Sir Benfro Ddiogelach
Atal Eithafiaeth Dreisgar
Yn 2006, cyhoeddodd y Llywodraeth CONTEST, strategaeth hirdymor y Deyrnas Unedig ar wrthsefyll terfysgaeth. Trefnwyd y strategaeth hon o gwmpas pedair o ffrydiau gwaith allweddol:
- Ymlid - atal ymosodiadau terfysgwyr
- Atal - atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth
- Amddiffyn - atgyfnerthu ein hamddiffyniad rhag ymosodiad terfysgwyr
- Paratoi - lliniaru effaith ymosodiad terfysgwyr
Er bod digwyddiadau o'r fath yn brin, mae asiantaethau partner yn Sir Benfro'n canolbwyntio ar sicrhau bod swyddogaethau CONTEST yn dod yn rhan o fusnes bob dydd. Mae canfod unigolion a allai fod yn agored i gamfanteisio arnynt gan grwpiau eithafol mor bwysig â chanfod y rhai sy'n agored i drais neu'r rhai gyda materion cysylltiedig ag iechyd. Oherwydd hyn, caiff sesiynau hyfforddi rheolaidd eu cynnal ar gyfer grwpiau fel staff a llywodraethwyr ysgolion a gweithwyr proffesiynol allweddol sy'n gweithio gydag unigolion diamddiffyn yn y Sir i dynnu sylw at linyn Atal agenda CONTEST.
Bydd Atal hefyd yn weithgaredd hyfforddi craidd ar gyfer staff Cyngor Sir Penfro o 2015 ymlaen. Yn ogystal, caiff amserlen barhaol o ymarferion amlasiantaethol cynllunio at argyfwng ei dilyn mewn partneriaeth â'n prif ddarparwyr diwydiannol er mwyn sicrhau bod cynlluniau'n bodoli i roi'r ymateb mwyaf effeithiol i unrhyw ddigwyddiadau a fydd.