Safonau’r Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2025-26

Crynodeb o Gynnydd - Safonau Gweithredu

Dewis cyfathrebu gweithwyr

Dewis cyfathrebu

2021-22

2022-23

2023-24

2024-25

2025-26

Gweithwyr sy’n dymuno derbyn gohebiaeth bapur sy’n ymwneud â’u cyflogaeth, ac sydd wedi’i chyfeirio ato ef neu hi’n bersonol, yn y Gymraeg 33 32 33 33 65

 

Mae’r tabl uchod yn dangos bod y gwaith a wnaed gan adnoddau dynol i’w gwneud hi’n haws adnabod ac ymateb i ddewisiadau cyfathrebu staff, gan gynnwys gwella’r system adnoddau dynol (cyfrif Hunanwasanaeth i Weithwyr) ac awgrymiadau o bryd i’w gilydd i wahodd staff i gyflwyno eu dewisiadau cyfathrebu, wedi gwneud gwahaniaeth.  Mae bron ddwywaith y nifer o staff yn dewis cael gohebiaeth yn y Gymraeg yn 2025–2026 (65) o’i gymharu â 2024–2025 (33).

 

Asesu sgiliau Cymraeg

Sgiliau Cymraeg

2021-22

2022-23

2023-24

2024-25

2025-26

Nifer y gweithwyr a gwblhaodd yr hunanasesiad 1,969  1,870 1,774 1,674 1,534
Nifer y gweithwyr a nododd fod ganddynt sgiliau siarad Cymraeg ar Lefel 1 neu uwch a gwblhaodd yr hunanasesiad 919 899 868 765 712
Nifer y gweithwyr sy’n gallu siarad Cymraeg ar Lefel 3 neu 4 a gwblhaodd yr hunanasesiad 177 on 29/4/22 179 on 12/4/23 170 on 31/3/24 169 on 31/3/25 155 on 31/3/26

 

Sgiliau Cymraeg

  • Bu gostyngiad o 8.37% (140) yn nifer y gweithwyr a oedd wedi cwblhau’r hunanasesiad sgiliau Cymraeg, o 1674 yn 2024–2025 i 1534 yn 2025–2026.

 

Sgiliau Cymraeg Lefel 1 neu uwch

  • Bu gostyngiad o 6.9% (53) yn nifer y gweithwyr a nododd sgiliau siarad Cymraeg ar lefel 1 neu uwch sydd wedi cwblhau’r hunanasesiad sgiliau Cymraeg hefyd, o 765 yn 2024–2025 i 712 yn 2025–2026.

 

Sgiliau Cymraeg Lefel 3 neu 4

  • Bu gostyngiad o 8.28% (14) yn nifer y gweithwyr a nododd eu bod yn gallu siarad Cymraeg ar Lefel 3 neu 4 yn yr hunanasesiad sgiliau Cymraeg, o 169 yn 2024–2025 i 155 yn 2025–2026.
  • Darperir canllawiau i reolwyr ar asesu’r angen am sgiliau Cymraeg mewn swydd wag, a byddwn yn parhau i atgyfnerthu’r angen hwn. Mae cynnal a chynyddu gallu’r cyngor i gyflawni’n ddwyieithog yn parhau i fod yn her barhaus oherwydd y prinder cenedlaethol parhaus o weithwyr dwyieithog. Byddwn yn parhau i gynnal gwaith recriwtio wedi’i dargedu, gan gynnwys datblygu ein tudalennau gwe recriwtio.
  • Mae’n ofynnol i ni asesu galluoedd Cymraeg pob gweithiwr fel rhan o safonau’r Gymraeg. Er mwyn gwella data gweithlu’r Gymraeg i gefnogi cynllunio’r gweithlu ac adrodd blynyddol, byddwn yn alinio asesu sgiliau’r gweithlu â’r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd (CEFR) yn unol â Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025. Mae’r Ddeddf yn gosod y targed i bob disgybl ddatblygu sgiliau llafar wedi’u mesur yn erbyn y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd. Mae gweithredu’r Ddeddf yn cynnwys ymgynghoriad ar god statudol i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg a fydd ar gael yn dilyn y broses hon. 
  • Mae’r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd yn fframwaith a ddefnyddir yn eang i ddisgrifio hyfedredd mewn ieithoedd. Mae’r fframwaith wedi’i rannu’n chwe lefel, o A1/A2 (Sylfaenol) i B1/B2 (Annibynnol) a C1/C2 (Hyfedr), gyda lefel AO ar gyfer dim sgiliau Cymraeg cyfredol. 
  • Fel rhan o’r asesiad, bydd gofyn i staff ddewis y datganiadau ‘gallaf wneud’ mwyaf cywir ar gyfer gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu, a dewis y lefel sy’n disgrifio eu sgiliau orau ar y cyfan. 
  • Ar ôl ei weithredu, byddwn yn defnyddio’r fframwaith hwn i allu asesu lefelau sgiliau presennol a darparu cyfleoedd datblygu i gefnogi staff i feithrin y sgiliau hyn. Ein nod yw cynyddu’r niferoedd sydd wedi cwblhau’r wybodaeth fel rhan o’u rôl, ond mae gwaith sylweddol i’w wneud i sicrhau bod yr holl staff yn cwblhau’r broses hunanasesu.

