Hunanasesiad Blynyddol 2024-25

SA2 - Cynllunio Corfforaethol, Perfformiad, A Gweithio Gydag Eraill

SA2.1 - Cynllunio corfforaethol a pherfformiad

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Adolygodd y cyngor ei strategaeth gorfforaethol bresennol ar gyfer 2023–2028 yn ystod y flwyddyn ac wedi hynny cymeradwyodd strategaeth gorfforaethol newydd ar gyfer 2025–2030 ym mis Mawrth 2025.  Mae’r strategaeth yn cwmpasu cyfnod treigl o bedair blynedd a bydd yn cael ei hadolygu’n rheolaidd.  Mae’r strategaeth newydd yn adeiladu’n fawr ar y strategaeth flaenorol yn ogystal â’r blaenoriaethau gwleidyddol a osodwyd gan y cabinet yn ei ddogfen rhaglen weinyddol.
  • Y strategaeth gorfforaethol yw’r cyfrwng a ddefnyddir gan yr awdurdod i osod ei amcanion llesiant statudol.  Roedd y strategaeth flaenorol yn cynnwys 12 amcanion llesiant ac roedd yr adolygiad diweddar yn gyfle i leihau’r nifer hwn i bedwar amcan, gyda’r bwriad o roi mwy o ffocws ar flaenoriaethau a chyfeiriad y cyngor yn y dyfodol.  Mae’r amcanion llesiant newydd wedi’u hadeiladu ar themâu Ein Dyfodol, Ein Lle, Ein Cymunedau a’n Cyngor.
  • Mae tri o’r amcanion llesiant hyn yn canolbwyntio’n allanol ar ddarparu gwasanaethau allweddol i drigolion ac yn canolbwyntio ar y canlynol: (i) Ein Dyfodol – galluogi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant a’n pobl ifanc, gan eu cyfarparu â sgiliau ar gyfer y dyfodol; (ii) Ein Lle – lleoedd llewyrchus, gydag amgylcheddau glân, diogel a chynaliadwy, lle gall pobl fyw’n dda a ffynnu; (iii) Ein Cymunedau – gofalu am bobl, a galluogi cymunedau gweithredol, dyfeisgar a chysylltiedig.
  • Mae’r pedwerydd amcan llesiant yn darparu ffocws mewnol, wedi’i dargedu at gryfhau materion sylfaenol lle mae’n rhaid i’r cyngor wella i’w alluogi i ddarparu’r gwasanaethau y mae trigolion Sir Benfro yn eu haeddu, sef (iv) Ein Cyngor – cyngor sy’n gynaliadwy yn ariannol, wedi’i lywodraethu’n dda, gyda gweithlu sydd wedi’i gyfarparu i gefnogi’r bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu.
  • Mae Strategaeth Gorfforaethol 2025–2030 yn nodi’n glir y cyfraniad y bydd pob un o amcanion llesiant y cyngor yn ei wneud i gyflawni’r saith nod llesiant cenedlaethol i Gymru, fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
  • Strategaeth Gorfforaethol 2025–2030 yw dogfen arweiniol y sefydliad ac ar frig yr hierarchaeth yn ei ‘linyn aur’ o strategaethau a chynlluniau.  Mae holl weithgareddau’r cyngor – ar lefel cyfarwyddiaeth, gwasanaeth, tîm ac unigol – yn treiddio i lawr o’r cyfeiriad a nodir yn y strategaeth.  Yn ogystal â sefydlu amcanion llesiant y cyngor, mae’r strategaeth hefyd yn cynnwys blaenoriaethau penodol sy’n treiddio i lawr i gynlluniau busnes gwasanaethau unigol, sy’n cynnwys camau cyflawni mwy manwl.
  • Mae’r cyngor wedi parhau i ymgorffori ei ddull newydd o gynllunio gwasanaethau, gan symud o ffocws blynyddol (tymor byr) i gynlluniau sy’n edrych dros gyfnod treigl o bedair blynedd (tymor canolig).  Mae’r templedi safonol y mae pob pennaeth gwasanaeth yn eu dilyn yn parhau i gael eu hadolygu’n flynyddol i sicrhau eu bod mor effeithiol â phosibl wrth achub ar gyfleoedd i alinio gweithgarwch gwasanaethau â’r cyfeiriad sefydliadol a nodir yn y strategaeth gorfforaethol newydd ac â’n hymagwedd at gynllunio ariannol yn ystod y tymor canolig. 
  • Mae’r cysylltiad rhwng cynllunio gwasanaethau a chynllunio ariannol yn parhau i gael ei gryfhau a gofynnir i benaethiaid gwasanaeth gyflwyno cynigion mewn cynlluniau gwasanaeth i wneud arbedion yn eu meysydd gwasanaeth yng nghyd-destun maint yr heriau ariannol a ragwelir yn y Cynllun Cyllid Tymor Canolig.
  • Caiff cynlluniau gwasanaeth eu cwblhau’n flynyddol rhwng mis Chwefror a mis Mai ac fe’u hystyrir a’u cymeradwyo gan yr uwch-dîm arwain.
  • Cymeradwywyd fersiwn y llynedd o’r adroddiad hwn gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a chan y cyngor yn hydref 2024. Ar ôl adolygu’r dull hunanasesu a ddefnyddiwyd gan awdurdodau lleol eraill a sesiynau rhannu gwybodaeth arfer gorau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae’r cyngor yn hyderus bod ei ddull gweithredu yn gadarn ac yn addas i’r diben.  Ein hadroddiad hunanasesu blynyddol yw’r cyfrwng i gyflawni ein dyletswydd statudol i adrodd ar ein cynnydd i gyflawni ein hamcanion llesiant.
  • Yn ystod y flwyddyn hon, mae’r cyngor wedi cytuno y bydd Asesiad Perfformiad Panel cyntaf y cyngor, sy’n ofyniad statudol o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau, yn cael ei gynnal ym mis Hydref 2025.  Mae gwaith yn parhau i gynllunio a pharatoi ar gyfer yr Asesiad Perfformiad Panel, gyda chymorth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.  Ar ôl ystyried adroddiad hunanasesu’r llynedd a fersiwn eleni, mae’r uwch-dîm arwain wedi gofyn i’r panel edrych yn benodol ar dri maes lle gallem elwa o safbwyntiau allanol a mewnwelediad annibynnol.  Yn fras, mae’r meysydd ffocws penodol hyn yn cwmpasu themâu cynaliadwyedd ariannol, llywodraethiant a thrawsnewid.
  • Mae’r cyngor yn parhau i fuddsoddi mewn cryfhau ei drefniadau o ran rheoli perfformiad corfforaethol a monitro mesurau allweddol.  Mae’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol yn parhau i gael ei ddatblygu.  Diben y ddogfen hon yw sicrhau bod aelodau ac uwch-arweinwyr yn cael golwg ar fesurau perfformiad allweddol sy’n rhoi trosolwg eang o iechyd sefydliadol a chorfforaethol.  O ganlyniad, caiff y cerdyn sgorio ei adolygu’n aml i wneud yn siŵr bod y mesurau yr adroddir arnynt yn darparu digon o sylw ar draws meysydd corfforaethol a gwasanaeth allweddol.
  • Mae’r cerdyn sgorio yn cael ei ystyried yn rheolaidd ar hyn o bryd gan yr uwch-dîm arwain, a’i adrodd i’r cabinet ynghyd â gwybodaeth reoli allweddol arall yn ymwneud â monitro ariannol a risg mewn dull integredig.  Mae rhai o’r meysydd ffocws allweddol dros y 12 mis diwethaf wedi gweld ehangu’r gyfres o fesurau i gynnwys mwy o fanylion gweithredol ar gyfer gofal cymdeithasol a rhai o’r gwasanaethau i’n preswylwyr, megis gwastraff a chynllunio.
  • Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r cerdyn sgorio wedi dangos bod gostyngiad sylweddol wedi bod yn yr amseroedd aros ar gyfer asesiadau gofal oedolion, bu gwelliant yn ffigurau digartrefedd (er bod hyn yn parhau i fod yn her sylweddol), a’n bod wedi cynnal ein perfformiad hanesyddol cryf mewn gwastraff ac ailgylchu.  Mae ffigurau Chwarter 4 ar gyfer 2024-25 yn dangos bod ffigurau mewn gwasanaethau plant yn dechrau awgrymu bod y gyfradd o ran cynnydd yn y galw yn dechrau sefydlogi, er y bydd angen monitro hyn yn barhaus yn amlwg i sicrhau bod y galw yn lleihau.
  • Mae’r cerdyn sgorio yn cael ei ystyried yn ffurfiol yn gyhoeddus gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol.  Mae’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau hefyd wedi derbyn data a dynnwyd o’r cerdyn sgorio i ddarparu trosolwg o fesurau o fewn ei gylch gorchwyl penodol ac, yn yr un modd, mae’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol wedi cael data sy’n berthnasol i’w gylch gwaith.
  • Rydym wedi parhau i ymgorffori’r defnydd o Power BI i ddata gweledol.  Mae hyn wedi golygu defnyddio’r feddalwedd ar gyfer casglu a chyflwyno gwybodaeth yn hytrach na defnyddio dull sy’n seiliedig ar daenlenni.  Mae hwn yn ddarn cymhleth o waith ac mae’n debygol y bydd yn cymryd cryn dipyn o amser cyn i’r dull gweithredu gael ei wreiddio’n llawn.  Serch hynny, mae rhai o fanteision defnyddio Power BI eisoes yn cael eu gwireddu, yn enwedig o ran cyflwyno gwybodaeth, y cyfle i weld tueddiadau dros amser, a’r gallu i ddefnyddio’r data mewn ffordd fwy rhyngweithiol. 

