Hunanasesiad Blynyddol 2024-25

SA1 - Amcanion Llesiant (parhau)

SA1.7 - Byddwn yn cefnogi’r Gymraeg o fewn cymunedau a thrwy ysgolion

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Mae ein hymrwymiad i ddatblygu’r Gymraeg yn y sir wedi’i adlewyrchu yn Strategaeth Gorfforaethol 2025–30, Strategaeth y Gymraeg 2021–26 a Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022–31.
  • Mae llawer o’r wybodaeth yn yr adran hon wedi’i chymryd o Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2024-25. Ystyriwyd hwn gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yn ei gyfarfod ym mis Mehefin 2025 a’i fabwysiadu gan y cabinet ym mis Gorffennaf 2025.
  • Mae nifer y galwadau yn y Gymraeg i ganolfan gyswllt y cyngor wedi cynyddu ychydig, o 2%, o 6,764yn 2023–24 i 6,903 yn 2024-25.
  • Mae’r amser y mae’n rhaid i gwsmeriaid aros i’w galwad gael ei hateb (amser ciwio) wrth ffonio canolfan gyswllt y cyngor wedi cynyddu ychydig ar gyfer y ddwy iaith o’i gymharu â 2023-24. Mae rhai sy’n ffonio’r linell Gymraeg bellach yn aros am 32 eiliad ar gyfartaledd (1 eiliad ychwanegol), gyda’r rhai sy’n ffonio’r llinell Saesneg yn aros 53 eiliad ar gyfartaledd (8 eiliad ychwanegol). Mae’r amseroedd ciwio hyn ymhell o fewn targed y gwasanaeth ar gyfer 2024–25, sydd, fel y llynedd, ar hyn o bryd yn golygu ateb galwadau o fewn dwy funud ar gyfartaledd. Roedd y targed hwn yn berthnasol i giwiau Saesneg a Chymraeg fel ei gilydd. 
  • Mae nifer defnyddwyr y wefan Saesneg wedi gostwng o 24%, tra bod nifer defnyddwyr y wefan Gymraeg wedi gostwng o 40% ers 2023–24. Mae’n bosibl bod y gostyngiadau hyn oherwydd y sianeli eraill rydyn ni wedi’u cyflwyno sydd hefyd yn rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, Fy Nghyfrif ac Alexa, gan leihau’r angen i ddibynnu’n llwyr ar y wefan am wybodaeth.
  • Ar y cyfan, mae twf parhaus yn nifer y cwsmeriaid sy’n cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif ac i gael gohebiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, gyda chynnydd o 9.6% ar gyfer y cyfrif Saesneg a chynnydd o 7% ar gyfer y cyfrif Cymraeg.
  • Mae diddordeb yn nhudalennau Facebook y cyngor yn parhau i dyfu, er ar gyfradd is ar gyfer 2024–25. Cynyddodd hoffterau ar y dudalen Facebook Saesneg o 4%; cynyddodd hoffterau ar y dudalen Gymraeg o 1.25%.
  • O’i gymharu â 2023-24, mae cyfieithiadau ysgrifenedig o bob hyd yn 2024-25 wedi cynyddu o 15% ac mae cyfieithu ar y pryd wedi cynyddu o 31%, o bump yn 2023-24 i 16 yn 2024-25.
  • Cawsom ddwy gŵyn yn 2024-25 yn ymwneud â safonau darparu gwasanaethau yn y Gymraeg (Safon 158). Roedd y cwynion yn ymwneud â gwybodaeth a ddangoswyd yn y Gymraeg y credwyd ei bod wedi’i chyfieithu’n wael a gwall wrth anfon ymateb yn Saesneg pan ddylid fod wedi’i anfon yn y Gymraeg, gan ei fod wedi cael ei drin a’i gydnabod yn y Gymraeg.
  • Gostyngodd lefelau sgiliau Cymraeg o 11.8%, o 868 yn 2023-24 ar Lefel 1 neu uwch i 765 yn 2024-25, ac arhosant yn sefydlog ar 170 ar Lefel 3/4 yn 2023-24, o’i gymharu â 169 ar Lefel 3/4 yn 2024-25. Mae adolygiad o’r broses hunanasesu sgiliau Cymraeg yn parhau.
  • Roedd 100 o gyrsiau hyfforddi sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch wedi’u cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg, gostyngiad o 8.7% o’i gymharu â 2023-24. Gall y gostyngiad bach hwn fod oherwydd llawer o ffactorau, gan gynnwys amseriad adnewyddu cyrsiau gorfodol, e.e. bob tair blynedd.
  • Mae tiwtor dynodedig a ariennir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cyflwyno cyrsiau Cymraeg Gwaith i staff y cyngor. Yn ystod 2024-25, mynychodd 168 o staff ddosbarthiadau Cymraeg Gwaith a mynychodd 93 gyrsiau cymunedol ar wahanol lefelau. Cyfanswm dysgwyr staff y cyngor yw 261, cynnydd o 28% o’i gymharu â 2023–24 (203 o ddysgwyr). Mae Dysgu Cymraeg Sir Benfro hefyd yn cynnig cyrsiau sydd ar gael ar wahanol amseroedd ac mewn gwahanol leoliadau ledled Sir Benfro.
  • Mae dynodiadau gofynion y Gymraeg ar swyddi a hysbysebir wedi aros yn sefydlog i raddau helaeth ers 2020–21 ar draws yr holl ddynodiadau:  mae 7% o swyddi yn nodi bod y Gymraeg yn hanfodol, 78% fod y Gymraeg yn ddymunol, 1% fod y Gymraeg i’w dysgu, ac 14% nad oes angen y Gymraeg.
  • Ar 1 Gorffennaf 2024, cymeradwyodd y cabinet yn ffurfiol y cynnig gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gynnal Eisteddfod 2026 (yn agor mewn tab newydd) yn Sir Benfro ar safle yn Llantwd.  Mae 2026 yn nodi 850 mlwyddiant yr Eisteddfod yn ardal Dyffryn Teifi. Mae’r paratoadau ar y gweill ar gyfer “Eisteddfod y Garreg Las”, a fydd yn ymweld â Sir Benfro am y tro cyntaf ers 2002. Caiff ei chynnal y flwyddyn nesaf rhwng 1 a 8 Awst, a bydd yn gydweithrediad unigryw â siroedd cyfagos, gyda’r dalgylch nid yn unig yn cynnwys Sir Benfro gyfan, ond hefyd yn ymestyn i ardaloedd gorllewinol Sir Gaerfyrddin a de Ceredigion. Roedd y seremoni gyhoeddi draddodiadol, a gynhaliwyd yn Arberth ar 17 Mai 2025, yn llwyddiant ysgubol.
Addysg
  • Agorwyd ein hysgol cyfrwng Cymraeg 3-11 newydd ym Mhenfro, Ysgol Bro Penfro, yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet Addysg ym mis Ionawr 2025. Mae’r adeilad newydd yn cynrychioli buddsoddiad pellach mewn addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yn Sir Benfro ac yn fodd sylweddol o gyfrannu at Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y cyngor. Agorodd Ysgol Bro Penfro i ddisgyblion ym mis Medi 2024 ac ar hyn o bryd mae 148 o blant ar gofrestr yr ysgol.
  • Mewn perthynas â’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, mae’r targed trosfwaol o gynyddu nifer y plant ym Mlwyddyn 1 sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi parhau i gael ei gyrraedd. Fel ym mlwyddyn sylfaen 2020, roedd 292 (22.8%) o blant yn bodloni’r maen prawf hwn. Yn 2024-25, roedd y nifer wedi gostwng i 287 (25.7%), ond mae hyn yn cael ei osod yn erbyn gostyngiad pellach yn y garfan grŵp blwyddyn, h.y. gostyngiad o 167 o ddisgyblion rhwng 2020 a 2025. Gweler tystiolaeth – Disgyblion Blwyddyn 1 Cyfrwng Cymraeg (Ffynhonnell: CYBLD).
  • Roedd lansio’r platfform adfer llafaredd Cymraeg, Meistroli, yn fenter arloesol. Ategwyd hyn gan fanciau cwestiynau darllen ac ysgrifennu Cymraeg a ychwanegwyd at y platfform adfer dysgu, Carousel, gan greu set o adnoddau cynhwysfawr ar gyfer datblygu iaith i gefnogi cydlyniant a dilyniant rhwng grwpiau blwyddyn a dysgu annibynnol (gwaith cartref). Ar y cyfan, mae ymarfer adalw wedi datblygu o fod yn fenter addawol i fod yn strategaeth wella ar draws y system. Mae’r sylfaen adnoddau gynyddol, ymgysylltiad athrawon a datblygiadau arloesol yn y Gymraeg yn gosod Sir Benfro fel awdurdod blaenllaw o ran ymgorffori adfer i gefnogi dysgu hirdymor. Bydd y cam nesaf yn elwa o ddadansoddiad effaith mwy craff ac aliniad parhaus â nodau’r cwricwlwm.
Addysg ieuenctid a chymunedol
  • Mae dosbarthiadau Cymraeg Gwaith yn parhau i staff y cyngor drwy’r tiwtor Cymraeg Gwaith. Mae Sir Benfro yn Dysgu yn parhau i ddarparu cyrsiau a digwyddiadau Cymraeg i ddysgwyr Cymraeg ar bob lefel ledled Sir Benfro drwy ganolfannau addysg gymunedol.
  • Rydym wedi bwrw ymlaen â’r argymhellion a wnaed gan Estyn yn 2023 ynghylch Cymraeg i Oedolion. Mae hyn wedi cynnwys cryfhau cynllunio strategol, mireinio prosesau ar gyfer gwerthuso addysgu a dysgu, a chryfhau prosesau ar gyfer monitro ac olrhain. Rydym wedi adolygu’r model staffio, gan greu swydd tiwtor ychwanegol yn lle oriau tiwtor sesiynol, ac maenewidiadau wedi’u gwneud i’r model cyflwyno.
  • Rydym wedi datblygu darpariaeth Gymraeg mewn partneriaeth â Menter Sir Benfro mewn dau faes gwasanaeth allweddol: darpariaeth a gweithgareddau ieuenctid ac fel rhan o ddarpariaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned brif ffrwd. Mae nifer o weithdai a gweithgareddau Dydd Gŵyl Dewi / gweithgareddau ieuenctid wedi cael eu cyflwyno drwy’r bartneriaeth hon.

