Safonau’r Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2025-26
Crynodeb o Gynnydd - Cyflenwi Gwasanaethau
Galwadau ffôn i brif rif y cyngor (01437 764551)
Galwadau |
2021-22 |
2022-23 |
2023-24 |
2024-25 |
2025-26 |
| Nifer y galwadau yn Saesneg | 293,829 | 253,425 | 229,353 | 215,949 | 258,976 |
| Nifer y galwadau yn y Gymraeg | 8,791 | 7,727 | 6,764 | 6,903 | 7,680 |
- Mae’r galwadau a dderbynnir wedi’u rhannu’n giwiau Saesneg a Chymraeg ar wahân. Yn 2025-26, roedd cyfanswm o 266,656 o alwadau. Roedd 97.12% o’r galwadau hyn yn Saesneg a 2.88% yn alwadau Cymraeg.
- Cynyddodd galwadau yn Saesneg 19.92% (43,027), o 215,949 yn 2024-25 i 258,976 yn 2025-26.
- Cynyddodd galwadau yn y Gymraeg 11.26% (777), o 6,903 yn 2024-25 i 7,680 yn 2025-26.
Amser ciwio cyfartalog ar gyfer galwadau ar brif rif ffôn y cyngor (01437 764551)
Amser ciwio cyfartalog |
2021-22 |
2022-23 |
2023-24 |
2024-25 |
2025-26 |
| Ciw Saesneg | 273 eiliad | 41 eiliad | 45 eiliad | 53 eiliad | 632 eiliad |
| Ciw Cymraeg | 53 eiliad | 26 eiliad | 31 eiliad | 32 eiliad | 110 eiliad |
- Mae’r amser y mae cwsmeriaid yn aros i’w galwad gael ei hateb (amser ciwio) wrth ffonio canolfan gyswllt y cyngor wedi cynyddu yn ystod 2025-26, oherwydd y rhesymau a drafodir isod. Yr amser ciwio cyfartalog yn 2025-26:
- Y llinell Saesneg dros 10 gwaith yn uwch nag yr oedd yn 2024-25
- Y llinell Gymraeg tua 2.5 gwaith yn uwch nag yr oedd yn 2024-25
- Roedd cyllideb 2025-26 yn cynnwys arbedion ar gyfer y ganolfan gyswllt drwy ymadawiadau gwirfoddol a pheidio â llenwi swyddi gwag. Roedd ymddiswyddiadau hefyd yn rhoi pwysau ychwanegol ar gapasiti’r tîm. O ganlyniad i hyn, cynyddodd nifer y galwadau o’i gymharu â 2024-25, yn rhannol oherwydd galwadau dro ar ôl tro, a gostyngodd perfformiad o ran ateb yn sylweddol.
- Mae nifer o fesurau wedi’u rhoi ar waith i wella amseroedd ateb, ond bydd yn cymryd amser i’r rhain fod yn gwbl effeithiol. Mae data o fis Ebrill 2026-27 yn awgrymu bod amseroedd ciwio yn dechrau gwella.
- Mae pump o staff ychwanegol o’r ganolfan gyswllt (dau ohonynt yn siaradwyr Cymraeg rhugl) wedi cael eu recriwtio ac wedi dechrau eu hyfforddiant. Mae recriwtio siaradwyr Cymraeg yn aml yn her felly mae hyn yn gadarnhaol i’w adrodd. Mae’n debygol y bydd y capasiti ychwanegol hwn yn dechrau gwella amseroedd galwadau o fis Gorffennaf 2026 ymlaen.
- Mae camau wedi’u cymryd i leihau’r angen i gwsmeriaid ffonio’r cyngor, megis gwella gwybodaeth ar ein gwefan, yn enwedig am ymyrraeth â chasglu gwastraff, a chyflwyno archebu atgyweiriadau tai ar-lein.
- Mae disgwyl i’r cabinet ystyried cynnig yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2026 ar gyfer buddsoddi mewn meddalwedd deallusrwydd artiffisial. Os cytunir ar hyn, mae ganddo’r potensial i leihau’r galw ar y ganolfan gyswllt dros y tymor canolig.