 

Hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg

Hyfforddiant (yn y Gymraeg)

2021-22

2022-23

2023-24

2024-25

2025-26

Recriwtio a chyfweld 0
Rheoli perfformiad
Cwynion a disgyblu Not provided 
Sefydlu
Ymdrin â’r cyhoedd Not provided  Not provided  Not provided  Not provided 
Iechyd a diogelwch 66*  152  114  100  144* 

*Yn ogystal, diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion (22), trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (28), a diogelwch tân.

 

  • Ni chafodd unrhyw gyrsiau hyfforddi recriwtio a chyfweld eu darparu trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Roedd 144 o gyrsiau hyfforddi sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch wedi’u cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg, sef cynnydd o 44% (44) o’i gymharu â’r 100 o gyrsiau yn 2023-24.
  • Ni chynhaliwyd unrhyw gyrsiau hyfforddi rheoli perfformiad, cwynion a disgyblu, na sefydlu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn wedi bod yn gyson am y tair blynedd diwethaf. Ni ddarperir hyfforddiant ynghylch delio â’r cyhoedd.
  • Roedd y 144 o gyrsiau’n cynnwys 50 o gyrsiau diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion, 11 o gyrsiau ymwybyddiaeth diogelwch tân, 12 o gyrsiau trin â llaw yn fwy diogel, 43 o gyrsiau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV), 14 o gyrsiau cydraddoldeb yn y gweithle, deg cwrs asesiadau gweithfan, a phedwar cwrs ar y Ddeddf Diogelu Gweithwyr – atal aflonyddu rhywiol.

 

Dysgu Cymraeg

  • Fel rhan o’r cyfnod sefydlu, mae’n ofynnol i bob cyflogai newydd gwblhau cwrs blasu deg awr, oni bai eu bod eisoes yn siarad Cymraeg.
  • Lansiwyd proses newydd ym mis Hydref 2025, a welodd y Llyfryn Croeso Corfforaethol ar gyfer staff newydd yn cael ei ddisodli gan fodiwl e-ddysgu sefydlu newydd. Mae’r modiwl Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg wedi’i gynnwys. Bydd yn orfodol nawr i ddechreuwyr newydd gwblhau’r modiwl hwn, sydd wedi’i gynllunio er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg, gan gynnwys ymwybyddiaeth o’i hanes a’i rôl yn niwylliant Cymru. Mae hefyd yn anelu at helpu i ddatblygu dealltwriaeth o’r ddyletswydd i weithredu yn unol â safonau’r Gymraeg a sut y gellir defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.
  • Darperir cyrsiau ar lefel Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch a Hyfedredd, yn ogystal â chyrsiau adeiladu hyder. Defnyddir data cofrestru cyrsiau i fonitro nifer y dysgwyr a’u cynnydd mewn cyrsiau Cymraeg yn y gymuned a’r gwaith, ac i gefnogi cyflwyno gwybodaeth yn yr adroddiad hwn ar gyfer 2025-26. Mae cyrsiau Cymraeg ar gael mewn gwahanol leoliadau ac ar wahanol amseroedd.

