Safonau’r Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2025-26

Camau Gweithredu a Gweithgareddau Allweddol ar Gyfer 2026-27

Bydd y camau gweithredu a’r gweithgareddau allweddol i’w cymryd yn 2026-27 yn cynnwys:

  • Cynnal Eisteddfod 2026, a fydd yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru
  • Cymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd
  • Hyrwyddo’r strategaeth Gymraeg ar gyfer 2026-31
  • Gweithredu cynllun gweithredu’r strategaeth
  • Adolygu Strategaeth y Gymraeg 2021-26
  • Parêd Dydd Gŵyl Dewi wedi’i drefnu gan Fforwm Iaith Sir Benfro
  • Bore coffi staff Dydd Gŵyl Dewi
  • Adolygu’r polisi ar gyfer defnydd mewnol o’r Gymraeg
  • Adolygu’r protocol ymgynghori a’r asesiad o’r effaith ar y Gymraeg er mwyn cryfhau cymorth i staff a chydymffurfedd â’r safonau llunio polisïau
  • Adolygu’r dudalen we ar y fewnrwyd ar gyfer gwybodaeth ac adnoddau Cymraeg
  • Symud i fframwaith newydd (Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd) ar gyfer hunanasesu sgiliau Cymraeg staff er mwyn gwella data’r gweithlu, cynllunio ieithyddol a phrosesau adrodd
ID: 15730, adolygwyd 28/07/2026