Safonau’r Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2025-26

Safonau Hybu

  • Mae’r safonau hybu yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyngor gynhyrchu a chyhoeddi strategaeth pum mlynedd sy’n nodi sut y byddwn yn hyrwyddo’r Gymraeg ac yn hwyluso defnyddio’r iaith. Rydym wedi gosod amcanion a chamau gweithredu i gyflawni hyn yn Strategaeth y Gymraeg 2021-26 a Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-31. Yn ystod 2025-26, mae Grŵp Cyflawni Strategaeth y Gymraeg wedi adolygu’r strategaeth Gymraeg gyfredol ar gyfer 2021-26 er mwyn llywio datblygiad y strategaeth pum mlynedd nesaf, a fydd yn rhedeg o 2026 i 2031. Ymgynghorwyd â rhanddeiliaid a bydd angen craffu ar y strategaeth a’i chymeradwyo gan y cyngor i’w mabwysiadu.
  • Bydd amcanion strategaeth 2026-31 yn cyd-fynd â strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr ac yn adlewyrchu themâu strategol Llywodraeth Cymru: cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, cynyddu’r defnydd bob dydd o’r Gymraeg, a chreu amodau ffafriol (seilwaith a chyd-destun).

 

Hybu a dathlu iaith a diwylliant Cymru

 

Parêd Dydd Gŵyl Dewi

  • Cymerodd cannoedd o blant o ysgolion Sir Benfro ran mewn dathliad Dydd Gŵyl Dewi arbennig ddydd Gwener, 27 Chwefror. Dychwelodd y parêd poblogaidd a drefnwyd gan Fforwm Iaith Sir Benfro i Hwlffordd unwaith eto. Gorymdeithiodd y plant i lawr High Street, trwy Bridge Street ac yn ôl trwy Quay Street, dan arweiniad Samba Doc, cyn ymgynnull ar feysydd chwarae Picton i ganu a dawnsio mewn jambori awyr agored gyda Tomos Tanllyd.
  • Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Jon Harvey: “Mae Dydd Gŵyl Dewi bob amser yn achlysur arbennig yn Sir Benfro, ac roedd yn hyfryd gweld cymaint o bobl ifanc yn dod at ei gilydd i ddathlu ein hiaith, ein diwylliant a’n hunaniaeth genedlaethol.”
  • Adleisiwyd hyn gan yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham, a ychwanegodd: “Mae parêd blynyddol Dydd Gŵyl Dewi yn enghraifft wych o’r hyn mae ysgolion yn Sir Benfro yn ei wneud i ddathlu iaith a diwylliant Cymru, ac maen nhw’n sicr yn frwdfrydig yn ei gylch.”
  • Ychwanegodd is-gadeirydd y cyngor a Hyrwyddwr y Gymraeg a Phlant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Delme Harries: “Roedd yn wych gweld cymaint o frwdfrydedd gan ddisgyblion ledled y sir, yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn falch.”
  • Dywedodd Catrin Phillips, Swyddog Datblygu’r Gymraeg: “Mae parêd Dydd Gŵyl Dewi, a drefnir gan Fforwm Iaith Sir Benfro, bob amser yn uchafbwynt y flwyddyn ac mae’n hyfryd dod ag ysgolion ynghyd i ddathlu iaith a diwylliant Cymru mewn ffordd mor llawen. Mae wedi bod yn arbennig o galonogol gweld ysgolion newydd yn ymuno â ni i ddathlu eleni, gan helpu’r digwyddiad i barhau i dyfu.”

 

Bore coffi Dydd Gŵyl Dewi

  • Cynhaliwyd bore coffi i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Neuadd y Sir i staff gyda chyfle i drafod cyrsiau Cymraeg gyda’r tiwtor Cymraeg Gwaith.

 

Eisteddfod yr Urdd 2025

  • Cafodd Eisteddfod yr Urdd (Dur a Môr) 2025 lwyddiant sylweddol i nifer o gystadleuwyr Sir Benfro, gyda’r sir yn cyrraedd y pedwerydd safle yn nhabl y medalau. Roedd hyn yn dilyn llwyddiant aruthrol yn Eisteddfod yr Urdd (Maldwyn) 2024, gyda’r sir yn cyrraedd y trydydd safle. Sir Benfro oedd â’r nifer uchaf o geisiadau cystadlu o bob sir a rhanbarth yn 2024.

