Safonau’r Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2025-26

Safonau Llunio Polisi

Ymgynghori ac ymgysylltu

  • Mae gan y cyngor gyfrifoldeb, wrth lunio polisi newydd neu adolygu/diwygio polisi presennol, i ystyried yr effaith y mae penderfyniad polisi yn ei chael ar y cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.
  • Mae trigolion yn parhau i allu ymateb i ymgynghoriadau cyhoeddus yn Saesneg neu’n Gymraeg drwy arolwg Microsoft Forms â brand sydd wedi’i lenwi ymlaen llaw â chwestiynau Gymraeg er mwyn cysondeb. Mae gwybodaeth ategol am yr ymgynghoriad ar gael ar dudalennau gwe Dweud eich Dweud y cyngor yn Saesneg ac yn Gymraeg.
  • Cynhyrchwyd protocol ymgynghori (Ionawr 2025) i roi cyngor ymarferol ar gynllunio, paratoi a chynnal ymarfer ymgynghori effeithiol ac mae’n cynnwys canllawiau ar ofynion safonau’r Gymraeg. Yn ystod 2026-27, bydd y protocol ymgynghori yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru er mwyn cryfhau ymhellach y canllawiau a’r adnoddau i gefnogi cydymffurfedd â’r safonau llunio polisïau.

 

Asesiad Effaith Integredig

  • Adolygwyd proses Asesiad Effaith Integredig y cyngor yn ystod 2024, ac mae’r canllawiau a’r templed newydd wedi bod yn cael eu defnyddio ers mis Mawrth 2025. Bydd adran y Gymraeg o’r Asesiad Effaith Integredig yn cael ei hadolygu yn 2026-27 er mwyn cefnogi staff gyda chydymffurfio â safonau llunio polisïau.
  • Byddwn yn parhau i fonitro Asesiadau Effaith Integredig er mwyn penderfynu a yw’r templed a’r canllawiau yn cael effaith gadarnhaol ar wneud penderfyniadau. Sefydlwyd grŵp defnyddwyr ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori yn 2025-26 a fydd yn cefnogi hyn.

 

Negeseuon e-bost hysbysu Fy Nghyfrif

  • Mae cyfrif cwsmer ar-lein Fy Nghyfrif yn parhau i gael ei ddefnyddio er mwyn hyrwyddo ymgynghoriadau drwy’r system hysbysu e-bost gorfforaethol Notify, sydd ar gael yn Saesneg a Chymraeg. Cynhelir cyfathrebu arall i hyrwyddo ymgynghoriadau, gan gynnwys datganiadau i’r wasg, hyrwyddo mewnol, a dosbarthu i gynghorwyr tref a chymuned, mewn fersiynau Cymraeg a Saesneg.
ID: 15720, adolygwyd 28/07/2026