
  • SA1.12 - Byddwn yn gwella datblygiad ein gweithlu, gan wella sgiliau a chyfleoedd yn ogystal â mynd i'r afael â materion recriwtio a chadw.

 

Thema: SA2 - Cynllunio corfforaethol, perfformiad, a gweithio gydag eraill

  • SA2.1 - Cynllunio corfforaethol a pherfformiad
  • SA2.2 - Partneriaethau strategol
  • SA2.3 - Ymgynghori ac ymgysylltu
  • SA2.4 - Cwynion a chanmoliaeth
  • SA2.5 - Cydraddoldebau

 

Mae hunanasesu yn ddadansoddiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan arwain at ddealltwriaeth o’r hyn y mae ystod o wybodaeth feintiol ac ansoddol sydd ar gael i’r cyngor yn ei ddatgelu ynghylch sut mae’n arfer ei swyddogaethau, yn defnyddio ei adnoddau ac yn llywodraethu ei hun.  Rydym wedi gofyn tri chwestiwn allweddol i ni ein hunain er mwyn asesu perfformiad o dan bob is-thema.  Mae'r rhain fel a ganlyn:

  • Pa mor dda ydyn ni?  (Asesu perfformiad cyfredol gan ddefnyddio gwybodaeth ansoddol a meintiol.)
  • Sut ydyn ni'n gwybod? (Darparu tystiolaeth briodol i ddangos yr uchod.)
  • Beth allwn ni ei wneud yn well a sut?  (Nodi camau gwella sy'n edrych i'r dyfodol.)

 

Mae'r hunanasesiad yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau mewnol ac allanol, gan sicrhau sail dystiolaeth eang i lywio'r camau y bydd y cyngor yn eu cymryd i gynyddu'r graddau y mae'n bodloni'r gofynion perfformiad yn y dyfodol.  Isod mae amrywiaeth o enghreifftiau o’r math o wybodaeth rydym wedi’i ddefnyddio fel sail dystiolaeth:

  • Adrannau hunanasesu cynlluniau gwasanaeth
  • Adroddiadau rheoleiddio allanol
  • Adolygiadau gwasanaeth allanol
  • Cerdyn Sgorio Perfformiad Corfforaethol
  • Ymarferion ymgysylltu ac ymgynghori â dinasyddion
  • Datganiad Llywodraethu Blynyddol
  • Adroddiadau monitro cyllideb
  • Adroddiadau statudol eraill, ee Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
ID: 12316, adolygwyd 09/01/2025