Safonau’r Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2025-26

Monitro

  • Y Cyfarwyddwr Addysg yw’r uwch-swyddog sy’n gyfrifol am weithredu safonau’r Gymraeg o fewn Cyngor Sir Penfro. Mae’n cael ei gefnogi yn y gwaith hwn gan Grŵp Cyflawni Strategaeth y Gymraeg, sy’n cynnwys swyddogion y mae eu cylchoedd gwaith yn ymwneud â chyflawni amcanion o fewn y strategaeth, materion cydymffurfio, gwaith datblygu, a rhannu arferion da. Mae’r grŵp yn cyfarfod bob chwarter ac mae’r Cyfarwyddwr Addysg yn adrodd i uwch-swyddogion eraill ac aelodau’r cabinet, fel rhan o’i aelodaeth o’r Uwch-dîm Arwain.
  • Mae ein rhaglen weinyddol wedi’i threfnu o amgylch portffolios aelodau’r cabinet, sy’n cynnwys aelod cabinet sy’n gyfrifol am addysg a’r Gymraeg a dau eiriolwr dros y Gymraeg.
ID: 15715, adolygwyd 28/07/2026