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Parhau i sicrhau aliniad rhwng amcanion strategol a nodir yn y strategaeth gorfforaethol a chynllun gwasanaeth tymor canolig y cyngor.
  • Cryfhau trefniadau monitro’r strategaeth gorfforaethol trwy sicrhau bod mesurau priodol i werthuso ein cynnydd yn cael eu hintegreiddio i’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol.
  • Cyflawni’r strategaeth gorfforaethol newydd a’r amcanion llesiant drwy’r broses cynllunio gwasanaethau a monitro ac adolygu cynnydd drwy’r ddogfen hon.
  • Parhau i wreiddio’r ddisgyblaeth o gynllunio gwasanaethau aml-flwyddyn yn niwylliant y sefydliad a’r cylch blaengynllunio, gan gynnal adolygiad blynyddol o’r canllawiau a thempledi ar gyfer cynlluniau gwasanaeth i sicrhau eu bod yn addas i’r diben.
  • Cynnal Asesiad Perfformiad Panel cyntaf y cyngor ym mis Hydref 2025, ac ymateb i unrhyw argymhellion a ddaw gan y panel.
  • Parhau i adolygu’r rhestr gyfredol o fesurau perfformiad a adroddwyd yn y cerdyn sgorio i sicrhau ei bod yn cynnwys digon o fetrigau sydd wedi’u targedu at heriau sefydliadol ac amcanion strategol.
  • Parhau i gyflwyno’r defnydd o Power BI wrth gasglu ac adrodd ar wybodaeth am berfformiad. 

 

