Samplo Bwyd
Pa samplau bwyd sy'n cael eu cymryd ar gyfer goruchwyliaeth ficrobiolegol?
Mae archwilio bwyd yn ficrobiolegol yn cael ei wneud gan yr Archwiliwr Bwyd yn Labordy PHW, Ysbyty Glan Gwili, Caerfyrddin.
Bob blwyddyn bydd yr Awdurdod yn drafftio Rhaglen Samplu Bwyd Ficrobiolegol. Bydd cynnwys y rhaglen yn dibynnu ar unrhyw flaenoriaethau samplu lleol fydd wedi eu nodi, ond bydd yn canolbwyntio'n bennaf ar samplu bwydydd a wneir gan gynhyrchwyr bwyd lleol a gafodd eu cymeradwyo dan Ddeddfwriaeth Ewropeaidd (h.y. Rheoliad y CE (Rhif) 853/2004), sy'n gosod gofynion penodol ar gyfer busnesau sy'n cynhyrchu bwydydd yn cynnwys cynnyrch a ddaw o anifeiliaid. Mae hyn yn cynnwys llaethdy ac adeilad lle y gwneir cynnyrch llaeth megis caws, ac adeilad lle y caiff cynnyrch cig neu bysgod ei gynhyrchu. Gall y mathau yma o weithleoedd wneud cig moch wedi ei goginio neu basteiod cig, neu efallai y byddant yn prosesu crancod/cimychiaid neu yn mygu pysgod, ac ati.
At hyn, wrth sefydlu'r rhaglen samplu bwyd ficrobiolegol, bydd yr Awdurdod yn cymryd i ystyriaeth arolygon a drefnwyd gan Fforwm Microbiolegol Bwyd Cymru (WFMF). Mae'r fforwm hwn yn cynnwys aelodau o bob un Awdurdod Lleol yng Nghymru ac yn penderfynu ar arolygon cydlynol, wedi eu targedu, ar gyfer Awdurdodau Lleol, yn seiliedig ar faterion lle y cafwyd naill ai perygl hysbys neu berygl tybiedig yn gysylltiedig â rhai mathau o fwyd. Caiff yr arolygon hyn wedyn eu coladu ar sail Cymru Gyfan a llunnir adroddiadau i weld a yw'r arolwg oedd wedi ei dargedu wedi canfod unrhyw broblemau.
Caiff samplau bacteriolegol eu dehongli yn unol â Rheoliad y CE 2073/2005 ar y Meini Prawf Microbiolegol ar gyfer Bwydydd neu Ganllawiau yr Asiantaeth Diogelu Iechyd ar gyfer bwydydd parod i'w bwyta, fel bo'n briodol. Caiff samplau anfoddhaol/annerbyniol eu dilyn gan ymchwiliad i'r rhesymau posibl dros y methiant, fydd yn aml yn cynnwys ymweliad pellach â'r safle ac ailsamplu. Yn gyffredinol, canfyddir bod oddeutu 10% o samplau yn anfoddhaol/annerbyniol ac mae a wnelo'r rhain yn bennaf â chyfanswm uchel cyfrifiadau cytrefi aerobig yn hytrach nag â phresenoldeb pathogenau.