Hunanasesiad Blynyddol 2024-25

SA1 - Amcanion Llesiant

SA1.1 - Byddwn yn gwella’r ddarpariaeth addysg a dysgu, gan arfogi ein dysgwyr â’r sgiliau a’r wybodaeth gydol oes y bydd eu hangen arnynt yn y dyfodol

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Roedden ni eisiau gwella safonau ysgolion a lefelau sgiliau disgyblion, yn enwedig mewn iaith, mathemateg, gwyddoniaeth, a’r bwlch mewn cyrhaeddiad rhwng disgyblion o deuluoedd incwm isel a disgyblion eraill.  Mae canlyniadau arolygiadau ysgolion a gynhaliwyd yn 2024-25 wedi bod yn gadarnhaol ac, ym mis Ebrill 2025, nid oedd yr un o ysgolion Sir Benfro mewn categori camau dilynol gydag Estyn.  Yn seiliedig ar ein hasesiad ein hunain, mae tair o ysgolion Sir Benfro yn achos pryder (gan addysgu cyfanswm o 15% o ddisgyblion), gostyngiad o’i gymharu â’r llynedd.
  • Defnyddiwyd asesiad safonol, tymhorol gennym i fesur sgiliau craidd disgyblion yn erbyn y cyfartaledd cenedlaethol.  Roedd canlyniadau’r bechgyn o’u cymharu â’r merched yn sylweddol is, yn ogystal â chanlyniadau gwannach ym Mlwyddyn 3 o’u cymharu â charfanau hŷn.  Yn ogystal, dangosodd data mai rhifedd oedd y dangosydd craidd a berfformiodd wannaf, gyda gostyngiad lleol o bron i draean o radd o’i gymharu â gostyngiad cenedlaethol o un rhan o bump.
  • O ran cyrhaeddiad mewn TGAU, y sgôr gyfartalog tair blynedd wedi’i chapio o 9 pwynt ar gyfer ysgolion prif ffrwd Sir Benfro oedd 363.5.  Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrifo canlyniadau wedi’u modelu ar gyfer ysgolion sy’n ystyried lefel yr amddifadedd ac yn cymharu hyn â’r canlyniad gwirioneddol ar gyfer arholiadau Mehefin 2024.  Roedd canlyniadau dwy o ysgolion Sir Benfro yn fwy na 10 pwynt yn uwch na’u canlyniad wedi’i fodelu, tra oedd canlyniadau gwirioneddol tair ysgol yn fwy nag 20 pwynt yn is.
  • Cynhaliwyd archwiliadau dwfn o lythrennedd yn llwyddiannus yn nhymor yr hydref, gydag adborth cadarnhaol, yn enwedig o ran cyfranogiad penaethiaid cymheiriaid.   Mae’r canfyddiadau’n helpu i lunio’r cymorth a ddarperir i ysgolion a’r negeseuon mewn cyfarfodydd rhwydwaith arweinyddiaeth.
  • Mae ymarfer adalw (technegau i gryfhau cof a chadw) wedi’i ymgorffori mewn tua thraean o ysgolion, gan gynnwys pob ysgol uwchradd a 12 ysgol gynradd.
  • Gweithredwyd yr archwiliad dwfn o’r llwybr ar gyfer codi cyrhaeddiad pobl ifanc ddifreintiedig fel fframwaith cyson ar gyfer cau’r bwlch cyrhaeddiad.  Atgyfnerthodd bwysigrwydd perchnogaeth arweinyddiaeth, cynllunio wedi’i dargedu, a gwerthuso cyson wrth gefnogi dysgwyr difreintiedig.  Roeddem yn falch bod canlyniadau disgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim wedi gwella’n sylweddol mewn gwyddoniaeth, gyda’u gradd gyfartalog yn codi o draean, llwyddiant allweddol o’i gymharu â phatrymau cenedlaethol.
  • Fe wnaethon ni weithio ar gynyddu presenoldeb a lleihau gwaharddiadau ac mae’n enghraifft glir o ble mae dull ataliol yn arwain at ganlyniadau gwell a llai o alw ar wasanaethau eraill. Mae mentrau i wella presenoldeb yn cynnwys ymestyn nifer yr ysgolion sydd â mynediad at swyddog ymgysylltu â theuluoedd a chynnal adolygiadau presenoldeb wedi’u targedu gydag ysgolion. Roedd presenoldeb cyffredinol mewn ysgolion cynradd yn debyg ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol.  Roedd presenoldeb mewn ysgolion uwchradd wedi gwella o 0.8 pwynt y cant. Mae ffigurau presenoldeb ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yn agos at gyfartaledd Cymru. Mae dadansoddiad o’r data yn awgrymu nad yw’r wythnos anghymesur yn gyffredinol o gymorth i sicrhau lefelau uchel o bresenoldeb.
  • Ystyriwyd gwaharddiadau yn fanwl gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dysgu ym mis Tachwedd 2024.  Daeth y pwyllgor i’r casgliad bod y gostyngiad mewn gwaharddiadau tymor penodol yn adlewyrchu symudiad tuag at ddulliau cynhwysol, cefnogol a rhagweithiol o reoli ymddygiad yn Sir Benfro. Drwy ganolbwyntio ar fynd i’r afael â’r achosion sylfaenol, cynyddu cymorth iechyd meddwl ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY), cynnwys teuluoedd, a chynnig dewisiadau amgen i waharddiad, mae ysgolion yn creu amgylchedd mwy cadarnhaol lle mae myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn llai tebygol o wynebu gwaharddiad.
  • Fe wnaethon ni gryfhau goruchwyliaeth a chefnogaeth i blant sy’n cael addysg ddewisol yn y cartref.  Mae dau swyddog ychwanegol bellach ar waith, gan alluogi 266 o ymweliadau cartref blynyddol hyd at ddiwedd 2024, gyda chyfle i siarad â’r plentyn mewn 70% o’r ymweliadau. Bu cynnydd hefyd mewn ymyrraeth ffurfiol.
  • Gwnaed cynnydd cryf eleni o ran gwella arweinyddiaeth ysgolion drwy raglen datblygu arweinyddiaeth ysgolion 50Penfro|Pembs50.  Mae hyn wedi mynd i’r afael â bylchau a grëwyd gan newidiadau i gynlluniau hyfforddi cenedlaethol ac wedi helpu i sicrhau cyflenwad cynaliadwy o arweinwyr ysgolion medrus a hyderus ac mae’n enghraifft o sut rydym yn rheoli materion y gweithlu.
  • Fe wnaethon ni weithredu dull cadarn o reoli’r defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion trwy gydweithio, ac mae hyn bellach yn dechrau dangos effaith gadarnhaol ar ymddygiad ac amgylcheddau dysgu. Er enghraifft, nododd 96% o staff welliant mewn canolbwyntio gan ddisgyblion a nododd 94% lai o heriau ymddygiad.  Cafodd y polisi ganmoliaeth gan Bwyllgor Deisebau’r Senedd, a nododd ei fod yn ddull synhwyrol a chytbwys i Lywodraeth Cymru ei ystyried fel model ar gyfer awdurdodau lleol eraill.
  • Mae Tîm y Blynyddoedd Cynnar wedi gwneud camau breision o ran gwella ansawdd y ddarpariaeth, yn enwedig o ran cefnogi ADY, gwella cyfleoedd chwarae, ac uwchraddio amgylcheddau trwy ddefnyddio cyllid cyfalaf yn effeithiol.  Cafodd yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ei ddiweddaru a’i ystyried gan y cabinet yn ei gyfarfod ar 28 Ebrill 2025.  Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ymgynghori ac ymgysylltu helaeth â darparwyr, teuluoedd a phobl ifanc.  Nodwyd: y mynediad cynhwysfawr at gyfleoedd chwarae a ddarperir gan y cyngor a’i bartneriaid; y gweithlu hyfforddedig; ac ehangder y ddarpariaeth ar gyfer plant iau.  Nodwyd heriau megis y cyllidebau cyfyngedig sydd ar gael ar gyfer datblygu darparwyr chwarae, hyfforddiant a rhaglenni allgymorth, a’r angen i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Er mwyn cefnogi disgyblion ag ADY yn well, rydym wedi haneru hyd yr oedi wrth gyhoeddi Cynlluniau Dysgu Unigol.  Mae cefnogaeth ar gyfer ADY yn rhan o fframwaith ehangach o ddull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a lles.  Mae gan bron pob ysgol fynediad at ymarferwyr ysgolion sy’n ystyriol o drawma sydd wedi’u hyfforddi â diploma ac mae hyfforddiant yn cael ei gyflwyno ar draws carfan ehangach o weithwyr proffesiynol sy’n cefnogi pobl ifanc – er enghraifft, gweithwyr ieuenctid (ac roedd cyrhaeddiad y Gwasanaeth Ieuenctid yn ymestyn i 17.5% o boblogaeth 11–25 oed Sir Benfro, ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol o 14.4%).
  • Y mater mwyaf cymhleth a dadleuol yr ymrwymodd y cyngor i ymgymryd ag ef yn 2024-25 oedd adolygiad o drefniadaeth ysgolion Sir Benfro. Yn ei hanfod, mae gan Sir Benfro ormod o leoedd ysgol ar gyfer nifer y plant sydd ganddi ar hyn o bryd ac mae’n debygol o’u cael yn y dyfodol.  Drwy fynd i’r afael â’r diffyg cyfatebiaeth hwn, gallwn gyflawni pedwar amcan: gwella safonau; ymestyn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg; creu cymunedau addysg cynaliadwy; a sicrhau bod ysgolion yn cael eu cartrefu mewn adeiladau o ansawdd gwell. 
  • Yn dilyn trafodaeth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dysgu, ym mis Gorffennaf 2024 sefydlodd y cyngor weithgor gwleidyddol gytbwys i archwilio tystiolaeth a chyflwyno cynigion i gyngor yn y dyfodol.  Ym mis Mai 2025, ystyriodd y cyngor argymhellion y gweithgor a chytunodd i ddechrau ymgynghoriad statudol ar y canlynol: cau Ysgol Wirfoddol a Reolir Maenorbŷr, Ysgol Wirfoddol a Reolir Cilgerran ac Ysgol Clydau gyda Chilgerran, a disodli Ysgol Clydau ag un ysgol gymunedol 3-11.  Cytunodd y cyngor hefyd i gynnal adolygiad o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a Saesneg, yn y cyfnodau cynradd ac uwchradd, yng nghlwstwr Dinbych-y-pysgod.
  • Mae ein rhaglen adeiladu ysgolion yn cael ei rheoli gan Fwrdd Strategol Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac mae ei gofnodion yn cael eu hadrodd i’r cabinet i sicrhau tryloywder (e.e. 25 Medi 2024 a 1 Mai 2025). Mae prosiectau mawr ar hyn o bryd yn cynnwys paratoi’r achosion amlinellol strategol ar gyfer datblygiadau yn Ysgol Uwchradd Aberdaugleddau ac Ysgol Portfield (i’w hystyried gan y cyngor ym mis Gorffennaf 2025).
  • Ystyriwyd adroddiad cynnydd ar Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022–2031 y cyngor gan y cabinet yn ei gyfarfod ar 28 Ebrill 2025.  Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad mai dim ond drwy newid ysgolion presennol i ysgolion cyfrwng Cymraeg neu drwy sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd y gellir cyflawni targedau o addysgu o leiaf 33% (neu darged i ymgyrraedd ato o 37%) o ddysgwyr Blwyddyn 1 drwy’r Gymraeg erbyn 2031.

