Safleoedd Teithwyr Sipsiwn

Arolwg Sipsiwn a Theithwyr: Eich Dyfodol Eich Barn

Mae deddf newydd o’r enw Deddf Tai (Cymru) 2014 yn golygu bod yn rhaid i’ch Cyngor ddarparu ar gyfer anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yn y sir. Ym mis Mehefin bydd y Cyngor yn ymweld â Chymunedau Sipsi, Teithwyr a Theithwyr Sioeau i ddarganfod a yw eich teulu angen safle preswylio, tŷ neu safle teithiol.

Bydd y wybodaeth a gesglir o’r arolwg yn cael ei defnyddio i benderfynu sawl llain (pitch) sydd eu hangen nawr ac yn y dyfodol. Ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei recordio na’i datgan yn gyhoeddus.

Oes oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r arolwg, neu os hoffech drefnu amser cyfleus i ddweud eich barn, e-bostiwch housingCLO@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch 07798 870234.

Fideo Arolwg Sipsiwn a Theithwyr: Eich Dyfodol Eich Barn 

 

ID: 5183, adolygwyd 10/03/2023