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

Addysg

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Bydd cynnal yr Eisteddfod yn 2026 yn ein helpu i ddatblygu ein cefnogaeth i’r Gymraeg a’i diwylliant o fewn ein cymunedau.
  • Defnyddio’r gefnogaeth a’r canllawiau arfer gorau a ddarperir drwy Raglen Hyrwyddo Cydymffurfedd 2024-25 Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i gefnogi gweithredu a chydymffurfio â’r safonau, cefnogi datblygiad Strategaeth yr Iaith Gymraeg ar gyfer y pum mlynedd nesaf (2026–2031), ac adolygu’r polisi ar gyfer defnydd mewnol o’r Gymraeg.
  • Cwblhau adolygiad a pheilota’r broses newydd ar gyfer hunanasesu sgiliau Cymraeg i symleiddio’r broses, cynyddu nifer y ceisiadau a gwblheir, a chefnogi gofynion adroddiadau blynyddol.
  • Ymateb i ofynion sy’n deillio o Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) newydd. Gyda’r nod o roi cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru siarad Cymraeg yn annibynnol ac yn hyderus, beth bynnag fo’u cefndir neu addysg, bydd cefnogaeth i ysgolion yn cynnwys gweithio gyda’r sector i gynyddu nifer y staff sy’n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, datblygu sgiliau iaith y gweithlu presennol, a darparu deunyddiau dysgu Cymraeg.
  • Ystyried newidiadau pellach i ddalgylchoedd lle bo’n berthnasol.
  • Archwilio ymhellach newid categorïau iaith ysgolion dwy ffrwd presennol, ac ysgolion cyfrwng Saesneg lle bo’n briodol.
  • Adolygu’r ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion a’i halinio â’r targed ariannu. 
  • Datblygu a monitro’r bartneriaeth cyfrwng Cymraeg ôl-16 i gynyddu nifer y disgyblion sy’n cael mynediad at ddarpariaeth ôl-16. 

 

SA1.8 - Byddwn yn canolbwyntio adnoddau ar ddarparu gwasanaethau craidd megis priffyrdd, gwastraff ac ailgylchu, diogelu’r cyhoedd, a hamdden a diwylliant sy’n cyfrannu at ansawdd bywyd cymunedau, gan sicrhau bod preswylwyr yn byw mewn cymdogaethau sy’n lân, yn wyrdd, yn ddiogel ac yn llawn bywyd

A number of these updates cross-reference with SA1.4 and SA1.5.