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Ymgymryd â phrosiectau a gynlluniwyd i gefnogi’r agenda ataliol ar gyfer unigolion 0-25 oed a Bwrdd y Rhaglen Atal 0-25.
  • Canolbwyntio ar wella safonau, yn enwedig llythrennedd ar gyfer disgyblion iau a rhifedd ar draws pob oedran.  Mae lefelau cyrhaeddiad presennol yn arwydd o her sylweddol ledled Cymru ac yn atgyfnerthu’r angen am ymdrechion gwella parhaus yn Sir Benfro.  Mae achosion y dirywiad hwn mewn safonau yn gymhleth ac yn cynnwys llawer o ffactorau y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol ysgolion, e.e. tlodi plant cynyddol; gwaddol darpariaeth y blynyddoedd cynnar y tarfwyd arni yn ystod COVID-19; a defnydd gormodol o gyfryngau cymdeithasol a ffonau symudol gan bobl ifanc.
  • Cynyddu ymgysylltiad rhieni â dysgu plant o 20% dros y flwyddyn academaidd nesaf drwy weithredu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer cynnwys rhieni.  Bydd hyn yn cael ei ategu gan system olrhain well ar gyfer y blynyddoedd cynnar.
  • Parhau i wella presenoldeb yn yr ysgol i gyrraedd ein targed.
  • Adnewyddu a gweithredu camau gweithredu yn y dull ysgol gyfan ar gyfer strategaeth iechyd meddwl a llesiant.
  • Parhau i ddatblygu’r rhaglen ysgolion cynaliadwy ar gyfer dysgu ac ad-drefnu ein hysgolion.

 

SA1.2 - Byddwn yn sicrhau darpariaeth briodol o ofal a chymorth, gan ganolbwyntio ar atal a sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn ddiogel

