Safleoedd Cartrefi Preswyl Symudol

Safleoedd Cartrefi Preswyl Symudol

Mae angen i safleoedd cartrefi symudol preswyl a elwir hefyd yn safleoedd cartrefi parc, a safleoedd cymysg â chartrefi symudol preswyl a gwyliau gael eu trwyddedu o dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (yn agor mewn ffenestr newydd).

Bydd angen bod â chaniatâd cynllunio ar gyfer cartrefi preswyl symudol yn gyntaf a bydd angen i berchennog neu reolwr y safle fod yn rhywun ‘addas a phriodol' i ddal trwydded o'r fath.

O ran preswylwyr sy'n gwerthu neu brynu cartref preswyl symudol, mae rheolau newydd yn bodoli.

Mae cyfarwyddyd ychwanegol i'w gael ar gartrefi symudol ar wefan Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Byddwn yn pennu amodau ar drwyddedau ac, os nad yw amodau trwydded safle'n cael eu cadw, gallwn gymryd camau gorfodi sy'n cynnwys rhoi Rhybuddion Cydymffurfio neu Rybuddion Cosb Benodedig.

Lluniwyd amodau trwydded safle i warchod iechyd, diogelwch a lles preswylwyr gan gwmpasu pethau fel draenio, pellterau rhwng cartrefi symudol ac ati.

Bydd Safonau Enghreifftiol 2008 ar gyfer Safleoedd Carafanau yng Nghymru yn cael eu hatodi at holl Safleoedd Cartrefi Symudol (Yn agor mewn tab newydd) yn Sir Benfro.

Nid yw rheolau safle'n orfodol ond, pan fo gan safle reolau, bydd angen adolygu'r rhain cyn 1af Hydref 2015 a'u hanfon atom fel bod modd i'r cyhoedd eu gweld ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth am a'r broses ar gyfer eu hadolygu i'w cael ar wefan wefan Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd).

Sut i wneud cais

Gallwch ofyn am ffurflen gais a chyfarwyddiadau i dalu'r ffi gan licensing@pembrokeshire.gov.uk

Polisi Ffïoedd 2025-2030

Cymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu 24/03/2025

Cyflwyniad

Daeth Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (y Ddeddf) i rym ar 1 Hydref 2014. Cynlluniwyd hon i helpu i reoleiddio’r diwydiant er mwyn gwella amodau ar safleoedd cartrefi symudol ac amddiffyn hawliau preswylwyr yn well. Mae perchnogion yn defnyddio eu cartrefi symudol drwy gydol y flwyddyn fel eu cartref parhaol ar faes carafanau preswyl, a elwir yn aml yn ‘barciau’. Rhaid iddynt gael caniatâd cynllunio penodol ar gyfer maes carafanau preswyl parhaol. Yn Sir Benfro, mae tua 300 o gartrefi symudol ar 12 safle ar draws y sir. Mae pobl hŷn yn aml yn eu dewis ar gyfer ymddeol. Yn y rhan fwyaf o achosion mae preswylwyr yn berchen ar y cartref symudol ac yn rhentu llain ar safle. Mae Llywodraeth Cymru eisiau i’r safleoedd hyn gael eu rheoli a’u rheoleiddio’n well. Mae’r Ddeddf yn diwygio Deddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960 mewn perthynas â chartrefi symudol. Nid yw’n berthnasol i safleoedd carafanau gwyliau. Mae’r Ddeddf yn awdurdodi awdurdodau lleol i ddyroddi trwyddedau mewn perthynas â ‘safleoedd gwarchodedig perthnasol’ ac i’w gwneud yn ofynnol i ffi a bennir gan yr awdurdod lleol gael ei hanfon ynghyd â’r cais am drwydded safle. Gellir rhoi trwydded am hyd at bum mlynedd.

Safleoedd Perthnasol

Diffinnir safle perthnasol yn y Ddeddf fel unrhyw dir yng Nghymru y gosodir cartref symudol arno er mwyn i bobl fyw ynddo heblaw –

(a)   safle y mae Atodlen 1 o’r Ddeddf yn darparu nad yw i fod yn safle rheoleiddiedig; neu

(b)   safle gwyliau

 

Byddai safle sydd wedi’i gynnwys yn Atodlen 1 yn cynnwys cartrefi symudol o fewn cwrtil tŷ annedd, safleoedd sy’n eiddo i’r awdurdod lleol, safleoedd gweithwyr amaethyddiaeth neu goedwigaeth. Mae’r Ddeddf hefyd yn caniatáu ar gyfer eithriad ar gyfer cartrefi symudol a ddefnyddir gan berchennog y safle neu gyflogai.