 

Eisteddfod Genedlaethol 2026

  • Ar 1 Gorffennaf 2024, cymeradwyodd y cabinet yn ffurfiol y cynnig gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gynnal Eisteddfod 2026 yn Sir Benfro ar safle yn Llantwd. O ran hanes yr Eisteddfod, mae 2026 yn nodi 850 mlwyddiant yr Eisteddfod yn ardal Dyffryn Teifi. Mae cynnal yr Eisteddfod yn 2026 yn parhau i gefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg yn ein cymunedau.
  • Mae paratoadau’n parhau ar gyflymder ar gyfer ‘Eisteddfod y Garreg Las’, a gynhelir o 1 i 8 Awst 2026. Mae’r digwyddiad yn cynrychioli cydweithrediad rhanbarthol unigryw, gyda’r dalgylch yn ymestyn y tu hwnt i Sir Benfro i orllewin Sir Gaerfyrddin a de Ceredigion.
  • Gan adeiladu ar y dull rhanbarthol hwn, mae gwaith ar y gweill i ddatblygu Pentre’r Garreg Las, presenoldeb sirol a rennir ar y Maes sy’n cynrychioli Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Sir Benfro sy’n arwain y Pentre, gyda chyfraniadau gan awdurdodau cyfagos, a bydd yn darparu presenoldeb rhanbarthol cryf a chydlynol sy’n adlewyrchu’r ardal ehangach. Mae’r gofod yn cael ei ddatblygu fel amgylchedd croesawgar a deniadol sy’n arddangos diwylliant, cymunedau a blaenoriaethau’r rhanbarth, gan hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith fyw a chynhwysol i bob ymwelydd.
  • Bydd gweithgarwch o fewn y Pentre yn cael ei strwythuro o amgylch nifer o themâu allweddol, gan gynnwys y Gymraeg, treftadaeth a thirwedd, cynaliadwyedd a’r dyfodol, a hunaniaeth forwrol y rhanbarth. Bydd amrywiaeth o bartneriaid hefyd yn rhan o ddarparu’r gofod, gan gynnwys sefydliadau fel Croeso Sir Benfro a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gan sicrhau cynnig eang a chynrychioliadol.
  • Ochr yn ochr â hyn, mae prosiect addysg ar raddfa fawr wedi’i gyflwyno ar draws y rhanbarth, gan ddod â dros 600 o ddisgyblion o fwy na 50 o ysgolion cynradd ynghyd i greu a recordio cân i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal. Mae’r prosiect yn dathlu’r Gymraeg a hunaniaeth unigryw’r rhanbarth, gan ddarparu cyfleoedd ystyrlon i blant ddefnyddio’r Gymraeg yn greadigol ac ar y cyd. Bydd y gân yn cael ei rhyddhau 50 diwrnod cyn yr Eisteddfod, gan gyfrannu at raglen ehangach o weithgarwch hyrwyddo a helpu i feithrin cyffro ar draws cymunedau yn y cyfnod cyn yr ŵyl.
  • Bu cynnydd sylweddol hefyd mewn gweithgarwch cymunedol Cymraeg ar draws y rhanbarth wrth baratoi ar gyfer yr Eisteddfod. Mae pwyllgorau lleol wedi trefnu ystod eang o ddigwyddiadau codi arian a diwylliannol, sydd nid yn unig yn cefnogi’r Eisteddfod yn ariannol ond hefyd yn creu cyfleoedd gwerthfawr i gymunedau ddefnyddio ac ymgysylltu â’r Gymraeg mewn cyd-destunau cymdeithasol a diwylliannol.
  • Mae’n anrhydedd i ni gael ein dewis fel awdurdod cynnal ar gyfer “Eisteddfod y Garreg Las” 2026 (yn agor mewn tab newydd) ac edrychwn ymlaen at ddathlu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn y digwyddiad mawreddog hwn.
ID: 15729, adolygwyd 28/07/2026