Safonau’r Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2025-26

Safonau Cyflenwi Gwasanaethau

  • Mae gan y cyngor gyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau llywodraeth leol i drigolion, busnesau ac ymwelwyr. Mae’r gwasanaethau’n cynnwys ysgolion, gwastraff ac ailgylchu, gofal cymdeithasol a thai, diogelu’r cyhoedd, a chynnal a chadw ardaloedd ac ati. Rydym hefyd yn comisiynu nwyddau a gwasanaethau gan ddarparwyr gwasanaethau allanol.
  • Ar hyn o bryd, mae ein gweithwyr yn gweithio o fewn y cyfarwyddiaethau canlynol o dan y Prif Weithredwr: Prif Weithredwr Cynorthwyol a Lle; Adnoddau; Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelu’r Cyhoedd; ac Addysg. Mae staff yn gweithio ar draws amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys swyddfeydd, depos, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, a Neuadd y Sir yn Hwlffordd. Mae staff swyddfa yn rhannu eu hamser rhwng gweithleoedd a’r cartref fel rhan o weithio hybrid.
  • Mae safonau’r Gymraeg wedi’u hymgorffori yn ein Canllawiau Safonau Cyfathrebu, Gwasanaethau ac Adnoddau ar gyfer Gweithwyr, sy’n cael eu hategu gan daflenni ffeithiau a Canllawiau Atodol ar gyfer Rheolwyr ac Uwch-swyddogion, gan gynnwys darparu cyrsiau addysg i’r cyhoedd, dyfarnu grantiau, a chaffael nwyddau a gwasanaethau.
  • Mae cynllun gweithredu, “Cyflawni’r camau gweithredu yng nghynllun Mwy na geiriau 2022-27”, ar waith sy’n anelu at gefnogi staff i gyflawni’r “cynnig gweithredol” i ddarparu gwasanaethau gofal drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’n cael ei fonitro’n flynyddol gan y gwasanaethau cymdeithasol. Nod “Mwy na geiriau” yw sicrhau bod iaith yn agwedd annatod o ansawdd gofal, nid yn “ychwanegyn”.
ID: 15718, adolygwyd 28/07/2026