Hunanasesiad Blynyddol 2024-25
Hunanasesiad Blynyddol 2024-25
Dyma bedwerydd hunanasesiad blynyddol Cyngor Sir Penfro, fel sy’n ofynnol o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Cyflwynodd y Ddeddf ofynion perfformiad ar gyfer awdurdodau lleol ac, yn ganolog i hyn, mae dyletswydd i adrodd yn flynyddol ar berfformiad drwy broses hunanasesu. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor yng Nghymru barhau i adolygu, drwy hunanasesu, i ba raddau y mae’n bodloni’r ‘gofynion perfformiad’, sef i ba raddau:
- Mae’n arfer ei swyddogaethau’n effeithiol
- Mae’n defnyddio ei adnoddau’n ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol
- Mae ei lywodraethiant yn effeithiol ar gyfer sicrhau’r uchod
Rhaid llunio adroddiad hunanasesu ar gyfer pob blwyddyn ariannol a’i gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’n adrodd arni. Fel y cyfryw, dyma adroddiad hunanasesu’r cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25.
Mae’r adroddiad yn nodi casgliadau’r cyngor ar y graddau y mae wedi bodloni’r gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn ariannol honno, ac unrhyw gamau y mae’n bwriadu eu cymryd, neu eisoes wedi’u cymryd, i gynyddu’r graddau y mae’n bodloni’r gofynion perfformiad.
Mae nifer o egwyddorion cyffredinol eang sydd wedi llywio dull y cyngor o gynnal yr hunanasesiad hwn:
- Mae arweinyddiaeth a pherchnogaeth gorfforaethol yn allweddol i ddatblygu diwylliant o wella.
- Mae angen gwreiddio’r broses hunanasesu ym mhrosesau cynllunio, perfformiad a llywodraethiant corfforaethol y cyngor – nid yw’n ddigwyddiad untro nac yn broses annibynnol.
- Derbynnir y bydd y broses hunanasesu yn esblygu ac yn cael ei mireinio’n barhaus.
- Nid yw hyn o reidrwydd yn ymwneud â chyflwyno systemau a phrosesau newydd – yn hytrach, mae hyn yn ymwneud â defnyddio’r hyn sydd eisoes ar waith mewn ffordd fwy cydlynol, integredig ac effeithiol.
- Mae’r ddeddfwriaeth yn nodi mai hunanasesiad corfforaethol yw hwn, nid asesiad o berfformiad gwasanaethau unigol.