Samplo Bwyd

Pa samplau a gymerir i wirio cyfansoddiad a labeli bwydydd?

Caiff dadansoddi bwyd, er mwyn canfod a yw bwydydd yn cydymffurfio â'r gofynion cyfredol o ran cyfansoddiad a labelu, ei wneud gan Ddadansoddwr Penodedig yr Awdurdod, Gwasanaethau Gwyddonol Dadansoddwyr Cyhoeddus yn Wolverhampton.

Mae'r Tîm Bwyd yn cynnal samplu arferol a hefyd samplau oherwydd cwynion. Yn gyffredinol, ni fydd samplau sy'n destun cwynion yn cael eu hanfon i'w dadansoddi/archwilio ond pryd y bydd dwyn achos ffurfiol dan ystyriaeth.

Mae'r rhaglen samplu yn canolbwyntio ar feysydd lle credwn y gallai fod problemau, ond mae hefyd yn gwirio gweithgynhyrchwyr Sir Benfro a chyflenwyr eraill.

Ymhlith bwydydd a allai gael eu gwirio mae:

  • Cynhyrchion bwyd am gig a'i rywogaeth
  • Cyw iâr ffres ac wedi ei rewi am ddŵr a ychwanegwyd ac am rywogaeth
  • Kebabs am rywogaeth
  • Prydau llysieuol am gig
  • Dŵr ffynnon am ddadansoddiad cemegol
  • Hufen iâ am lefrith a brasterau llysieuol
  • Diodydd, sy'n gwneud honiadau o ran iechyd a maeth, am honiadau anghyfreithlon a dadansoddiad maeth
  • Cacennau, bariau a jamiau, sy'n honni nad oes ‘dim siwgr wedi ei ychwanegu', am eu cynhwysion
  • Diodydd melys am ormodedd o liw, cyffeithyddion a melysyddion
  • Ffrwythau sych a chnau am fycotocsinau
  • Ffrwythau a llysiau a fewnforiwyd am blaleiddiaid
  • Cynnyrch yn cynnwys cnau almonau am gnau daear
  • Dofednod a wyau am weddillion milfeddygol
  • Cwrw a seidr am fycotocsinau ac ABV (cryfder alcoholig)

Pan fydd bwydydd yn methu â chydymffurfio â safonau cyfreithiol telir ymweliadau dilynol i edrych i mewn i'r rhesymau posibl am y methiant, a chaiff y safle ei dargedu yn ystod rhaglenni dilynol.

Os amheuir twyll sylweddol, materion diogelwch neu ragfarn defnyddwyr, efallai y dygir achos ffurfiol. Yn nodweddiadol, bydd oddeutu 10% o samplau a dargedwyd heb gydymffurfio â'r safonau a bennwyd, ac mae'r rhain yn aml lle nad yw'r labeli yn adlewyrchu gwir gyfansoddiad y bwyd.     

ID: 1583, adolygwyd 12/10/2022