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

Yr amgylchedd
  • Yn 2024-25, cafodd y cyngor y cyfle i fenthyg cerbyd ailgylchu trydan 16 tunnell. Ar ôl rhoi llwybr heriol iddo, derbyniwyd adborth cadarnhaol gan y criw. Bydd y cyngor yn parhau i archwilio opsiynau cerbydau trydan gydag opsiynau benthyciadau cerbydau ar gael yn y dyfodol.
  • Gostyngodd tipio anghyfreithlon yn Ch1 ac Ch2 2024-25, gan ostwng o 190 o ddigwyddiadau i 156. Yn anffodus, bu cynnydd mawr mewn tipio anghyfreithlon yn Ch3, gan godi i 253 o ddigwyddiadau (cynnydd o 61%). Roedd hyn yn sgil-effaith bosibl o broblemau gyda chasgliadau gwastraff ac ailgylchu a newidiadau i ddiwrnodau casglu dros gyfnod y Nadolig. Er bod achosion o dipio anghyfreithlon wedi dechrau lleihau eto tua diwedd y flwyddyn, roedd cyfanswm o 807 o achosion o dipio anghyfreithlon yn 2024-25, cynnydd o 18.2% o 2023-24. Mae angen mwy o waith yn y dyfodol i leihau tipio anghyfreithlon.
  • Am y bumed flwyddyn yn olynol, mae’r cyngor wedi rhagori ar darged ailgylchu Llywodraeth Cymru, a godwyd i 70% ar gyfer 2024-25. Roedd perfformiad ailgylchu cyfartalog CSP ar gyfer y flwyddyn tua 72%, er nad yw hyn wedi’i wirio gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eto. Roedd hyn yn is na’r disgwyl oherwydd problemau parhaus gyda’r derbynnydd pren, ac arweiniodd toriad yn y cyfleuster at storio pren yn hytrach na’i ailgylchu. Mae contractau newydd wedi’u gwneud gyda safleoedd wrth gefn (yn amodol ar drwyddedau CNC) i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto yn y dyfodol.
  • Cyrhaeddodd y cyngor darged Llywodraeth Cymru o ddim gwastraff i safleoedd tirlenwi ym mis Mai 2024, ac nid yw CSP wedi anfon unrhyw wastraff pellach yn uniongyrchol i safleoedd tirlenwi. Mae’r ffigurau gwastraff sy’n weddill i safleoedd tirlenwi ar gyfer 2024-25 yn cynrychioli’r hyn y mae derbynwyr yn ei anfon i safleoedd tirlenwi, megis gwastraff a wrthodir o brosesau ynni o wastraff na ellir ei ailgylchu.
  • Cwblhawyd y gwaith adeiladu ar Barc Eco Sir Benfro, sydd wedi’i leoli yn Aberdaugleddau, ac agorwyd y cyfleuster ar ôl cael trwydded amgylcheddol ym mis Hydref 2024. Daeth y Parc Eco yn gwbl weithredol erbyn mis Rhagfyr 2024.
  • Ers mis Mawrth 2024, mae’r cyngor wedi bod yn ymdrechu i fynd i’r afael â’r arogl sy’n dod o Safle Tirlenwi Withyhedge, yn dilyn deiseb gan aelodau’r cyhoedd. Er bod y cyngor wedi methu â chymryd camau cyfreithiol yn erbyn Resources Management Limited (RML), arweiniodd hyn, ynghyd â chryfder pryder y cyhoedd a’r camau a gymerwyd gan CNC, at fwy o frys i’r cwmni gymryd camau i liniaru’r arogleuon a oedd yn dianc o’r safle. Cyflwynwyd adroddiad diweddaru i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau ym mis Mehefin 2025. Nododd yr adroddiad fod monitro ansawdd aer ar gyfer hydrogen sylffid wedi bod yn digwydd ger y safle, ac mae’r cyngor yn derbyn adroddiadau monitro wythnosol i ganiatáu ymyriadau pan fo angen.
  • Mae achosion o bori anghyfreithlon wedi cynyddu yn hanner olaf 2024–2025, ac mae’n broblem sy’n effeithio ar rai lleoliadau penodol.  Gall pori anghyfreithlon greu effeithiau negyddol a phryderon i gymunedau o ran diogelwch y cyhoedd, difrod i eiddo a lles anifeiliaid.  Mae’r cyngor yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’r heddlu a rhanddeiliaid perthnasol eraill i fynd i’r afael â’r mater, gan gynnwys gwaith i ddatblygu polisi ar y cyd a fydd yn nodi ein dull gweithredu.
Seilwaith
  • Mae Sir Benfro wedi parhau i arwain o ran addasu arfordirol yn 2024-25, er bod heriau sylweddol yn parhau i rai cynlluniau addasu arfordirol mewn lleoliadau fel Niwgwl ac Amroth.
  • Cynhaliwyd ymarfer gwrando gyda thrigolion, busnesau a chynrychiolwyr cymunedol ledled y sir ynghylch polisi terfyn cyflymder 20 mya Llywodraeth Cymru rhwng mis Mai a mis Hydref 2024. Nododd hyn fod pryderon nad yw dull ‘un maint i bawb’ yn briodol ar gyfer rhwydwaith ffyrdd amrywiol a gwledig yn bennaf Sir Benfro. O ganlyniad, bydd y cyngor yn cynnal adolygiad o weithrediad y polisi ledled y sir dros flwyddyn ariannol 2025-26.
  • Mae datblygiad sylweddol wedi bod i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drwy gydol 2024-25. Mae hyn o ganlyniad i gydweithio da ar draws y rhanbarth, ymgynghori â’r cyhoedd, a chefnogaeth gan weinyddiaethau cabinet y rhanbarth. Bydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn 2025-26.
  • Ar y cyfan, parhaodd perfformiad priffyrdd yn foddhaol yn 2024-25, er gwaethaf y toriadau o flwyddyn i flwyddyn. Fodd bynnag, mae rhai tueddiadau wedi dechrau dod i’r amlwg, megis cynnydd mewn achosion o dyllau yn y ffordd a chwynion cynyddol am dyllau yn y ffordd.
  • Mae swyddogion y cyngor wedi bod yn gweithio’n agos gyda Thrafnidiaeth Cymru ynghylch diwygio bysiau a chyflwyno masnachfreinio bysiau, a gynlluniwyd i’w gyflwyno yn 2027. Mae’r newidiadau hyn yn golygu y bydd penderfyniadau ynghylch gwasanaethau bysiau (llwybrau, amserlenni, prisiau, oriau gweithredu a safonau ansawdd gwasanaeth) yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a chyd-bwyllgorau corfforedig. Bydd gweithredwyr bysiau yn gallu gwneud cais am gontractau i redeg gwasanaethau yn ôl y manylebau hyn. Cyflwynwyd y rhwydwaith sylfaen arfaethedig i’r cabinet ym mis Tachwedd 2024, a chytunodd y cabinet i gymeradwyo’r cynlluniau hyn.
  • Dechreuodd y gwaith adeiladu ar gyfer cyfnewidfa Hwlffordd yn dilyn seremoni torri tir yn gynnar yn 2025. Mae’r prosiect yn cynnwys adeiladu gorsaf fysiau fodern a maes parcio aml-lawr yng nghanol tref Hwlffordd. Mae’r gwaith adeiladu i fod i gael ei gwblhau ddiwedd gwanwyn / dechrau haf 2026.
  • Parhaodd datblygiad prosiect cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus Aberdaugleddau yn 2024-25, gydag adroddiad diweddaru wedi’i gyflwyno i’r cabinet ym mis Hydref 2024. Cefnogodd y cabinet barhad y cynllun, gan gymeradwyo’r cais am grant ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26. Bydd y prosiect yn cynnwys cyfleusterau gwell ar gyfer y rheilffordd, bysiau a cheir yng ngorsaf Milford, a datblygu cynllun sydd wedi’i baratoi ar gyfer y dyfodol a fydd yn galluogi gwasanaethau ychwanegol (megis gwasanaeth trên bob awr). Y bwriad yw i’r gwaith adeiladu ddechrau yn hydref 2025, yn barod i’w gwblhau ym mis Hydref 2026. 
Diwylliant, hamdden a chofrestru 
  • Roedd cynnydd yn arafach na’r hyn a ddymunwyd o ran arolygon cyflwr pyllau nofio Dinbych-y-pysgod a Phenfro, ond cwblhawyd y gwaith yn 2024-25. Mae staff Cynnal a Chadw Adeiladau wedi sicrhau bod risgiau legionella yn cael eu rheoli’n effeithiol, bod teils pyllau yn cael sylw wrth iddynt ddod yn amlwg (Dinbych-y-pysgod), bod colofnau adeileddol yn cael eu hatgyweirio (Penfro), bod goleuadau ychwanegol yn cael eu gosod, a bod rendrad allanol yn cael ei wneud yn ddiogel. Ym mis Mawrth 2025, cytunodd y cabinet ar gyllid ychwanegol i ymgymryd â lefel ychwanegol o fanylder trwy waith ymwthiol. Bydd hyn yn rhoi gwelededd i rannau o’r pyllau na all archwiliad gweledol safonol eu cyflawni, ac yn sicrhau bod y cabinet yn cael gwybodaeth a chostau digon cadarn i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch buddsoddi i ymestyn oes yr asedau hyn.
  • Cwblhawyd asesiad o anghenion llyfrgell newydd yn 2024-25, a gytunwyd gan y cabinet ym mis Rhagfyr 2024. Mae’r ddogfen hon yn dangos yr effaith gadarnhaol sydd gan lyfrgelloedd cyhoeddus mewn amrywiaeth o feysydd megis iechyd a llesiant, dysgu, llythrennedd plant ac oedolion, cyflogaeth â chymorth, twf economaidd, cynhwysiant digidol, mynd i’r afael ag ynysu cymdeithasol, a chyfoethogi bywydau. Dangosodd ymgysylltiad cyhoeddus ynghylch y ddogfen fod pobl yn gwerthfawrogi, a bod arnynt angen, lle cymunedol diogel a chroesawgar, cefnogaeth gan staff, lle i ddod o hyd i wybodaeth, a llyfrau ac adnoddau. O ganlyniad i’r asesiad o anghenion llyfrgell, mae gan y Gwasanaeth Llyfrgell ddealltwriaeth gliriach bellach o anghenion y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o wahanol awgrymiadau ar gyfer newid.
  • Cynhaliwyd gwaith gyda Croeso Sir Benfro a phartneriaid eraill i gwblhau cynllun rheoli cyrchfan wedi’i adnewyddu ar gyfer Sir Benfro. Mabwysiadwyd y cynllun newydd yn ffurfiol gan y cabinet ym mis Ebrill 2024, ac mae hyn yn cefnogi dull strategol, cydgysylltiedig o ddatblygu twristiaeth gynaliadwy yn Sir Benfro.
  • Roedd 1,343,131 o ymweliadau â chanolfannau hamdden yn 2024-25, gan ragori ar darged y flwyddyn o 2,610 o ymweliadau. Perfformiodd cyfleusterau hamdden yn rhagorol drwy gydol y flwyddyn, ac o ganlyniad gosodwyd targed twf o 1% ar gyfer 2025-26.
  • Roedd cyfanswm o 356,928 o ymweliadau â llyfrgelloedd yn 2024-25, cynnydd o 2.4% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn er gwaethaf gostyngiad yn oriau agor Llyfrgell Aberdaugleddau, cau Llyfrgell Arberth dros dro ar gyfer adleoli, cau Llyfrgell Dinbych-y-pysgod dros dro i ailosod silffoedd, a phroblemau mecanyddol gyda’r cerbyd llyfrgell symudol a llyfrgell yn y cartref, a fydd yn cael ei ddisodli yn 2025-26.
  • Drwy gydol y flwyddyn, mae prosiect Calon Sir Benfro (cynllun adfywio blaenllaw yn Hwlffordd) wedi gwneud cynnydd da o dan amgylchiadau heriol. Roedd yr heriau’n cynnwys pwysau ar y gyllideb a’r rhaglen (dyddiadau cau cyllidwyr) a chyfyngiadau oherwydd archaeoleg, yr amgylchedd hanesyddol a’r amgylchedd naturiol (ystlumod prin). Roedd y gwaith o godi arian ar gyfer y prosiect adfywio ar ôl ei gwblhau yn llwyddiannus gyda dyfarniad Cam I gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Yn ogystal, parhaodd amgueddfa dros dro Hwlffordd, a leolir yng Nghanolfan Siopa Glan yr Afon, i weithredu drwy gydol 2024-25 ar ôl ei hagor ym mis Mawrth 2024. Y bwriad yw adleoli’r amgueddfa yn ôl i Gastell Hwlffordd pan fydd yn ailagor ddechrau 2028.
Diogelu'r cyhoedd
  • Mae’r gwasanaeth yn parhau i gael ei herio gan swyddi gwag parhaus ac absenoldebau staff hirdymor. Mae gwaith sylweddol wedi’i wneud i ddatblygu cynllun gweithlu ar gyfer y gwasanaeth, sydd yn ganlyniad i heriau recriwtio parhaus ar draws meysydd gwasanaeth safonau masnach ac iechyd yr amgylchedd. Cytunwyd ar gyfres o gynlluniau cymhelliant, gan gynnwys taliadau porth a thaliadau croeso euraid, a byddant yn cael eu cyflwyno dros 2025-26 mewn ymgais i lenwi swyddi sydd wedi bod yn wag ers amser maith.
  • Parhaodd y galw am gymorth ar gyfer eiddo gwag yn 2024-25 ac, ym mis Mehefin 2025, roedd 1,469 o eiddo gwag yn Sir Benfro (yn wag ers dros chwe mis). O ganlyniad, mae cynllun gweithredu ar gyfer eiddo gwag a rhestr o eiddo gwag problemus wedi’u datblygu. Gwnaed llai o gynnydd nag a obeithiwyd ar gyflawni’r cynllun hwn oherwydd galw mawr am y gwasanaeth, colli staff, a’r amser a gymerwyd i recriwtio staff yn eu lle. Mae’r cyngor hefyd wedi cofrestru i gymryd rhan yng nghynllun grant cartrefi gwag Llywodraeth Cymru, gyda chyllid cyfatebol wedi’i nodi o’r premiwm treth gyngor ar gartrefi gwag. Mae’r cynllun hwn yn cefnogi adnewyddu eiddo gwag i’w gwneud yn ddiogel i fyw ynddynt a gwella eu heffeithlonrwydd ynni. Mae 70 o geisiadau wedi dod i law hyd yma ar gyfer y cynllun yn Sir Benfro.
  • Ni wnaeth Diogelu’r Cyhoedd ailddechrau casglu, dilysu ac adrodd ar fesurau perfformiad ar gyfer y Cerdyn Sgorio Corfforaethol yn ystod 2024-25 oherwydd colli staff cymorth busnes allweddol, a’r amser dilynol yr oedd ei angen ar gyfer recriwtio ac ymgyfarwyddo. Bydd hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen i 2025-26.
  • Mae’r galw am wasanaethau yn parhau i fod yn uchel, gyda thimau tai’r sector preifat yn delio â dros 1,000 o geisiadau am wasanaeth yn 2024, timau iechyd y cyhoedd gyda dros 1,500 o geisiadau, a thimau trwyddedu gyda bron i 4,000 o geisiadau.  Mae’r niferoedd hyn wedi tueddu i gynyddu’n gyson ers 2019.
  • Mae galw mawr ar gyfer sianeli arloesol fel yr ap Noise yn parhau, ynghyd â chynnydd ym moddhad cwsmeriaid a’r gallu i gofnodi digwyddiadau o aflonyddwch pan na all swyddogion fod yno.  Bu nifer o achosion gorfodi ac erlyn proffil uchel yn 2024 ac mae’r tîm yn parhau i ddefnyddio offer gorfodi newydd fel hysbysiadau amddiffyn cymunedol ac, yn 2025, gwelwyd datblygiad lle mae Cymdeithas Tai Ateb yn cael ei dirprwyo i gymryd mathau cyfyngedig o orfodi ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Gobeithir y bydd y gallu i gymryd camau ymyrraeth gynnar yn lleihau llwythi gwaith i’n tîm iechyd y cyhoedd ac yn helpu gyda thenantiaethau cynaliadwy i Ateb.
  • Er gwaethaf nifer o swyddi gwag heriol a sylweddol, mae’r gwasanaeth Safonau Masnach wedi parhau i flaenoriaethu rhai blaenoriaethau gorfodi cenedlaethol sydd â’r nod o amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, gan ganolbwyntio ar weithgareddau masnachwyr twyllodrus, ar amddiffyn defnyddwyr agored i niwed rhag sgamiau, ac ar werthu tybaco anghyfreithlon a fêps nad ydynt yn cydymffurfio, gan gynnwys gwerthu’r eitemau hyn i blant dan oed, sy’n cyflwyno problem sylweddol i iechyd a lles. Mae ymchwiliadau wedi datgelu troseddau difrifol ac, mewn rhai achosion, troseddau parhaus, sydd wedi arwain at ymafael mewn cynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio ac erlyniadau troseddol.
  • Cyflwynwyd cynllun adfer ar gyfer y Gwasanaeth Diogelwch a Safonau Bwyd, sy’n adlewyrchu datblygiadau cynllunio’r gweithlu a rhagdybiaethau wedi’u diweddaru, i’r cabinet a’i gymeradwyo ganddo ym mis Rhagfyr 2024, gyda’r dyhead o adlinio â’r cytundeb fframwaith cenedlaethol a’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd erbyn diwedd mis Medi 2026.  Er gwaethaf yr heriau hyn, ar ddiwedd 2024-25 roedd y gwasanaeth, drwy gyfuniad o fesurau, wedi lleihau’r ôl-groniad cyffredinol o arolygiadau hwyr i 650 o safleoedd, o 1,337 a oedd yn hwyr ar ddechrau 2023-24.
  • Er gwaethaf y galw am y gwasanaeth, mae wedi parhau i orfodi ei bwerau rheoleiddio i sicrhau yr amddiffynnir y cyhoedd ac anifeiliaid rhag niwed, gyda nifer o erlyniadau llwyddiannus wedi’u cwblhau.

