Hunanasesiad Blynyddol 2024-25
Methodoleg - Ymagwedd Thematig
Er mwyn darparu strwythur a ffocws clir, mae ein hunanasesiad wedi’i gynllunio o amgylch fframwaith thematig sy’n seiliedig ar themâu corfforaethol a sefydliadol allweddol, gyda pherfformiad o dan bob un o’r themâu hyn yn cael ei asesu.
Mae ein fframwaith hunanasesu wedi’i alinio â’n strategaeth gorfforaethol, sydd, ar gyfer y cyfnod adrodd hwn, yn fersiwn y cytunwyd arni gan y cyngor ym mis Mai 2022 sy’n cynnwys deuddeg amcan llesiant. Fel y nodir yn 2.1 o’r adroddiad hwn, cytunwyd ar strategaeth gorfforaethol newydd ar gyfer 2025–2030 ym mis Mawrth 2025 ac felly bydd angen addasu fframwaith adroddiad y flwyddyn nesaf i adlewyrchu’r pedwar amcan llesiant newydd y cytunwyd arnynt fel rhan o’r strategaeth newydd.
Y themâu trosfwaol ar gyfer ein hadroddiad hunanasesu yw:
- Amcanion llesiant y cyngor (fel y’u nodir yn Strategaeth Gorfforaethol 2023–2028)
- Cynllunio corfforaethol, perfformiad, a gweithio gydag eraill
Cefnogir pob thema gan set o is-themâu i ategu ein dealltwriaeth o sut rydym yn perfformio ym mhob maes.
Thema 1: SA1- Amcanion llesiant
- SA1.1 - Byddwn yn gwella’r ddarpariaeth addysg a dysgu, gan arfogi ein dysgwyr â’r sgiliau a’r wybodaeth gydol oes y bydd eu hangen arnynt yn y dyfodol.
- SA1.2 - Byddwn yn sicrhau darpariaeth briodol o ofal a chymorth, gan ganolbwyntio ar atal a sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn ddiogel.
- SA1.3 - Byddwn yn galluogi darparu cartrefi sy’n fforddiadwy, sydd ar gael, y gellir eu haddasu, ac sy'n defnyddio ynni'n effeithlon.
- SA1.4 - Byddwn yn cyflawni ein huchelgais economaidd drwy gefnogi twf, swyddi a ffyniant ac yn galluogi’r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach.
- SA1.5 - Byddwn yn hybu ac yn cefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli’r broses o ymaddasu i newid hinsawdd, a mynd i’r afael â’r argyfwng natur.
- SA1.6 - Byddwn yn cefnogi ein cymunedau, gan gynnal perthnasoedd cadarnhaol â hwy er mwyn helpu i greu cymunedau gweithredol, dyfeisgar, cysylltiedig, cynaliadwy a chreadigol.
- SA1.7 - Byddwn yn cefnogi’r Gymraeg o fewn cymunedau a thrwy ysgolion.
- SA1.8 - Byddwn yn canolbwyntio adnoddau ar ddarparu gwasanaethau craidd megis priffyrdd, gwastraff ac ailgylchu, diogelu’r cyhoedd, a hamdden a diwylliant sy’n cyfrannu at ansawdd bywyd cymunedau, gan sicrhau bod preswylwyr yn byw mewn cymdogaethau sy’n lân, yn wyrdd, yn ddiogel ac yn llawn bywyd.
- SA1.9 - Byddwn yn datblygu strategaeth i leihau tlodi ac anghydraddoldeb.
- SA1.10 - Byddwn yn adeiladu diwylliant o lywodraethu da yn y cyngor er mwyn gwella ymddiriedaeth a hyder yn ein prosesau penderfynu.
- SA1.11 - Byddwn yn gyngor sy'n gynaliadwy ac yn gydnerth yn ariannol sy'n rheoli ein hadnoddau a'n hasedau’n effeithiol ac yn effeithlon – er enghraifft, drwy adolygu a gwneud y gorau o’n hystad gorfforaethol.
- SA1.12 - Byddwn yn gwella datblygiad ein gweithlu, gan wella sgiliau a chyfleoedd yn ogystal â mynd i'r afael â materion recriwtio a chadw.
Thema 2: SA2- Cynllunio corfforaethol, perfformiad, a gweithio gydag eraill
- SA2.1 - Cynllunio corfforaethol a pherfformiad
- SA2.2 - Partneriaethau strategol
- SA2.3 - Ymgynghori ac ymgysylltu
- SA2.4 - Cwynion a chanmoliaeth
- SA2.5 - Cydraddoldebau
Mae hunanasesu yn ddadansoddiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan arwain at ddealltwriaeth o’r hyn y mae ystod o wybodaeth feintiol ac ansoddol sydd ar gael i’r cyngor yn ei ddatgelu ynghylch sut mae’n arfer ei swyddogaethau, yn defnyddio ei adnoddau ac yn llywodraethu ei hun. Rydym wedi gofyn tri chwestiwn allweddol i ni ein hunain er mwyn asesu perfformiad o dan bob is-thema. Mae’r rhain fel a ganlyn:
- Pa mor dda ydyn ni? (Asesu perfformiad cyfredol gan ddefnyddio gwybodaeth ansoddol a meintiol.)
- Sut ydyn ni’n gwybod? (Darparu tystiolaeth briodol i ddangos yr uchod.)
- Beth allwn ni ei wneud yn well a sut? (Nodi camau gwella sy’n edrych i’r dyfodol.)
Mae’r hunanasesiad yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau mewnol ac allanol, gan sicrhau sail dystiolaeth eang i lywio’r camau y bydd y cyngor yn eu cymryd i gynyddu’r graddau y mae’n bodloni’r gofynion perfformiad yn y dyfodol. Isod mae amrywiaeth o enghreifftiau o’r mathau o wybodaeth rydym wedi’u defnyddio fel sail dystiolaeth:
- Adrannau hunanasesu cynlluniau gwasanaeth
- Adroddiadau rheoleiddio allanol
- Adolygiadau gwasanaeth allanol
- Cerdyn Sgorio Perfformiad Corfforaethol
- Ymarferion ymgysylltu ac ymgynghori â dinasyddion
- Datganiad Llywodraethu Blynyddol
- Adroddiad Alldro Cyllideb
- Adroddiadau statudol eraill, e.e. Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’n werth nodi bod y cyngor wedi trefnu i gynnal ei asesiad perfformiad panel cyntaf ym mis Hydref 2025. Mae hwn yn ofyniad perfformiad ar wahân o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) ac mae’n gosod dyletswydd ar gynghorau i drefnu bod panel allanol yn cynnal asesiad perfformiad panel o leiaf unwaith ym mhob cylch etholiadol. Mae asesiad perfformiad panel yn asesiad annibynnol, ar lefel y sefydliad, a gynhelir gan gymheiriaid arbenigol, wedi’i gynllunio i gefnogi cynghorau i geisio her a sicrwydd allanol yn weithredol, ac i gofleidio gwahanol safbwyntiau ynghylch sut maent yn perfformio a lle gallant wella.
Yn y cyd-destun hwn, mae adroddiad hunanasesu blynyddol eleni yn ffynhonnell bwysig o dystiolaeth ar gyfer asesiad perfformiad panel y cyngor, gan y bydd ei ganfyddiadau’n cael eu defnyddio i nodi’r themâu a’r meysydd gwella lle gall y cyngor elwa fwyaf o’r safbwyntiau annibynnol a’r arbenigedd y gall aelodau’r panel eu cynnig i’n asesiad perfformiad panel.