Ffioedd

O dan y Ddeddf gellir codi ffi am y canlynol

Cais am ddyroddi trwydded 

Mae angen trwydded safle ar gyfer pob safle rheoleiddiedig ac eithrio’r rhai y mae’r Ddeddf yn eu hystyried y tu allan i’w chwmpas; mae methu â gwneud cais am drwydded yn drosedd o dan adran 5(2). Gall y cyngor ond ddyroddi trwydded ar gyfer safle sydd â chaniatâd cynllunio dilys a chywir ar gyfer ei ddefnydd. Ar gyfer safleoedd sydd â’r caniatâd cynllunio cywir ar waith, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol brosesu’r cais o fewn dau fis i’r dyddiad hwnnw. Rhaid i unrhyw gais a wneir cyn i’r statws cynllunio gael ei ddyfarnu, gael ei brosesu o fewn chwe wythnos i’r dyddiad y mae’r ymgeisydd yn cael yr hawl i fanteisio ar ganiatâd cynllunio. Gellir ymestyn y ddau uchod gyda chytundeb yr ymgeisydd a’r cyngor.

 

Ceisiadau i amrywio amodau trwydded safle

Pan fo perchennog safle yn gofyn am newid amodau trwydded safle gall y cyngor godi ffi am y swyddogaeth hon.

Adneuo, amrywio a dileu rheolau safle.

Yn unol â Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014, mae’n ofynnol i berchnogion safleoedd adolygu rheolau safle presennol ac ymgynghori ar y rheolau safle arfaethedig gyda thrigolion. Unwaith y cytunir arnynt gyda’r trigolion mae’n ofynnol i berchennog y safle gyflwyno rheolau’r safle i’r cyngor. Mae angen i’r cyngor gymeradwyo a chofrestru’r rheolau. Bydd hefyd yn ofynnol i’r cyngor gyhoeddi’r rhestr o reolau safle ar wefan y cyngor

Copi newydd o drwydded

Os bydd trwydded safle’n cael ei cholli neu ei difrodi, gall perchennog safle ofyn am gopi newydd o’r drwydded safle

Mae’r polisi hwn yn manylu ar y ffioedd i’w codi am y swyddogaethau trwyddedu.

Rhaid i unrhyw ffioedd a godir adennill yn deg y costau yr eir iddynt gan yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf.

Wrth osod ei bolisi ffioedd a’r ffioedd i’w codi, mae’r cyngor wedi ystyried y Canllaw Pecyn Cymorth Ffioedd ar gyfer Awdurdodau Lleol ar Bennu Ffioedd Trwyddedu Safle a gyhoeddwyd gan Baneli Arbenigol Penaethiaid Iechyd yr Amgylchedd Cymru ar gyfer Trwyddedu a Thai’r Sector Preifat.

Mae’n ystyried yr holl gostau gweinyddol yr eir iddynt yn y broses drwyddedu, ymweliadau swyddogion â safleoedd, costau teithio, ymgynghoriadau, cyfarfodydd, monitro safleoedd/ymchwilio i gwynion, rhoi cyngor anffurfiol, hyfforddiant swyddogion, unrhyw waith gweinyddol gan gynnwys cyfrifo ffioedd, cynhyrchu, ceisio cymeradwyaeth a chyhoeddi’r polisi ffioedd hwn

Bydd adolygiad o’r ffioedd yn cael ei gynnal bob pum mlynedd yn unol â chylchred y drwydded. Bydd unrhyw addasiadau yn ystyried amrywiadau i amser swyddogion a gweinyddu o’r rhai a ddefnyddir wrth gyfrifo’r ffioedd a nodir yn y ddogfen bolisi hon, ynghyd ag unrhyw newidiadau i gostau eraill a eir iddynt wrth ddarparu’r swyddogaeth drwyddedu.

Bydd y polisi ffioedd ar gyfer trwyddedu safleoedd cartrefi parc preswyl yn cael ei gyhoeddi ar wefan y cyngor.

