Sir Benfro Ddiogelach
Gweinidogion Stryd
Yn 2009, lansiwyd menter newydd, Gweinidogion Stryd, yn Hwlffordd.
Mae hwn yn brosiect a arloeswyd yn Llundain yn 2003 ac mae wedi gweld rhai canlyniadau rhyfeddol, gan gynnwys gostyngiad sylweddol mewn troseddu mewn nifer o ardaloedd.
Sefydlwyd y prosiect gan yr Ascension Trust ac mae'n cael ei redeg gan gydlynwyr lleol gyda chymorth nifer o asiantaethau lleol. Mae'r Gweinidogion yn wirfoddolwyr wedi'u hyfforddi i ofalu am eraill, yn enwedig pobl ifanc, sydd angen help neu gymorth yng nghanol y dref yn hwyr yn y nos. Gall hyn gynnwys rhywbeth mor syml â darparu potel o ddŵr blanced gynnes neu daith ddiogel adref mewn tacsi.
Mae 26 o Weinidogion Stryd ar hyn o bryd yn Hwlffordd, sydd ar gael ar nosau Sadwrn rhwng 9pm a 3am. Ers mis Hydref 2014 mae hefyd 20 Gweinidog Stryd ym Mhenfro ar gael naill ai ar nosau Gwener neu Sadwrn. Bydd Gweinidogion Stryd yn cael hyfforddiant ar bynciau fel ymwybyddiaeth o gyffuriau ac alcohol a datrys gwrthdaro. Mae'r cyllid i gyflwyno'r hyfforddiant hwn wedi cael ei ddarparu gan nifer o ffynonellau lleol, gan gynnwys Sir Benfro Ddiogelach ac eglwysi lleol amrywiol. Bydd Gweinidogion Stryd yn gwisgo iwnifform amlwg gydag ysgrifen adlewyrchol er mwyn sicrhau y gellir eu hadnabod yn eglur.
Ceir mwy o wybodaeth am y fenter ar gwefan bugeiliaid y stryd.
Manylion Cysylltu
Gweinidogion Stryd Hwlffordd
Sam Scadden
07929 402216
haverfordwest@streetpastors.org.uk
Gweinidogion Stryd Penfro
Lyn Edwards
01646 683613