SA2.2 - Partneriaethau strategol

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg eang o rai o’r trefniadau partneriaeth allweddol y mae’r cyngor yn ymwneud â nhw.  Ceir mwy o fanylion am rai o’r trefniadau partneriaeth hyn mewn adrannau penodol o’r adroddiad hwn.
  • Mae’r cyngor yn ymwneud â nifer o bartneriaethau strategol ac yn eu cefnogi yn ariannol a chydag amser swyddogion.  Mae’r sbardunau ar gyfer y partneriaethau hyn yn cynnwys deddfwriaeth, cyfarwyddebau polisi gan Lywodraeth Cymru, a gwireddu manteision cydweithio drwy arbedion maint a lleihau dyblygu drwy weithio gydag eraill i gyflawni amcanion a rennir ar sail ranbarthol.
  • Yn 2024, adolygodd y cyngor ei restr o bartneriaethau strategol allweddol a chymeradwywyd y rhestr gan y cabinet ar 11 Gorffennaf 2024.  Mabwysiadodd yr adolygiad ddull cymesur yn seiliedig ar risg, gan ganolbwyntio ar y partneriaethau allweddol lle mae angen i’r cyngor gael sicrwydd bod trefniadau llywodraethu, rheolaeth fewnol, rheolaeth ariannol a rheoli risg effeithiol ar waith.  Adolygwyd a diwygiwyd gweithdrefn bartneriaeth y cyngor gan yr uwch-dîm arwain hefyd i gefnogi hyn, ac mae arweinwyr partneriaeth ar draws pob un o’r partneriaethau strategol a gymeradwywyd gan y cabinet wedi sicrhau bod trefniadau llywodraethu yn gadarn ac yn addas i’r diben.  Dyma restr gytunedig y cyngor o bartneriaethau strategol allweddol:
    • Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
    • Porthladd Rhydd Celtaidd.
    • Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.
    • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro.
    • Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Benfro Ddiogelach.
    • Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau Rhanbarthol.
    • Partneriaeth Natur Sir Benfro.
    • Partneriaeth.
    • Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol.
    • Coleg Sir Benfro.
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru.
    • Bwrdd Partneriaeth Strategol Sir Benfro Iachach.
    • Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru: Plant (CYSUR) ac Oedolion (CWMPAS).
    • Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru.
    • Cofrestr Tai Sir Benfro.
  • Amlinellir isod ddetholiad o benawdau gweithgarwch bras a gyflwynir drwy rai o’r partneriaethau strategol hyn:
    • Mae’r cyngor yn un o bedwar partner statudol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro, ac felly mae’r cyngor yn chwarae rhan arweiniol allweddol yng ngwaith y bartneriaeth.  Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn bartneriaeth strategol a sefydlwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau allweddol o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yn y sir. Mae’n ofynnol i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gyhoeddi cynllun llesiant unwaith bob pum mlynedd, gan nodi ei amcanion llesiant statudol a’r camau y bydd yn eu cymryd i wella llesiant pobl a chymunedau yn Sir Benfro.  Cyhoeddwyd y cynllun llesiant diweddaraf ym mis Mai 2023 ac mae’n canolbwyntio ar gyflawni tair ffrwd waith allweddol:
      • Cryfhau cymunedau
      • Lleihau tlodi ac anghydraddoldebau
      • Gwireddu sero net a datgarboneiddio, rheoli ymaddasu i’r hinsawdd, a mynd i’r afael â’r argyfwng natur
    • Mae gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sesiwn ‘sbotolau’ ar un o’r meysydd prosiect ym mhob un o’i gyfarfodydd ar sail gylchdro.  Mae adroddiadau diweddaru ar gyfer pob un o’r ffrydiau gwaith hefyd yn cael eu hystyried ym mhob cyfarfod.  Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran ar dystiolaeth isod, yn enwedig mewn perthynas ag adroddiad blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
    • Ym mis Ionawr 2022, sefydlwyd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, sy’n cwmpasu ardaloedd awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe (ac yn cynnwys y ddau barc cenedlaethol yn y rhanbarth), yn ffurfiol.  Mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn ofyniad o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) gyda’r diben o wella cynllunio rhanbarthol, cydgysylltu a darparu trafnidiaeth, cynllunio defnydd tir, datblygu economaidd ac ynni.  Cyhoeddodd y cyd-bwyllgor corfforedig ei Gynllun Corfforaethol 2023–2028 yn ystod y flwyddyn, gan sefydlu ei weledigaeth ar gyfer De-orllewin Cymru 2035.  Yn ddiweddar, mae’r pwyllgor wedi ymgynghori ar ei Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft, gan edrych ar sut y dylid rheoli a gwella’r rhwydwaith trafnidiaeth ar draws Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe dros y cyfnod rhwng 2025 a 2030, mewn ffordd sy’n cefnogi twf economaidd, yn annog symud i ffwrdd o ddefnyddio ceir preifat, ac yn lleihau effeithiau amgylcheddol.  Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 6 Ebrill 2025 a bydd y cynllun terfynol yn cael ei gyhoeddi yn haf 2025.  Ar ôl ei gwblhau a’i fabwysiadu, bydd y cynllun newydd yn disodli’r Cynllun Trafnidiaeth Lleol ar y Cyd presennol, a baratowyd yn 2015.  Mae’r pŵer i gyflawni cynlluniau a mentrau’r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol yn nwylo’r cynghorau unigol yn eu rolau fel awdurdodau priffyrdd a thrafnidiaeth.  Cyflwynodd Sir Benfro 30 o gynlluniau i’r cynllun cyflawni a bydd penderfyniad gan y cabinet ynghylch pa brosiectau a fydd yn cael blaenoriaeth i’w bwrw ymlaen yn cael ei wneud yn hydref 2025.
    • Mae Sir Benfro yn bartner allweddol ym Margen Ddinesig Bae Abertawe ynghyd â’r tri awdurdod lleol rhanbarthol arall – Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot – ynghyd â byrddau iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a phartneriaid yn y sector preifat. Mae’r fargen yn becyn buddsoddi o hyd at £1.3 biliwn mewn portffolio o raglenni a phrosiectau mawr ar draws y rhanbarth gyda’r disgwyliad y bydd yn rhoi hwb o o leiaf £1.8 biliwn i’r economi ranbarthol dros y 15 mlynedd nesaf, wrth gynhyrchu mwy na 9,000 o swyddi.  Mae rhaglenni a phrosiectau’r fargen ddinesig yn seiliedig ar themâu allweddol, gan gynnwys cyflymiad economaidd, gwyddor bywyd a llesiant, ynni, gweithgynhyrchu clyfar, a gwasanaethau digidol.  Y prosiect mawr sydd wedi’i leoli yn y sir yw rhaglen Ardal Forol Doc Penfro gwerth £60 miliwn, a fydd yn gosod Sir Benfro wrth galon arloesi byd-eang ym maes ynni morol di-garbon wrth helpu ar yr un pryd i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.  Bydd Parc Morol Doc Penfro yn darparu’r cyfleusterau, y gwasanaethau a’r gofodau sydd eu hangen i sefydlu canolfan o safon fyd-eang ar gyfer peirianneg forol, dan arweiniad y sector preifat a chyda chefnogaeth gan y cyngor.  Mae’r achos busnes llawn wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.  Gellir dod o hyd i’r diweddariadau diweddaraf ar gynnydd prosiectau hyd yma yn yr adran dystiolaeth isod.
    • Mae’r cyngor hefyd yn bartner allweddol yng nghonsortiwm preifat-cyhoeddus y Porthladd Rhydd Celtaidd, sydd wedi’i gymeradwyo ac a fydd yn darparu llwybr carlam ar gyfer economi sero net Cymru, gan gynhyrchu dros 16,000 o swyddi gwyrdd newydd a hyd at £5.5 biliwn o fuddsoddiad newydd. Mae’r prosiect trawsnewidiol yn cwmpasu porthladdoedd Aberdaugleddau a Phort Talbot ac yn rhychwantu datblygiadau ynni glân ac asedau arloesi, terfynellau tanwydd, gorsaf bŵer, peirianneg drom, a’r diwydiant dur ar draws de-orllewin Cymru.  Ar 1 Rhagfyr 2024, penododd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gadeirydd parhaol newydd ar gyfer y Porthladd Rhydd Celtaidd, gan nodi trosglwyddiad y prosiect o’r cyfnod datblygu i’r cyfnod cyflawni. 
    • Yn 2022-23, ymunodd y cyngor â Chyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Abertawe i ffurfio Partneriaeth, consortiwm addysg newydd sydd wedi disodli trefniadau blaenorol o dan Ein Rhanbarth ar Waith (ERW).  Diben Partneriaeth yw darparu mwy o werth am arian, tryloywder, llywodraethu cryfach wrth wneud penderfyniadau, a dysgu proffesiynol o ansawdd uwch. Ym mis Ionawr 2025, cytunodd y cabinet i drosglwyddo’r bartneriaeth o gytundeb cyfreithiol i gytundeb cydweithio newydd mewn ymateb i adolygiad Llywodraeth Cymru o bartneriaethau addysgol yng Nghymru, gyda’r bwriad o leihau costau, ailstrwythuro’r gweithlu a chryfhau trefniadau llywodraethu.
  • Sir Benfro Ddiogelach yw’r bartneriaeth diogelwch cymunedol statudol gyda’r diben o leihau trosedd ac anhrefn, ofn trosedd, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau.  Mae’r bartneriaeth yn derbyn diweddariadau rheolaidd ar y materion hyn drwy gydol y flwyddyn gyda ffocws ar sut y gall partneriaid gydweithio i fynd i’r afael â’r materion hyn o fewn cymunedau.
  • Rheolir trosolwg a chraffu ar drefniadau partneriaeth strategol allweddol y cyngor naill ai drwy bwyllgorau craffu rhanbarthol pwrpasol neu drwy’r pwyllgor craffu thematig perthnasol o fewn trefniadau’r cyngor ei hun.  Mae gan y cyngor hefyd banel partneriaethau sefydledig sy’n eistedd o dan, ac yn adrodd i, y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol.  Mae’r panel wedi’i ddynodi â’r cyfrifoldeb statudol i graffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac mae ganddo hefyd oruchwyliaeth o bartneriaeth Sir Benfro Ddiogelach o fewn ei gylch gwaith.

