Safonau’r Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2025-26

Comisiynydd y Gymraeg

  • Mae’r awdurdod yn cynnal perthynas waith dda â Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, gan gydweithio’n agos â swyddogion cydymffurfio o’r swyddfa sy’n rhoi cyngor ac arweiniad ar faterion cydymffurfio.
  • Mae’r Comisiynydd yn parhau i gynnal Rhaglen Hyrwyddo Cydymffurfedd (yn agor mewn tab newydd) flynyddol sy’n canolbwyntio ar themâu/safonau penodol ac mae’r rhaglen hon yn archwilio’r trefniadau sydd gan sefydliadau ar waith i gyrraedd safonau, yn nodi arfer da a diffygion, ac yn cynnig argymhellion ar gyfer gwella.
  • Mae meysydd ffocws yn 2025-26 wedi cynnwys sut mae sefydliadau’n rheoli cwynion sy’n ymwneud â’r Gymraeg a’r cyfryngau cymdeithasol, ac mae arolygon monitro chwarterol wedi canolbwyntio ar dudalennau gwe penodol. Rydym wedi ymateb i argymhellion yr adroddiad monitro a’r adroddiad thematig ac mae nifer o gamau ymarferol wedi’u cymryd i’w cyflawni. Mae rhaglen 2026-27 yn dechrau gyda fforwm Cymraeg yn y Gweithle, sydd wedi’i drefnu ar gyfer mis Mai 2026.
ID: 15717, adolygwyd 28/07/2026