Cyrsiau Cymraeg

Cwrs - Dosbarthiadau Cymuned
2022-23
2023-24
2024-25
2025-26
Blasu (ar-lein ac wyneb yn wyneb) 0 0 1
Mynediad 11  80  19 21
Sylfaen 13  26  31  23 
Canolradd 13  18  23 
Uwch 22  21  17 
Hyfedredd
Arall
Cyfanswm yn dysgu 36 141  93  89 

 

Cwrs - Cymraeg Gwaith
2022-23
2023-24
2024-25
2025-26
Blasu (ar-lein ac wyneb yn wyneb) 26 105 93 61
Mynediad 47  40  36  37 
Sylfaen 26  29
Canolradd
Uwch
Hyfedredd
Arall
Cyfanswm yn dysgu 82  162  168  144 

 

Cyfansymiau cyffredinol:

  • 2022-23 - 118
  • 2023-24 - 203
  • 2024-25 - 261
  • 2025-26 - 233

 

Cyrsiau Cymraeg cymunedol a Chymraeg Gwaith i staff y cyngor

Cwrs
Cymraeg Gwaith - nifer y dysgwyr
Dosbarthiadau Cymuned - nifer y dysgwyr
Blasu (ar-lein/wyneb yn wyneb) 61 0
Mynediad 37 21
Sylfaen 29 23
Canolradd 8 23
Uwch 0 17
Gloywi 9 5
Cyfanswm y dysgwyr 144 89

Cyfanswm nifer y dysgwyr = 233

 

  • Mae tiwtor dynodedig a ariennir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cyflwyno’r cyrsiau Cymraeg Gwaith i staff y cyngor.
  • Yn ystod 2025-26, mynychodd 144 o staff ddosbarthiadau Cymraeg Gwaith a mynychodd 89 gyrsiau cymunedol ar wahanol lefelau. Mae’r ffigurau’n cynnwys staff a gwblhaodd o leiaf un sesiwn yn 2025-26.
  • Cyfanswm dysgwyr staff y cyngor yw 233, sef gostyngiad o 10.7% o’i gymharu â 2024-25 (261 o ddysgwyr). 

 

Dilyniant cwrs ar gyfer staff y cyngor

O’r 89 o staff Cyngor Sir Penfro mewn dosbarthiadau cymunedol, roedd 60 o ddysgwyr unigryw. O’r 60 hyn, dim ond un cwrs/lefel y mynychodd 32 ohonynt (53%) ac aeth 28 (47%) o ddysgwyr ymlaen i’r lefel cwrs nesaf.

Wedi symud ymlaen o/i

Nifer y dysgwyr

Mynediad 1 i Fynediad 2 4
Mynediad 2 i Sylfaen 1 2
Sylfaen 1 i Sylfaen 2 4
Sylfaen 2 i Ganolradd 1 5
Canolradd 1 i Ganolradd 2 4
Canolradd 2 i Uwch1i 2
Uwch 1i i Uwch 1ii 1
Uwch 1ii i Uwch 2i 2
Uwch2i i Uwch2ii 3
Gloywi i i Gloywi ii 1
Cyfanswm 28

 

Arholiadau Cymraeg
  • Pasiodd cyfanswm o saith o ddysgwyr staff y cyngor arholiadau ym mis Mehefin 2025: dau ar lefel Mynediad, tri ar lefel Sylfaen, un ar lefel Canolradd ac un ar lefel Uwch. Mae hwn yn gynnydd o 133% ar gyfradd arholiadau Mehefin 2024 (tri aelod o staff).

 

Dyrchafiad a chynnydd dysgwyr
  • Mae dysgwyr o ddosbarth Mynediad Ebrill 2025 yn symud ymlaen i ddosbarth Sylfaen, gan ddechrau ym mis Ebrill 2026. Mae dysgwyr o ddosbarthiadau Sylfaen a Chanolradd hefyd yn symud ymlaen i’r lefel ddysgu nesaf.
  • Yn ogystal â’r dulliau arferol o hyrwyddo nifer y dysgwyr sy’n cwblhau un lefel o ddysgu o fewn 120 awr o addysgu (h.y. o fewn 12 mis), penderfynwyd targedu sector penodol gyda chynnig cwrs wyneb yn wyneb 10 awr. Arweiniodd hyn at ddatblygiad pellach cwrs Mynediad 1 wedi’i deilwra i anghenion y sector targedig. Mae rheolwyr dan sylw yn ystyried y model hwn yn llwybr defnyddiol ymlaen i’w timau.
  • Datblygiad pellach oedd darparu cwrs adolygu ac atgyfnerthu 10 wythnos sydd, yn ei dro, wedi arwain at gynnydd yn y nifer sy’n astudio ar y lefel ddysgu nesaf. Roedd y cwrs hwn wedi’i dargedu at ddysgwyr blaenorol a oedd wedi cymryd seibiant o ddysgu ond a oedd bellach yn awyddus i ddychwelyd i’r dosbarthiadau.
  • Darparwyd cyrsiau adolygu ac atgyfnerthu hefyd ar lefelau Mynediad, Sylfaen a Chanolradd i sicrhau bod dysgwyr wedi’u paratoi’n llawn ac yn hyderus i symud ymlaen i’r lefel nesaf.
  • Mae cynyddu nifer y dysgwyr sy’n mynychu cyrsiau ac yn eu cwblhau, cynnal presenoldeb llawn, ac annog dilyniant yn aml yn heriol ac yn tynnu sylw at yr angen i ystyried sut y bydd anghenion dysgwyr Cymraeg yn cael eu cefnogi. Mae yna lawer o ffactorau sy’n effeithio ar yr uchod, gan gynnwys ymrwymiadau gwaith/teuluol, staff yn symud ymlaen i rolau mewnol neu allanol eraill, ymddeoliadau, a rheoli swyddi gwag.
  • Er mwyn hyrwyddo cyrsiau, mae manylion cyrsiau Cymraeg sydd ar gael wedi cael eu rhannu â staff yr awdurdod lleol drwy gyfathrebiadau mewnol drwy’r cylchlythyr “Ffocws Sir Benfro” a anfonir drwy e-bost at staff ac adran “Newyddion Diweddaraf” y fewnrwyd. Mae manylion y cwrs hefyd ar gael ar y fewnrwyd. Cynhaliwyd digwyddiad i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Neuadd y Sir ar gyfer staff y cyngor a oedd yn cynnwys gwybodaeth am gyrsiau Cymraeg.

