Safonau’r Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2025-26
Strategaeth Gorfforaethol
Mae strategaeth gorfforaethol y cyngor yn gosod ac yn mynegi ein hamcanion llesiant. Mae tri cham gweithredu yn ymwneud â’r Gymraeg:
- Datblygu a chynhyrchu strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg erbyn 2026, gyda chyfranogiad yr holl randdeiliaid allweddol
- Parhau i gyflawni prosiectau diwylliannol sy’n cryfhau cysylltiadau â’r iaith a gyda llesiant a lle (cynefin)
- Cefnogi a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg fel iaith gyntaf, gan gynnwys gweithredu’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a chynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2026
Adroddir ar gynnydd yn erbyn ein strategaeth gorfforaethol ar gyfer 2025-30 drwy ein hadroddiad hunanasesu blynyddol yn yr hydref, ac mae’r adroddiad hwn yn cyfrannu at y broses asesu honno. Darperir rhagor o wybodaeth am strategaeth y Gymraeg ar gyfer 2026-31 a’r Eisteddfod yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn.
ID: 15716, adolygwyd 28/07/2026