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Mae’r cyngor yn cynhyrchu adroddiad blynyddol gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.  Mae’n debygol y bydd yr adroddiad hwn yn cael ei ystyried gan y cyngor yn hydref 2025 ac mae’n cynnwys llawer mwy o fanylion am y maes hwn.
  • Gofal cymdeithasol yw’r ail swyddogaeth cyngor sy’n gwario fwyaf, gyda’i gwariant ar gyfer 2024–2025 bron yr un fath ag addysg.  Bu cynnydd sylweddol mewn gwariant ar ofal cymdeithasol o ganlyniad i gostau cynyddol darparu gwasanaeth, yn ogystal â chynnydd yn y galw am ofal a chymhlethdod gofal.  Rhoddir sylwadau ar y rhain yn yr adran adnoddau.
  • Ym mis Ebrill 2024, cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru weithgarwch arolygu yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Fe wnaethant gydnabod yn ystod yr ymweliad fod lefel sylweddol o drawsnewid eisoes yn digwydd yn Sir Benfro, ond fe wnaethant hefyd dynnu sylw at rai meysydd o bryder, gyda chyfeiriad penodol at gysondeb arferion diogelu oedolion ac amseroldeb asesiadau ac adolygiadau. 
  • Mewn ymateb, sefydlwyd bwrdd gwella ar gyfer gofal cymdeithasol. Roedd hwn yn cyfarfod yn fisol ac yn cael ei gadeirio gan y prif weithredwr. Mae papur a gyflwynwyd i gyfarfod y cabinet ym mis Gorffennaf 2024 yn cynnwys manylion ei strwythur.  Mae’r bwrdd wedi goruchwylio’r newid trawsnewidiol a ysgogwyd gan y tîm cymdeithasol – er enghraifft, lleihau ein hôl-groniadau adolygu ac asesu; darparu cyfeiriad strategol i’r tîm diogelu oedolion (nid ydym bellach yn allanolyn o ran nifer yr atgyfeiriadau); adfer y fforwm ymarferwyr; a ffocws llawer cryfach ar graffu ar ddata gwella.
  • Roedden ni eisiau ailgynllunio’r broses blaen tŷ ar gyfer cael mynediad i ofal cymdeithasol i oedolion trwy ad-drefnu gwasanaethau.  Mae hwn yn brosiect dwy flynedd, a chwblhawyd y cam cyntaf yn 2024-25.  Defnyddiwyd methodoleg Vanguard gennym i leihau gwastraff / atgyfeiriadau diangen o fewn y system.  Ar gyfer achosion cymhleth, rydym wedi mabwysiadu dull arloesol o strwythuro trafodaethau achos rhwng gwahanol weithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â gofal (e.e. y Ganolfan Cyngor ar Bopeth a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro) o’r enw trafodaethau powlen bysgod (yn agor mewn tab newydd).  Y canlyniad fu mwy o gapasiti ar gyfer gofal cymdeithasol a rhoi mwy o annibyniaeth i bobl drwy gydnabod eu cryfderau. 
  • Mae llwyddiant ailgynllunio prosesau blaen tŷ a diogelu oedolion i’w gweld gan amseroedd aros gwell ar gyfer asesiadau o angen, sy’n cael eu monitro drwy ein prosesau rheoli perfformiad.  Ar 7 Gorffennaf 2025, ystyriodd y cabinet berfformiad ar draws y flwyddyn 2024-25 a nododd y gwelliant yn y maes hwn.
  • O ganlyniad i benderfyniadau cyllidebol 2024-25, fe wnaethom gyflymu newidiadau i wasanaethau dydd yn unol â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gynhwysiant a byw’n annibynnol.  Caewyd adeilad yr Anchorage ac ailwampiwyd cyfleoedd dydd.  Cynigiwyd lleoliad amgen o fewn y gymuned i unigolion a dderbyniodd y gwasanaeth.  Cefnogwyd datblygiad menter gymdeithasol i ddarparu gwasanaethau ym Mro Preseli. Daeth gwasanaeth dydd Lee Davies i ben ar 31 Mawrth 2025 ac mae wedi cael ei ddisodli gan wasanaethau o fewn y gymuned. Mae’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol wedi goruchwylio’r newidiadau hyn ac wedi ymweld â Llyfrgell Doc Penfro i weld sut mae’r gwasanaethau dydd wedi’u hailfodelu yn gweithio.  Cyflwynwyd eu hadroddiad (yn agor mewn tab newydd) yn eu cyfarfod ym mis Mehefin 2025.
  • Yn ystod 2024-25, mae’r pwysau ar wasanaethau plant o ganlyniad i’r galw a chymhlethdod angen cynyddol wedi parhau i gynyddu. Mae hyn i’w weld yn fwyaf amlwg yn y cynnydd parhaus yn nifer y bobl ifanc sy’n derbyn gofal a nifer y plant sydd angen gofal mewn lleoliadau preswyl.  Mae papur Mehefin 2025 y cabinet, Gwasanaethau Plant: Cam 2 Ymgyrch SALUS, yn crynhoi gwaith ar sut mae’r cyngor wedi ymateb i’r heriau hyn.  Mae papur 10 Chwefror 2025 y cabinet yn disgrifio sut y bydd gwaith atal yn cael ei ariannu a’i symud ymlaen i 2025-26 a thu hwnt.
  • Fe wnaethon ni agor Cartref Preswyl Plant West Lodge, y cartref preswyl amser llawn mewnol cyntaf yn hanes yr awdurdod.  Mae hyn yn galluogi gofal i blant sy’n llawer agosach at adref, yn ymateb i agenda ‘dileu elw’ Llywodraeth Cymru, ac yn arwain at arbedion ariannol.  Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad, mae’r uned yn gofalu am dri o blant gydag un lle gwag.  Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio fel y glasbrint ar gyfer cyfleusterau ychwanegol (gweler Cynllun Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol 2025–2035).
  • Yn ystod 2024-25, fe wnaethom lansio dau brosiect atal effeithiol.  Ym mis Medi 2024, lansiwyd cynllun peilot gennym, sef y ‘Prosiect Ymyrraeth Gynnar i Rieni a Babanod’, ac mae adborth gan rieni a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd yn awgrymu bod yr ymyrraeth wedi cyflawni newid ystyrlon.  Mae’r cynllun peilot maethu Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl yn darparu cymorth arbenigol i ofalwyr maeth ar ffurf seibiant i blant a mentora i rieni, ynghyd â chreu cymunedau cefnogaeth sy’n cynnwys grwpiau o rieni a gofalwyr.  Bydd y ddau brosiect hyn yn cael eu cefnogi yn 2025-26 drwy ein Rhaglen Newid Carlam.
  • Mae agenda’r Rhaglen Ataliadau 0-25 oed yn thema annatod o fewn y Rhaglen Trawsnewid ac Arloesi newydd.  Bydd bwrdd rhaglen yn goruchwylio’r gwaith a bydd yn adrodd yn uniongyrchol i’r Bwrdd Trawsnewid ac Arloesi, a fydd yn darparu cyfeiriad strategol a her.
  • Fe wnaethon ni gomisiynu cymorth allanol i adolygu’r trefniadau presennol a gwneud argymhellion ynghylch dyluniad y gwasanaeth pontio a fydd ei angen yn y dyfodol ar blant ag anghenion cymhleth ac anableddau pan fyddant yn oedolion.
  • Mae’r llif parhaus o blant digwmni sy’n ceisio lloches i’r gwasanaeth wedi arwain at bwysau cynyddol ar staff. Er bod nifer y bobl ifanc sy’n cael eu hasesu fel plant digwmni sy’n ceisio lloches wedi’i gyfyngu i 23 yn Sir Benfro, mae’r bobl ifanc hynny’n troi’n 18 oed ac yna’n cael eu cefnogi gan y tîm gadael gofal, ac felly mae nifer y rhai a geisiodd loches fel plant digwmni yn y gorffennol yn parhau i dyfu o flwyddyn i flwyddyn.
  • Rydym am ehangu’r sector nid-er-elw / menter gymdeithasol ar gyfer gwasanaethau i oedolion a phlant, ac o ganlyniad sefydlwyd tîm comisiynu. Mae cynnydd da wedi’i wneud i sicrhau capasiti yn y farchnad leol a gweithio gyda darparwyr lleol. Sefydlwyd cartref gofal Gweithredu dros Blant, felly crëwyd capasiti nid-er-elw ychwanegol yn y farchnad.  Rydym yn parhau i gefnogi’r sector microfentrau drwy waith Catalyst 4 Care.
  • Datblygwyd cynllun comisiynu deng mlynedd ar gyfer gofal cymdeithasol drwy gydol 2024-25 a chytunwyd arno gan y cabinet yn ei gyfarfod ym mis Mehefin 2025.  Mae’r strategaeth yn cynllunio ar gyfer datblygu gwasanaethau i oedolion hŷn (e.e. tyfu gwasanaethau gofal cartref a phreswyl y cyngor ei hun), gwasanaethau i oedolion (yn enwedig y rhai ag anableddau dysgu) a gwasanaethau i blant, lle, ochr yn ochr â’r ffocws ar atal, mae cynlluniau i gynyddu capasiti gofal preswyl y cyngor ei hun, cynyddu nifer y gofalwyr maeth mewnol a chyflwyno gofal a alluogir gan dechnoleg.  Bydd cyflawni’r cynllun yn gofyn am ddefnyddio cyllid cyfalaf (llawer ohono drwy grant) yn ogystal â chyllid ‘buddsoddi i arbed’.
  • Comisiynwyd gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth newydd i ofalwyr di-dâl, a ddechreuodd ym mis Hydref 2024. 
  • Er bod gofal cymdeithasol i oedolion wedi newid i system TG Eclipse yn 2023-24, newidiodd gwasanaethau plant i’r system hon yn 2024-25 ac aeth yn fyw ym mis Rhagfyr 2024.  Roedd hyn yn golygu bod rhaid gweithio ar dros 200 o brosesau a ffurflenni. Er bod rhai problemau cychwynnol, mae’r swyddogaeth llif gwaith ychwanegol a’r gallu i gynhyrchu rhestrau tasgau yn hwyluso’r gwaith o drosglwyddo achosion yn llyfn, monitro llwythi gwaith, ac olrhain tasgau i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni yn erbyn amseroedd aros a dargedwyd.
  • Mae’r tîm cymorth ariannol yn cysylltu â chwsmeriaid fel eu bod yn talu cyfraniadau tuag at gost eu gofal yn unol â’r Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant. Mae wedi gweithredu mapio prosesau Vanguard i wneud prosesau asesu ariannol yn fwy effeithlon ac wedi ailgynllunio’r broses o wneud taliadau uniongyrchol i leihau’r angen i adfachu cyllid.  Yn 2024-25, fe wnaeth y tîm adfer £2.785 miliwn ychwanegol.  Y gyfradd adfer ganrannol flynyddol ar gyfer dyled breswyl yw 99% a 94% ar gyfer dyled ddibreswyl.  Bydd y ddyled hon yn ffocws allweddol ar gyfer 2025-26, ac mae’n faes sydd wedi derbyn buddsoddiad drwy’r Rhaglen Newid Carlam.

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Cyflawni’r Rhaglen Ataliadau 0-25 y cytunwyd ar 3 Ebrill 2025, gan adrodd i’r cabinet a’r Bwrdd Trawsnewid ac Arloesi yn ôl yr angen.
  • Cyflawni ail gam ailgynllunio’r broses blaen tŷ ar gyfer cael mynediad at ofal cymdeithasol i oedolion.  Mae adolygiad o’r model gwasanaeth yn cael ei gynnal ar y cyd â’r bwrdd iechyd, y trydydd sector a chydweithwyr yn y ganolfan gyswllt.  Bydd y potensial ar gyfer defnyddio deallusrwydd artiffisial i gyfeirio pobl at y gwasanaeth cywir hefyd yn cael ei archwilio.
  • Ailstrwythuro’r gwasanaethau blaen tŷ yn faes gwasanaeth ‘ataliadau ac amddiffyn plant’, ochr yn ochr â gweithredu’r Bwrdd Ataliadau 0-25 i gydlynu dull ataliadau ehangach ar draws y gwasanaeth.
  • Bydd ailddatblygu’r gwasanaeth pontio drwy ailsefydlu tîm penodol yn galluogi’r Bwrdd Ataliadau 0-25 i wella profiad plant ag anableddau wrth iddynt symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.
  • Cyflawni Strategaeth Comisiynu Gofal Cymdeithasol 2025–2035 a’r prosiectau cyfalaf a amlinellir ynddi.  Byddwn yn datblygu ac yn cyhoeddi adroddiad sefydlogrwydd y farchnad wedi’i adnewyddu y bydd y cynllun yn ymateb iddo ac yn darparu archwiliad iechyd o’r farchnad gofal cymdeithasol.
  • Datblygu capasiti cartrefi preswyl ychwanegol i blant.
  • Cryfhau ymhellach ein cynnig gofal maeth mewnol i gynyddu nifer y gofalwyr maeth mewnol.
  • Gweithredu Eclipse unigolyn. Bydd y swyddogaeth hon yn ein galluogi i weithredu’r ‘drws ffrynt digidol’ sy’n galluogi pobl i wneud atgyfeiriadau ar-lein. 