Crynodeb o daliadau
Disgrifiad
Ffi

Ffi ymgeisio ar gyfer safle bach llai nag 20 llain

£575

Ffi ymgeisio ar gyfer safle mawr mwy nag 20 llain

£900

Amrywio amodau’r drwydded

£75

Adneuo rheolau safle

£25

Copi newydd o drwydded

£25

Taliadau gorfodi:
Hysbysiad Cosb Benodedig

Ar gyfer mân achosion o dorri amodau trwydded safle, mae’r Ddeddf yn caniatáu i awdurdod lleol ddyroddi hysbysiad cosb benodedig.

Rhaid i’r swm a bennir ar gyfer hysbysiad cosb benodedig beidio â bod yn fwy na lefel 1, sef £200 ar hyn o bryd

Gan fod hysbysiad cosb benodedig yn rhoi dirwy i ddeiliad trwydded safle yn unig ac nid yw’n gofyn am unioni’r toriad, bydd rhinweddau cyflwyno hysbysiadau o’r fath yn gyfyngedig.

Hysbysiad Cydymffurfio

Os yw’n ymddangos i’r awdurdod lleol fod amodau’r drwydded safle wedi’u torri, caiff yr awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad cydymffurfio. Bydd pob hysbysiad cydymffurfio a gyhoeddir yn amrywio o ran cost, felly nid yw’n bosibl pennu ffi sefydlog ar gyfer y cam gweithredu hwn. Bydd yr awdurdod lleol yn codi tâl ar y perchennog fel modd o adennill treuliau yr eir iddynt am –

(a)   Benderfynu a ddylid cyflwyno’r hysbysiad,

(b)   Paratoi a chyflwyno’r hysbysiad neu hawliad

 

Mae’r treuliau y cyfeirir atynt yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) costau cael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol). Byddai taliadau’n seiliedig ar gyfradd fesul awr.

Pŵer i gymryd Camau Brys

Mae’r Ddeddf yn caniatáu i awdurdod lleol gymryd camau brys pan –

(a)   Mae perchennog y tir yn methu neu wedi methu â chydymffurfio ag amod ar drwydded safle

(b)   O ganlyniad i’r methiant hwnnw, mae risg ar fin digwydd o niwed difrifol i iechyd neu ddiogelwch unrhyw unigolyn sydd neu a allai fod ar y tir.

Yna gall yr awdurdod lleol fynnu treuliau oddi wrth berchennog y safle, am dreuliau yr eir iddynt –

(a)   Wrth benderfynu a ddylid cymryd camau gweithredu

(b)    Wrth baratoi a chyflwyno unrhyw hysbysiad

(c)   Gweithredu.

Mae’r treuliau y cyfeirir atynt yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) costau cael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

 

Rhagor o wybodaeth:

Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydian (yn agor mewn tab newydd)

Cymdeithas Genedlaethol Preswylwyr Cartref mewn Parc (yn agor mewn tab newydd) 

Wefan Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Gwasanaeth Cynghori Cartrefi Parc Prydles (yn agor mewn tab newydd)

 

Amodau Trwydded Safle Carafanau

1. Rheolwr safle

Pan fo newid yn y person sy’n rheoli’r safle, rhaid i ddeiliad y drwydded safle wneud datganiad i’r awdurdod lleol fod y rheolwr newydd yn berson addas a phriodol i reoli’r safle

2. Terfynau a chynllun y safle

(i) Rhaid i derfynau’r safle o unrhyw dir cyffiniol gael eu marcio’n glir â nodwedd naturiol neu synthetig.
(ii) Ni cheir gosod carafanau na strwythurau hylosg o fewn 3 metr i derfyn y safle.
(iii)(a) Rhaid cyflenwi cynllun o’r safle i’r awdurdod lleol pan wneir cais am drwydded ac wedyn pryd bynnag y bydd newid perthnasol i derfynau neu gynllun y safle, neu ar unrhyw adeg arall pan fydd yr awdurdod lleol yn mynnu.
(b) Rhaid i’r cynllun a gyflenwir arddangos yn glir osodiad y safle gan gynnwys yr holl strwythurau, nodweddion a chyfleusterau perthnasol arno a rhaid iddo fod o ansawdd addas.

3. Dwysedd, bylchiad a pharcio rhwng carafanau

(i) Heblaw yn yr achos y soniwyd amdano yn is-baragraff

(iii) ac yn amodol ar is-baragraff

(iv), rhaid gosod pob carafán o leiaf mor bell â 6 metr (y pellter gwahanu) i ffwrdd o unrhyw garafán sydd wedi’i llenwi’n breswylfa ar wahân.
(ii) Ni cheir gosod unrhyw garafán o fewn 2 fetr i unrhyw ffordd na maes parcio cymunedol yn y safle na mwy na 50 metr i ffwrdd o ffordd felly yn y
safle.

