Hunanasesiad Blynyddol 2024-25
Casgliadau
Mae’r adran hon yn dod â’r adroddiad hunanasesu blynyddol i ben ac yn dwyn ynghyd gamau gweithredu ar gyfer y sefydliad cyfan. Dyma ein casgliadau dros dro a byddant yn cael eu hystyried a’u datblygu ymhellach mewn ymateb i’n hymgynghoriad ar y ddogfen ddrafft.
Rydym wedi parhau i reoli ein sefyllfa ariannol heriol ac, er bod disgwyl i’r pwysau hyn barhau i fod yn broblem, mae arwyddion cynnar bod y cyngor yn gwneud cynnydd yn ei ymgais i osod ei hun ar sail fwy cynaliadwy dros y tymor canolig i’r tymor hwy. Fodd bynnag, mae hyn yng nghyd-destun pwysau anhysbys yn y dyfodol ar lefel macro a allai roi mwy o straen ar adnoddau’r cyngor. O ran newyddion cadarnhaol, gorffennodd y cyngor y flwyddyn ariannol gyda thanwariant o £2.0 miliwn.
Er bod gweithgarwch trawsnewidiol sylweddol wedi digwydd mewn sawl maes gwasanaeth, bu bwlch yn y trefniadau rheoli rhaglenni ar lefel yr awdurdod cyfan a all ddarparu cyfeiriad a goruchwyliaeth gydlynol a strategol. Yng ngoleuni hyn, ac o ystyried pwysigrwydd trawsnewid a’r rôl y gall ei chwarae wrth gyflawni arbedion ariannol ac effeithlonrwydd, yn ogystal â gwella gwasanaethau i gwsmeriaid, ym mis Ebrill 2025 cytunodd y cabinet i roi diben newydd i’r Bwrdd Trawsnewid ac Arloesi. Bydd y bwrdd newydd yn darparu egni a ffocws newydd o amgylch themâu allweddol digidol a deallusrwydd artiffisial, ataliadau (0-25 oed), Vanguard / model gweithredu targed, a datgarboneiddio ac addasu i’r hinsawdd a bydd 2025-26 yn flwyddyn hollbwysig ar gyfer hyrwyddo’r agenda hon.
Mae pwysau galw mewn gwasanaethau cymdeithasol i oedolion wedi bod yn thema gyson mewn fersiynau blaenorol o’r adroddiad hwn, ac er bod y rhain yn parhau i fod yn her sylweddol, mae gwaith rhagweithiol, yn enwedig o ran ataliadau a rheoli’r galw, yn awgrymu bod y pwysau’n lleddfu, er eu bod yn parhau ar lefelau uchel iawn. Rydym wedi gwneud cynnydd da drwy’r bwrdd gwella ac adfer ar gyfer gofal oedolion i fynd i’r afael â materion a godwyd yn flaenorol gan reoleiddwyr, gan wella prosesau drwy fethodoleg Vanguard, a bydd y gwaith hwn yn parhau am y dyfodol rhagweladwy. I raddau helaeth, mae’r un peth yn wir ar gyfer gwasanaethau plant, er efallai eu bod mewn cyfnod adfer cynharach, gyda chynnydd yn y galw yn rhan gyntaf 2024-25 cyn iddo sefydlogi, gydag arwyddion cynnar o ostyngiad tua diwedd y flwyddyn ariannol. Bydd monitro cynnydd yn barhaus yn 2025-26 yn hanfodol i roi sicrwydd bod y gwelliant hwn yn gynaliadwy, a bydd buddsoddiad pellach mewn cynlluniau cyfalaf, yn enwedig mewn perthynas â darpariaeth breswyl i blant, yn ffactor pwysig yn hyn o beth.
O ran datblygu economaidd ac adfywio, rydym yn parhau i annog buddsoddiad gan y sector preifat mewn diwydiannau ynni newydd. Rydym yn bartner allweddol i’r Porthladd Rhydd Celtaidd, a fydd yn helpu i wireddu uchelgeisiau o ran ynni gwyrdd a glas, gan gefnogi busnesau lleol a chreu swyddi. Mae prosiectau i adfywio canol ein trefi yn parhau ond efallai’n arafach nag a ragwelwyd, ac mae hyn hefyd yn cyfrannu at danwariant cyfalaf (a thanwariant refeniw canlyniadol).
Ym maes tai, rydym wedi gwneud cynnydd da o ran mynd i’r afael â phroblem digartrefedd, gyda gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy’n cyflwyno, er ei bod hi’n amlwg bod lle i wella bob amser. Rydym hefyd wedi cynyddu niferoedd ein stoc dai ein hunain trwy ein cynllun datblygu tai a thrwy gaffaeliadau. Bydd problemau gyda thai fforddiadwy yn cael eu targedu drwy ein cynllun prynu cartref newydd, a fydd yn cael ei lansio yn ystod 2025-26.
Rydym yn parhau i fod yn un o’r awdurdodau lleol sy’n perfformio orau, nid yn unig yng Nghymru, ond yn y DU, o ran gwastraff ac ailgylchu. Mae ein Strategaeth Gwasanaethau Amgylcheddol newydd, a ddatblygwyd eleni, yn gosod y cyfeiriad ar gyfer cynnal ein perfformiad cryf yn y maes hwn. Un o uchafbwyntiau’r flwyddyn oedd agor y Parc Eco, sy’n darparu cyfleusterau gwahanu ailgylchu gwell, a fydd yn ein cefnogi i gyrraedd targedau amgylcheddol heriol.
Rydym wedi parhau i gyflwyno mentrau i fynd i’r afael â heriau lleol ynghylch recriwtio. Mae enghreifftiau’n cynnwys opsiynau gwaith hyblyg / gweithio hybrid, ymgyrchoedd recriwtio wedi’u targedu gyda gwell defnydd o gyfryngau cymdeithasol (ymgyrch Gofalwn am Sir Benfro), marchnata’n weithredol ein buddion gweithwyr, pecynnau adleoli deniadol, croeso euraid, taliadau atodol ar sail y farchnad a thaliadau porth, rhaglen hyfforddi graddedigion a chynlluniau prentisiaeth. Mae gwaith i gryfhau ein harferion o ran recriwtio a chadw staff wedi’i deilwra i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar feysydd gwasanaeth penodol ac anawsterau wrth ddenu pobl i rolau swyddi penodol.
Rydym wedi adrodd ar gynnydd i gyflawni ein Cynllun Gwella Llywodraethiant Corfforaethol dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac wedi gwneud cynnydd da yn hyn o beth. Ni wnaeth adroddiad dilynol Cam 2 Archwilio Cymru, a gynhyrchwyd yn ystod y flwyddyn, unrhyw argymhellion pellach. Er bod hyn yn gadarnhaol, mae’n bwysig peidio â bod yn hunanfodlon ac, o’r herwydd, mae’r cyngor wedi gofyn bod llywodraethiant a gwneud penderfyniadau yn ffocws penodol yn ein Hasesiad Perfformiad Panel ym mis Hydref 2025 er mwyn cael sicrwydd a safbwyntiau annibynnol pellach ar sut y gellir cynnal gwelliannau.