Safonau’r Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2025-26
Casgliad
- Mae’r adroddiad yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus y cyngor i hyrwyddo a darparu gwasanaethau Cymraeg a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ar gyfer ei staff, aelodau’r cyhoedd a rhanddeiliaid.
- Mae’r adroddiad blynyddol yn dangos bod cynnydd a gwelliannau’n cael eu gwneud ond mae angen gwneud gwelliannau mewn meysydd penodol hefyd, gyda gwaith eisoes ar y gweill neu wedi’i drefnu i ddigwydd yn 2026-27. Mae manylion y camau gweithredu a’r gweithgareddau allweddol ar gyfer 2026-27 wedi’u nodi.
- Rydym wedi ymrwymo i wneud y gwelliannau hyn a bydd meysydd a nodwyd fel rhai sydd angen sylw yn cael sylw. Mae rhaglen hyrwyddo cydymffurfedd Comisiynydd y Gymraeg wedi ein cynorthwyo i wneud hyn drwy fonitro parhaus ac adrodd thematig a bydd hyn yn parhau yn 2026-27.
- Bydd ein cyflawniadau yn 2025-26 a’r camau gweithredu a gynlluniwyd ar gyfer 2026-27 yn ein helpu i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r safonau, yn cefnogi ac yn datblygu ein strategaethau a chynlluniau Cymraeg, ac yn cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i weld nifer y bobl sy’n gallu mwynhau siarad a defnyddio’r Gymraeg yn cyrraedd miliwn erbyn 2050 (Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr).
- Bydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yn ystyried yr adroddiad blynyddol ym mis Mehefin cyn ei gymeradwyo gan y cabinet (6 Gorffennaf).
ID: 15731, adolygwyd 28/07/2026