Safonau Masnach

Safonau Masnachu

Mae’r Tîm Safonau Masnachu’n gwneud amrywiaeth eang o ddyletswyddau i sicrhau bod busnesau’n masnachu’n deg a defnyddwyr yn cael eu hamddiffyn. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Masnachu Teg (gan gynnwys Prisio) - sicrhau bod y nwyddau a gwasanaethau’n cael eu disgrifio’n gywir a bod arferion prisio’n deg, ar draws amrywiaeth o sectorau busnes o werthwyr ceir i werthwyr tai, ac o archfarchnadoedd i siopau cornel. Bydd y gwasanaeth hefyd yn ymchwilio i “sgiamiau” a materion credyd ac yn cynorthwyo defnyddwyr diamddiffyn.
  • Diogelwch Cynhyrchion - sicrhau bod nwyddau traul fel teganau, eitemau trydanol, coluron, taclau nwy, dodrefn clustogog ac eitemau ail-law yn ddiogel. Mae prosiectau diweddar wedi cynnwys cadarnhau allbwn gwelyau haul UV mewn salonau cael lliw haul, a diogelwch trydanol.
  • Pwysau a Mesurau - yn ogystal â pheiriannau pwyso mewn siopau ac archfarchnadoedd, ac offer mesur mewn tafarnau, mae’r gwasanaeth hefyd yn profi dros 30 o danceri olew gwresogi, 30 o bontydd pwyso a thros 500 o ddosbarthwyr gwerthu tanwydd yn rheolaidd i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael yr hyn y talwyd amdano. Caiff gwiriadau eu gwneud yn rheolaidd hefyd mewn eiddo pacwyr bwyd a becysiau i sicrhau bod bwydydd paced yn cynnwys y maint sydd ar y pecyn neu botel.
  • Gwerthiannau gyda Chyfyngiad Oedran – mae’r gwasanaeth yn gorfodi deddfwriaeth ac yn rhoi cyngor i fusnesau ar atal gwerthu alcohol, sigaréts a chyllyll i blant yn anghyfreithlon. Mae’r gwasanaeth hefyd yn sicrhau bod siopau’n cydymffurfio â deddfwriaeth cynnyrch gyda chyfyngiad oedran trwy weithio gyda gwirfoddolwyr arddegol sy’n prawf-brynu alcohol, sigaréts, cyllyll ac ati’n gudd dan oruchwyliaeth swyddog.
  • Problemau Eraill Defnyddwyr - gan gynnwys E-fasnach: bydd y gwasanaeth hefyd yn ymchwilio i gwynion a sgiamiau ar-lein, gan gynnwys trwy gyfryngau cymdeithasol ac arwerthiannau ar-lein.

Caiff gwaith y gwasanaeth ei wneud trwy archwilio rheolaidd, mewn ymateb i gwynion, a thrwy arolygon rhagweithiol neu archwiliadau o sectorau busnes arbennig neu arferion masnachu. Mae modd samplu neu brawf-brynu nwyddau a gwasanaethau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth defnyddwyr a diogelwch.

Mae gwaith y gwasanaeth yn cydymffurfio â’r Polisi Gorfodi Gwarchod y Cyhoeddcyhoeddedig a bydd yn ceisio gweithio gyda busnesau er mwyn datrys problemau a chael cydymffurfiad. Fodd bynnag, mae gan y gwasanaeth amrywiaeth o offer gorfodi ar gael, o rybuddion ysgrifenedig ffurfiol i erlyn os bydd angen.

ID: 704, adolygwyd 17/02/2023