(iii) Os oes carafán y gosodwyd cladin arni’n ôl-weithredol sy’n cydweddu â’r deunyddiau gwrthdan a gymeradwyir ar hyn o bryd, a hwnnw i’w waliau wynebu, ceir lleihau’r pellter gwahanu rhyngddi a charafán gyfagos i leiafswm o 5.25 metr.

(iv) Mewn unrhyw achos y soniwyd amdano yn is-baragraff

(i) neu

(iii):
(a) Caiff portsh sydd ynghlwm wrth y garafan ymwthio allan un metr i’r parth gwahanu ac ni chaiff fod yn fwy na 2 fetr o hyd ac 1 metr o ddyfnder. Ni chaiff y portsh fod yn uwch na’r garafán. Os oes portsh wedi’i osod, caniateir un drws yn unig wrth y fynedfa honno i’r cartref, naill ai ar y portsh neu ar y cartref.
(b) Caiff bargodion, peipiau glaw a ffenestri crwm estyn i’r pellter gwahanu ar yr amod nad yw’r holl bellter rhwng eithafoedd dwy garafán sy’n wynebu ei gilydd yn llai na 5 metr.
(c) Rhaid i unrhyw strwythur gan gynnwys grisiau, rampiau etc (heblaw garej neu gysgodfa ceir) sy’n estyn mwy nag 1 metr i’r parth gwahanu fod o adeiladwaith nad yw’n hylosg. Dylai fod 4.5 metr o le clir rhwng carafanau cyffiniol.
(d) Ni cheir caniatáu garej neu gysgodfa ceir o fewn y pellter gwahanu heblaw eu bod o adeiladwaith nad yw’n hylosg.
(e) Ni chaiff ffenestri mewn strwythurau o fewn y pellter gwahanu wynebu tuag at y garafán ar y naill ochr na’r llall

(f) Rhaid i ffensys a chloddiau, lle’u caniateir a lle maent yn ffurfio’r terfyn rhwng carafanau cyfagos, fod yn 1 metr o uchder ar y mwyaf.

(v) Rhaid i ddwysedd carafanau ar safle gael ei bennu yn unol â safonau iechyd a diogelwch ac asesiadau risg tân perthnasol.

4. Ffyrdd, pyrth a cheblau uwchben

(i) Rhaid dylunio ffyrdd i ddarparu mynediad digon da i gerbydau argyfwng a rhaid i lwybrau yn y safle i gerbydau felly gael eu cadw’n glir o rwystrau drwy’r amser.
(ii) Rhaid i ffyrdd newydd gael eu hadeiladu a’u gosod o facadam bitwmen neu goncrit addas gyda sylfaen gywasgedig addas.
(iii) Rhaid i bob ffordd gael system ddigonol i ddraenio dŵr wyneb/storm.
(iv) Ni chaiff ffyrdd dwyffordd newydd fod yn llai na 3.7 metr o led, neu os ydynt wedi’u dylunio ar gyfer traffig unffordd a’u defnyddio gan draffig felly, 3 metr o led.
(v) Rhaid bod arwyddbyst clir ar systemau unffordd.
(vi) Lle nad yw ffyrdd dwyffordd presennol yn 3.7 metr o led, rhaid darparu mannau pasio lle bo’n ymarferol.
(vii) Rhaid i fynedfeydd cerbydau a phob porth i’r safle fod o leiaf 3.1 metr o led ac o leiaf 3.7 metr o uchder.
(viii) Rhaid cadw ffyrdd mewn cyflwr da.
(ix) Rhaid i geblau gordo fodloni gofynion statudol.

5. Llwybrau troed a phalmentydd

(i) Rhaid i bob carafán gael ei chysylltu â ffordd gan lwybr troed ag wyneb caled a fydd yn cael ei gadw mewn cyflwr da.
(ii) Lle bo’n ymarferol, ni chaiff palmentydd a llwybrau troed cymunedol fod yn llai na 0.9 metr o led.