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

Amgylcheddol
Seilwaith
Diwylliant, hamdden a chofrestu
Diogelu'r cyhoedd 

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

Yr amgylchedd
  • Gweithredu Strategaeth Gwasanaethau Amgylcheddol 2025-30.
  • Parhau i weithio gydag Enviro-crime mewn ymdrech i leihau achosion o dipio anghyfreithlon yn 2025-26.
Seilwaith
  • Cwblhau adolygiad o bolisi cludiant i’r ysgol.
  • Adolygu gweithrediad y polisi terfyn cyflymder 20 mya ledled y sir.
Diwylliant, hamdden a chofrestru
  • Gwaith adnewyddu cyflawn i byllau nofio Dinbych-y-pysgod a Phenfro.
  • Negodi a dod i gytundeb grant newydd gyda Croeso Sir Benfro a symud ymlaen â chyflawniad y Cynllun Rheoli Cyrchfan.
Diogelu’r cyhoedd 
  • Ailddechrau casglu, dilysu ac adrodd ar fesurau perfformiad diogelu’r cyhoedd.
  • Goruchwylio’r gwaith o gyflawni cynllun gweithredu ar gyfer eiddo gwag, a pharhau i ddychwelyd eiddo gwag yn ôl i’w ddefnyddio.
  • Adolygu cynlluniau datblygu’r gweithlu’r gwasanaethau.
  • Gweithredu ymarfer brysbennu ar gyfer gwasanaethau, er mwyn sicrhau blaenoriaethu a rheoli ceisiadau am wasanaeth. 

 

SA1.9 - Byddwn yn datblygu strategaeth i leihau tlodi ac anghydraddoldeb

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Mae cyflawni Strategaeth Trechu Tlodi Sir Benfro, a gyhoeddwyd ddechrau 2024, yn parhau, dan arweiniad Gweithgor Tlodi ac Anghydraddoldebau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.  Mae’r is-grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd i oruchwylio cyflawniad camau gweithredu ac i gydweithio ar gyflawni prosiectau a ariennir gan grant.
  • Cynhaliwyd ail Uwchgynhadledd Tlodi Sir Benfro ym mis Ebrill 2025, gyda chanolbwyntio parhaus ar archwilio materion lleol a nodi atebion creadigol i frwydro yn erbyn tlodi yn Sir Benfro.  Cynhaliwyd gweithdai i annog y mynychwyr i ystyried pa gamau cadarnhaol y gellir eu cymryd i helpu i ddatrys problemau sy’n ymwneud â thlodi. 
  • Yn dilyn Uwchgynhadledd Tlodi 2024, awgrymodd adborth fod prif negeseuon y digwyddiad yn taro’r galon yn galed. Nid oedd llawer o’r mynychwyr yn sylweddoli pa mor helaeth oedd tlodi yn Sir Benfro i ddechrau. Cymerodd uwchgynhadledd eleni ymagwedd fwy cytbwys, gan gyfleu’r neges, er nad oedd tlodi am ddiflannu, fod gwaith cadarnhaol a rhagweithiol y gellir ei wneud i gefnogi a helpu pobl.
  • Roedd uwchgynhadledd eleni yn cynnwys cyflwyniad ar y llwyfan LIFT (traciwr teuluoedd incwm isel) newydd.  Prynwyd y feddalwedd hon ddechrau 2025 ac mae’n defnyddio data o nifer o ffynonellau i nodi’r rhai nad ydynt efallai’n hawlio budd-daliadau y maent yn gymwys i’w cael, gan alluogi’r cyngor i gysylltu’n rhagweithiol â’r bobl hynny i’w cefnogi i wneud hawliad.  Mae’r ymgyrch gyntaf ar gyfer y llwyfan yn cael ei pharatoi ar hyn o bryd.
  • Mae strategaeth gyfathrebu a chydweithio yn cael ei datblygu ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o ymgyrch llwyfan LIFT. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu ag aelodau etholedig a sicrhau aelodau’r cyhoedd bod y llythyrau y gallent eu derbyn am hyn yn ddilys.
  • Yn seiliedig ar gamau gweithredu o fewn y Strategaeth Trechu Tlodi, mae is-grŵp profiad bywyd hefyd yn cael ei ddatblygu sy’n cynnwys unigolion yr effeithir arnynt gan dlodi, i archwilio eu profiadau o gael mynediad at wasanaethau a systemau cymorth sydd ar gael.
  • Mae prosiect Hawliau Lles Pobl Sir Benfro wedi bod yn arbennig o lwyddiannus, gyda’r nod o wella cyllid a gwella dyfodol y rhai dan anfantais.  Mae’r prosiect wedi derbyn 506 o atgyfeiriadau, gyda £261,834 o enillion ariannol wedi’u creu i deuluoedd Sir Benfro (gyda theuluoedd yn elwa ar gyfartaledd o tua £3,000).  Mae’r prosiect hefyd wedi cefnogi teuluoedd gydag atgyfeiriadau i fanciau bwyd, talebau tanwydd, a chymorth i gael mynediad at y Gronfa Cymorth Dewisol.
  • Fe wnaethon ni gynyddu nifer y plant oed ysgol gynradd sy’n cael prydau ysgol am ddim o 68% i 73%.  Mae hyn yn hyrwyddo bwyta’n iach yn ogystal â mynd i’r afael â thlodi plant. 
  • Mae’r cyfraddau tlodi plant (yn agor mewn tab newydd) diweddaraf wedi’u hadrodd ar-lein. Ar gyfer ardal etholaeth Canol a De Sir Benfro ar gyfer 2023-24, mae tlodi cymharol wedi cynyddu i 26%, i fyny o 24.3% yn 2022-23.  Mae hyn yn cymharu â ffigurau o 21.8% ar gyfer y DU a 24% ar gyfer Cymru.  Mae data ar gyfer ardaloedd bach yn dangos bod dros draean o blant mewn tlodi cymharol mewn 10 o 71 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is Sir Benfro a bod gan un Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is, Garth 2, gyfradd o 47.2%, sydd o fewn y 5% o gyfraddau uchaf ar gyfer Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yn y DU.

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Adolygu’r Strategaeth Trechu Tlodi yn flynyddol i sicrhau bod y cynnwys yn berthnasol ac yn gyfredol a bod profiadau bywyd pobl yn cael eu hadlewyrchu’n briodol.
  • Sefydlu’r is-grŵp profiad bywyd ac integreiddio argymhellion y grŵp i waith y Gweithgor Tlodi ac Anghydraddoldebau.
  • Myfyrio ar yr adborth o Uwchgynhadledd Tlodi 2025 cyn dechrau cynllunio ar gyfer yr uwchgynhadledd nesaf yn 2026 er mwyn sicrhau bod yr uwchgynhadledd yn diwallu anghenion y rhai sy’n gweithio i gefnogi’r rhai sydd mewn tlodi yn y sir.
  • Cryfhau aelodaeth y Grŵp Tlodi ymhellach drwy wahodd cynrychiolaeth o ysgolion i’r grŵp – yn aml, staff ysgolion yw’r cyntaf i weld sut mae tlodi’n effeithio ar blant a phobl ifanc yn ein cymunedau. 