 

SA1.3 - Byddwn yn galluogi darparu cartrefi sy’n fforddiadwy, sydd ar gael, y gellir eu haddasu, ac sy'n defnyddio ynni'n effeithlon

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Bydd adroddiad ar gynnydd Strategaeth Dai 2024–2029 dros y flwyddyn ddiwethaf yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau ar 17 Mehefin 2025. Mae’n disgrifio sut mae’r cyngor wedi bod yn cefnogi’r blaenoriaethau a nodwyd yn y strategaeth dai ers iddi gael ei chytuno gan y cabinet ym mis Rhagfyr 2023. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at sut, er gwaethaf pwysau sylweddol ar y gyllideb, mae lefel uchel o waith yn digwydd sy’n helpu i leihau ac ymdrin â heriau tai yn Sir Benfro. Mae’r gwaith hwn wedi’i gynnal ochr yn ochr â phartneriaid tai’r trydydd sector a phartneriaid tai ehangach.
  • Cyflwynwyd adolygiad o gynnydd y Cynllun Ailgartrefu Cyflym i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau ym mis Tachwedd 2024. Tynnwyd sylw at y ffaith bod Sir Benfro yn dal i fod yng nghanol argyfwng tai difrifol a lefelau digartrefedd digynsail. Er gwaethaf gostyngiad yn ffigurau digartrefedd, arhosodd y defnydd o lety dros dro yn sylweddol uchel yn 2024-25, gyda hyd cyfartalog yr amser a dreuliwyd mewn llety dros dro neu ar restrau aros ill dau yn cynyddu. Roedd hyn yn bennaf oherwydd nifer yr aelwydydd un person oedd angen cymorth ariannol a diffyg unedau un ystafell wely oedd yn fforddiadwy neu ar gael fel rhent cymdeithasol. Mae gwaith yn parhau i nodi cyfleoedd i leihau costau a’r ddibyniaeth ar darpariaeth llety dros dro.
  • Mae arolygon cyflwr y stoc dai sy’n eiddo i’r cyngor wedi cychwyn i helpu i roi darlun mwy cywir o gostau gwirioneddol cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru 2023.  Fel y dangosir gan gynllun busnes y Cyfrif Refeniw Tai, a gytunwyd gan y cabinet ym mis Mawrth 2025, nid yw cyflawni cydymffurfedd â Safon Ansawdd Tai Cymru yn bosibl heb ddibynnu’n sylweddol ar fenthyca a chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Mae cynllun busnes y Cyfrif Refeniw Tai hefyd yn nodi’r rhaglen gyfalaf pum mlynedd ar gyfer 2025-30. Bydd hyn yn cefnogi gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio sy’n gysylltiedig â gofynion Safon Ansawdd Tai Cymru 2023, megis datgarboneiddio, gorchuddion llawr, inswleiddio sŵn, casgenni dŵr a mwy.
  • Mae’r Tîm Tai Fforddiadwy wedi gweithio drwy gydol y flwyddyn i ddatblygu’r cynllun prynu cartref newydd ar gyfer Sir Benfro. Bydd y cynllun hwn, a ariennir gan bremiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi, yn cael ei gynnig i brynwyr tro cyntaf cymwys fel benthyciad di-log, i’w ddefnyddio tuag at brynu eiddo mewn ardal ddewisol o’r sir. Nod y cynllun yw cefnogi’r rhai sydd eisoes â blaendal wedi’i arbed, ac sydd eisiau prynu eu cartref eu hunain a chael morgais, ond sy’n cael trafferth dod o hyd i eiddo fforddiadwy. Lansiwyd y cynllun prynu cartref yn swyddogol ym mis Mehefin 2025.
  • Er gwaethaf oedi cychwynnol, cwblhawyd dau o’r prif gynlluniau datblygu tai, sef Old School Lane (Johnston) a Tudor Place (Tiers Cross), yn llawn a chafodd tenantiaid eu defnyddio ym mis Mehefin 2024, gyda chyfanswm o 44 o gartrefi newydd. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, cwblhawyd Cam 1 Glasfryn (Tyddewi), gyda saith cartref newydd yn barod ac ar gael i drigolion newydd erbyn Ionawr 2025.
  • Cafodd Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr y cyngor ei ddiwygio a’i gymeradwyo yn 2024, yn seiliedig ar ymholiadau gan Lywodraeth Cymru. Nododd yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr mai’r cyfanswm o angen heb ei ddiwallu rhwng 2025 a 2033 yw 30 o leiniau. O ganlyniad, cytunodd y cabinet ym mis Mai 2024 bod darpariaeth ariannol yn cael ei gwneud yn Rhaglen Gyfalaf 2024-25 a’r dyfodol i hwyluso unrhyw gostau caffael safle angenrheidiol, adroddiad(au) ymchwiliad safle (lle bo angen), gwaith adfer safle, a gwaith arolygu ac ymchwilio cysylltiedig arall sy’n ofynnol ar gyfer y safle(oedd) a gyflwynwyd. Gwnaed gwelliannau cyfalaf drwy gydol y flwyddyn a sicrhawyd grant o £86,602 gan Lywodraeth Cymru.
  • Cyngor Sir Penfro oedd y darparwr tai cymdeithasol mwyaf yn y sir yn ystod 2024-25. Ym mis Chwefror 2025, roedd 5,853 o eiddo yn stoc tai preswyl CSP. Mae niferoedd ein stoc dai yn parhau i gynyddu oherwydd rhaglenni caffael ac adeiladu gweithredol. Yn yr un modd, arhosodd y galw am dai cyngor yn uchel drwy gydol y flwyddyn, gyda 332 o geisiadau am eiddo CSP rhwng mis Ebrill 2024 a mis Ionawr 2025.
  • Mae’r cyngor wedi parhau i ddarparu addasiadau i gartrefi o bob deiliadaeth ond yn enwedig ar gyfer tai’r sector preifat. Cwblhawyd 317 o addasiadau bach a chanolig i bobl anabl (hyd at £10,000) yn 2024-25, cynnydd o 28.9% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roedd 26 o unedau hefyd wedi’u cwblhau yn ystod y flwyddyn o dan y grant cyfleusterau i bobl anabl (hyd at £36,000). Mae adolygiad o’r polisi addasiadau a chymorth ariannol hefyd wedi’i gynnal a’i gytuno gan y cabinet ym mis Mawrth 2025.
  • Gostyngodd nifer y bobl ar gofrestr tai CartrefiDewisedig@SirBenfro yn gyson drwy gydol y flwyddyn, o 5,181 ym mis Ebrill 2024 i 3,661 erbyn mis Mawrth 2025. Roedd hyn oherwydd gweithredu’r broses adolygu blynyddol ar gyfer ceisiadau a gedwir gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Gan nad yw’r ceisiadau wedi cael eu hadolygu ers nifer o flynyddoedd, mae’n debygol y bydd y gostyngiad yn nifer y ceisiadau yn weladwy tan fis Mai 2025, pan fydd yr holl adolygiadau ceisiadau wedi’u cwblhau. 

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Lansio a gweithredu Cynllun Cymorth Prynu Sir Benfro yn llwyddiannus.
  • Parhau a chwblhau’r adolygiad o’r Gwasanaeth Cynnal a Chadw Adeiladau.
  • Ymgymryd â gwaith yn dilyn adolygiad o Bolisi Dyrannu Cartrefi Dewisedig.
  • Ehangu a datblygu cytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer cynnal a chadw adeiladau ar gyfer gwasanaethau perthnasol.
  • Rhaglen datblygu tai – gweithredu’r rhaglen a nifer y cartrefi cymdeithasol wedi eu hychwanegu at y Cyfrif Refeniw Tai.
  • Adolygiad o ddarpariaeth llety dros dro i bobl ddigartref er mwyn darparu atebion mwy priodol a fforddiadwy.
  • Cwblhau arolygon cyflwr tai cyngor a nodi llwybrau ynni targed ar gyfer cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru 2023. 

 

