Pa brisiau fydd yn rhaid imi eu talu?
Os bydd yn rhaid ichi dalu prisiau, fel y nodir yn y tabl, yna bydd yn rhaid gwneud hynny yn unol â'r rhestr brisiau ganlynol.
O 1 Ebrill 2024:
Ffioedd a Thaliadau Gwastraff Annomestig Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu 2024/25
* Noder y gall taliadau newid oherwydd gwerthoedd y farchnad.
** Meini Prawf Gwastraff Cartrefi DIY fel y nodir yn Rheoliadau Diwygio Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2023
(i) bod y gwastraff yn cael ei gynhyrchu mewn eiddo domestig gan feddianwyr yr eiddo domestig hwnnw sy'n gwneud eu gwaith adeiladu neu ddymchwel eu hunain, gan gynnwys gwaith paratoi;
(ii) nad yw'r gwastraff yn deillio o waith adeiladu neu waith dymchwel, gan gynnwys gwaith paratoi, y mae taliad wedi'i wneud ar ei gyfer neu y mae i'w wneud;
(iii) mae swm y gwastraff sy'n cael ei ddanfon i unrhyw safle gwaredu gwastraff mewn un ymweliad naill ai—
(a) yn llai na 100 litr ac y gellir ei osod mewn dau fag 50 litr, neu
(b) un eitem o wastraff nad yw'n fwy na 2000mm x 750mm x 700mm o ran maint; ac
(iv) nad yw'r gwastraff sy'n cael ei ddanfon i safleoedd gwaredu gwastraff yn fwy na phedwar ymweliad unigol fesul aelwyd mewn unrhyw gyfnod o bedair wythnos.
Mae unrhyw wastraff DIY yn uwch na'r terfynau hyn yn atebol am dâl gwaredu yn unol â'r amserlen.
Dyma rai enghreifftiau o wastraff math DIY:
- Bath/cawod
- Postyn ffens
- Uned gegin
- Rwbel
- Tanc dŵr (seston)
- Paneli ffens / siediau
- Cegin bwrdd gweithio
- Cypyrddau Dillad wedi’u gosod
Llwyth Bach = pickup, fan fach h.y. Peugeot Partner / Citroen Berlingo neu drelar un echel
Llwyth Canolig = Fan maint Transit neu drelar dwy echel
Llwyth Mawr = Fan maint Luton
Disgrifiad |
Cyfyngiadau cartref |
Ffi benodol |
Bag (60L) |
Bag tunnell (750 litr) |
Llwyth bach |
Llwyth canolig |
Llwyth mawr |
Gwastraff Cyffredinol/ Deunydd Gwely Anifeiliaid /Llysiau'r Gingroen (Ragwort) | Dillad gwely anifeiliaid / llysiau'r gingroen (ragwort) - Hyd at 2 sach maint sbwriel yn rhad ac am ddim y mis | amherthnasol | £2.50 | amherthnasol | £100.00 | £200.00 | £300.00 |
Pren* | Yn amodol ar Feini Prawf DIY Cartref ** | amherthnasol | £1.50 | amherthnasol | £65.00 | £130.00 | £195.00 |
Rwbel * | Yn amodol ar Feini Prawf DIY Cartref ** | amherthnasol | £1.00 | amherthnasol | £28.00 | £56.00 | £84.00 |
Bordiau plastr* (tâl lleiafswm) | Yn amodol ar Feini Prawf DIY Cartref ** Hyd at 2 sach maint sbwriel yn rhad ac am ddim y mis | £44.50 | £2.50 | amherthnasol | £89.00 | £178.00 | £267.00 |
Gwastraff gardd * | amherthnasol | amherthnasol | £1.00 | £12.50 | £45.00 | £90.00 | £135.00 |
Carpedi a deunydd o dan carped * | amherthnasol | amherthnasol | £2.50 | amherthnasol | £100.00 | £200.00 | £300.00 |
Teiars - beic/car/fan fesul uned | Hyd at 4 teiar car yn rhad ac am ddim y flwyddyn | £3.50 | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol |
Silindrau Nwy - fesul uned | amherthnasol | TBC | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol |
Matresi fesul uned * | amherthnasol | £12.00 | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol |
Olew - Cerbyd / Mwynau / Llysiau - fesul pris potel fesul litr. | Olew Cerbyd - uchafswm o 5 litr y mis fesul aelwyd. | £1.00 | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol |
Paent, farnais a theneuwyr, plaladdwyr a chwynladdwyr - pris fesul cynhwysydd fesul litr | amherthnasol | £1.50 | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol |
Bwyd (23L) | amherthnasol | £1.20 | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol |
Gosodiadau a Ffitiadau (neu un eitem swmpus neu eitem wedi'i gosod heb fod yn fwy na 2,000mm wrth 750mm wrth 700mm, tua maint bath neu sgrin gawod) | Yn amodol ar Feini Prawf DIY Cartref ** | Cost yn seiliedig ar y deunydd fel uchod | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol |