Sir Benfro Ddiogelach
Sir Benfrom Ddiogelach
Beth ydym ni?
Sir Benfro Ddiogelach yw'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar gyfer Sir Benfro. Sefydlwyd Partneriaethau Diogelwch Cymunedol ledled Cymru a Lloegr fel cyrff statudol yn dilyn cyhoeddiad Deddf Trosedd ac Anhrefn 1988. Ei nod yw gweithio ar y cyd er mwyn gostwng troseddu ac anhrefn, ofn troseddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal leol.
Mae gan bob Partneriaeth Diogelwch Cymunedol gytundebau penodol gyda'r Swyddfa Gartref i ostwng troseddu ac mae'n gweithio i wella diogelwch cymunedol o fewn eu Sir leol. Bydd yn rhaid i Sir Benfro Ddiogelach adolygu lefelau a phatrymau troseddu ac anhrefn yn rheolaidd, a llunio cynlluniau i fynd i'r afael â materion allweddol. Hefyd mae'n crynhoi barn y cyhoedd ynglŷn ag ofn troseddau mewn cymunedau, a'r sicrwydd a geir gan asiantaethau.
Ariennir Sir Benfro Ddiogelach gan nifer o grantiau pddi wrth y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar themâu megis Cymunedau Diogelach, Gostwng Troseddu ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Cam-drin Domestig a Chamddefnyddio Sylweddau. Mae Sir Benfro Ddiogelach yn dibynnu hefyd ar gyfraniadau, boed yn ariannol neu o fathau eraill, gan asiantaethau partnerol.
Pwy ydym ni?
Yr awdurdodau sy'n gyfrifol am weithredu'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn yw'r Cyngor Sir lleol, yr Heddlu ac Awdurdod yr Heddlu, y Bwrdd Iechyd Lleol a'r Gwasanaeth Tân ac Achub. Mae awdurdodau eraill sydd â dyletswydd i gydymffurfio yn hyn o beth yn cynnwys Cwmni Adsefydlu Cymunedol, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid ac Atal ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Mae gan yr awdurdodau hyn ddyletswydd i ystyried troseddu ac anhrefn yn eu holl swyddogaethau beunyddiol, a gwneud popeth y gallan nhw o fewn rheswm i atal troseddu ac anhrefn yn eu hardal leol. Mae hyn yn cynnwys dyletswydd i weithio tuag at ostwng ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau yn y Sir. Mae gan Sir Benfro Ddiogelach asiantaethau aelodol eraill hefyd, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro.
Beth yw ein blaenoriaethau?
Mae Sir Benfro Ddiogelach yn cynnal asesiadau rheolaidd o ddata troseddu, ac mae'n ymgynghori ag aelodau'r gymuned leol, er mwyn nodi materion sy'n achosi pryder i drigolion Sir Benfro.
Ein blaenoriaethau yw:
- Darparu ymateb effeithiol a chydgysylltiedig i ymddygiad gwrthgymdeithasol, trwy ganolbwyntio ar atal ac ymyriad cynnar
- Lleihau’r niwed oherwydd camddefnyddio sylweddau
- Gwarchod hawl pob unigolyn i fod yn ddiogel
- Lleihau effaith aildroseddu o fewn ein cymunedau
- Atal eithafiaeth dreisiol
Beth ydym ni'n ei ddarparu?
Mae llawer o waith Sir Benfro Ddiogelach yn ymwneud â sicrhau bod yr asiantaethau'n cyfathrebu a gweithio gyda'i gilydd a bod ganddynt y polisïau a'r cynlluniau cywir i fynd i'r afael â blaenoriaethau lleol. Fodd bynnag, mae Sir Benfro Ddiogelach yn darparu nifer o wasanaethau rheng flaen, gan gynnwys:
- Gwasanaethau i'r rhai sy'n camddefnyddio sylweddau neu'r rhai sy'n gofalu amdanynt
- Cynlluniau i nodi a gweithio gyda throseddwyr cyson
- Gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr a chyflawnwyr cam-drin domestig
- Cymorth i'r rhai sy'n dioddef oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Gwybodaeth ac offer ar gyfer diogelu'ch hun a'ch eiddo
- Gwiriadau/cynlluniau diogelwch mewn tafarnau a chlybiau
- Gweithgareddau gwrthdyniadol ar gyfer pobl ifanc.
Sut allwch chi gysylltu â ni?
Gellir cysylltu â thîm Sir Benfro Ddiogelach ar 01437 775540. Hefyd gallwch chi gyfleu negeseuon atom trwy eich Timau Plismona yn y Gymdogaeth.