SA1.4 - Byddwn yn cyflawni ein huchelgais economaidd drwy gefnogi twf, swyddi a ffyniant ac yn galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Cyflawnir yr amcan llesiant hwn drwy Strategaeth Adfer ac Adfywio Sir Benfro 2020–2030.  Mae’r cynllun yn ei bumed flwyddyn, a bydd yn cael ei adnewyddu yn 2025-26.  Bydd hyn yn sicrhau synergedd â Chynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru wedi’i ddiweddaru, sydd i’w ailgyhoeddi yn hydref 2025.
  • Un o’r canlyniadau allweddol rydyn ni’n eu holrhain yw cyfradd hawlio budd-daliadau yn Sir Benfro, sef mesur o ddiweithdra.  Nid yw’r gyfradd (amcangyfrif o ddiweithdra) wedi newid ond ychydig iawn dros 2024-25, pan oedd ar 3.3% am lawer o’r flwyddyn (ac ychydig iawn o newid o lefelau 2023-24).  Roedd 26% o hawlwyr budd-daliadau a oedd allan o waith dros 50 oed, cyfran ychydig yn uwch na’r flwyddyn flaenorol.
  • Mae tystiolaeth anecdotaidd bod y rhagolygon ar gyfer sectorau fel lletygarwch yn llai cadarnhaol a bod cyfraddau gwacter uchel mewn manwerthu yn parhau. Unwaith eto, nododd Arolwg Manwerthu 2023 lefelau gwacter uwch na chyfartaledd y DU ym mhob canol tref ar wahân i Arberth a Marina Aberdaugleddau ac, er bod cyfraddau gwacter mewn rhai trefi wedi gostwng (e.e. Aberdaugleddau), roeddent yn cynyddu mewn trefi eraill (e.e. Hwlffordd).  Mae’r wybodaeth hon yn bwydo i’n rhaglenni adfywio trefi (gweler isod).
  • Dim ond drwy bartneriaeth effeithiol y gellir cyflawni’r amcan llesiant hwn. Ym mis Ionawr 2025, ail-lansiwyd Fforwm Uchelgais Economaidd Sir Benfro, a’i ddiben yw rhoi sylwadau ar gynlluniau datblygu economaidd y cyngor a darparu adborth penodol gan sectorau diwydiant allweddol a busnesau mawr Sir Benfro.  Mae’r fforwm yn cael ei gadeirio gan gyn-Brif Swyddog Gweithredol Purfa Valero ym Mhenfro, gyda chynrychiolaeth o gyflogwyr mawr, cynrychiolaeth uwch-aelodau ac uwch-swyddogion o’r cyngor, a chynrychiolaeth o bobl ifanc.
  • Mae’r fforwm wedi trafod sut y gellid diweddaru Strategaeth Adfywio ac Adfer Economaidd Sir Benfro 2020–2030 (ac wedi nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn ei hamcanion) yn ogystal â thrafod datblygiadau yn y diwydiant ynni yn Sir Benfro, sy’n cwmpasu puro ac LNG, yn ogystal â datblygiadau o fewn y flwyddyn fel ynni gwynt arnofiol ar y môr (dyfarnwyd trwyddedau 4.5 GW i Ystad y Goron ar gyfer y Môr Celtaidd ym mis Mehefin 2025) a hydrogen (yng Ngorsaf Bŵer RWE ym Mhenfro ac yn Haush yn Noc Penfro).
  • Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn cynnig rhyddhad treth a buddion eraill i ddiwydiant gyda’r nod o feithrin twf economaidd gwyrdd a hyrwyddo datblygiad sgiliau o amgylch aber y Ddau Gleddau a Chastell-nedd Port Talbot.  Yn ystod y flwyddyn, penododd y Porthladd Rhydd Celtaidd ei brif weithredwr parhaol cyntaf, sydd wedi cwblhau’r tasgau sefydlu terfynol megis datblygu cynlluniau ar gyfer sgiliau, arloesi a chynlluniau sero net a chyflwyno’r achos busnes llawn (nad oedd yn bosibl tan ar ôl i lywodraeth newydd y DU fod yn ei lle yn dilyn yr etholiad cyffredinol).  Lansiwyd y Porthladd Rhydd Celtaidd ym mis Mawrth 2025 a derbyniwyd achos busnes terfynol y Porthladd Rhydd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ym mis Mehefin 2025.  Mae cyflawni’r garreg filltir hon yn llwyddiannus yn golygu y gall y porthladd rhydd ganolbwyntio ar gyflawni yn 2025-26 a thu hwnt.
  • Fel rhan o geisiadau Rhaglen Newid Carlam y cyngor (y rhan fwyaf ohonynt ar gyfer gwaith ataliol yn y blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol plant), fe wnaethom fuddsoddi £186,000 dros 2025-26 i gefnogi’r tîm sy’n rheoli cyfraniadau’r cyngor i’r rhaglen porthladd rhydd ac er mwyn sicrhau’r manteision mwyaf posibl i Sir Benfro.
  • Rydym yn parhau i weithio gyda chydweithwyr ledled y rhanbarth ar Fargen Ddinesig Bae Abertawe.  Bellach yn ei nawfed flwyddyn (a chyda chyllid am chwe blynedd arall), mae’r Fargen Ddinesig wedi ariannu pontynau cychod gwaith ym Mhorthladd Penfro ac wedi cyfrannu at gyflwyno ffeibr / band eang (e.e. hyrwyddwyr digidol) a rhaglenni sgiliau (e.e. Pasbort i Gyflogaeth Sir Benfro, sy’n canolbwyntio ar y sector ynni adnewyddadwy).  Cynyddodd argaeledd band eang ffeibr llawn 17% dros 2024-25 ac ar hyn o bryd mae’n 65% gyda tharged i gynyddu hyn i 99%.
  • Fe wnaethon ni barhau i gyflawni amrywiaeth o brosiectau adfywio yn ein prif drefi.  Mae’r rhain yn cael eu hariannu drwy amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys y Prosiect Trawsnewid Trefi, cyllid adfywio Llywodraeth y DU a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
  • Yn Hwlffordd, mae prosiect Calon Sir Benfro gwerth £26 miliwn yn mynd rhagddo, ac mae 69% ohono wedi’i ariannu o grantiau ariannu allanol.  Mae adroddiad i’r cabinet ym mis Ebrill 2025 yn rhoi’r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn.  Mae gwaith atgyweirio hanfodol wedi’i wneud ar feili mewnol y castell, tasg gymhleth gan ei fod yn heneb gofrestredig ac mae angen osgoi difrod i rywogaethau gwarchodedig.  Mae gwaith atgyweirio i waliau cefn y castell i fod i ddechrau ar y safle ym mis Awst 2025.  Mae sefydliad buddiant cymunedol Castell Hwlffordd wedi’i sefydlu, a fydd yn gyfrifol am redeg yr atyniad twristaidd / yr amgueddfa o fewn tiroedd y castell yn hen adeilad y carchar.  Mae cyllid hefyd wedi’i sicrhau ar gyfer gwaith parth cyhoeddus o amgylch Sgwâr y Castell, a fydd yn cael ei gwblhau yn 2025-26.
  • Roedd llawr gwaelod Cei’r Gorllewin wedi’i feddiannu o fis Tachwedd 2024 gan Waldo Lounge a sicrhawyd cyllid ar gyfer y gofod cyhoeddus ac ar gyfer gwaith adnewyddu i adeilad cyfagos y ffowndri.  Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud o ran waliau cynnal, palmentydd a storfeydd biniau. Mae’r gwaith i adeiladu’r bont droed nodweddiadol wedi’i gwblhau, a bwriedir ei gosod ym mis Awst 2025.
  • Yn ei gyfarfod ym mis Mai 2024, derbyniodd y cabinet yr wybodaeth ddiweddaraf am brosiect adfywio Cei De Penfro, safle cymhleth a risg uchel oherwydd cyflwr gwael yr adeiladau, cadwraeth treftadaeth ac ecoleg, a’i natur gyfyngedig. Ar ôl ei gwblhau, bydd hyn yn gartref i Ganolfan Harri Tudur (atyniad twristaidd), llyfrgell a chyfleuster gofal cymdeithasol. Ystyriodd y cabinet y risgiau a’r manteision o’r prosiect a phenodwyd contractwr i ymgymryd â’r gwaith adeiladu, a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 2024 a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn mis Gorffennaf 2026.  Yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2024, cytunodd y cabinet i ddyfarnu prydles hedyn pupur am gyfnod o 50 mlynedd i Ymddiriedolaeth Harri Tudur i weithredu’r atyniad yn ogystal â gwarantu rhai o gostau’r ymddiriedolaeth am y tair blynedd gyntaf os na fydd yn gallu denu grantiau allanol.
  • Rydym yn ystyried opsiynau ar gyfer cam nesaf unedau deori Parc Bwyd Llwynhelyg ar ôl derbyn tendrau yn hydref 2024.  Mae gwaith i ailgynllunio’r cynllun yn cael ei gomisiynu gyda chynllun cost hyd at gam dylunio’r cysyniad.
  • Wedi’i ariannu drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, rydym wedi parhau i gynnal sesiynau galw heibio misol er mwyn rhoi cymorth i fusnesau yn y Ganolfan Arloesi Busnes yn Noc Penfro.  Dyma un o’r gwasanaethau a ddarperir gan dîm cymorth busnes y cyngor, sy’n anelu at feithrin diwylliant mentrus ac entrepreneuraidd llwyddiannus o fewn economi Sir Benfro.  Mae’r cabinet yn parhau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y Gronfa Ffyniant Gyffredin, sy’n enghraifft o ffynhonnell allweddol o gyllid adfywio, yn ei gyfarfodydd ym mis Ionawr ac Ebrill 2025. Mae tua £7.750 miliwn (cyfalaf a refeniw) ar gael i Sir Benfro yn 2025-26, yn yr hyn sy’n debygol o fod ei blwyddyn olaf cyn newid i fodel ariannu newydd.
  • Mae twristiaeth yn un o ddiwydiannau allweddol Sir Benfro. Buom yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynllun rheoli cyrchfan diwygiedig rhwng 2024 a 2028.  Gweledigaeth y cynllun yw i Sir Benfro ddod yn arweinydd byd-eang ym maes twristiaeth adfywiol.  Mae hyn i’w gyflawni trwy dair blaenoriaeth strategol: adfywiol, digwyddiadau a natur dymhorol, a llesiant ac egnïol. 
  • Rheolir y cynllun gan Croeso Sir Benfro, partneriaeth rhwng y cyngor a chyrff cyhoeddus eraill a’r sector ei hun.  Rhoddodd Croeso Sir Benfro’r wybodaeth ddiweddaraf i gynghorwyr am ei waith yn hyrwyddo twristiaeth (yn ogystal â’r cynnydd y mae wedi’i wneud wrth sicrhau mwy o annibyniaeth ariannol oddi wrth y cyngor) ym mis Tachwedd 2024.  Ym mis Ebrill 2025, gwrthododd y weinyddiaeth bresennol weithredu ardoll ymwelwyr ddewisol (mae’r ddeddfwriaeth, sy’n rhoi’r pŵer i’r cyngor ystyried hyn, yn dal i gael ei hystyried gan y Senedd) cyn y set nesaf o etholiadau cyngor yn 2027.  Ystyriodd cabinet Gorffennaf 2025 sut y bydd y cyngor yn parhau i gefnogi Croeso Sir Benfro wrth leihau’r cyfraniad ariannol y mae’r cyngor yn ei wneud i’r bartneriaeth.
  • Fe wnaethon ni barhau i wella trafnidiaeth gyhoeddus.  Mae cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus Hwlffordd, gwerth £18.1 miliwn, yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd (seremoni torri’r dywarchen ym mis Ebrill 2025), gyda 90% o’r cyllid yn dod o ffynonellau allanol. Mae rhan o’r safle’n cael ei defnyddio i adeiladu pont unigryw, ond nid yw hyn wedi effeithio ar y bwriad i gwblhau’r prosiect ym mis Mehefin 2026.  Ym mis Hydref 2024, cytunodd y cabinet ar gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer cyfnewidfa drafnidiaeth yng ngorsaf drenau Aberdaugleddau.
  • Fe wnaethon ni gynllunio ar gyfer y newidiadau a fydd yn ofynnol oherwydd masnachfreinio bysiau (a ystyriwyd gan y cabinet ar 4 Tachwedd 2024).  Cafodd pob llwybr trafnidiaeth gyhoeddus eu haildendro yn 2024-25, gan ganiatáu i nifer o welliannau gael eu gwneud.  Ochr yn ochr â hyn, rydym yn adolygu cludiant i’r ysgol (y mae rhywfaint ohono’n cael ei ddarparu gan y rhwydwaith bysiau), a bydd hwn yn ddarn sylweddol o’r gwaith ar gyfer 2025-26.