6. Goleuadau

Rhaid i ffyrdd, llwybrau troed cymunedol a phalmentydd gael eu goleuo’n ddigon da rhwng y cyfnos a’r wawr er mwyn i gerddwyr a cherbydau symud yn ddiogel o gwmpas y safle tra bydd yn dywyll.

7. Sylfeini

(i) Rhaid i bob uned sefyll ar arwyneb solet neu sylfaen goncrit.
(ii) Rhaid i’r sylfaen estyn dros yr holl ardal a lenwir gan yr uned, a rhaid iddi ymwthio’n ddigon pell allan o’i mynedfa neu fynedfeydd er mwyn i’r preswylwyr gyrraedd a gadael yn ddiogel. Rhaid i’r arwynebau solet gael eu hadeiladu yn unol â chanllawiau’r diwydiant, sy’n gyfredol adeg eu gosod, gan ystyried amodau lleol.

8. Cynnal a chadw ardaloedd cyffredin, gan gynnwys glaswellt, llystyfiant a choed

(i) Rhaid cadw’n lân a thaclus bob rhan o’r safle y caiff y cyhoedd fynediad iddi.
(ii) Rhaid cadw pob ffordd, llwybr troed cymunedol a phalmant ar y safle
mewn cyflwr da ac yn rhydd o sbwriel.
(iii) Rhaid i laswellt a llystyfiant gael eu torri a’u gwaredu yn aml ac yn rheolaidd.
(iv) Rhaid cynnal a chadw coed yn y safle (yn amodol ar y caniatâd angenrheidiol).
(v) Rhaid gwaredu unrhyw doriadau, sbwriel neu wastraff o amgylchynau uniongyrchol llain.

9. Cyflenwi a storio nwy etc

(i) Rhaid i osodiadau nwy (gan gynnwys nwy naturiol) ac olew, a dulliau storio cyflenwadau, fodloni’r gofynion statudol cyfredol, y safonau a’r codau ymarfer perthnasol.
(ii) Ni cheir gosod na diogelu silindrau Nwy Petrolewm Hylifedig mewn modd sy’n rhwystro pobl rhag cael atynt neu eu gwaredu mewn argyfwng.

10. Gosodiadau trydanol

(i) Rhaid gosod rhwydwaith trydanol â gallu cynhyrchu digonol ar y safle i fodloni’n ddiogel holl ofynion rhesymol y carafanau a’r cyfleusterau a’r gwasanaethau eraill yno.
(ii) Rhaid i’r gosodiadau rhwydwaith trydanol fod yn destun rheoleiddio o dan y ddeddfwriaeth berthnasol gyfredol a rhaid eu cynllunio, eu gosod, eu profi, eu harchwilio a’u cynnal yn unol â darpariaethau’r gofynion statudol perthnasol cyfredol.
(iii) Rhaid i unrhyw waith ar declynnau a gosodiadau trydanol gael ei wneud dim ond gan bobl sy’n gymwysedig yn y math penodol o waith sy’n cael ei wneud, ac yn unol â rheoliadau perthnasol cyfredol.
(iv) Rhaid i unrhyw waith ar y rhwydwaith trydanol yn y safle gael ei wneud gan unigolyn cymwys sy’n gwbl gyfarwydd â’r gofynion statudol priodol.

11. Cyflenwad dŵr

(i) Rhaid darparu cyflenwad dŵr sy’n ddigonol ym mhob ystyr i bob llain ar y safle er mwyn bodloni holl ofynion rhesymol y carafanau sydd ar y lleiniau.
(ii) Rhaid i bob cyflenwad dŵr newydd fod yn unol â’r holl ddeddfwriaeth, rheoliadau a safonau Prydeinig neu Ewropeaidd perthnasol cyfredol.
(iii) Rhaid i’r holl atgyweiriadau a’r gwelliannau i osodiadau a chyflenwadau dŵr gael eu gwneud i gydymffurfio â deddfwriaeth a safonau Prydeinig neu Ewropeaidd cyfredol.
(iv) Rhaid i waith ar osodiadau a chyflenwadau dŵr gael ei wneud dim ond gan bobl sy’n gymwysedig yn y math penodol o waith sy’n cael ei wneud a rhaid iddo fod yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol a’r safonau Prydeinig neu Ewropeaidd cyfredol.

