Sir Benfro Ddiogelach

Rheoli Troseddwyr Integredig

Prosiect Cleddau Sir Benfro

Prosiect Rheoli Troseddwyr Integredig (IOM) yw Prosiect Cleddau Sir Benfro sy'n bartneriaeth yn cynnwys yr Heddlu, Y Gwasanaeth Profiannaeth Cenedlaethol, Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, Tîm Troseddu Ieuenctid ac Atal, yr Awdurdod Lleol a llawer o asiantaethau eraill sy'n cynnig cynhaliaeth a chefnogaeth i gleientiaid aros allan o drwbl. Mae'r agwedd hon o bartneriaeth yn dibynnu ar gyfranogiad asiantaethau allanol a rhannu gwybodaeth rhwng pawb dan sylw.

Sut mae'r cynllun yn gweithio

Bydd grŵp amlasiantaethol yn rheoli achosion unigolion, yn asesu eu hanghenion ac yn rhoi sylw i'r materion sy'n gwneud iddynt droseddu. Bydd cynllun gweithredu'n cael ei ddatblygu i gynorthwyo datrys y materion hyn, all gynnwys:

  • Camddefnyddio Sylweddau
  • Llety
  • Gwaith a Hyfforddiant
  • Sgiliau Sylfaenol a Sgiliau Byw
  • Sgiliau Datrys Problemau

Bydd yr heddlu'n cadw golwg ar unigolion ar y cynllun ar sail gweithgaredd troseddol yr unigolyn, gyda'r bwriad o leihau cyfradd aildroseddu.

Nodau

Lleihau nifer y troseddau yn Sir Benfro trwy dargedu IOM a chynorthwyo gwarchod y cyhoedd drwy hynny trwy gyfyngu ar y niwed i ddioddefwyr yn y gymuned.

Datblygu ymdeimlad o gyfrifoldeb personol yn yr IOM trwy eu hannog i wella eu sgiliau byw a chynyddu eu hempathi â dioddefwr.

Amcanion

  1. Canfod troseddwyr IOM yn yr ardal a'u hysbysu o'u statws
  2. Gwella cydymffurfio trwy annog ymwneud â'r cynllun
  3. Darparu rhwydwaith cymorth amlasiantaethol er mwyn peri newidiadau yn eu dull o fyw ac ymddygiad
  4. Cyfnewid gwybodaeth a deallusrwydd gyda sefydliadau partner er mwyn lleihau cyfradd a difrifoldeb aildroseddu all ddigwydd
  5. Sicrhau ymateb cyflym i unrhyw lithro'n ôl, boed hynny'n aildroseddu neu beidio â chydymffurfio

Cydymffurfio â Hawliau Dynol

Datblygwyd egwyddor y cynllun i gadw at egwyddorion cyfreithlondeb, rheidrwydd, perthnasedd a chymesuredd, yn enwedig o ran y canlynol:

Erthygl 6 - Hawl i brawf teg

Erthygl 5 - Hawl i ryddid

Erthygl 8 - Parch at fywyd preifat a theuluol

ID: 2874, adolygwyd 20/04/2023