Safonau’r Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2025-26

Diben yr Adroddiad

  • Mae’r adroddiad hwn yn rhoi manylion am sut mae Cyngor Sir Penfro wedi gweithredu a chydymffurfio â Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015 yn ystod y cyfnod adrodd Ebrill 2025 – Mawrth 2026. Mae’r safonau’n egluro sut y disgwylir i’r awdurdod ddarparu gwasanaethau penodol drwy gyfrwng y Gymraeg gyda’r nod o sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
  • Mae rhestr lawn y safonau, y mae’n ofynnol i Gyngor Sir Penfro gydymffurfio â nhw, wedi’i chynnwys mewn hysbysiad cydymffurfio (yn agor mewn tab newydd).
  • Mae safonau 158, 164 a 170 yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n nodi sut rydym wedi cydymffurfio â’r safonau ar gyfer: darparu gwasanaethau, llunio polisïau, gweithredu, hyrwyddo, a chadw cofnodion.
  • Yn unol â gofynion adrodd Comisiynydd y Gymraeg, manylir ar ddangosyddion perfformiad allweddol a gweithgareddau i gefnogi cydymffurfedd a hyrwyddo’r Gymraeg yn ystod 2025-26. Mae dangosyddion yn cynnwys safonau sy’n ymwneud â galwadau i’n canolfan gyswllt, gwefan y cyngor a chyfryngau cymdeithasol, cyfieithu, sgiliau iaith staff, swyddi a hysbysebir sy’n gofyn am sgiliau Gymraeg, hyfforddiant, a chyrsiau i ddysgu/gwella’r Gymraeg a chwynion a dderbyniwyd sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi manylion am ddigwyddiadau i hyrwyddo a dathlu iaith a diwylliant Cymru.
  • Mae’n ofynnol i ni gyhoeddi ein hadroddiad blynyddol ar ein gwefan gorfforaethol erbyn 30 Mehefin. 
ID: 15713, adolygwyd 28/07/2026