 

SA1.10 - Byddwn yn adeiladu diwylliant o lywodraethu da yn y cyngor er mwyn gwella ymddiriedaeth a hyder yn ein prosesau penderfynu

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Yn ystod 2024-25, gweithiodd y cyngor ar y camau gweithredu sy’n weddill yn ei Gynllun Gwella Llywodraethiant Corfforaethol.  Roedd y camau gweithredu hyn yn seiliedig ar ganfyddiadau yn Adroddiad Buddiant Cyhoeddus 2022 Archwilio Cymru yn ogystal â cham cyntaf ei adroddiad dilynol yn 2023. Roedd llawer o’r camau gweithredu yn y Cynllun Gwella Llywodraethiant Corfforaethol yn dibynnu ar newidiadau i’r cyfansoddiad a gytunwyd ym mis Hydref 2023. 
  • Ystyriwyd y cynnydd yn erbyn y Cynllun Gwella Llywodraethiant Corfforaethol gan y cyngor yn ei gyfarfod ym mis Mai 2024.  Mae hyfforddiant i uwch-swyddogion ac aelodau ar y cyfansoddiad a materion cysylltiedig fel y cod ymddygiad wedi’i gynnwys yng nghalendr y cyngor, gyda digwyddiadau rheolaidd yn cael eu cynnal bob mis Chwefror, ac mae hyn yn mynd i’r afael â phryderon ynghylch y berthynas rhwng swyddogion ac aelodau.  Roedd rhai o’r camau gweithredu yn y cynllun yn dibynnu ar amserlenni Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU – er enghraifft, newidiadau a ddaeth yn sgil y ddeddfwriaeth gaffael (wedi’i hoedi) a gyflwynwyd ym mis Chwefror 2025 – a cheir sylwadau ar hyn yn yr adran am adnoddau.
  • Ym mis Mawrth 2025, cwblhaodd Archwilio Cymru ail gam ei adroddiad dilynol.  Canfu fod y cyngor yn parhau i wneud cynnydd wrth fynd i’r afael â’r argymhellion yn ein hadroddiad er budd y cyhoedd, ond nid yw’n glir sut mae’n sicrhau ei hun bod y camau y mae’n eu cymryd yn gynaliadwy ac y byddant yn cyflawni’r effeithiau a fwriadwyd.  Nid yw Archwilio Cymru wedi cyhoeddi unrhyw argymhellion newydd yn ei adroddiad ond mae wedi datgan ei fod yn bwriadu parhau i fonitro cynnydd y cyngor wrth weithredu’r argymhellion presennol fel rhan o’n gwaith sicrwydd ac asesu risg parhaus.
  • Er bod camau gweithredu sy’n weddill yn y Cynllun Gwella Llywodraethiant Corfforaethol yn parhau i gael eu cyflawni, ac mae Archwilio Cymru wedi nodi na fyddant yn cyhoeddi unrhyw argymhellion pellach ynghylch y gwaith hwn, mae’r cyngor wedi gofyn i’r panel i’w Asesiad Perfformiad Panel ganolbwyntio’n benodol ar lywodraethiant.  Mae hyn er mwyn cael sicrwydd ychwanegol ac i fanteisio ar unrhyw gyfleoedd i gryfhau ein prosesau llywodraethu ymhellach trwy ddysgu o safbwyntiau allanol ac annibynnol.
  • Mae’r cyfansoddiad yn parhau i esblygu, gyda newid i’r cynllun dirprwyo gweithredol a gytunwyd ar 7 Mawrth 2024.  Mae’r cyfansoddiad yn parhau i gael ei adolygu i sicrhau bod amcanion ac egwyddorion y cyfansoddiad yn dod i rym yn llawn a chytunwyd ar newidiadau bach ym mis Hydref 2024 a mis Mai 2025.  Mae pwyllgor ymroddedig i adolygu’r cyfansoddiad yn parhau i gefnogi’r Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i gyflawni’r gwaith hwn.
  • Mae llawer o benderfyniadau’n cael eu dirprwyo i swyddogion.  Yn 2024-25, cytunwyd ar brotocol ar gyfer cofnodi a chyhoeddi penderfyniadau swyddogion.  Mae’r protocol yn gwahaniaethu rhwng y penderfyniadau hynny y mae angen eu cofnodi yn unig a phenderfyniadau mwy arwyddocaol (er enghraifft, y rhai sy’n cynnwys gwariant dros £100,000 lle gall y buddiant gwleidyddol, cyhoeddus neu i enw da fod yn nodedig) lle dylid cyhoeddi penderfyniad ochr yn ochr â phapurau pwyllgor eraill.  Bydd hyn yn mynd i’r afael ag anghysondebau a nodwyd mewn blynyddoedd blaenorol.
  • Mae ein strategaeth cyfranogiad yn cynnwys camau gweithredu sy’n ymwneud ag annog cyfranogiad yn yr etholiadau llywodraeth leol arfaethedig yn 2027.  Mae rhagor o fanylion yn yr adran ymgynghori ac ymgysylltu (gweler adran 2.3).  Mae cynnydd wrth gyflawni’r strategaeth yn cael ei oruchwylio gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
  • Yn ei gyfarfod ar 3 Gorffennaf 2025, ystyriodd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar ddigonolrwydd swyddogaethau’r Gwasanaethau Democrataidd.  Yn ei hanfod, adroddiad yw hwn ar y gwaith a wnaed gan y tîm yn 2024-25 a’r heriau y mae’n eu hwynebu.
  • Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad, o ystyried y bydd angen darparu hyfforddiant sefydlu i aelodau yn dilyn etholiadau 2027, nad yw’r gyllideb hyfforddi aelodau bresennol yn ddigonol, ac mae cynnydd wedi’i argymell.  Nododd yr adroddiad hefyd, er bod yr adnoddau a ddyrannwyd i’r swyddogaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ddigonol, nad oes llawer o hyblygrwydd i’r tîm ymgymryd â gwaith ychwanegol.
  • Yn arbennig, fe wnaethom adolygu’r cynllun deisebau a’r deisebau – proseswyd deuddeg deiseb yn y cyfnod hwn, o’i gymharu â deg y flwyddyn flaenorol, a thrafodwyd pump mewn pwyllgor trosolwg a chraffu a thri yn y cyngor llawn.  Gwrthodwyd tri gan nad oeddent yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cyflwyno ac mae un yn dal i gasglu llofnodion.  Mae’r cynllun yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ar ôl cael ei ystyried gan y Pwyllgor Adolygu Cyfansoddiadol a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ac mae nifer o argymhellion wedi’u gwneud i’r cyngor i wella’r cynllun. Adolygwyd y cynllun gan y cyngor ym mis Mai a gwnaed nifer o newidiadau.
  • Yn 2024-25, cytunwyd ar arolwg o ymgysylltiad aelodau ac amseroedd cyfarfodydd, sef gwaith a wnaed yn 2025-26 ac a adroddwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 3 Gorffennaf.
  • Gwahoddwyd holl gadeiryddion ac is-gadeiryddion y pwyllgorau trosolwg a chraffu i hyfforddiant ar sgiliau cadeirio yn 2024 a arweiniwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.  Yn ogystal, mae’r cadeiryddion yn cynhyrchu adroddiad blynyddol ar y swyddogaeth trosolwg a chraffu sy’n nodi’r gwaith y mae pob un o’r pwyllgorau priodol wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn.  Ystyriwyd hyn yng nghylchred pob pwyllgor ym mis Mehefin 2025.
  • Mae pob cynghorydd yn ddarostyngedig i’r cod ymddygiad a chaiff cydymffurfedd ei oruchwylio gan y Pwyllgor Safonau (y mae ei gylch gwaith hefyd yn ymestyn i gynghorwyr tref a chymuned Sir Benfro).  Ystyriodd y Pwyllgor Safonau adroddiad yn manylu ar nifer y cwynion a gafodd eu datrys drwy ddatrysiad anffurfiol (pump) neu drwy’r Ombwdsmon (pump ar hugain) yn 2024-25.
  • Y llynedd, fe gomisiynwyd adroddiad gennym ar argymhellion y Comisiwn Democratiaeth Leol a Ffiniau ac roedd hynny’n unol â pholisi’r cyngor ei hun.  Bydd pob un o’r 77 o gynghorau tref a chymuned yn parhau (nifer o newidiadau bach i’r ffiniau), er y bydd nifer y cynghorwyr a’r wardiau o fewn y cynghorau tref a chymuned yn lleihau.  Mae hyn yn darparu sefydlogrwydd ar gyfer gwaith gyda chymunedau ond nid yw’n mynd i’r afael â phryderon a godwyd gan y sector ei hun ynghylch anawsterau wrth recriwtio clercod a chynnal y systemau trefniadol a llywodraethu y mae’n ofynnol i bob cyngor tref a chymuned, ni waeth pa mor fach ydynt, eu cael ar waith.
  • Cafodd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2024-25 ei ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 10 Gorffennaf 2025.  Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn ategu’r hunanasesiad, ac mae ei gasgliadau yn rhan o’r dystiolaeth ar gyfer yr asesiad hwn. 

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Parhau i baratoi ar gyfer etholiadau 2027 a hyfforddiant a datblygiad aelodau cysylltiedig drwy weithgor y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a sefydlwyd ddechrau 2025-26.
  • Ystyried gwelliannau i bwyllgorau trosolwg a chraffu a/neu sut maen nhw’n ymgysylltu â’r cyhoedd.
  • Parhau i ymgymryd â hyfforddiant yng nghyfansoddiad y cyngor a’r prosesau gwneud penderfyniadau.