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Mae prosiectau adfywio effeithiol yn aml yn rhai hirdymor ac yn destun amodau economaidd newidiol yn ogystal â’r anawsterau ymarferol a all effeithio ar brosiectau adeiladu.  Bydd llawer o’r prosiectau sydd ar y gweill yn 2025-25 yn parhau i 2025-26 a thu hwnt, ac mae’r cyngor wedi ymrwymo i gyflawni’r prosiectau allweddol hyn, yn aml o dan amgylchiadau heriol. Mae adroddiad alldro’r cabinet ym mis Gorffennaf yn gwneud sylwadau ar effeithiolrwydd y rhaglen gyfalaf, gan amnewid cyllid grant am wariant arfaethedig CSP er mwyn manteisio i’r eithaf ar y grantiau a dynnir i lawr.
  • Adolygu ac adnewyddu Strategaeth Datblygu Economaidd Sir Benfro.
  • Cynllunio ar gyfer disodli’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, a rhagwelir mai dyma fydd y Gronfa Twf Lleol.
  • Parhau i gefnogi’r porthladd rhydd a’i fod bellach yn gwbl weithredol. Mae gan y cyngor a’i bartneriaid gyfle sylweddol i ddenu buddsoddiad mewnol yn niwydiannau’r dyfodol.  Fel y mae enghreifftiau o fannau eraill yn y DU yn ei ddangos, mae technolegau newydd fel ynni gwynt arnofiol ar y môr yn destun risg a chostau cynyddol a bydd angen dull cydweithredol i sicrhau buddsoddiad.
  • Ailstrwythuro ac aildrefnu adnoddau adfywio. Ym mis Mai 2025, cytunodd y cyngor ar fodel gweithredu targed newydd ac roedd gan yr ailstrwythuro canlyniadol effaith weithredol fwy ar adfywio nag ar lawer o wasanaethau eraill.  Bydd angen ailstrwythuro ac aildrefnu adnoddau adfywio ac nid yw hyn byth yn dasg syml o ystyried y ddibyniaeth ar gyllid allanol sy’n newid a’r angen i ymateb i waith partneriaeth lleol a rhanbarthol. 

 

SA1.5 - Byddwn yn hybu ac yn cefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli’r broses o ymaddasu i newid hinsawdd, a mynd i’r afael â’r argyfwng natur

