Safleoedd Cartrefi Preswyl Symudol

Rheolau Safle

Dan Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 (fel y newidiwyd gan Deddf Cartrefi Symudol 2013) Mae'n ofynnol arnom i gadw a chyhoeddi cofrestr ddiweddaraf o reolau cartrefi mewn parc.

Mae rheolau safle ar safleoedd cartrefi preswyl symudol yn sicrhau cydlynu cymunedol a rheolaeth dda o'r safle, ar yr un pryd â sicrhau bod perchenogion cartrefi symudol yn glir ynghylch y rheolau sy'n berthnasol iddynt hwy.

Mae Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014 yn manylu'r drefn sydd raid i berchennog safle ei dilyn wrth wneud, amrywio neu ddileu rheol safle. Maent yn sefydlu'r broses ar gyfer ymgynghori ar newidiadau arfaethedig, rhoi hawliau apelio a gofyn bod awdurdodau lleol yn cadw a chyhoeddi cofrestr o reolau safleoedd yn eu hardaloedd.

Trosolwg:

  1. Pan fo perchenogion safleoedd yn gwneud adolygiad o reolau presennol neu eisiau gwneud unrhyw reolau newydd, rhaid iddynt yn gyntaf ymgynghori â holl berchenogion cartrefi symudol ac unrhyw gymdeithas drigolion gymwys (QRA). Rhaid i'r ymgynghori fod yn agored ar gyfer ymatebion am o leiaf 28 diwrnod. Cyn pen 21 diwrnod ar ôl diwedd yr ymgynghori rhaid i berchennog y safle anfon Dogfen Ymatebion i'r Ymgynghori at holl berchenogion cartrefi'n dweud wrthynt am ganlyniad yr ymgynghori a pha reolau safle sydd i gael eu mabwysiadu.
  2. Os yw perchenogion cartrefi symudol yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad perchennog y safle i fabwysiadu, dileu neu amrywio rheol safle, rhaid iddynt wneud cais i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl (RPT) cyn pen 21 diwrnod ar ôl derbyn y ddogfen ymatebion i'r ymgynghori.
  3. Unwaith y cytunwyd ar y rheolau newydd, rhaid i berchennog y safle adneuo rheolau newydd y safle gyda'r awdurdod lleol cyn pen 42 diwrnod ar ôl cyflwyno'r ddogfen ymateb i'r ymgynghori. Os gwnaed apêl, ni all perchennog y safle adneuo rheolau'r safle cyn i'r apêl gael ei phenderfynu. Unwaith y penderfynwyd yr apêl, mae gan berchennog y safle 14 diwrnod i adneuo rheolau'r safle gyda'r awdurdod lleol, os na fydd y tribiwnlys yn dweud yn wahanol.

Amodau Trwydded

Safle Greenacre

Pentre Greenacre, Kingsmoor Road, Cilgeti, Sir Benfro SA68 0QW

Trwydded Greenacre

Maes Carafanau Hasguard Cross

Hasguard Cross, Hwlffordd, Sir Benfro SA62 3SL

Hill Farm Park

Ffordd Britannia, Doc Penfro, Sir Benfro SA72 6QD

Trwydded Hill Park Farm

Monkton Caravan Paddock

India Row, Cil-maen, Penfro, Sir Benfro SA71 4JH

Maes Carafanau Park Hall

Pen y Cwm, Hwlffordd, Sir Benfro SA62 6LS

Parc Scotchwell

Cartlett, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 2XF

Parc Shillingford

Ffordd Caerfyrddin, Cilgeti, Sir Benfro SA68 0YU

Maes Carafanau Timber Top

Hasguard Cross, Hwlffordd, Sir Benfro SA62 3SL

Maes Carafanau Tregarn Owen

Tregarn Owen, Hwlffordd, Sir Benfro SA62 6NE

Scamford Park Homes

Keeston Lane, Camros, Hwlffordd, Sir Benfro SA62 6HN

Mabws Brige Caravan Park

Mathri, Hwlffordd, Sir Benfro SA72 5JB

The Orchard Caravan Site

1 Ferry Terrace, Waterloo, Doc Penfro, Sir Benfro SA72 6TY

Monkton Caravan Paddock

India Row, Cil-maen, Penfro, Sir Benfro SA71 4JH

Trwydded Monkton Caravan Paddock 

Rhagor o wybodaeth:

Perchenogion Safleoedd - Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain 

Preswylwyr Safleoedd - Cymdeithas Genedlaethol Preswylwyr Cartref mewn Parc

ID: 2299, adolygwyd 22/09/2022