 

SA1.11 - Byddwn yn gyngor sy'n gynaliadwy ac yn gydnerth yn ariannol sy'n rheoli ein hadnoddau a'n hasedau’n effeithiol ac yn effeithlon – er enghraifft, drwy adolygu a gwneud y gorau o’n hystad gorfforaethol

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Adroddir gwybodaeth am sefyllfa ariannol y cyngor bob chwarter i’r Cabinet, y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Ystyriwyd adroddiad Alldro Cyllideb 2024–2025 gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 7 Gorffennaf 2025.Mae hyn yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth, gan gynnwys data perfformiad.
  • Mae cynghorau’n wynebu pwysau cyllidebol sylweddol na all cynghorau eu datrys ar eu pen eu hunain.  Mae’r canlynol yn crynhoi’r her y mae’r gweithgor annibynnol ar lywodraeth leol gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, a gomisiynwyd yn ddiweddar, yn ceisio mynd i’r afael â hi drwy ddarparu argymhellion i lywodraeth nesaf Cymru.
    • Er gwaethaf y cynnydd diweddar yn y cyllid a ddyrannwyd i lywodraeth leol, mae pwysau cyllidebol yn dilyn yr argyfwng costau byw, Covid, a’r galw cynyddol am wasanaethau fel gofal cymdeithasol yn golygu bod yn rhaid i lawer o gynghorau dorri neu oedi llawer o wasanaethau diangen – ac mae’r amgylchedd cyllidol a gwleidyddol presennol yn golygu nad yw cynnydd sylweddol pellach mewn cyllid yn debygol.
  • Mae cyfradd chwyddiant yn cael effaith ar bŵer gwario gwirioneddol y cyngor dros y tymor canolig.  Drwy gydol dau chwarter cyntaf 2024-25, roedd chwyddiant (CPIH) ar 3% neu islaw, cyn codi i tua 3.5% ar ddiwedd y flwyddyn.  Ar adeg ysgrifennu, mae cyfradd chwyddiant CPIH y DU yn 4%, dwywaith yn fwy na tharged Banc Lloegr o 2%.  Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y bydd chwyddiant yn aros tua 3.7% tua diwedd 2025 ac yna’n gostwng i 2.3% yn 2026, gyda gostyngiad pellach i’r gyfradd darged o 2027.  Gweler Atodiad F o bapurau alldro’r cabinet ar gyfer mis Gorffennaf am fwy o fanylion ynghylch sut rydym yn cynllunio ar gyfer effaith chwyddiant ar wasanaethau’r cyngor.
  • Er y deallwyd y byddai 85% o gostau ychwanegol cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr ar gyfer y sector cyhoeddus yn 2025–2026 yn cael eu hariannu yng Nghymru, ni wireddwyd hyn, gan adael pwysau o £1 miliwn yn ystod y flwyddyn ar gyfer 2025–2026 a phwysau o £1 miliwn ar y gyllideb sylfaenol ar gyfer 2026–2027.
  • Cynigiwyd symud dyddiad y cyfarfod ar gyfer penderfynu ar gyllideb 2024-25 ymlaen o bythefnos i ganiatáu mwy o amser ar gyfer trafodaeth estynedig, ond penderfynodd y cyngor ohirio ei drafodaethau tan fis Mawrth 2025, pan gadarnhawyd cyllid Llywodraeth Cymru.  Yn y cyfarfod cyllideb ei hun, ataliwyd y Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu ystyried cyllideb amgen.  Y cynnydd y cytunwyd arno yn y dreth gyngor oedd 9.35%, sy’n cyfateb i eiddo Band D at ddibenion y cyngor sir o £1,651.97. 
  • Yng ngoleuni’r heriau i gymeradwyo cyllideb dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r cyngor yn ceisio cefnogaeth a safbwyntiau annibynnol fel rhan o’r Asesiad Perfformiad Panel sydd ar ddod ynghylch cynaliadwyedd ariannol.  Yn benodol, rydym wedi gofyn i’r panel ystyried a oes dull ‘un cyngor’ o gynllunio ariannol, dyrannu adnoddau a rheoli galw sy’n rhoi’r awdurdod ar sail ariannol gynaliadwy dros y tymor canolig a’r tymor hwy, ac, os nad oes, pa welliannau y gallwn eu gwneud yn y dyfodol i gryfhau’r maes hwn.
  • Yn dilyn recriwtio i’r tîm Gwasanaethau Ariannol yn 2023-24, cefnogwyd aelodau’r tîm trwy brentisiaeth technegydd cyfrifyddu a chymwysterau cyfrifyddu proffesiynol. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar y tîm, gan arwain at welliant wrth gadw staff a morâl uwch ymhlith y staff.  Mae gan y tîm ddigon o gapasiti a gwydnwch ac felly roedd recriwtio wedi’i rewi yn 2024-25 ac ailflaenoriaethwyd llwythi gwaith.  Mesur tymor byr oedd hwn a arweiniodd at bum swydd wag a fydd yn cael eu llenwi yn haf 2025.  Yn seiliedig ar lefel y diddordeb mewn swyddi, mae anawsterau recriwtio yn llawer llai difrifol nag yr oeddent ddwy flynedd yn ôl.
  • Mae recriwtio a chadw staff yn y gwasanaethau refeniw a budd-daliadau yn fwy o broblem ond mae hyn yng nghyd-destun llwyth gwaith sy’n lleihau oherwydd mudo achosion budd-dal tai oedran gweithio i Gredyd Cynhwysol a’r potensial ar gyfer defnyddio TG i symleiddio prosesau a lleihau llwyth gwaith.  Serch hynny, cydnabuwyd yr angen i gynyddu capasiti yn adran y dreth gyngor i adlewyrchu’r llwyth gwaith cynyddol a achosir gan bremiymau’r dreth gyngor, ac yn y tîm adfer.
  • Mae’r sefyllfa ariannol ar gyfer alldro refeniw a adroddwyd i’r cabinet ym mis Gorffennaf yn cadarnhau bod gwariant net y cyngor ar gyfer 2024-25 yn £301.5 miliwn, ar ôl dyraniadau i’r cronfeydd arian wrth gefn ac ohonynt, sef tanwariant o £2.0 miliwn.  
  • Mae hyn yn cynrychioli sefyllfa well o’i chymharu â’r gorwariant gwasanaeth rhagweledig o £1.4 miliwn a adroddwyd yn Chwarter 3 ac mae oherwydd y canlynol:
    • Derbyn incwm grant ychwanegol yn ystod Chwarter 4.
    • Tanwariant grant a ddefnyddiwyd i wrthbwyso gwariant craidd yn ystod y chwarter olaf (lle roedd amodau’n caniatáu).
    • Cynnydd cynnar arbedion cyllideb 2025-26.
    • Arbedion swyddi gwag parhaus.
    • Moratoriwm parhaus ar wariant diangen.
    • Cynnydd pellach mewn incwm buddsoddi a gostyngiad mewn costau ariannu cyfalaf.
  • Am y rhan fwyaf o’r flwyddyn ariannol, roeddem yn rhagweld gorwariant felly mae’n gamp wirioneddol ein bod wedi tanwario ar draws y flwyddyn ariannol, er gwaethaf gorwariant o £6.5 miliwn yn y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion. 
  • Mae adroddiad Alldro Cyllideb y Cabinet ym mis Gorffennaf 2025 yn cynnwys llawer mwy o fanylion am sut y rheolwyd pwysau cyllidebol.  Mae hefyd yn gwneud sylwadau ar y dyraniad o £1.228 miliwn i’r gronfa gyffredinol sydd wedi codi o dreth gyngor ychwanegol a gasglwyd o ôl-ddyledion blynyddoedd blaenorol ac eiddo hunanarlwyo sydd wedi trosglwyddo o ardrethi annomestig i’r dreth gyngor, a’r rhesymau pam ei bod yn ddoeth dyrannu hyn i’r gronfa wrth gefn.  Bydd y tanwariant sy’n weddill o £2 miliwn yn cael ei ddyrannu i gronfa wrth gefn y fenter fel bod gennym adnoddau o hyd i fuddsoddi mewn prosiectau gwella ac atal er mwyn gwireddu cyfleoedd osgoi costau / arbed cyllideb yn y dyfodol.
  • Tanwariodd mwyafrif o wasanaethau’r cyngor eu cyllideb ac mae’n amlwg bod y moratoriwm ar recriwtio (a arweiniodd at arbediad o £2.4 miliwn o ran rheoli swyddi gwag ledled y cyngor) wedi chwarae rhan yn hyn.  Roedd costau cyllido cyfalaf £4.176 miliwn yn is na’r gyllideb o ganlyniad i lithriad yn y rhaglen gyfalaf.  Mae’r ddau fecanwaith arbed hyn yn cael effaith ar ansawdd gwasanaethau.  Mae tanwariant mewn rhai gwasanaethau (megis priffyrdd) wedi’i roi i’r gronfa wrth gefn i alluogi mwy o waith yn y blynyddoedd i ddod.  Roedd tanwariant ar addysg a digartrefedd (gwasanaethau a oedd wedi’u gorwario mewn blynyddoedd blaenorol) yn 2024-25.
  • Mae’r gwasanaethau a orwariodd yn bennaf o fewn gofal cymdeithasol. Roedd Gwasanaethau Plant wedi gorwario ei gyllideb dreigl o £31.556 miliwn o £5.649 miliwn (17.9%).  O fewn y pennawd cyllideb hwn, gofal preswyl i blant yw’r eitem unigol fwyaf.  Roedd tanwariant ar gyfer cyllidebau llety wedi’i gymeradwyo, cynghorwyr personol, y timau staffio ar gyfer lleoliadau teuluoedd / plant ag anableddau, a gorchmynion preswyl, sef gwasanaethau sy’n ataliol i raddau helaeth.  Mae’r darlun ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn fwy cymhleth; gwariodd £0.872 miliwn (1.1%) dros ei gyllideb dreigl o £80.127 miliwn.  Er y bu gorwariant ar leoliadau mewn cartrefi nyrsio, llety â chymorth a gwasanaethau dydd, roedd tanwariant o £0.593 miliwn mewn meysydd eraill fel asesu a rheoli gofal o ganlyniad i swyddi gwag.
  • Yn ystod 2024-25, gorwariodd 41 o’n 61 ysgol y cyllid a dderbyniwyd gydag 13 ysgol â balansau diffygiol ar ddiwedd y flwyddyn. Mae gan ysgolion unigol gyfrifoldeb i osod cyllideb gytbwys a dyna’r disgwyliad a’r gofyniad o hyd. Yn ystod 2024-25, cydnabuwyd nad oedd y cymorth ac arweiniad ariannol a ddarparwyd drwy’r cytundeb lefel gwasanaeth yn ddigonol mwyach i gefnogi ysgolion i baratoi a monitro cytundebau diffyg trwyddedig i’w dwyn yn ôl i warged dros y cynllun ariannol tymor canolig. O ganlyniad, cyflwynwyd a chymeradwywyd cais ar y cyd ar gyfer Rhaglen Newid Carlam ar gyfer cyllid ac addysg i ddarparu capasiti ychwanegol i gynorthwyo penaethiaid a chyrff llywodraethu i nodi arbedion cost newydd trwy feincnodi ariannol a chwricwlwm, gan gefnogi penaethiaid a chyrff llywodraethu i nodi meysydd o’u gweithrediad sy’n aneffeithlon trwy eu cymharu ag ysgolion sy’n effeithlon yn y meysydd hyn. Bydd aelod presennol o’r tîm cyllid addysg yn trosglwyddo i gefnogi’r prosiect hwn.
  • Roedd y cynllun ariannol tymor canolig yn rhagweld bwlch ariannu ar gyfer 2025-26 o £27.4 miliwn gyda’r bwlch ariannu dros gynllun ariannol tymor canolig 2025-26 i 2028-29 yn £73.6 miliwn (y senario fwyaf tebygol).  Bydd cabinet mis Medi 2025 yn derbyn diweddariad ar yr amcangyfrif diweddaraf o faint y bwlch ariannu fel rhan o adroddiad monitro cyllideb Chwarter 1 2025-26.
  • Mae cyhoeddi datganiad o gyfrifon drafft y cyngor ar gyfer 2023-24 wedi’i ohirio y tu hwnt i’r terfyn amser statudol, sef 30 Mehefin 2024, oherwydd oedi wrth dderbyn y prisiadau asedau eiddo. Cyhoeddwyd y cyfrifon terfynol (wedi’u harchwilio) ar gyfer 2023-24 ar 13 May 2025.   Mae’n debygol y bydd cyhoeddi datganiad cyfrifon 2024-24 yn cael ei ohirio am resymau tebyg (er bod gwelliant wedi bod ar lawer o’r cerrig milltir nad ydynt yn gysylltiedig ag eiddo ar gyfer paratoi’r cyfrifon), gyda dyddiad targed ar gyfer cyhoeddi’r cyfrifon drafft bellach o 15 Medi.  Adroddwyd manylion i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2025.
  • Yn ystod 2024-25, sefydlogwyd y Tîm Eiddo trwy recriwtio swydd allweddol ac mae’r tîm wedi bod yn gwella effeithlonrwydd y ffordd y mae portffolio eiddo’r cyngor yn cael ei reoli ac yn gwneud y mwyaf o’r manteision ariannol ac ehangach y mae’n eu cynnig.  Ystyriodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau sut mae’r Gwasanaeth Eiddo yn mynd i’r afael â phum argymhelliad a wnaed gan Archwilio Cymru yn 2022.  Daeth hyn i’r casgliad bod un argymhelliad wedi’i gyflawni’n llawn, dau wedi’u cyflawni’n rhannol, a dau heb eu cwblhau o hyd.
  • Cytunwyd ar bolisi trosglwyddo asedau cymunedol newydd gan y cabinet ym mis Tachwedd 2024.  Ers y dyddiad hwn, mae nifer o drosglwyddiadau asedau cymunedol ar y gweill, gan gynnwys toiled cyhoeddus (a drosglwyddwyd i Gyngor Dinas Tyddewi) a Neuadd y Dref Abergwaun (yn y broses o gael ei throsglwyddo i Gyngor Tref Abergwaun ac Wdig).
  • Mae’r cyngor wedi gweithredu Maes Awyr Hwlffordd ers y 1950au.  Mae hyn yn darparu sylfaen leol ar gyfer gwasanaethau brys yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd economaidd i’r ardal, ond roedd angen cymhorthdal ar gyfer y cyfleuster.  Ym mis Mai 2024, yn dilyn cyfarfod â rhanddeiliaid yn y maes awyr y mis blaenorol, cytunodd y cabinet y dylid negodi a chwblhau les ar gyfer Maes Awyr Hwlffordd a fydd yn caniatáu i’r maes awyr barhau i weithredu heb unrhyw gost i’r cyngor.  Parhaodd y trafodaethau drwy gydol 2024-25 ac, ym mis Ebrill, llofnodwyd les gyda chyfarwyddwyr Haverfordwest Airport Ltd.Bydd y maes awyr yn parhau i weithredu ond heb unrhyw gost i’r cyngor. Bydd Haverfordwest Airport Ltd yn cymryd drosodd weithrediadau dyddiol yn y maes awyr a bydd staff maes awyr y cyngor yn cael eu trosglwyddo fel rhan o’r les.
  • Daeth y Ddeddf Caffael newydd i rym ym mis Chwefror 2025 (wedi’i gohirio o haf 2024) a bydd angen i bob gweithgaredd caffael newydd ddilyn y ddeddfwriaeth newydd hon. Mae gan hyn oblygiadau mawr ar sut mae caffael yn cael ei gynnal o fewn y cyngor ac mae hyfforddiant a meithrin gallu ar draws y cyngor wedi dechrau.
  • Gall sut rydym yn ymgymryd â chaffael ddod â manteision i’r economi leol ac, yn 2024-25, roedd 49.4% o’n gwariant gyda chyflenwyr lleol, i fyny o 46.6% yn 2023-24.  Mae’r ffigur hwn wedi’i ddylanwadu gan raglen gwariant cyfalaf fawr y cyngor a diffyg cwmnïau adeiladu mawr lleol.
  • Roedden ni’n bwriadu cwblhau gweithrediad tri modiwl TG ar gyfer Citizens Access – “Budd-daliadau”, “Adolygiad Achos Llawn” a “Landlordiaid” – a fydd yn cynyddu effeithlonrwydd a’r gallu i gwsmeriaid wneud hawliadau / cadw manylion yn gyfredol.  Ni chafodd hyn ei weithredu yn ystod y flwyddyn ond mae’r gwaith cynllunio a TG technegol ar gyfer ei gyflawni wedi’i wneud.
  • Roedd ein cyfradd casglu’r dreth gyngor ar gyfer 2024-25 yn 95.10%, sy’n is na’r dybiaeth gyllidebol o 98% a’r 16eg isaf yng Nghymru.  Y ddau brif reswm dros y gostyngiad mewn perfformiad oedd cynyddu’r llwyth gwaith yn y chwarter cyntaf (a gafodd sgil-effeithiau drwy gydol y flwyddyn) a symud nifer o eiddo yn ôl i’r dreth gyngor o ardrethi busnes, gan arwain yn aml at fil sylweddol wedi’i ôl-ddyddio ar gyfer premiymau’r dreth gyngor ar ail gartrefi.  Mewn rhai achosion, mae hyn wedi arwain at falansau nad yw rhai trethdalwyr yn gallu eu talu, ac rydym yn trafod trefniadau talu gyda nhw. 
  • Y llynedd, fe wnaethon ni weithredu i leihau dyled ac mae cyfanswm o £1.8 miliwn mewn ôl-ddyledion y dreth gyngor wedi’u cyfeirio at asiantau gorfodi.  Mae’r broses adfer wedi’i symleiddio i alluogi atgyfeirio at asiantau gorfodi yn gyflymach.  Rydym wedi recriwtio aelod o staff (fel rhan o’r pecyn ataliadau a gytunwyd ym mis Ebrill) sy’n cynorthwyo gydag adennill dyledion, gan gynnwys y dreth gyngor.  Mae’r swydd hon yn ategu swyddi adfer dyledion gofal cymdeithasol mwy arbenigol yn ogystal â chyfreithiwr adfer dyledion arbenigol a ariennir hefyd fel rhan o ataliadau.