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Mae’r cyngor wedi ymrwymo i wneud ei ran i gwrdd â’r heriau a gyflwynir gan yr argyfyngau newid hinsawdd a natur a dod yn gyngor sero net.  Yn y cyswllt hwn, yn 2019 pleidleisiodd y cyngor i ddatgan argyfwng hinsawdd ac i gynhyrchu cynllun gweithredu a allai lywio’r cyngor tuag at ddod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030.  Mae’r agenda hon yn berthnasol i amrywiaeth o wasanaethau’r cyngor ac mae angen mynd i’r afael â hi drwy ddull integredig a chyfannol ac mae cynllun gweithredu sero net y cyngor wedi’i ddatblygu i fynd i’r afael â hyn. 
  • Ar hyn o bryd, mae’r cyngor yn cynllunio adolygiad o’r cynllun gweithredu sero net a fydd yn cynnwys dadansoddiad cost o fforddiadwyedd a chyflawnadwyedd ein hymrwymiadau sero net.  Mae trefniadau llywodraethu hefyd wedi cael eu cryfhau i sicrhau bod y flaenoriaeth allweddol hon gan y cyngor yn cael digon o oruchwyliaeth a chyfarwyddyd.  Mae datgarboneiddio yn un o’r pedair rhaglen thematig o dan y Bwrdd Trawsnewid ac Arloesi newydd a bydd y bwrdd hwn yn goruchwylio cyflawni’r gwaith hwn.
  • Yn ogystal, mae gweithgarwch y cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol, megis Deddf yr Amgylchedd a Deddf Diogelu’r Amgylchedd, a chyfarwyddebau polisi fel y nodir yn strategaethau Llywodraeth Cymru “Tuag at Ddyfodol Diwastraff” a “Tu Hwnt i Ailgylchu”.
  • Cytunwyd ar strategaeth gwasanaethau amgylcheddol newydd gan y cabinet ar 28 Ebrill 2025. Mae’r strategaeth hon yn amlinellu ein dull o wella atal gwastraff, ailddefnyddio, ailgylchu, a chynaliadwyedd strydoedd, traethau a mannau gwyrdd Sir Benfro. Mae’r strategaeth hefyd yn pwysleisio ymgysylltu, cydymffurfio a newid ymddygiad i gefnogi nodau amgylcheddol y sir, gan gynnwys dod yn gyngor carbon niwtral net erbyn 2030. 
  • Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth fanwl am ein hallyriadau carbon ar ein gwefan. 
  • Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro, drwy ei gynllun llesiant, wedi sefydlu amcan llesiant sy’n adlewyrchu amcan llesiant y cyngor o amgylch y thema hon.  Fel partner statudol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, mae’r ymrwymiad hwn yn golygu, yn ogystal â’i weithgarwch ei hun fel sefydliad, y bydd y cyngor yn cydweithio â’i bartneriaid i fynd i’r afael â heriau a rennir. Elfen allweddol o’r gwaith hwn fu cynhyrchu strategaeth addasu i’r hinsawdd ar gyfer Sir Benfro a phecyn cymorth addasu i’r hinsawdd, a gynlluniwyd i helpu cymunedau yn Sir Benfro i gynllunio a pharatoi ar gyfer newid hinsawdd.
  • Mae Sir Benfro yn parhau i fod yn un o’r awdurdodau ailgylchu sy’n perfformio orau yng Nghymru, a’r DU. Mae’n parhau i berfformio uwchlaw cyfartaledd Cymru a tharged ailgylchu statudol Cymru, sef 72% yn 2023-24. (Mae ffigurau 2024-25 yn cael eu gwirio ar hyn o bryd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru.)
  • Yn dilyn cais llwyddiannus am gyllid i Lywodraeth Cymru, mae cynlluniau ar y gweill i gyflwyno cyfleusterau ailddefnyddio mewn canolfannau gwastraff ac ailgylchu ledled Sir Benfro yn 2025-26.
  • Agorwyd Parc Eco newydd Sir Benfro yn Hydref 2024 i alluogi gwahanu ailgylchu gwell a gwasanaeth effeithlon ac effeithiol.  Mae’r cyfraddau ailgylchu uchel hyn yn parhau i gael yr effaith ddymunol o leihau’r swm mewn tunelli o wastraff gweddilliol a gesglir, tuedd sydd wedi parhau ers sawl blwyddyn. Ceir rhagor o fanylion yn ein gwefan
  • Rydym hefyd yn parhau i addysgu aelwydydd ar ffyrdd o leihau eu gwastraff gweddilliol trwy gynlluniau lleihau gwastraff, ailddefnyddio ac ailgylchu – gan gysylltu â’r ymgyrch genedlaethol “Bydd Wych” gan Lywodraeth Cymru. Rydym hefyd wedi cefnogi gyda chyflwyno’r rheoliadau ailgylchu yn y gweithle, y cam nesaf i gefnogi newid ymddygiadau i ailgylchu p’un a ydych chi gartref, yn y gwaith, yn yr ysgol neu’n ymweld â’n sir.   
  • Mae gwasanaeth gwastraff masnach newydd wedi’i ddatblygu a’i gyflwyno’n raddol yn unol â rheoliadau ailgylchu yn y gweithle Llywodraeth Cymru, gan alluogi busnesau ledled Sir Benfro i wahanu deunyddiau ailgylchu. Mae hyn yn ychwanegol at gychwyn prosiect cronfa fenter yn ymwneud â chydymffurfio â dyletswydd gofal busnesau, gan gynnwys cartrefi gwyliau ar draws Sir Benfro.
  • Rydym wedi parhau i gyflawni lefelau glanhau strydoedd sy’n uwch na chyfartaledd Cymru, drwy ddadansoddiad y system rheoli ac archwilio amgylcheddol leol ar gyfer glendid strydoedd, yn ogystal â’r ganran o strydoedd sydd wedi’u graddio’n B neu uwch. 
  • Mae’r cyngor yn parhau i weithio’n agos gyda grwpiau ynni cymunedol lleol i sicrhau bod y gymuned yn rhan o faes ynni glân a chynaliadwyedd. Mae un prosiect gydag Egni Co-op wedi galluogi gosod paneli ffotofoltäig solar ar y to yn llwyddiannus ochr yn ochr â digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd mewn canolfannau hamdden ac ysgolion. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno Energy Sparks yn llwyddiannus mewn 35 o ysgolion.
  • Mae’r cyngor yn rhedeg rhaglen lwyddiannus Cynllun Gwobr Ysgolion Cynaliadwy. Mae’r cynllun yn ceisio hyrwyddo datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang yn ysgolion Sir Benfro. Mae’n gwneud hyn drwy ddull cyfannol ac yn annog ysgolion i ymgorffori cynaliadwyedd a golygwedd fyd-eang yn eu holl weithgareddau.
  • Rydym yn parhau i ddatblygu systemau a seilwaith trafnidiaeth carbon isel, hygyrch sy’n annog teithio llesol (cerdded, teithio ar olwyno), yn gwella opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus, ac yn lleihau’r ddibyniaeth ar gerbydau preifat. Drwy flaenoriaethu symudedd cynaliadwy ac integreiddio ystyriaethau amgylcheddol i brosiectau trafnidiaeth (megis gwasanaeth bysiau Fflecsi, cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus Hwlffordd neu’r cynllun beiciau trydan), mae’r cyngor yn arwain drwy esiampl o ran lleihau allyriadau, gwella ansawdd aer, a chreu cymunedau mwy diogel ac iachach.
  • Drwy fuddsoddi mewn cerbydau trydan ac allyriadau isel ar gyfer fflyd y cyngor, optimeiddio llwybrau teithio i leihau’r defnydd o danwydd, a chefnogi’r newid i ddulliau teithio cynaliadwy, mae Sir Benfro yn gweithio tuag at gael gwared ar garbon.  Mae hefyd yn cynnwys integreiddio seilwaith gwefru cerbydau trydan, mabwysiadu technolegau clyfar i reoli llif traffig yn effeithlon, a dylunio seilwaith sy’n cefnogi gweithrediadau sy’n effeithlon o ran ynni (e.e. goleuadau stryd LED a dulliau adeiladu cynaliadwy). Mae’r mesurau hyn yn lleihau allyriadau’n uniongyrchol o gerbydau sy’n eiddo i’r cyngor a seilwaith sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth, gan gyfrannu at ddatgarboneiddio gweithrediadau’r cyngor yn ehangach.
  • O ran lleihau allyriadau o’n fflyd cerbydau, ar 2 Rhagfyr 2024 mabwysiadwyd y Cynllun Pontio Fflyd gan y cabinet i roi cyfeiriad ar gyfer y rhaglen amnewid cerbydau a mabwysiadu cerbydau allyriadau isel iawn. Ar hyn o bryd, mae’r fflyd bresennol o 501 o gerbydau yn cynnwys 54 o gerbydau trydan, sy’n cyfateb i 10.8%. Mae mabwysiadu’r Cynllun Pontio Fflyd yn golygu y bydd unrhyw gerbydau newydd yn rhai carbon isel ac yn amodol ar asesiad technegol, economaidd, amgylcheddol ac ymarferol. Rydym wedi gweithredu cynllun pontio fflyd ar gyfer cerbydau allyriadau isel iawn lle gwelwn gerbydau trydan yn cael eu prynu i gymryd lle cerbydau peiriant tanio mewnol, lle bo’n bosibl.
  • Ers 2019, mae cyfanswm o 73 o wefrwyr cerbydau trydan cyhoeddus wedi’u gosod ar draws 34 o safleoedd, ac mae’r rhain yn cael eu rheoli trwy weithredwr pwynt gwefru. Yn 2024, gosodwyd pedwar gwefrydd cyflym ar draws depos Llwynhelyg, Thornton, Tredeml ac Abergwaun i alluogi gwefru cerbydau fflyd a sicrhawyd cyllid gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i osod 15 gwefrydd arall ar draws y Parc Eco a Depo Thornton. Mae’r gwefrwyr fflyd hyn wedi’u gosod i alluogi cyfnod pontio’r fflyd, ac i sicrhau y gellir gwefru cerbydau sy’n eiddo i’r cyngor mor effeithlon â phosibl. Cefnogir hyn gan weithredu paneli solar ac atebion storio ynni batri yn y Parc Eco, sef dim ond un o’r nifer o atebion cynaliadwy sydd wedi’u hymgorffori yn nyluniad y cyfleusterau hyn. 
  • Mae’r cyngor hefyd wedi adeiladu ei ysgol gyntaf sero net mewn gweithrediad, sef Ysgol Bro Penfro. Mae’r ysgol yn cael ei gwresogi gan bympiau gwres ffynhonnell aer ac mae’n cynnal arae solar fawr i gynhyrchu cymaint o drydan adnewyddadwy ag y mae’n ei ddefnyddio.
  • Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd ac Aberdaugleddau: Teyrnas Ynni yn ceisio hyrwyddo ein nodau drwy ddarparu ynni gwyrdd a chyflenwadau ynni alltraeth i’r genedl.  Drwy gydweithio â’n partneriaid preifat, busnesau lleol ac annog buddsoddiad yn Sir Benfro, mae cynnydd yn y maes hwn yn arwain at fwy o gyfleoedd economaidd i fuddsoddi mewn seilwaith mwy craff a gwyrdd. 
  • Mae Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 yn newydd ac yn berthnasol i’n stoc dai ac mae’n cynrychioli set o ganllawiau uchelgeisiol wedi’u diweddaru, gyda phwyslais penodol ar ddatgarboneiddio, mynd i’r afael â newid hinsawdd, a gwella ansawdd bywyd cyffredinol i denantiaid. Rydym yn parhau i fwrw ymlaen â rhaglen o waith datgarboneiddio ar ein heiddo, sy’n cynnwys gosodiadau fel pympiau gwres o’r aer, inswleiddio waliau, systemau gwresogi effeithlon a phaneli solar ffotofoltäig.  Rydym yn derbyn grant o £1.2 miliwn gan Lywodraeth Cymru o dan y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio gyda disgwyl cyllid cyfatebol gan y Cyfrif Refeniw Tai i ymgymryd â mesurau ôl-osod ar ein stoc dai. Mae £39 miliwn wedi’i nodi yn y cynllun busnes dros y deng mlynedd nesaf i symud ymlaen â’r rhaglen o osod mesurau ôl-osod ar y stoc dai. 
  • Mae’r cyngor yn arwain ac yn cydlynu gwaith Partneriaeth Natur Sir Benfro, sy’n bodoli i gydlynu, hyrwyddo a chofnodi gweithredoedd presennol a newydd i warchod, hyrwyddo a gwella natur yn Sir Benfro, gan gynnwys y Parc Cenedlaethol a dyfroedd y glannau a gwely’r môr o amgylch arfordir Sir Benfro hyd at 12 milltir oddi ar y lan.  Mae’r Tîm Cadwraeth (trwy Bartneriaeth Natur Sir Benfro) wedi parhau i gyflawni prosiectau mewn cydweithrediad â meysydd gwasanaeth mewnol CSP (yn ogystal ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a chyrff allanol eraill). Mae’r prosiectau hyn yn canolbwyntio ar ddiogelu a gwella bioamrywiaeth ledled y sir ac yn cyfrannu at ddyletswydd bioamrywiaeth y cyngor o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Tynnwyd grantiau refeniw a chyfalaf gwerth £2.7 miliwn i’r sir ar gyfer blynyddoedd ariannol 2023–2025. Cadarnhawyd dwy flynedd arall o gyllid grant yn ddiweddar.
  • Mae cydweithio rhwng y Gwasanaethau Amgylcheddol a’r Tîm Cadwraeth, gan gynnwys y Bartneriaeth Natur, yn parhau i ganolbwyntio ar wella mannau cyhoeddus ac mae nifer o newidiadau wedi bod mewn arferion cynnal a chadw a dyluniad mannau (megis Fortune’s Frolic yn Hwlffordd) i ddatblygu mannau sy’n diwallu anghenion defnyddwyr wrth gefnogi ar yr un pryd ein dyletswyddau o dan Ddeddf yr Amgylchedd.

