Safonau’r Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2025-26
Safonau Gweithredu
Mae gennym adnoddau ar gael i weithwyr a rheolwyr i gefnogi gweithredu’r safonau gweithredu.
Tudalen bwrpasol ar safonau’r Gymraeg ar ein mewnrwyd
Bydd tudalen gwybodaeth ac adnoddau Cymraeg mewnrwyd y cyngor yn cael ei hadolygu’n llawn yn barod i’w throsglwyddo i’r tudalennau mewnrwyd newydd a fydd ar gael ym mis Gorffennaf 2026.
Bydd gwybodaeth ac adnoddau yn cynnwys:
- Deddfwriaeth: safonau a chod ymarfer
- Canllawiau a thempledi eraill
- Canllawiau hunanasesu sgiliau Cymraeg
- Cyrsiau Cymraeg
- Adnoddau dysgu’r Gymraeg
- Canllawiau atodol i reolwyr ac uwch-swyddogion
- Polisi defnydd mewnol o’r Gymraeg
- Polisi ar ddyfarnu grantiau a ffurflen gais
Gwybodaeth ac adnoddau gan adnoddau dynol
Mae adran adnoddau dynol y fewnrwyd yn cynnwys yr adnoddau canlynol:
- Polisïau, gweithdrefnau ac adnoddau – polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau mewnol (yn Saesneg ac yn Gymraeg yn ôl y galw).
Darperir dogfennau polisi a gweithdrefn recriwtio yn Saesneg ac yn Gymraeg, gan gynnwys y polisïau recriwtio, prentisiaeth, profiad gwaith a gwirfoddoli.
- Recriwtio adnoddau dynol – canllawiau, gan gynnwys gofynion safonau’r Gymraeg, ar gyfer cynghorwyr adnoddau dynol a rheolwyr gwasanaeth.
Diweddarwyd polisi recriwtio’r cyngor yn 2024 ac mae’n cadarnhau y bydd yr holl ddogfennaeth ar gael yn y Saesneg a’r Gymraeg fel ei gilydd. Mae’n cynnwys cyfeiriad at safonau’r Gymraeg wrth ddrafftio manyleb y person ar gyfer swydd wag, a bod rhaid ystyried yr angen am y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer swyddi sy’n cynnwys, neu’n debygol o gynnwys, cyswllt â chwsmeriaid y cyngor. Mae’n argymell y dylid diffinio’r sgiliau ieithyddol sydd eu hangen yn glir, a rhoi pwyslais digonol a phriodol ar y sgiliau hynny.
Mae’r polisi’n cadarnhau bod gan ymgeiswyr yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod cyfweliad, ac yn unrhyw ran arall o’r broses ddethol, a gellir darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd (o’r Gymraeg i’r Saesneg) os oes angen.
Rhaid i reolwyr recriwtio gymhwyso “newidiadau olrhain” ar gyfer unrhyw welliannau i ddisgrifiadau swyddi er mwyn galluogi adnoddau dynol i adolygu’r dyraniad swyddi a chaniatáu i’r disgrifiadau swyddi Cymraeg gael eu diweddaru yn unol â hynny.
Mae tudalen we’r broses recriwtio yn disgrifio’r camau sydd eu hangen cyn dechrau recriwtio a pha gwestiynau y mae angen eu hystyried. Mae’r dudalen hon yn cyfeirio at safonau’r Gymraeg a Safon Recriwtio 136, lle mae’n rhaid i chi asesu’r angen am sgiliau Cymraeg a chategoreiddio’r lefel sgiliau sydd ei hangen:
- (a) Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol
- (b) Mae angen dysgu sgiliau Cymraeg wrth gael eich penodi i’r swydd
- (c) Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol
- (d) Nid yw sgiliau Cymraeg yn angenrheidiol
Yr eithriad i hyn yw swyddi gwasanaeth derbynfa: rhaid dynodi’r swyddi hyn fel rhai lle mae’r Gymraeg yn ‘hanfodol’. Darperir manylion ar y dudalen we am y swyddi hyn.
Mae nifer o gamau hefyd wedi’u cymryd i helpu i wella safonau’r Gymraeg ar draws y sefydliad. Ein ffocws fu ei gwneud hi’n haws adnabod ac ymateb i ddewisiadau staff, gan gynnwys gwella’r system adnoddau dynol (hunanwasanaeth gweithwyr) fel bod gofyn am ohebiaeth yn y Gymraeg yn symlach ac yn haws i ddefnyddwyr. Rydym hefyd wedi diweddaru ein systemau adnoddau dynol i gynnwys dangosydd ‘Cymraeg’ clir, gan sicrhau ein bod yn cael gwybod pan ddylid cyhoeddi gohebiaeth fel llythyrau neu gontractau cyflogaeth yn y Gymraeg. Yn ogystal, rydym wedi cyfathrebu â’r holl staff drwy e-bost i’w gwahodd i gyflwyno eu dewisiadau, ac rydym yn parhau i atgyfnerthu hyn drwy nodyn atgoffa misol sydd wedi’i gynnwys mewn e-byst slipiau cyflog, gan annog staff i ddewis gohebiaeth yn y Gymraeg os dymunant.
Proses arfarnu perfformiad
Yn unol â’n hymrwymiad i hyrwyddo gweithle dwyieithog a chefnogi ein cydweithwyr sy’n siarad Cymraeg, mae’r holl ddogfennau ac adnoddau cysylltiedig ar gyfer y broses arfarnu perfformiad (Adborth, Ffocws a Dyfodol) a lansiwyd yn 2025-26 ar gael yn y Gymraeg. Mae hyn yn sicrhau y gall pawb ymgysylltu’n llawn â’r broses arfarnu yn eu hiaith ddewisol.
Polisi defnydd mewnol o’r Gymraeg
Cynhelir adolygiad llawn o’r polisi yn 2026-27 a fydd yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd o’r adolygiad o’r strategaeth Gymraeg gyfredol ar gyfer 2021-26, gan gynnwys unrhyw themâu sy’n dod i’r amlwg a nodwyd. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan ganllawiau defnydd mewnol o’r Gymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg a gwaith parhaus yn y maes hwn.