Gwefan y cyngor
Gwefan |
2021-22 |
2022-23 |
2023-24 |
2024-25 |
2025-26 |
| Nifer yr ymweliadau tudalen - tudalen Saesneg | 2,237,565 | 2,609,687 | 2,368,437 | 2,200,383 | 2,300,000 |
| Nifer yr ymweliadau tudalen - tudalen Gymraeg |
4,652 | 8,225 | 7,361 | 5,971 | 6,700 |
| Nifer y defnyddwyr - tudalen Saesneg |
446,304 | 585,664 | 609,354 | 462,042 | 429,000 |
| Nifer y defnyddwyr - tudalen Gymraeg |
1,670 | 2,903 | 2,856 | 1,700 | 1,900 |
Nifer yr ymweliadau â thudalennau gwe
- Mae nifer yr ymweliadau â thudalennau’r wefan Saesneg wedi cynyddu 6.3% (99,671), o 2,200,383 o ymweliadau yn 2024-25 i 2,300,000 o ymweliadau yn 2025-26.
- Mae nifer yr ymweliadau â thudalennau’r wefan Gymraeg wedi cynyddu 14.1% (729), o 5,971 o ymweliadau yn 2024-25 i 6,700 o ymweliadau yn 2025-26.
- Caiff gwefan yr awdurdod ei hadolygu’n rheolaidd i sicrhau cydymffurfedd.
Nifer defnyddwyr y wefan
- Mae nifer defnyddwyr y wefan Saesneg wedi gostwng 6.9% (33,042), o 462,042 o ddefnyddwyr yn 2024-25 i 429,000 o ddefnyddwyr gweithredol yn 2025-26.
- Mae nifer defnyddwyr y wefan Gymraeg wedi cynyddu 14% (200), o 1,700 o ddefnyddwyr yn 2024-25 i 1,900 o ddefnyddwyr gweithredol yn 2025-26.
- Rydym wedi diweddaru ein gwefan gorfforaethol fel bod dolen i’r dudalen Gymraeg gyfatebol bellach i’w gweld ar frig a gwaelod y dudalen we (gwaelod y dudalen yn unig o’r blaen) er mwyn hyrwyddo’r opsiwn Cymraeg yn well a gwella hygyrchedd.
- Darperir hyfforddiant i staff sy’n defnyddio’r system rheoli cynnwys, ac mae gwiriadau ansawdd yn parhau i nodi unrhyw broblemau ar dudalennau gwe Saesneg neu Gymraeg.
- Rydym wedi adolygu tudalennau gwe gwasanaethau penodol yn dilyn adborth mewn arolygon monitro gan y Comisiynydd.
Defnyddwyr Fy Nghyfrif a dewisiadau cyfathrebu (Saesneg neu Gymraeg)
Gwefan |
2021-22 |
2022-23 |
2023-24 |
2024-25 |
2025-26 |
| Fy Nghyfrif - Saesneg - Cyfanswm nifer y defnyddwyr | 26,292 | 42,966 | 72,795 | 79,826 | 83,798 |
| Fy Nghyfrif - Cymraeg - Cyfanswm nifer y defnyddwyr | 197 | 278 | 739 | 792 | 747 |
Mae’r ffigurau ar gyfer nifer y defnyddwyr hefyd yn adlewyrchu (yr un ffigurau ydynt) nifer y defnyddwyr sy’n dymuno derbyn cyfathrebiadau yn Saesneg neu yn Gymraeg.
- Mae Fy Nghyfrif yn gyfrif cyngor ar-lein sy’n cynnig ystod eang o wasanaethau ar-lein, fel gwneud taliadau a rhoi gwybod am broblemau, a gall trigolion gofrestru i dderbyn hysbysiadau, e.e. diwrnod biniau, cau ysgolion, a chau pontydd.
- Mae nifer defnyddwyr y cyfrif Saesneg yn parhau i dyfu, gyda chynnydd o 4.98% (3.9k), o 79,826 o ddefnyddwyr yn 2024-25 i 83,798 o ddefnyddwyr gweithredol yn 2025-26.