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Parhau i sicrhau fod y cyngor ar sail ariannol gynaliadwy a phontio’r bwlch ariannu a nodwyd yn y cynllun ariannol tymor canolig.
  • Gweithredu tri modiwl o system refeniw a budd-daliadau i wella mynediad cwsmeriaid a lleihau cost weinyddol.
  • Gwella cyfradd casglu’r dreth gyngor a lleihau dyled tai heb ei thalu.
  • Adolygu opsiynau i gaffael a mudo i lwyfan newydd ar gyfer ein system rheoli ariannol a’r gwaith rhaglen cysylltiedig i gefnogi hyn. Rydym yn rhagweld y bydd hwn yn ddarn sylweddol o waith.
  • Parhau i ymgorffori’r Ddeddf Caffael.
  • Gweithio gydag ysgolion a’u cyrff llywodraethu i fynd i’r afael â diffygion ariannol ysgolion.
  • Parhau i ddatblygu ein Cynllun Rheoli Asedau Strategol.
  • Ail-seilio’r rhaglen gyfalaf, er mwyn sicrhau bod y dyddiadau y bydd gwariant cyfalaf yn cael ei achosi a’r dyddiad y bydd angen i’r cyngor fenthyca yn cael eu hadlewyrchu’n gywir yn y costau ariannu cyfalaf sydd wedi’u cynnwys yn y gyllideb.