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Adolygu’r Cynllun Gweithredu Sero Net a pharhau i gryfhau trefniadau llywodraethu o amgylch dull y cyngor o ddatgarboneiddio drwy’r Bwrdd Trawsnewid ac Arloesi.
  • Gweithredu’r Strategaeth Gwasanaethau Amgylcheddol, gan gynnwys cyflwyno siopau ailddefnyddio mewn canolfannau gwastraff ac ailgylchu, a pharhau â mentrau i gynyddu ailgylchu a lleihau gwastraff gweddilliol.
  • Camau gweithredu parhaus i ddatgarboneiddio’r system drafnidiaeth, parhau â’r broses o drawsnewid fflyd y cyngor i gerbydau allyriadau isel iawn, a gwelliannau i’r rhwydwaith gwefru.
  • Gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus – mae newid dulliau teithio yn bwysig o ran lleihau teithio i leihau allyriadau carbon.
  • Effeithiau arfordirol a llifogydd: datblygu blaengynlluniau yn Niwgwl, Amroth, Dinbych-y-pysgod, Penfro, a Lower Priory a Havens Head.
  • Gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer atebion cynhesrwydd fforddiadwy mewn tai sector preifat i gefnogi targed Llywodraeth Cymru i gyflawni Tystysgrif Perfformiad Ynni A ar gyfer y rhai mewn tlodi tanwydd erbyn 2030 a phob deiliadaeth tai erbyn 2050.
  • Cynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwydnwch ecosystemau yn unol â dyletswydd adran 6. 

 

SA1.6 - Byddwn yn cefnogi ein cymunedau, gan gynnal perthnasoedd cadarnhaol â hwy er mwyn helpu i greu cymunedau gweithredol, dyfeisgar, cysylltiedig, cynaliadwy a chreadigol

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Mae gwaith Grŵp Cryfhau Cymunedau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cefnogi’r gwaith o gyflawni ein blaenoriaeth gorfforaethol i wneud cymunedau’n fwy dyfeisgar a chynaliadwy ac yn adeiladu ar y rôl ganolog y gall ein cymunedau ei chwarae o amgylch ffyrdd newydd o weithio a chreu perthnasoedd trawsnewidiol gyda darparwyr gwasanaethau traddodiadol. 
  • Mae aelodaeth y grŵp hwn – iechyd, gofal cymdeithasol, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, PLANED a Llywodraeth Cymru – yn adlewyrchu ei ffocws ar gryfhau a grymuso ein cymunedau i gwrdd â her llai o wasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol ochr yn ochr â hyrwyddo gweithio gyda phobl leol ar y pethau sydd bwysicaf i’w cymunedau.  Mae gwaith y grŵp yn canolbwyntio ar yr amcanion a ganlyn, sef cymunedau gweithgar, cysylltiedig, dyfeisgar a chynaliadwy.
  • Mae strategaeth wirfoddoli ar gyfer Sir Benfro wedi’i chynhyrchu a bydd yn cael ei chyhoeddi ym mis Mehefin 2025.  Wedi’i datblygu gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro gyda mewnbwn gan Rwydwaith Trefnwyr Gwirfoddoli Sir Benfro, aelodau cynghorau tref a chymuned, cymunedau lleol, Cyngor Sir Penfro ac aelodau eraill o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, mae’r strategaeth yn anelu at gefnogi ac ysbrydoli unigolion, sefydliadau a busnesau i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddol ystyrlon sy’n fuddiol i wirfoddolwyr, yr ‘ecosystem’ wirfoddoli a’r gymuned ehangach.
  • Sefydlwyd grŵp rhanddeiliaid ar gyfer proffiliau cymunedol a chynlluniau llesiant ddiwedd 2024, gyda chymunedau o bob cwr o Sir Benfro yn cael eu gwahodd i wneud cais i gyd-greu eu cynlluniau a’u proffiliau eu hunain. Yna, dewiswyd pedair cymuned gyda dwy gymuned (Crymych a Thyddewi) yn dewis mynd ymlaen a datblygu eu cynlluniau eu hunain.  Mae’r cynlluniau’n dangos gwerth ymgysylltu a chydgynhyrchu; fodd bynnag, dim ond yn y tymor byr y cafodd y prosiectau eu hariannu, felly mae trafodaethau ar y gweill i sicrhau nad yw’r momentwm y tu ôl i’r prosiectau hyn yn cael ei golli oherwydd diffyg cyllid.
  • Darparwyd hyfforddiant ar fethodoleg casglu straeon y newid mwyaf sylweddol gan Gyda’n Gilydd dros Newid, Prifysgol Abertawe a Chyngor Sir Penfro ym mis Mehefin 2024.  Mae’r set gyntaf o straeon wedi’i chasglu a’i hystyried mewn dwy drafodaeth panel a chyflwynwyd detholiad bach o’r straeon yng nghyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Chwefror 2025 i hyrwyddo trafodaeth ynghylch sut y gall tystiolaeth ansoddol o’r fath ddylanwadu ar wneud penderfyniadau.
  • Mae Grant Gwella Sir Benfro yn galluogi Cyngor Sir Penfro i weithio mewn partneriaeth â chymunedau a sefydliadau lleol a’u cefnogi i liniaru effaith leol ail gartrefi. Mae wedi cefnogi llawer o brosiectau, gan helpu i adfer hyfywedd cymunedau a llesiant trigolion lleol, ac mae wedi denu arian oddi wrth ffynonellau grant eraill i Sir Benfro.
  • Dyfarnwyd nifer o grantiau llai yn ystod 2024-25 i gefnogi hybiau cymunedol; diwylliant, celfyddydau a gwyliau; mannau chwarae; gwelliannau i gyfleusterau sy’n cyfrannu at gryfhau a gwella gwasanaethau yng nghanol cymunedau, gan wella hygyrchedd i drigolion agored i niwed a thrigolion hŷn Sir Benfro; a gweithgareddau sy’n cysylltu cymunedau, gan gynnwys calendr digwyddiadau Mosg Hwlffordd a gynlluniwyd gan Gyngor Cymuned Llandyfái a Chyngor Cymuned Tredeml.
  • Mae grantiau mwy hefyd wedi cael eu dyfarnu, gan gynnwys y rhai ar gyfer prosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc i gydnabod eu potensial eu hunain, meithrin hyder / codi hunan-barch a gwella eu sgiliau cyflogadwyedd, ac i’w helpu i flaenoriaethu lles emosiynol trwy gyfleoedd cymunedol.  Mae prosiect arall wedi cefnogi prynu ‘bws gwyrdd’ ar gyfer Canolfan Gymunedol Bloomfield, Arberth, gan hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy a hygyrch i’r rhai sydd â phroblemau symudedd a llenwi bylchau lle nad oes trafnidiaeth gyhoeddus.
  • Mae’r cyngor wedi adnewyddu ei ddull o weithio gyda chynghorau tref a chymuned.  Mae rhwydwaith gweithio’n well gyda’n gilydd newydd wedi’i sefydlu er mwyn symud ymlaen â rhannu gwybodaeth, meithrin perthnasoedd, a thrafod meysydd sydd yn peri pryder i’r ddwy ochr.  Dros y deuddeg mis diwethaf, mae’r cyfarfodydd deufisol hyn wedi trafod yr adolygiad o ffiniau cymunedol, wedi datblygu ffordd gost niwtral o gefnogi cynghorau tref a chymuned i gyflawni eu dyletswydd i gael gwefan, ac yn archwilio sut y gallai rhwydwaith clercod hwyluso rhannu gwybodaeth a helpu clercod i roi cymorth i’w gilydd.
  • Mae’r cyngor yn parhau i weithio gyda chynghorau tref a chymuned (yn ogystal â chyrff cyhoeddus eraill, fel Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro) ar fodelau ariannu ar y cyd ar gyfer gwasanaethau yn y gymuned.  Er enghraifft, ym mis Tachwedd 2023 rhoddodd Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod gyllid i gynnal oriau agor 2023-24 hyd at 2024-25. 

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Bydd y grŵp cyflawni ar gyfer prosiect Cryfhau Cymunedau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn parhau i ddefnyddio proses a methodoleg y newid mwyaf sylweddol i gynorthwyo gweithio mewn partneriaeth a gwneud penderfyniadau.
  • Bydd y grŵp hefyd yn cefnogi darpariaeth barhaus o weithgareddau allweddol i gynorthwyo cymunedau, gan gynnwys sioeau teithiol Cadw’n Iach ac ymgyrchoedd Byw’n Iach am Lai a Chadw’n Gynnes, Cadw’n Iach.
  • Bydd Grant Gwella Sir Benfro 2025-26 yn parhau i gynnig cymorth wedi’i dargedu i grwpiau cymunedol, gan adeiladu ar waith y llynedd, a oedd yn canolbwyntio ar feysydd o ymateb isel.  Ochr yn ochr â hyn, gallai ehangu syniadau cymunedol gynyddu cwmpas a photensial prosiectau, gan wneud defnydd mwy effeithiol o’r grant.  Gyda llai o gyllid a chapasiti staff llai yn y flwyddyn ariannol hon, bydd un cylch ariannu yn yr hydref. Ond byddwn yn parhau i alluogi rôl gynghori a chefnogol ehangach i gymunedau. Felly, mae gan gymunedau fwy o gyfleoedd i ddatblygu syniadau a gweithgareddau cymunedol, a allai arwain at brosiectau mwy cysylltiedig a chydweithredol o fudd strategol i Sir Benfro. Yn bwysicaf oll, bydd yn parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywiogrwydd cymunedau.
  • Ailfrandio ac adnewyddu tudalen gwirfoddoli’r fewnrwyd a’r cylchlythyr gwirfoddoli.
  • Parhau i ddatblygu strategaeth gymunedol newydd. 
ID: 14284, adolygwyd 27/10/2025