- Mae nifer defnyddwyr y cyfrif Cymraeg wedi gostwng 5.68% (45), o 792 o ddefnyddwyr yn 2024-25 i 747 o ddefnyddwyr gweithredol yn 2025-26.
- At ei gilydd, mae twf yn nifer y cwsmeriaid sy’n cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif ac i dderbyn gohebiaeth Fy Nghyfrif drwy gyfrwng y Saesneg, ond gostyngiad yn y Gymraeg. Mae Fy Nghyfrif yn parhau i fod ar gael ac yn cael ei hyrwyddo i ddefnyddwyr Saesneg a Chymraeg.
Cyfrifon cyfryngau cymdeithasol – hoffiadau a dilynwyr
Math o gyfrif cyfryngau cymdeithasol |
2021-22 |
2022-23 |
2023-24 |
2024-25 |
2025-26 |
| Facebook - nifer yr hoffiadau – Saesneg (yn agor mewn tab newydd) |
25,611 | 27,527 | 29,720 | 30,861 | 34, 697 |
| Facebook - nifer yr hoffiadau – Cymraeg (yn agor mewn tab newydd) | 265 | 309 | 400 | 405 | 447 |
| X - nifer y dilynwyr - Saesneg (yn agor mewn tab newydd) | 15,600 | 16,000 | 16,058 | 15,614 | 15,220 |
| X - nifer y dilynwyr - Cymraeg (yn agor mewn tab newydd) | 603 | 625 | 653 | 633 | 614 |
| Instagram - nifer y dilynwyr - Saesneg (yn agor mewn tab newydd) | 2,005 | 2,379 | 2,525 | 2,734 | 2,974 |
| Instagram - nifer y dilynwyr - Cymraeg (yn agor mewn tab newydd) | 193 | 205 | 210 | 230 | 251 |
Nifer yr hoffiadau ar Facebook
- Mae’r diddordeb yn nhudalennau Facebook y cyngor yn parhau i dyfu.
- Cynyddodd nifer yr hoffiadau - cyfrif Saesneg (yn agor mewn tab newydd) - 12.43% (3,836), o 30,861 yn 2024-25 i 34,697 yn 2025-26.
- Cynyddodd nifer yr hoffiadau - cyfrif Cymraeg (yn agor mewn tab newydd) - 10.64% (43), o 405 yn 2024-25 i 447 yn 2025-26.
Nifer y dilynwyr ar X
- Mae’r diddordeb yng nghyfrif X y cyngor wedi gostwng ychydig, gyda 3% yn llai o ddilynwyr ar gyfer y cyfrif Saesneg a Chymraeg.
- Gostyngodd nifer y dilynwyr - cyfrif Saesneg (yn agor mewn tab newydd) - 3% (394), o 15,614 yn 2024-25 i 15,220 yn 2025-26.
- Gostyngodd nifer y dilynwyr - cyfrif Cymraeg (yn agor mewn tab newydd) - 3% (19), o 633 yn 2024-25 i 614 yn 2025-26.
Nifer y dilynwyr ar Instagram
- Mae diddordeb yng nghyfrif Instagram y cyngor wedi cynyddu, gyda thua 9% yn fwy o ddilynwyr ar gyfer y cyfrif Saesneg a Chymraeg.
- Cynyddodd nifer y dilynwyr - cyfrif Saesneg (yn agor mewn tab newydd) - 8.78% (240), o 2,734 yn 2024-25 i 2,974 yn 2025-26.
- Cynyddodd nifer y dilynwyr - cyfrif Cymraeg (yn agor mewn tab newydd) - 9.13% (21), o 230 yn 2024-25 i 251 yn 2025-26.