 

SA1.12 - Byddwn yn gwella datblygiad ein gweithlu, gan wella sgiliau a chyfleoedd yn ogystal â mynd i'r afael â materion recriwtio a chadw

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Parhaodd lefelau absenoldeb yn 2024-25 i fod yn y chwartel isaf o’u cymharu ar draws awdurdodau lleol Cymru. Roedd nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd fesul gweithiwr yn 10 diwrnod y flwyddyn o’i gymharu â chyfartaledd Cymru gyfan o 11.7 diwrnod. Mae rhesymau dros absenoldeb wedi dod yn fwyfwy cymhleth ac mae rheolwyr yn cael eu cefnogi gan ein Tîm Cysylltiadau Cyflogeion i lywio trwy wrthdaro yn y gweithle, salwch cronig hirdymor ac effaith trawma emosiynol personol. Parhaodd iechyd emosiynol a meddyliol i gyfrannu’n fawr at lefelau absenoldeb yn 2024-25. Roedd 38% o’r holl atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol yn gysylltiedig ag iechyd meddwl, gyda 70% yn gysylltiedig â rhesymau personol. Fodd bynnag, mae lansiad yr ymgyrch gwrth-stigma ar gyfer iechyd meddwl yn 2018 yn parhau i ddangos canlyniadau, ac mae’r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol bellach yn cydlynu ac yn darparu cymorth clinigol i 70 o hyrwyddwyr iechyd meddwl.
  • Bu llwyddiant mawr yn y rhaglenni cymorth lles rhagweithiol, fel digwyddiadau chwarterol sy’n tynnu sylw at lesiant i gydweithwyr a chlinig llesiant gaeaf blynyddol lle gall staff gael mynediad at y brechlyn ffliw a’r brechlyn COVID-19. Cynhaliwyd nifer o glinigau lles galw heibio mewn cydweithrediad â’n cydweithwyr hamdden drwy gydol y flwyddyn, gan ddarparu amgylchedd cyfeillgar i staff ymholi am ddosbarthiadau lles, cael gwybodaeth am aelodaeth cymhwysedd lles, cael sgan Boditrax (dadansoddiad o cyfansoddiad y corff), a thrafod unrhyw ganlyniadau. Mae’r cyngor hefyd wedi hyrwyddo digwyddiadau cenedlaethol, fel Diwrnod Beicio i’r Gwaith ar 1 Awst 2024.
  • Parhaodd y Cynllun Diswyddo Gwirfoddol i gael ei hyrwyddo yn 2024-25, gyda cheisiadau i’r cynllun yn cael eu hystyried gan yr uwch-dîm arwain. Mae’r polisi wedi galluogi’r cyngor i ymateb i bwysau cyllidebol ac mae wedi ategu polisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol presennol, fel ffordd o gyflawni’r gostyngiadau gofynnol yn y gweithlu wrth helpu i osgoi diswyddiadau gorfodol.
  • Mae Cynllun Gweithlu’r Dyfodol wedi bod yn ganllaw i Adnoddau Dynol adnabod bylchau sgiliau mewn proffesiynau allweddol. Er bod y sefyllfa gyffredinol wedi gwella’n fawr yn 2024-25, roedd rhai swyddi o hyd yr oedd yn anodd recriwtio iddynt oherwydd prinder sgiliau cenedlaethol. Adolygwyd y Polisi Cynnal a Chadw Strwythur Tâl i edrych ar ddyfarniadau cyflog ychwanegol i recriwtio a chadw staff mewn rhai proffesiynau hanfodol, ac mae Panel y Gweithlu yn parhau i fonitro a sicrhau llywodraethiant y trefniadau hyn.  Fel rhan o Gynllun Gweithlu’r Dyfodol, mae rhestr o rolau hanfodol wedi’i chasglu, ac mae gwaith yn parhau i fynd rhagddo ar gynllunio olyniaeth ar gyfer pob rôl a nodwyd.
  • Dyfarnwyd y Wobr Aur i Gyngor Sir Penfro o dan Gynllun Cydnabod Cyflogwyr yr Weinyddiaeth Amddiffyn ym mis Medi 2024, mewn seremoni yn HMS Cambria yng Nghaerdydd. Mae hyn o ganlyniad i arfer cadarnhaol o ran recriwtio a chefnogi cymuned y lluoedd arfog. Yn ogystal, o 1 Ebrill 2024 ymlaen, cyflwynodd y cyngor gynllun cyfweliad gwarantedig ar lefel gorfforaethol ar gyfer cyn-filwyr a’u priod neu bartneriaid. Rhennir yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y cynllun hwn gyda Fforwm Lluoedd Arfog Sir Benfro. Mae unrhyw swyddi gwag o fewn yr awdurdod lleol yn cael eu hysbysebu a’u rhannu â llwyfannau’r lluoedd arfog ac mae tudalen fewnrwyd lluoedd arfog bwrpasol bellach ar gyfer gweithwyr y cyngor.
  • Daeth Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus 2023 yn ddyletswydd ers mis Ebrill 2024 ac ymgysylltodd Adnoddau Dynol yn gadarnhaol â’r Ddeddf newydd hon drwy gydol y flwyddyn. Diwygiwyd y fframwaith ar ymgynghori i gyd-fynd â’r Ddeddf, ac ailenwyd Fforwm y Cyd-bwyllgor Negodi yn Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol. Yn ystod y flwyddyn, rhoddodd Prif Swyddog Adnoddau Dynol a chadeirydd UNSAIN gyflwyniad ar y cyd yn Abertawe ar yr enghreifftiau cadarnhaol o bartneriaeth gymdeithasol yn Sir Benfro.
  • Gostyngodd bwlch cyflog rhywedd Cyngor Sir Penfro o 1.6% yn 2023-24 i 0.8% yn 2024-25. Mae hyn yn rhannol oherwydd cynnydd yn nifer y dynion sy’n cymryd rolau rhan-amser, ond yn bennaf oherwydd codiadau cyflog ar y gwaelod gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau ein bod yn olrhain y cynnydd yn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
  • Er na wnaeth rhwydwaith LHDTC y cyflogeion gynnydd fel y rhagwelwyd yn 2024-25, rydym yn parhau i ddathlu Pride a byddwn yn ymdrechu i hyrwyddo a chefnogi’r rhwydwaith hwn, rhwydweithiau cyflogeion eraill a hyrwyddwyr cyflogeion i liniaru effaith cynnydd mewn gweithio o bell.
  • Mae’r tîm iechyd a diogelwch wedi bod yn canolbwyntio ar ddatblygu ymhellach lwyfan iechyd a diogelwch EVOTIX, a fydd yn sicrhau prosesau rheoli peryglon a risg arfer gorau, er mwyn nodi, asesu a rheoli peryglon yn rhagweithiol ar gyfer gweithleoedd mwy diogel ac iachach. Y modiwl rheoli iechyd galwedigaethol ac atgyfeiriadau oedd y llif gwaith diweddaraf i gael ei ddatblygu i’r system.
  • Hyrwyddwyd digwyddiadau gwirfoddoli a chodi arian i staff drwy gydol y flwyddyn hefyd. Rhannodd cylchlythyrau Ffocws Sir Benfro wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli’r dydd, ffeiriau gwirfoddoli ar-lein ac Wythnos Gwirfoddolwyr, gan annog staff i gymryd rhan.
  • Drwy gydol y flwyddyn, creodd y tîm dysgu a datblygu’r system datblygiad personol newydd, ‘Adborth, Ffocws, Dyfodol’, i gymryd lle’r hen system arfarnu gweithwyr POD. Cyflwynodd y fenter hon ddull newydd o reoli perfformiad, gan roi cydnabyddiaeth i weithwyr am eu gwaith caled a rhoi cyfle iddynt siarad am sut maen nhw’n dod ymlaen yn eu rôl. Datblygwyd y system newydd mewn ymateb i arolwg ymgysylltu â gweithwyr, a ddangosodd nad oedd gweithwyr yn teimlo bod eu llais yn cael ei glywed ac nad oeddent yn teimlo eu bod yn gallu siarad yn agored am faterion yr oeddent yn eu hwynebu. Lansiwyd y system ‘Adborth, Ffocws, Dyfodol’ ym mis Mawrth 2025 a chyflwynwyd cyfres o hyfforddiant i reolwyr a staff i gefnogi hyn. 

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Sicrhau cyflwyno cam cyntaf o fframwaith perfformiad staff Adborth, Ffocws, Dyfodol yn llwyddiannus, gydag adolygiad o’i weithrediad erbyn mis Mawrth 2026.
  • Sicrhau bod gan y swyddi hanfodol a nodwyd yn y gofrestr risg rôlau hanfodol gynlluniau olyniaeth ar waith i ganfod talent a datblygu staff ar gyfer rolau arweinyddiaeth yn y dyfodol.
  • Rhyddhau y Pad Lansio Rheolwyr, rhaglen a gynlluniwyd ar gyfer rheolwyr newydd.
  • Cynyddu nifer y rheolwyr sydd wedi’u hyfforddi i ddefnyddio cyfryngu i dawelu gwrthdaro yn y gwaith.
ID: 14285, adolygwyd 27/10/2025