 

Dysgwyr Dysgu Cymraeg Sir Benfro

Mae Dysgu Cymraeg Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) hefyd yn cynnig cyrsiau sydd ar gael mewn gwahanol leoliadau ac ar wahanol amseroedd. Darperir manylion dysgwyr 2025-2026 isod ac nid yw’n cynnwys dysgwyr staff y cyngor.

Cwrs

Dysgwyr Dysgu Cymraeg Sir Benfro

Blasu (ar-lein/wyneb yn wyneb) 32
Mynediad 652
Sylfaen 250
Canolradd 177
Uwch 261
Gloywi 53
Cyfanswm yn dysgu 1,425

 

O’r 1,425 o ddysgwyr, roedd 966 o ddysgwyr unigryw, a mynychodd rhai ohonynt un cwrs/lefel yn unig, ac roedd eraill yn mynychu mwy nag un cwrs, gan symud ymlaen i’r lefel cwrs nesaf. Mae hyn yn gynnydd o 8.8% o ddysgwyr o’i gymharu â 2024-25 (cyfanswm o 1,310) a chynnydd o 9.8% mewn dysgwyr unigryw (880).

 

Gofynion y Gymraeg ar swyddi a hysbysebir

Mae dynodiadau gofynion y Gymraeg ar swyddi a hysbysebir wedi aros yn sefydlog ers 2020-21 ar draws pob dynodiad. Mae’r swyddi a hysbysebir yn cynnwys swyddi ysgolion. Noder bod yr wybodaeth yn y tabl yn wahanol i’r adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb mewn cyflogaeth sy’n dyfynnu nifer yr hysbysebion swyddi (mae rhai hysbysebion swyddi ar gyfer nifer o swyddi).

Ers 2024-25:

  • Mae swyddi a hysbysebwyd fel rhai “Cymraeg yn hanfodol” wedi aros yn sefydlog.
  • Mae nifer y swyddi “Cymraeg yn ddymunol” a hysbysebwyd wedi gostwng 4% (11).
  • Er bod nifer y swyddi sy’n gofyn am “ddysgu’r Gymraeg” yn parhau’n isel, mae nifer y swyddi wedi cynyddu o 7 (0.7%) i 16 (1%).
  • Cynyddodd swyddi “dim angen y Gymraeg” o 129 (14%) i 173 (18%).

Gofynion ar gyfer swyddi

2021-22

2022-23

2023-24

2024-25

2025-26

Cymraeg yn hanfodol 70 (11%) 72 (10%) 85 (8%) 67 (7%) 55 (7%)
Cymraeg yn ddymunol 439 (66%) 480 (70%) 813 (75%) 718 (78%) 707 (74%)
Cymraeg i’w dysgu 9 (1%) 5 (1%) 6 (1%) 7 (0.7%) 16 (1%)
Dim angen y Gymraeg 143 (27%) 130 (19%) 186 (17%) 129 (14%) 173 (18%)
Cyfanswm y swyddi 660 687 1,090 921 951
ID: 15722, adolygwyd 28/07/2026