Cyfieithu (Saesneg i’r Gymraeg a Chymraeg i’r Saesneg)
Ceisiadau cyfieithu ysgrifenedig |
2021-22 |
2022-23 |
2023-24 |
2024-25 |
2025-26 |
| Ceisiadau prawfddarllen | 28 | 32 | 35 | 41 | 38 |
| Categori A – o dan 200 o eiriau | 1,666 | 1,429 | 1,400 | 1,436 | 1,007 |
| Categori B – 200 – 1,999 o eiriau | 1,599 | 1,571 | 1,525 | 1,830 | 1,522 |
| Categori C – 2,000+ o eiriau | 340 | 304 | 283 | 367 | 312 |
| Categori D – brys, trosiant cyflym | 1,445 | 1,345 | 1,433 | 1,671 | 1,172 |
| Categori E – arbenigol, technegol (cyfreithiol) | 14 | 13 | 3 | 3 | 11 |
| Categori F – arbenigol, technegol (adeiladu, cynllunio, peirianneg, amgylcheddol) | 5 | 2 | 10 | 10 | 10 |
| Cyfanswm ar gyfer pob categori A– F | 5,069 | 4,664 | 4,654 | 5,358 | 4,072 |
Cyfieithu ysgrifenedig
- Mae nifer y cyfieithiadau ysgrifenedig wedi gostwng 24% (1,286), o 5,358 yn 2024-25 i 4,072 yn 2025-26.
Ceisiadau prawfddarllen
- Gostyngodd ceisiadau prawfddarllen 7.32% (3), o 41 yn 2024-25 i 38 yn 2025-26.
Cyfieithu ar y pryd
- Cynyddodd ceisiadau i’r gwasanaeth cyfieithu corfforaethol am gyfieithu ar y pryd 131%, o 16 yn 2024-25 i 37 yn 2025-26. Roedd 27 o’r 37 cais am wasanaethau cyfieithu ar gyfer cyfarfodydd pwyllgor y cyngor.
Tendrau a gyflwynwyd yn y Gymraeg
Tendrau |
2021-22 |
2022-23 |
2023-24 |
2024-25 |
2025-26 |
| Tendrau yn y Gymraeg | 0 | 0 | 2 | 0 | 0 |
- Yn ystod y pum mlynedd ariannol diwethaf, cyflwynwyd dau dendr yn y Gymraeg yn 2023-24; ni chyflwynwyd unrhyw dendrau yn ystod y pedair blynedd arall.
Cwynion
Math o gŵyn |
2023-24 |
2024-25 |
2025-26 |
| Nifer y cwynion yn ymwneud â safonau darparu gwasanaethau yn y Gymraeg (Safon 158) | 0 | 2 | 4 |
| Nifer y cwynion yn ymwneud â safonau llunio polisïau’r Gymraeg (Safon 164) | 0 | 0 | 3 |
| Nifer y cwynion yn ymwneud â safonau gweithredol y Gymraeg (Safon 170) | 0 | 0 | 0 |
- Rydym wedi derbyn saith cwyn yn 2025-26; gwrthodwyd dau arall a dderbyniwyd oherwydd bod un yn ddienw a’r llall yn cael ei hystyried fel cais am wasanaeth.
- Roedd y cwynion yn cynnwys arwyddion ffyrdd a oedd wedi’u cyfieithu’n wael, hysbysiad cynllunio ar gael yn Saesneg yn unig, a chyfrif cyfryngau cymdeithasol heb ddolen i hyrwyddo’r dudalen Gymraeg gyfatebol.
- Mae pedair cwyn a dderbyniwyd yn ystod 2025-26 yn dal i fynd rhagddynt, ac nid ydym wedi derbyn y penderfyniad terfynol gan y Comisiynydd. Roedd un yn ymwneud â gwybodaeth ar dudalen we Gymraeg nad oedd yn gweithredu nac yn cyflwyno’r un wybodaeth ag yr oedd ar y dudalen Saesneg, a dim dolen i’r dudalen Gymraeg gyfatebol o dudalen Saesneg ar dudalen we. Mae tair cwyn yn ymwneud ag a roddwyd ystyriaeth ddigonol neu “ystyriaeth gydwybodol” i’r Gymraeg wrth wneud penderfyniad neu ymgynghori ar benderfyniad.
ID: 15719, adolygwyd 28/07/2026