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Parhau i chwarae rhan arweiniol allweddol ym mhob un o bartneriaethau strategol a rhanbarthol allweddol y cyngor.
  • Cefnogi’r gwaith o gyflawni cynllun llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer Sir Benfro.
  • Parhau i atgyfnerthu pwysigrwydd y weithdrefn bartneriaethau i’r swyddogion arweiniol ar gyfer pob un o’r partneriaethau strategol priodol, er mwyn sicrhau bod fframwaith clir yn ei le i gyflawni trefniadau llywodraethu, rheolaeth fewnol, rheolaeth ariannol a rheoli risg effeithiol.

 

SA2.3 - Ymgynghori ac ymgysylltu

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Er mwyn sicrhau arbedion cyllidebol, fe wnaethom ddod â’r contract gyda darparwr meddalwedd ymgynghori allanol i ben ym mis Mehefin 2024, a rhoi proses fewnol yn ei le. Mae gweithgareddau ymgynghori corfforaethol bellach yn cael eu rheoli drwy ein gwefan gorfforaethol (Dweud eich Dweud) a chyflwynir ymatebion gan ddefnyddio Microsoft Forms. Nid yw’r system bellach yn ei gwneud yn ofynnol i gyfranogwyr gofrestru i ddefnyddio’r system, a oedd yn aml yn rhwystr i gyfranogiad. Aeth y system/prosesau ymgynghori newydd yn fyw o ganol mis Gorffennaf 2024.  
  • I gefnogi cyflwyno’r system newydd, datblygodd staff polisi a TGCh becyn hyfforddi ar gyfer Microsoft Forms.  Mae 43 o staff wedi cwblhau hyfforddiant Microsoft Forms hyd yn hyn o bob rhan o’r awdurdod.  Mae canllawiau ar gael mynediad at Microsoft Forms a chreu ffurflenni gan ei ddefnyddio ar gael drwy’r Porth TGCh.
  • Mae protocol ymgynghori wedi’i gynhyrchu i staff er mwyn rhoi cyngor ymarferol ar gynllunio, paratoi a chynnal ymarferion ymgynghori effeithiol.  Cafodd hyn ei gymeradwyo gan yr uwch-dîm arwain a’i gyflwyno hefyd i’r tîm arwain estynedig a’r fforwm rheolwyr ar gyfer ymgysylltiad ac ymwybyddiaeth ehangach.
  • Mae’r broses ymgynghori wedi’i hintegreiddio â Fy Nghyfrif (cyfrif cwsmer ar-lein) i awtomeiddio’r broses o gyflwyno hysbysiadau ymgynghori, a anfonir at dros 4,700 o ddefnyddwyr ar hyn o bryd, er mwyn hyrwyddo ymgynghoriadau agored. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar godi ymwybyddiaeth o ymgynghoriadau ac ymatebion iddynt.
  • Rydym wedi adolygu’r cwestiynau monitro cydraddoldeb a’r Gymraeg a ofynnwn fel rhan o ymgynghoriadau cyhoeddus ac sydd wedi’u llenwi ymlaen llaw yn y templed Microsoft Forms, gan sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n gyson a’u monitro, ac y gellir eu cymharu ag ystadegau cenedlaethol a lleol, e.e. Cyfrifiad 2021.
  • Mae ymgynghoriadau penodol wedi derbyn nifer sylweddol o ymatebion a thwf yn nifer yr ymatebion. Er enghraifft, derbyniodd ymgynghoriad ar bremiwm y dreth gyngor yn 2024 2,974 o ymatebion. Roedd hyn 1,324 yn fwy o ymatebion na’r ymgynghoriad ar bremiwm y dreth gyngor yn 2023, pan dderbyniwyd 1,650 o ymatebion. Gwelwyd yr un duedd sylweddol ar i fyny yn yr ymatebion a dderbyniwyd ar gyfer yr ymgynghoriad cyllideb ac ymgynghoriadau eraill. Rydym wedi cynyddu ein dulliau hyrwyddo ar gyfer ymgynghoriadau, yn fewnol ac yn allanol, sy’n cefnogi cynnydd mewn ymatebion.
  • Mae gwasanaethau o bob rhan o’r cyngor wedi cynnal nifer o ymarferion ymgynghori yn ystod y flwyddyn. Yn 2024, mae’r rhain wedi cynnwys adolygiad o’r Cynllun Datblygu Lleol, cynlluniau teithio llesol arfaethedig, y dreth gyngor a’r gyllideb, ac ymgynghoriadau sy’n ymwneud ag adfywio a thrafnidiaeth drwy’r llwyfan “Dweud eich Dweud”
  • Mae’r cyngor yn ymgysylltu â nifer o grwpiau sy’n cynrychioli buddiannau dinasyddion yn Sir Benfro ac yn eu cefnogi. Mae enghreifftiau’n cynnwys Fforwm 50+ Sir Benfro, y Cyngor Ieuenctid, a Fforwm Ieuenctid Tai a Digartrefedd.
  • Cytunodd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi a Chyn-benderfynu y byddai’n adolygu Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus 2022-27 yn flynyddol ac ystyriwyd adroddiadau yn y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 11 Tachwedd 2024 a’r Pwyllgor Polisi a Chyn-benderfynu ar 12 Tachwedd 2024.
  • Mae Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc y cyngor yn parhau i hwyluso nifer o ddarnau o waith ar draws y sir, gan gynnwys prosiectau ieuenctid a fforymau ieuenctid mewn cymunedau, Cynulliad Ieuenctid Sir Benfro, Diogelu Plant Sir Benfro, a grwpiau diddordeb arbennig. Mae’r gwaith hwn yn galluogi pobl ifanc i ddweud eu dweud am y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw ac mae hefyd yn eu galluogi i gymryd rhan weithredol yn eu cymuned a dylanwadu ar benderfyniadau ar lefel leol a chenedlaethol.
  • Ym maes gofal cymdeithasol a thai, mae yna ystod o weithgareddau ymgynghori ac ymgysylltu â’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi, a’u gofalwyr a’u teuluoedd, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut y gallwn ni wella ein gwasanaethau i gefnogi eu llesiant. 
    • Mae cyfleoedd sylweddol i ymgysylltu â thenantiaid wedi’u darparu. Ar hyn o bryd, mae gan y panel tenantiaid 136 o denantiaid wedi cofrestru sydd wedi mynegi diddordeb mewn cyfathrebu ac ymgysylltu â ni ac rydym wedi cynnal digwyddiadau pellach a chwestiynau’r mis i gasglu adborth i wella gwasanaethau.
    • Mae ein Fforwm Ieuenctid wedi mynd o nerth i nerth, gan gyfarfod bob chwe wythnos i lunio a gwella ein gwasanaethau tai.
    • Digwyddiadau cymunedol i ymgynghori ar ein polisïau gosod lleol ar gyfer datblygiadau newydd, yn ogystal â hwyluso diwrnodau agored i’r gymuned edrych o gwmpas eiddo newydd cyn iddynt gael eu meddiannu.
    • Diwrnod agored yn un o’n heiddo wedi’u hailosod fel rhan o’r rhaglen ddatgarboneiddio i arddangos yr offer newydd sy’n cael eu gosod mewn eiddo, sut i’w defnyddio, a’r manteision.
    • Fe wnaethon ni ddyfarnu tua £1,000 i grwpiau tenantiaid o’n cronfa cist gymunedol i gefnogi preswylwyr i drefnu eu gweithgareddau a’u digwyddiadau ymgysylltu eu hunain.
    • Mae adran tai Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 yn cynnwys gwybodaeth am sut rydym wedi ymgysylltu â chymunedau Sipsiwn a Theithwyr.  Rydym yn parhau i hwyluso grŵp cyfathrebu Teithwyr a Roma, gan gynnal cyfarfodydd chwarterol mewn lleoliadau ger y safleoedd i sicrhau hygyrchedd i’r gymuned.
  • Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu, gynnwys Facebook Live, arolygon, fforymau, taflenni, cardiau post, codau QR / fideos, cyfryngau cymdeithasol, digwyddiadau, ymweliadau cartref, galwadau ffôn ac e-byst, a fformatau amgen, i ymgysylltu mewn ffordd sy’n addas i’n preswylwyr. Rydym wedi defnyddio taflenni gyda chodau QR sy’n cysylltu â sain ar ôl awgrym gan y grŵp penodol o drigolion i sicrhau hygyrchedd.
  • Rydym yn casglu mewnwelediadau boddhad defnyddwyr ar gyfer ein gwasanaethau digidol drwy ein panel ymchwil defnyddwyr, sy’n cynnwys 146 o aelodau sy’n cynnwys rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Mae’r panel hwn yn ein cefnogi gyda phrofion defnyddioldeb ar draws ein prosiectau digidol, gan helpu i sicrhau bod ein gwasanaethau’n hawdd eu defnyddio, yn hygyrch ac yn werthfawr i’r defnyddiwr yn seiliedig ar eu hadborth.
  • Er mwyn sicrhau y gall defnyddwyr gael mynediad effeithiol at ein gwefan gorfforaethol ac ymgysylltu â hi, rydym yn cyflwyno gwybodaeth mewn fformat hygyrch sy’n cyd-fynd â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe 2.2.

