Samplo Bwyd
Pa waith samplu bwyd sy'n cael ei wneud gan Gyngor Sir Penfro?
Mae'r Awdurdod yn rhedeg tair rhaglen samplu bwyd ar wahân:
- Samplau bwyd ar gyfer goruchwyliaeth ficrobiolegol - e.e. er mwyn bodloni ymrwymiadau samplu lleol/cenedlaethol ac i sicrhau bod systemau HACCP busnesau yn gweithredu'n effeithiol.
- Samplu safonau bwyd - gwirio labeli a chyfansoddiad bwyd
- Samplu pysgod cregyn
At hynny, gellir cymryd samplau bwyd pellach yn dilyn derbyn cwyn neu i ddibenion gorfodi.
Caiff bwyd ei samplu yn unol â Chod Ymarfer y Ddeddf Diogelwch Bwyd, Canllaw Ymarfer a phrotocolau samplu perthnasol.
ID: 1582, adolygwyd 12/10/2022