12. Draeniad a glanweithdra

(i) Rhaid draenio dŵr wyneb lle bo’n briodol er mwyn osgoi pyllau llonydd o ddŵr.
(ii) Rhaid bod darpariaeth foddhaol ar gyfer draenio dŵr brwnt a dŵr gwastraff naill ai drwy gysylltiad â gwaith trin carthion neu garthffos gyhoeddus neu drwy arllwys i danc septig neu garthbwll wedi’i adeiladu’n briodol a gymeradwywyd gan yr awdurdod lleol.
(iii) Rhaid i’r holl ddarpariaeth draeniad a glanweithdra fod yn unol â’r holl ddeddfwriaeth a’r safonau Prydeinig ac Ewropeaidd cyfredol.
(iv) Rhaid i waith ar ddraeniau a charthffosydd gael ei wneud dim ond gan bobl sy’n gymwysedig yn y math penodol o waith sy’n cael ei wneud ac yn unol â deddfwriaeth a safonau Prydeinig neu Ewropeaidd cyfredol.

13. Storio a gwaredu sbwriel domestig

(i) Lle darperir biniau sbwriel cymunedol, rhaid sicrhau nad yw’r rhain yn hylosg a rhaid eu cadw mewn storfa finiau wedi’i hadeiladu’n briodol.
(ii) Rhaid i’r holl waredu sbwriel fod yn unol â’r holl ddeddfwriaeth a rheoliadau cyfredol.

14. Lleoedd parcio cerbydau cymunedol

Rhaid darparu lleoedd parcio ag wyneb addas i fodloni gofynion preswylwyr a’u hymwelwyr.

15. Lle hamdden cymunedol

Ar safleoedd lle mae’n ymarferol gwneud hynny, rhaid dyrannu lle addas sy’n gywerth â rhyw un rhan o ddeg o holl arwynebedd y safle at ddibenion hamdden, heblaw bod cyfleusterau hamdden digon da ar gael yn agos i’r safle, ym marn yr awdurdod lleol.

16. Hysbysiadau a gwybodaeth

(i) Rhaid i enw’r safle gael ei arddangos ar arwydd mewn man amlwg wrth y
mynedfeydd i’r safle, ynghyd â’r canlynol;
(a) Enw, cyfeiriad a rhif ffôn cyfredol y deiliad trwydded a’r rheolwr, a manylion cyswllt brys i’r ddau;
(b) Copi o’r drwydded safle neu dudalen flaen y drwydded honno a manylion ble gellir gweld y drwydded lawn a’r wybodaeth arall y mae’n ofynnol iddi fod ar gael o dan y safon hon, a rhwng pa amseroedd (os nad ydynt wedi’u harddangos ar yr hysbysfwrdd).

(ii) Rhaid i gynllun cyfredol o’r safle gyda ffyrdd a lleiniau wedi’u marcio arno gael ei arddangos yn amlwg wrth y mynedfeydd i’r safle.

(iii) Yn ogystal, yn y man amlwg, rhaid hefyd i’r wybodaeth ganlynol fod ar gael i’w harchwilio:

(a) Copi o dystysgrif perchennog y safle o’r yswiriant atebolrwydd cyhoeddus;
(b) Copi o’r biliau cyfleustod diweddaraf mewn perthynas â’r safle;
(c) Copi o’r adroddiad archwiliad trydanol cyfnodol diweddaraf;
(d) Copi o’r system leol i rybuddio am lifogydd a’r gweithdrefnau gwacau os yw’n briodol;
(e) Copi o’r asesiad risg tân a wnaed i’r safle.

(iv) Rhaid i bob hysbysiad gael ei warchod yn addas rhag y tywydd a rhag heulwen uniongyrchol.

17. Llifogydd

(i) Rhaid i berchennog y safle ganfod a ydy’r safle mewn perygl llifogydd drwy gyfeirio at Fap Llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd.
(ii) Lle mae risg llifogydd, rhaid i berchennog y safle ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd i gael cyngor ar debygolrwydd llifogydd, y dyfnderoedd a’r cyflymderau y gellid eu disgwyl, ac argaeledd gwasanaeth rhybuddio, ac i gymryd y camau priodol.

18. Gofyniad i gydymffurfio â gorchymyn diwygio rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005

Rhaid i berchennog y safle sicrhau bod y fersiwn ddiweddaraf o’r asesiad risg tân a gynhaliwyd o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 ar gael i breswylwyr ei gweld, a phan fydd yn mynnu, rhaid i gopi o’r asesiad risg fod ar gael i’r awdurdod lleol.

ID: 2298, adolygwyd 14/04/2025