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Sicrhau bod y system ymgynghori newydd a reolir yn fewnol yn diwallu anghenion gwasanaethau a chyfranogwyr a chynnal arfarniad o’r system newydd ar gyfer y cyfnod 2024-25. Bydd adolygu a monitro parhaus o’r system newydd yn parhau drwy 2025-26 a thu hwnt.
  • Cwblhau arolwg preswylwyr Data Cymru “Gadewch i Ni Siarad am Fywyd yn Sir Benfro” yn ystod 2025-26. Bydd ymatebion trigolion yn helpu i lywio a llunio darpariaeth gwasanaethau lleol.
  • Meithrin diwylliant gwaith cadarnhaol a fydd yn cefnogi gwelliant parhaus drwy gynnal arolwg staff yn 2025.
  • Yn unol â Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd 2022-27, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut mae aelodau’n ymgysylltu â’u cymunedau, yn 2025-26 byddwn yn cynnal arolwg aelodau ar eu hymgysylltiad â’r cyhoedd. Bydd yr arolwg hefyd yn gofyn beth maen nhw’n credu y gall yr awdurdod ei wneud i gynyddu amrywiaeth ymhlith ei aelodau wrth i ni agosáu at yr etholiadau yn 2026.
  • Mae’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi sefydlu gweithgor sy’n cynnwys holl aelodau’r pwyllgor i adolygu gwaith democratiaeth wrth baratoi ar gyfer etholiad 2027. Bydd hyn yn cynnwys adolygiad o’r broses a rhaglen sefydlu; ystyried adborth gan aelodau newydd yn 2022 ar eu profiadau; cynllunio cyn etholiadau a mynediad at ddemocratiaeth; mentrau cydraddoldeb ac amrywiaeth; hyrwyddo rôl cynghorydd; ac ymgysylltu â darpar ymgeiswyr.   Gwahoddir swyddogion ac aelodau nad ydynt yn aelodau o’r pwyllgor i gymryd rhan yng ngwaith y grŵp yn ôl yr angen. 

 

SA2.4 - Cwynion a chanmoliaeth

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Mae cwynion a chanmoliaeth yn darparu gwybodaeth hanfodol i’r cyngor fel y rhyngwyneb rhwng darparu gwasanaethau a’r adborth a gaiff gan drigolion ar ansawdd ac effeithiolrwydd y gwasanaethau hynny.  Mae cwynion yn helpu i nodi diffygion posibl ac fe’u defnyddir fel arf i ysgogi gwelliant, tra croesewir canmoliaeth bob amser fel ffordd o gydnabod lle mae gwasanaeth neu swyddog unigol wedi gwneud rhywbeth arbennig o dda.
  • Yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025, mae’r tîm Cwynion, Pryderon a Chanmoliaeth wedi helpu i hwyluso 971 o gwynion (965 yn 2023-24, 819 yn 2022-23), gyda 97% (98% yn 2023-24, 96% yn 2022-23) o gwynion yn cael eu datrys yn ystod Cam 1 (anffurfiol). Aeth y 3% sy’n weddill (2% yn 2023-24, 4% yn 2022-23) o achosion ymlaen i lefel ffurfiol Cam 2, sy’n gofyn am adolygiad annibynnol o’r gŵyn.
  • Cafodd 85% (65% yn 2023-24, 80% yn 2022-23) o’r cwynion eu datrys o fewn yr amserlenni cenedlaethol, gyda 15% (34% yn 2023-24, 19% yn 2022-23) o’r cwynion a oedd y tu allan i’r cyfnod hwn yn cael eu hymestyn gyda chytundeb yr achwynydd.
  • Ar ddiwedd mis Mawrth 2025, roedd 47 o gwynion wedi’u cyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (40 yn 2024-25, 44 yn 2022-23), gyda chwech o’r cwynion hyn yn gofyn am ymyrraeth gynnar gan yr ombwdsmon (6 yn 2023-24, 3 yn 2022-23). Cyflwynwyd dadansoddiad o’r cwynion a dderbyniwyd gan yr ombwdsmon i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r cabinet yn ystod 2024-25 i’w ystyried.
  • Cafodd y Polisi Canmoliaeth, Pryderon a Chwynion a’r Polisi Rheoli Cyswllt â Chwsmeriaid eu cymeradwyo gan y cabinet yn ei gyfarfod ym mis Ebrill 2024. 
  • Cytunwyd ar gytundeb lefel gwasanaeth gyda 57 o’r 60 ysgol yn Sir Benfro i gryfhau’r trefniadau sydd ar waith, ac mae hyn wedi creu incwm i gefnogi cyllideb y Gwasanaeth Archwilio, Risg a Gwybodaeth.
  • Mae’r awdurdod wedi parhau i gymryd rhan mewn cyfarfodydd cwynion Cymru gyfan ac i ymgysylltu â’r Awdurdod Safonau Cwynion i rannu a hyrwyddo arfer gorau wrth drin cwynion.
  • Mae’r cyngor yn hoffi deall yr hyn rydym yn ei wneud yn dda a beth sy’n cael ei werthfawrogi gan ein cwsmeriaid, gyda chanmoliaeth yn cael ei bwydo’n ôl i’r gwasanaethau priodol, a all gryfhau morâl.  Yn 2024-25, derbyniodd y cyngor 309 o ganmoliaethau am y gwasanaethau a ddarparwyd (285 yn 2023-24, 299 yn 2022-23). 

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Byddwn yn parhau i ddatblygu system gwynion iCasework i wella’r data a adroddir i reolwyr corfforaethol, penaethiaid gwasanaeth a chyfarwyddwyr fel bod natur, statws, canlyniad a gwersi a ddysgwyd yn cael eu cofnodi’n glir a’u dangos yn glir. Gobeithio y bydd hyn yn gwella’r amserlenni ar gyfer ymateb i gwynion a dderbynnir ac ymdrin â nhw.
  • Un o’r themâu allweddol yn nifer y cwynion a dderbyniodd y cyngor oedd yn ymwneud â chyfathrebu. Amlygodd dadansoddiad o nifer y cwynion a adroddwyd y gellid gwella cyfathrebu. Roedd hyn yn arbennig o gyffredin gyda chwynion a adroddwyd i’r Adran Cynnal a Chadw Adeiladau. I fynd i’r afael â hyn, penododd yr Adran Cynnal a Chadw Adeiladau swyddog cwynion a chydymffurfedd yn gynnar yn 2024 i ddatrys cwynion a wnaed. Bydd y Tîm Cwynion Corfforaethol yn parhau i weithio gyda phob swyddog cwynion cyswllt o fewn y cyngor i sicrhau bod achwynwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eu cwyn.
  • Rydym wedi ymgysylltu â’r Asiantaeth Safonau Cwynion i ddarparu hyfforddiant ar drin cwynion a hyfforddiant ymchwilio i bob swyddog cwynion cyswllt, a fydd yn cael ei gynnal ym mis Mawrth 2025. Nod hyn yw gwella’r ffordd y caiff cwynion eu trin a chysondeb ymchwiliadau a gynhelir.
  • Yn ogystal â’r pwynt uchod, er bod y dogfennau polisi perthnasol wedi’u diweddaru, bydd taflen ffeithiau hawdd ei darllen yn ogystal â chanllawiau mewnol yn cael eu darparu i swyddogion fel bod proses wedi’i dogfennu’n glir ar waith i swyddogion cwynion ei dilyn. Bydd hyn hefyd yn cefnogi staff newydd sy’n dod yn swyddogion cyswllt. Bydd cyngor a chefnogaeth yn parhau i gael eu darparu gan y Tîm Cwynion Corfforaethol yn rheolaidd.
  • Byddwn yn anelu at wella lefel y cwynion yr ymatebir iddynt o fewn yr amserlenni. Mae’r data a ddarperir yn yr adroddiad hwn yn dangos bod nifer y cwynion yr ymatebwyd iddynt o fewn yr amserlenni wedi gostwng. Ar hyn o bryd, mae’n her penodi unigolion i ymgymryd ag ymchwiliadau Cam 2 oherwydd y llwyth gwaith presennol, sy’n cael effaith negyddol ar berfformiad. 

 

SA2.5 - Cydraddoldebau 

Asesiad o berfformiad presennol – pa mor dda ydyn ni?

  • Cyd-destun strategol ein gwaith ar gydraddoldeb yw Deddf Cydraddoldeb 2010 a rheoliadau cysylltiedig Llywodraeth Cymru ar gyfer cyrff cyhoeddus.  Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 yn cael ei fonitro gan Grŵp y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol, sy’n cyfarfod bob chwarter. 
  • Ym mis Mawrth 2024, ffurfiwyd is-grŵp ar gyfer Cynllun Gweithredu Sir Benfro Wrth-hiliol i ddarparu dull wedi’i ffocysu o ran bwrw ymlaen â’r agenda hon yn unol â hysbysiad o gynnig y cytunwyd arno gan y cyngor. Ym mis Tachwedd 2024, cafodd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru ei adnewyddu, gan roi pwyslais ar gyflawni effaith fesuradwy a newid i gefnogi Cymru i fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030.
  • Ein proses asesiad effaith integredig yw’r dull a ddefnyddir i asesu effaith penderfyniadau a chynigion allweddol. Adolygwyd proses asesiad effaith integredig y cyngor yn ystod 2024 i gryfhau a chefnogi prosesau gwneud penderfyniadau drwy wneud y broses asesiad effaith integredig yn symlach ac yn haws eidilyn a thrwy ehangu’r ystod o ymrwymiadau deddfwriaeth/polisi a gwmpesir. Yn fras, mae’r meysydd hyn yn cwmpasu ystyriaethau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol, yn ogystal ag effeithiau ar grwpiau penodol o bobl. Mae cynllun peilot o’r broses newydd ar waith i sicrhau bod y fframwaith yn gadarn.
  • Mae monitro cydraddoldeb yn parhau i gael ei wneud fel rhan o waith ymgysylltu ac ymgynghori.  Gweler SA2.3: Ymgynghori ac ymgysylltu.
  • Mae’r cyngor yn parhau i gyhoeddi data y bwlch cyflog rhywedd gyda’r adroddiad ar gyfer 2024-25 wedi’i gyhoeddi ym mis Ebrill 2025.  Mae’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth am gyflogau i ddynion a merched yn ogystal â phobl o wahanol darddiadau ethnig.  Yn 2024-25, yn seiliedig ar gyflog canolrifol yr awr, roedd menywod yn y cyngor yn ennill yr un faint â dynion.
  • Cyhoeddwyd Adroddiad Cydraddoldeb mewn Cyflogaeth 2023-24 ym mis Ebrill 2025; mae adroddiad 2024-25 yn cael ei ddatblygu a bydd yn cael ei gyhoeddi maes o law.   Nod yr adroddiad yw rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd ehangach a rhanddeiliaid am arferion cyflogaeth yr awdurdod, yn ogystal â chaniatáu i’r awdurdod sefydlu sut yr oedd yn cyflawni ei amcanion cyflogaeth yn ei Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol.
  • Mae ‘insport’ yn rhaglen Chwaraeon Anabledd Cymru a gyflwynir gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru, ac mae ganddi’r nod o gefnogi’r sectorau gweithgareddau corfforol, chwaraeon a hamdden i ddarparu ar gyfer pobl anabl mewn ffordd gynhwysol. Chwaraeon Sir Benfro a Hamdden Sir Benfro yw’r partner awdurdod lleol cyntaf yn genedlaethol i gyflawni Safon Aur Partneriaethau insport (Rhagfyr 2024). Mae cyflawni’r Safon Aur yn golygu bod dull cynhwysol wedi’i wreiddio mewn strategaethau, rhaglenni a ffyrdd o feddwl. Mae’r cyflawniad yn cydnabod yr ymdrechion i greu cyfleoedd sy’n sicrhau y gall pawb, waeth beth fo’u gallu, gymryd rhan a ffynnu mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon ar lefel o’u dewis.
  • Drwy gydol 2024-25, fe wnaethom barhau i ddarparu cefnogaeth ymarferol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches drwy’r Tîm Partneriaeth Mudo.   Mae’r tîm yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn i gefnogi integreiddio cymunedol. Yn y gymuned, mae digwyddiadau’r Tîm Mudo a rhaglenni integreiddio yn cefnogi’r camau gweithredu hyn. Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda nifer o wasanaethau, yn enwedig cydweithwyr ym maes addysg, i sicrhau integreiddio disgyblion yn llwyddiannus.  Mae Gwasanaethau Ieuenctid yn darparu diwrnodau allan i bobl dros 16 a thros 11 oed, yn ogystal â gweithgareddau a theithiau preswyl sy’n helpu i ymgartrefu a meithrin cyfeillgarwch, ac mae’r Adran Gwaith a Phensiynau, Gwaith yn yr Arfaeth, staff cyflogadwyedd a Maximus yn helpu teuluoedd i ddod o hyd i waith.   Rydym hefyd yn gweithio gyda gwirfoddolwyr, cymorth i deuluoedd a’r heddlu ac yn gweithio ar raglen o ddigwyddiadau lles. 
  • Yn ystod 2024-25, fe wnaethom gyflogi 75 o bobl anabl yn uniongyrchol gyda 56 ohonynt ar y rhaglen cyflogaeth â chymorth.  Mae’r rhaglen yn cynorthwyo pobl i gael mwy o annibyniaeth mewn lleoliadau gwaith â chymorth, sy’n cynnwys ein ffatri (Diwydiannau Norman), gweithdy crefftau, siop, melin lifio a chaffis. 
  • Mae gwaith sylweddol wedi’i wneud i nodi lleiniau ychwanegol posibl i ddiwallu anghenion y gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Mae’r gwaith hwn yn parhau ac mae nifer o safleoedd wedi’u cyflwyno i’w hystyried ar y cyd ag adolygiad o’r Cynllun Datblygu Lleol. 
  • Mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion (PDG) yn parhau i ariannu ymyriadau, cymorth a gweithgareddau wedi’u targedu ar draws ysgolion Sir Benfro i leihau effaith tlodi.  Mae ymyriadau wedi’u targedu yn cynnwys cymorth llythrennedd a rhifedd ac ymyriadau lleferydd ac iaith ar gyfer disgyblion. Mae cymorth bugeiliol ac emosiynol yn cynnwys cwnsela, therapi drama a therapi chwarae, staff bugeiliol a lles ymroddedig, ac ymyriadau gan gynorthwywyr cymorth llythrennedd emosiynol (ELSA). Mae gweithgareddau cyfoethogi ac allgyrsiol yn cynnwys mynediad cynyddol at ddigwyddiadau chwaraeon a chelfyddydau (e.e. tenis, gwersi cerddoriaeth), tripiau ac ymweliadau preswyl. Mae ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned yn cynnwys cyrsiau addysg i oedolion, cymorth i deuluoedd a gweithdai i rieni. Mae mesurau mynediad a chydraddoldeb yn cynnwys cefnogaeth i gael mynediad at wisg ysgol, canllawiau adolygu, pecynnau hylendid, clybiau brecwast a chlybiau ar ôl yr ysgol, mynediad i fysiau mini i gynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau oddi ar y safle, a chynrychiolaeth gyfrannol mewn grwpiau arweinyddiaeth disgyblion / llais y dysgwr a gweithgareddau/clybiau ysgol ehangach.
  • Gweler SA1.1: Addysg am fanylion gweithredu’r rhaglen Codi Cyrhaeddiad Pobl Ifanc Ddifreintiedig fel fframwaith cyson ar gyfer cau’r bwlch cyrhaeddiad a dulliau rhagweithiol o ymdrin â gwaharddiadau, gan gynnwys darparu cymorth anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
  • Rydym yn parhau i fonitro tensiynau cymunedol gyda chydweithwyr rhanbarthol, gan gynnwys paratoi digwyddiadau hyfforddi ac ymwybyddiaeth ac offer ymyrraeth gynnar ymarferol gydag awdurdodau lleol. Datblygwyd a chyflwynwyd ystod o hyfforddiant wedi’i dargedu’n rhanbarthol, gan gynnwys sesiynau dan arweiniad Cymorth i Ddioddefwyr ym mis Mawrth mewn ymateb i gasineb ar-lein yn targedu’r trydydd sector. 

Tystiolaeth – sut ydyn ni’n gwybod?

Camau gwella – beth allwn ni ei wneud yn well a sut?

  • Parhau i fonitro Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024–2028, gan gynnwys y gwaith sy’n cael ei ddatblygu gan yr is-grŵp.
  • Cwblhau’r cynllun peilot ar gyfer y canllawiau a’r templed Asesiad Effaith Integredig, gan gynnwys adborth gan ddefnyddwyr o bob cwr o’r awdurdod i sicrhau bod y fframwaith yn gadarn.
  • Parhau i fonitro bylchau cyflog a sicrhau bod ein harferion recriwtio yn galluogi gweithlu’r cyngor i adlewyrchu’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.
  • Datblygu ein Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig (CDLl 2), gan gynnwys dyraniadau safle-benodol a all ddiwallu’r angen heb ei ddiwallu am lety Sipsiwn a Theithwyr a pholisi i ganiatáu gwerthuso cynigion ar gyfer llety o’r fath wrth symud ymlaen ar safleoedd heb eu dyrannu (a fydd yn bennaf ar gyfer safleoedd preifat).  Bydd hyn yn cynnwys cynnal ymgynghoriad ar newidiadau â ffocws a wnaed mewn ymateb i’r sylwadau a dderbyniwyd, gan roi cyfle i wneud sylwadau i gefnogi neu wrthwynebu’r newidiadau penodol hyn yn unig. 
ID: 14286, adolygwyd 27/10/2025